Canllawiau

Gwneud hawliadau am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ar eich Ffurflen Dreth Y Cwmni

Dysgwch sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth y Cwmni i hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth ar eich prosiect Ymchwil a Datblygu.

Mae’n bosibl y bydd camau eraill y bydd yn rhaid i chi eu cymryd cyn gwneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ar eich Ffurflen Dreth Y Cwmni. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu’n gywir.

Cyn i chi hawlio

Os yw’ch hawliad am ryddhad treth yn cwmpasu cyfnod rhoi cyfrif sy’n fwy na 12 mis, cyflwynwch hawliad ar wahân ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyfnod rhoi cyfrif: 

  • sy’n 18 mis o hyd, neu’n llai, yw 24 mis o’r diwrnod olaf o’r cyfnod rhoi cyfrif 

  • sy’n fwy na 18 mis o hyd yw 42 mis o’r diwrnod olaf o’r cyfnod rhoi cyfrif  

Dyma’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hawliad ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu sy’n cael eu cwmpasu gan y cyfnod rhoi cyfrif.

Mae 4 math gwahanol o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, mae’r un rydych yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar bryd y dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024, mae’r cynlluniau’r canlynol ar gael:

  • Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

  • rhyddhad treth ar gyfer menter bach a chanolig (MBaCh

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, mae’r cynlluniau’r canlynol ar gael:

  • y cynllun cyfun

  • cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)

Os ydych yn hawlio Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

Cael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu.

Dilynwch y camau hyn i hawlio credyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni. 

  1. Dangoswch y credyd gwariant fel incwm trethadwy yn eich cyfrif elw a cholled, neu drwy ei ychwanegu at eich elw yn eich cyfrifiannau treth. 

  2. Rhowch ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad. 

  3. Rhowch ‘X’ ym mlwch 657 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol. 

  4. Dylech gynnwys eich manylion banc fel y gall CThEF wneud y taliad. 

  5. Llenwch ffurflen atodol CT600L.

Os ydych yn hawlio rhyddhad treth ar gyfer menter bach a chanolig (MBaCh

Cael gwybod a ydych yn gymwys am ryddhad treth ar gyfer menter bach a chanolig.

Dilynwch y camau hyn i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

  1. Cwblhewch eich cyfrifiannau treth gan gynnwys y didyniad ychwanegol wrth gyfrifo eich elw neu golled masnachu wedi’i addasu — os ydych wedi ildio colledion yn gyfnewid am gredyd treth sy’n daladwy, peidiwch â chynnwys hyn yn eich ffigur cario colled ymlaen.

  2. Rhowch ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad. 

  3. Rhowch ‘X’ ym mlwch 657 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol. 

  4. Os oes credyd taladwy yn ddyledus i chi, dylech gynnwys eich manylion banc fel y gall CThEF wneud y taliad.

  5. Llewnch ffurflen atodol CT600L os ydych yn hawlio credyd treth taladwy neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu.

Os ydych yn hawlio o dan y cynllun cyfun

I weld a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun cyfun, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.

Dilynwch y camau hyn i hawlio o dan y cynllun cyfun.  

  1. Dangoswch y credyd gwariant fel incwm trethadwy yn eich cyfrif elw a cholled, neu drwy ei ychwanegu at eich elw yn eich cyfrifiannau treth. 

  2. Rhowch ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad. 

  3. Rhowch ‘X’ ym mlwch 657 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol. 

  4. Dylech gynnwys eich manylion banc fel y gall CThEF wneud y taliad. 

  5. Llenwch ffurflen atodol CT600L.

Os ydych yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS)

I weld a ydych yn gymwys ar gyfer ERIS, gwiriwch yr arweiniad ynghylch cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys a’r cynllun cyfun.

Dilynwch y camau hyn i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

  1. Cwblhewch eich cyfrifiannau treth gan gynnwys y didyniad ychwanegol wrth gyfrifo eich elw neu golled masnachu wedi’i addasu — os ydych wedi ildio colledion yn gyfnewid am gredyd treth sy’n daladwy, peidiwch â chynnwys hyn yn eich ffigur cario colled ymlaen.

  2. Rhowch ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad.

  3. Rhowch ‘X’ ym mlwch 657 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol.

  4. Llenwch ffurflen atodol CT600L, os ydych yn hawlio credyd treth taladwy.

Sut i ddefnyddio credyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar gyfer y cynlluniau RDEC ac ERIS

Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn er mwyn defnyddio’r credyd gwariant cyn i’r swm terfynol gael ei dalu i’ch cwmni.

Cam 1 — defnyddiwch y credyd i dalu’ch Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu presennol

Defnyddiwch y credyd i dalu’ch rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.

Os yw’r credyd yn golygu bod ad-daliad yn ddyledus i chi ar gyfer Treth Gorfforaeth sydd eisoes wedi’i thalu, a’ch bod yn hawlio gan ddefnyddio’r canlynol:

  • cynllun RDEC, bydd y llog yn cael ei gyfrifo ar sail yr olaf i mewn, y cyntaf allan

  • cynllun ERIS, bydd y llog yn cael ei gyfrifo o’r diwrnod cyntaf y ddefnyddir yr RDEC i dalu’r rhwymedigaeth

Os oes unrhyw gredyd gwariant yn weddill ar ôl talu eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth, mae angen i chi gymharu eich credyd gwariant â’r swm net a hawliwyd yng ngham 2.

Os nad oes credyd gwariant yn weddill, does dim angen i chi wneud unrhyw beth pellach.

Cam 2 — cymharwch eich credyd gwariant â’r swm net a hawliwyd

Cymharwch swm y credyd gwariant a ddygwyd ymlaen ar ôl i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod presennol â swm net y credyd gwariant rydych wedi’i hawlio. Mae’r isaf o’r 2 ffigur yn cael ei gario ymlaen i naill ai gael ei gymharu â’r cyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol neu’r cap TWE yng ngham 3. 

Os yw’r credyd gwariant a ddygwyd ymlaen yn fwy na’r swm net, gall y swm dros ben naill ai:

  • gael ei roi i gwmni sy’n rhan o grŵp arall i fodloni rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth

  • gael ei gario ymlaen i dalu rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth y cwmni mewn cyfnodau yn y dyfodol

Swm net y credyd gwariant yw’r ffigur rydych wedi’i hawlio, llai’r dreth tybiannol ar y swm hwn ar y gyfradd berthnasol o Dreth Gorfforaeth.  

Dod o hyd i gyfraddau a lwfansau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Cam 3 — cymharwch y credyd â’r cyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol neu’r cap TWE

Os ydych chi’n hawlio gan ddefnyddio’r cynllun RDEC, cymharwch y credyd gwariant a gyfrifoch yng ngham 2 â chyfanswm gwariant eich cwmni ar gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol. Mae’r isaf o’r 2 ffigur yn cael ei gario ymlaen i dalu’ch Treth Gorfforaeth ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu blaenorol a nodwyd yng ngham 4. 

Os yw’r credyd gwariant a ddygwyd ymlaen yn fwy na’r cyfanswm a wariwyd ar gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol, caiff y swm dros ben ei gario ymlaen i gyfnodau yn y dyfodol.

Os ydych yn hawlio gan ddefnyddio cynllun ERIS, mae unrhyw swm sy’n mynd dros y cap TWE yn cael ei gario ymlaen i gyfnodau yn y dyfodol, oni bai bod y cwmni wedi’i eithrio o’r cap.

Cam 4 — defnyddiwch y credyd i dalu’ch Treth Gorfforaeth ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu blaenorol

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r swm sy’n weddill i dalu unrhyw rwymedigaethau Treth Gorfforaeth sy’n ddyledus gan y cwmni ar gyfer unrhyw gyfnodau cyfrifyddu eraill.  

Mae’n rhaid cario ymlaen unrhyw swm sy’n weddill a’i ddefnyddio ar gyfer aelod arall o’r grŵp yng ngham 5.

Cam 5 — defnyddiwch y credyd ar gyfer aelod arall o’r grŵp

Gallwch ddefnyddio’r credyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar gyfer rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth unrhyw aelod arall o’r grŵp.  Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw rwymedigaeth treth arall.

Mae’n rhaid cario ymlaen unrhyw swm sy’n weddill a’i ddefnyddio ar gyfer rhwymedigaeth arall y cwmni o dan setliad contract yng ngham 6.

Cam 6 — defnyddiwch y credyd ar gyfer rhwymedigaeth arall y cwmni o dan setliad contract

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r credyd gwariant i dalu unrhyw rwymedigaeth arall y cwmni, megis TAW neu rwymedigaethau o dan setliad contract.

Cam 7 — y swm terfynol yn cael ei dalu i’ch cwmni

Gall unrhyw swm sy’n weddill erbyn Cam 7 gael ei dalu i’ch cwmni, cyn belled â bod yr amodau ‘busnes byw’ yn cael eu bodloni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn CIRD89820 Cyfyngiadau taliadau — gofyniad busnes byw (yn agor tudalen Saesneg).

Rhoi gwybod am doriad i’r safonau am hawliad Ymchwil a Datblygu

Os ydych yn aelod o gorff cyfrifyddu proffesiynol neu gorff treth proffesiynol cydnabyddedig, a’ch bod am roi gwybod am doriad i’r safonau sy’n ymwneud ag Ymchwil a Datblygu yn unig, e-bostiwch CThEF wmbciandrprofessionalbodies@hmrc.gov.uk.

Ni fyddwn yn ymateb yn awtomatig, ond efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth neu eglurhad os oes angen. Ni fyddwn yn ymateb i unrhyw e-bost ynghylch unrhyw fater nad yw’n ymwneud â rhoi gwybod am doriad i’r safonau am hawliad Ymchwil a Datblygu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 October 2024

Sign up for emails or print this page