Gwneud hysbysiad i CThEF ynghylch Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Rhoi gwybod i CThEF os ydych yn ychwanegu cynllun i’r gyfundrefn Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn, rhoi gwybod i ni am newidiadau, a pharatoi gwybodaeth ynghylch cyfnodau cyfrifyddu.
Mae’r Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn yn gynllun contractiol heb ei awdurdodi yn y DU ar gyfer cynlluniau perchnogaeth ar y cyd sy’n bodloni’r amodau cymhwyso.
Mae’r Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn ar gael i fuddsoddwyr proffesiynol a sefydliadol.
Amlinellir y rheolau ynghylch yr amodau cymhwysol a’r amgylchiadau pan fydd angen i chi roi gwybod i ni yn y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025.
Er mwyn gweithredu fel Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
hysbysiad mynediad hyd at 3 mis ar ôl dechrau gweithredu fel Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
-
datganiad gwybodaeth o fewn 6 mis ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddweud wrthym os bydd unrhyw ddigwyddiadau eraill, er enghraifft torri’r amodau cymhwyso.
Dod yn rhan o’r gyfundrefn Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwyso ar y dyddiad y bydd eich cynllun yn dechrau gweithredu fel Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn, gallwch gael mynediad at y gyfundrefn drwy wneud hysbysiad mynediad.
Sut i lenwi hysbysiad mynediad
- Lawrlwythwch (yn agor tudalen Saesneg) a’i chadw.
- Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim (yn agor tudalen Saesneg).
- Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Bydd CThEF yn diweddaru’r dudalen hon pan fyddwn yn disodli hysbysiadau PDF â ffurflen ar-lein sy’n gwbl hygyrch.
Ble i anfon yr hysbysiad mynediad
Anfonwch y ffurflen hysbysu drwy e-bost i cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc).
Os na allwch e-bostio’r ffurflen, argraffwch hi a’i hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
Y Ganolfan Cynlluniau Buddsoddi Cyfunol (CISC)
Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog/Busnesau o Faint Canolig
Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX9 1HT
Gwneud hysbysiadau eraill
Mae angen i chi wneud hysbysiad pan fydd y cynllun yn gadael y gyfundrefn, yn newid ei strwythur neu’n newid y ffordd y mae’n bodloni’r amodau cymhwystra. Mae hyn yn cynnwys pan fydd y cynllun:
-
yn dewis i adael y gyfundrefn
-
yn torri un neu fwy o’r amodau cymhwyso ac yn stopio bod yn Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
-
wedi bod yn trin y gofyniad o ran perchnogaeth fel petai wedi’i fodloni, ond nid yw’n disgwyl bodloni’r gofyniad hwn yn y cyfnod dechreuol mwyach
-
wedi bod yn trin y gofyniad o ran dwysedd eiddo yn y DU fel petai wedi’i fodloni
-
yn disgwyl na fydd toriad yn y gofyniad o ran perchnogaeth yn cael unioni cyn pen 9 mis i’r toriad hwnnw
-
yn disgwyl na fydd toriad yn y gofyniad o ran cyfyngiad yn cael unioni cyn pen 9 mis i’r toriad hwnnw
-
yn newid yr amod y mae’n dibynnu arno i fodloni’r gofyniad o ran cyfyngiad ar gyfer y cynllun
-
yn gynllun ambarél sy’n sefydlu is-gynllun neu sy’n dirwyn is-gynllun presennol i ben
Sut i lenwi hysbysiad arall
- Lawrlwythwch (yn agor tudalen Saesneg) a’i chadw.
- Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim (yn agor tudalen Saesneg).
- Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Bydd CThEF yn diweddaru’r dudalen hon pan fyddwn yn disodli hysbysiadau PDF â ffurflen ar-lein sy’n gwbl hygyrch.
Ble i anfon yr hysbysiad
Anfonwch y ffurflen hysbysu drwy e-bost i cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc).
Os na allwch e-bostio’r ffurflen, argraffwch hi a’i hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
Y Ganolfan Cynlluniau Buddsoddi Cyfunol (CISC)
Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog/Busnesau o Faint Canolig
Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX9 1HT
Gwybodaeth am gyfnodau cyfrifyddu
Bydd CThEF yn diweddaru’r dudalen hon pan fyddwn yn cyhoeddi’r ffurflen sydd angen ei defnyddio er mwyn anfon yr wybodaeth am gyfnodau cyfrifyddu.
Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol pen 6 mis ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu:
-
enwau a chyfeiriadau pob un sy’n cymryd rhan yn y cynllun
-
nifer y dosbarthiadau a’r unedau a ddelir gan bob cyfranogwr yn y cynllun ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu
-
swm yr incwm fesul uned ar gyfer pob dosbarth
-
yr amodau o ran cyfyngiadau sydd wedi’u bodloni gan y Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn yn ystod y cyfnod cyfrifyddu
-
dyddiad unrhyw warediad tybiannol o unedau yn y Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn, os oedd y gronfa yn arfer dibynnu ar yr amod o ran dwysedd eiddo yn y DU, ond ei bod bellach yn bodloni’r amod o ran asedion eiddo nad ydynt yn y DU
-
manylion unrhyw doriadau mewn perthynas â’r gofyniad o ran perchnogaeth neu gyfyngiadau
-
ar gyfer Cronfeydd Buddsoddi Wrth Gefn a oedd naill ai’n bodloni neu wedi’u trin fel petaent yn bodloni’r amodau o ran dwysedd eiddo yn y DU, gwybodaeth mewn perthynas â gwaredu asedion ac unedau yn ystod yr amser yr oeddent yn bodloni’r amod hwn
-
ar gyfer Cronfeydd Buddsoddi Wrth Gefn a oedd yn bodloni’r amod o ran buddsoddwr esempt, cadarnhad bod yr holl gyfranogwyr wedi’u hesemptio rhag treth ar enillion a bod y gweithredwr wedi cymryd camau rhesymol i fonitro’r esemptiad hwn
-
ar gyfer Cronfeydd Buddsoddi Wrth Gefn sy’n stopio bodloni’r amod o ran dwysedd eiddo yn y DU o ganlyniad i waredu asedion i ddirwyn y cynllun i ben, cadarnhad y bydd y cynllun yn cael ei drin fel petai’n parhau i fodloni’r amod hwn, a’r dyddiad disgwyliedig o ran diwedd y cyfnod dirwyn i ben
Os na allwch ddefnyddio PDF am resymau hygyrchedd
Cysylltwch â ni os na allwch ddefnyddio PDF am resymau hygyrchedd a bod angen i chi rhoi gwybod i ni mewn ffordd wahanol.
cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc)
Y Ganolfan Cynlluniau Buddsoddi Cyfunol (CISC)
Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog/Busnesau o Faint Canolig
Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX9 1HT
Ffôn: 03000 536 118
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm
Dysgwch am gostau galwadau