Canllawiau

Rheoli’ch Proffil Nwyddau Masnachwyr

Rheoli gwybodaeth am nwyddau rydych yn eu symud yn aml o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon er mwyn eich helpu i ddefnyddio’r broses symlach ar gyfer Symudiadau yn y Farchnad Fewnol.

Mae’n rhaid eich bod wedi’ch awdurdodi o dan Gynllun Marchnad Fewnol y DU ac wedi tanysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Bydd Proffil Nwyddau Masnachwyr yn cael ei greu yn awtomatig pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cynllun Marchnad Fewnol y DU.

Bydd y proffil hwn yn cadw gwybodaeth am y nwyddau rydych yn eu symud o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i Ogledd Iwerddon.

Each goods record contains a:

Mae pob cofnod nwyddau yn cynnwys y canlynol:

  • disgrifiad o’r nwyddau
  • cod nwyddau
  • cyfeirnod y cynnyrch
  • y wlad tarddiad
  • categori y nwyddau
  • uned atodol (os oes angen)

Gall yr wybodaeth yn eich Proffil Nwyddau Masnachwyr gael ei defnyddio i ragboblogi’r set ddata ‘Gwybodaeth am Symud Nwyddau yn y Farchnad Fewnol’. Dyma set ddata is a allai gael ei defnyddio yn lle datganiad llawn ar gyfer nwyddau nad ydynt ‘mewn perygl’ rydych yn eu symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon fel rhan o’r broses symlach ar gyfer Symudiadau yn y Farchnad Fewnol. 

Fel arfer, bydd cynnwys cyfeirnod y cynnyrch, neu ddisgrifiad syml o’r nwyddau, ynghyd â’r wybodaeth fasnachol safonol a roddwyd i fasnachwr neu gyfryngwr yn ei alluogi i lenwi’r Wybodaeth am Symud Nwyddau yn y Farchnad Fewnol ar eich rhan.

Os ydych yn symud parseli gan ddefnyddio cludwr parseli

Os ydych yn defnyddio cludwr parseli, mae’n bosibl y bydd eich cludwr yn llenwi’r Wybodaeth am Symud Nwyddau yn y Farchnad Fewnol ar eich cyfer fel rhan o’i wasanaeth. Bydd dim ond angen i chi roi disgrifiad o’r nwyddau (yn Saesneg clir) a gwybodaeth fasnachol berthnasol i’ch cludwr parseli.

Ni fydd modd i chi ddefnyddio’r Proffil Nwyddau Masnachwyr ar gyfer nwyddau a symudwyd gan y rhan fwyaf o gludwyr. Os ydych yn symud parseli o un busnes i fusnes arall o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, dylech siarad â’ch cludwr parseli ynghylch ei drefniadau.

Yr hyn y gallwch ei wneud gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • creu a rheoli cofnodion nwyddau
  • bwrw golwg dros gofnodion symud blaenorol, a’u diweddaru
  • gofyn i CThEF am gyngor ynghylch disgrifiad o’r nwyddau a chod nwyddau ar gyfer cynnyrch

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen:

  • y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â’ch rhif EORI ar gyfer Cynllun Marchnad Fewnol y DU
  • eich rhif Cynllun Marchnad Fewnol y DU
  • i chi fod wedi tanysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau

Mae’n bosibl y bydd hefyd angen arnoch eich cyfeirnod Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) neu’ch cyfeirnod Label Iechyd Planhigion Gogledd Iwerddon (NIPHL) os ydych yn defnyddio un o’r cynlluniau hyn, neu’r ddau ohonynt.

Cael help

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael help wrth ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn.

Dynodi’ch nwyddau

Gallwch ddefnyddio’ch Proffil Nwyddau Masnachwyr i gael mynediad uniongyrchol at Dîm Dynodi CThEF drwy wneud cais am adolygiad o ddisgrifiad o’r nwyddau. Os nad yw’r disgrifiad o’r nwyddau yn glir, bydd y Tîm Dynodi yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth am eich nwyddau.  Gallwch hefyd ddefnyddio’r Offeryn Tariff Ar-lein Gogledd Iwerddon i edrych am god nwyddau, a’i wirio. 

I ddod o hyd i god nwyddau ar gyfer eich nwyddau, bydd angen y manylion canlynol arnoch am eich cynnyrch: 

  • y math o gynnyrch
  • yr hyn y mae’r cynnyrch yn cael ei ddefnyddio amdano
  • y deunyddiau a ddefnyddiwyd i greu’r cynnyrch
  • sut y mae’n cael ei gynhyrchu
  • sut y mae’n cael ei bacio

Categoreiddio’ch nwyddau

Mae’n rhaid i chi wirio categori y nwyddau rydych yn eu symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, a hynny er mwyn pennu a yw’r nwyddau hyn yn gymwys i symud o dan y broses symlach. Gall eich Proffil Nwyddau Masnachwyr gael ei ddefnyddio i gadw rhestr o’r nwyddau y mae’ch busnes yn eu symud yn aml, a chategorïau’r nwyddau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am gategoreiddio’ch nwyddau ar gael. 

Gallwch hefyd gategoreiddio’ch nwyddau drwy gael mynediad at Dariff Ar-lein Integredig y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Chwefror 2025 + show all updates
  1. Added translation

  2. Welsh added.

  3. First published.

Print this page