Moderneiddio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd: manteision gwasanaethau digidol
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am sut y datblygodd GLlTEF ei wasanaethau digidol fel rhan o Raglen Diwygio GLlTEF a’r manteision i ddefnyddwyr.
Rhwng 2016 a mis Mawrth 2025, ymgymerodd GLlTEF â rhaglen ddiwygio a oedd yn digideiddio nifer o wasanaethau. Trawsnewidiodd y profiad o ddefnyddio a gweinyddu llawer o wasanaethau ar draws ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd.
Y weledigaeth, a osodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd, yr Arglwydd Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd, oedd trawsnewid y system ac adeiladu ar dair egwyddor graidd o fod yn gyfiawn, yn hygyrch ac yn gymesur.
Trwy’r rhaglen rydym wedi:
- lansio 14 o wasanaethau digidol newydd ar draws pob awdurdodaeth, o anghydfodau hawliadau bychain am arian yn y llys sifil i achosion ysgariad yn y Llys Teulu a rheoli achosion troseddol
- prosesu dros 4.1 miliwn o achosion a gyflwynwyd yn ddigidol ers mis Ebrill 2019
- cau adeiladau nad oeddent yn cael eu defnyddio ddigon neu safleoedd lle nad oedd gwaith cynnal a chadw bellach yn gynaliadwy, gan ail-fuddsoddi unrhyw elw yn y rhaglen
- buddsoddi mewn safleoedd yn y dyfodol, yn ogystal â mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio parhaus
Ein trawsnewidiad digidol
Cyn y rhaglen ddiwygio, roedd y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn dibynnu ar brosesau papur hen ffasiwn a oedd yn anodd eu llywio, hen systemau TG ac ystad yr oedd wedi’i hetifeddu gan sefydliadau rhagflaenol lle nad oedd adeiladau’n cael eu defnyddio ddigonol neu lle nad oeddent bellach yn addas.
Prif gyflawniadau
Trwy’r rhaglen rydym wedi gwneud y canlynol:
- gosod technoleg fideo mewn 70% o ystafelloedd llys, gan gynnwys 90% o ystafelloedd Llys y Goron, gan alluogi partïon i ymuno â gwrandawiadau o bell
- rheoli dros 2.3 miliwn o achosion troseddol (hyd at fis Rhagfyr 2024) trwy’r Platfform Cyffredin, system rheoli achosion ddigidol sengl yn y llysoedd troseddol
- sefydlu pum canolfan gwasanaeth modern a ddefnyddiodd y dechnoleg ddiweddaraf ochr yn ochr â’n canolfannau busnes cenedlaethol i ateb dros 2.3 miliwn o alwadau rhwng Ebrill a Rhagfyr 2024, ac am y tro cyntaf yn darparu gwasanaeth canolog a dynodedig i bartneriaid cyhoeddus a phartneriaid cyfiawnder
- lleihau amseroedd prosesu ar draws gwasanaethau
- cyflawni cyfraddau boddhad defnyddwyr cyson uchel, gan gynnwys 80% ar gyfer ceisiadau am ysgariad ar-lein, 92% ar gyfer hawliadau am arian ar-lein yn y llys sifil, 85% ar gyfer apeliadau nawdd cymdeithasol a chynnal plant
Cewch ragor o wybodaeth am ein taith trawsnewid digidol trwy ddarllen blog ein Prif Swyddog Gweithredol ar Inside HMCTS.
Manteision ac effaith
Gwasanaethau cyflymach, symlach i’r rhai sydd eu hangen
Rydym wedi gwneud gwasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd yn haws i’w defnyddio ac yn fwy effeithlon i’w rhedeg. Gallwn ddarparu mynediad cyflymach at gyfiawnder i’r bobl hynny sydd ei angen – yn aml pan fyddant yn wynebu cyfnodau anodd iawn yn eu bywydau.
Ymhlith eraill, rydym yn darparu gwasanaethau a chymorth ar gyfer y canlynol:
- pob dioddefwr, tyst a diffynnydd sydd wedi profi trosedd
- busnesau a’u cleientiaid, nad ydynt wedi cael eu talu neu nad yw rhywun wedi codi tâl teg arnynt
- teuluoedd sy’n galaru sy’n ceisio profiant
- teuluoedd sydd angen llysoedd a thribiwnlysoedd i amddiffyn pobl agored i niwed
- y rhai sy’n profi perthynas yn chwalu ac ysgariad
- hawlwyr am wasanaethau a all fod yn profi caledi ariannol
- pobl sydd angen datrys anghydfodau gyda’u cyflogwr, megis gwahaniaethu neu ddiswyddo annheg
- ceiswyr lloches sy’n ceisio diogelwch
- y rhai sy’n apelio yn erbyn penderfyniadau budd-daliadau, gan ddwyn y rhai pwerus i gyfrif
Rydym yn falch o’n cyfraddau boddhad defnyddwyr cyson uchel. Er enghraifft, roedd dros 93% o bobl yn fodlon ar eu profiad o wneud cais am brofiant ar-lein.
Cydnerthedd a hyblygrwydd
Mae gwasanaethau digidol newydd wedi darparu mwy o gydnerthedd. Lle mae gwasanaethau wedi’u symud i un platfform digidol, gallwn barhau i weinyddu cyfiawnder ar adegau o argyfwng – hyd yn oed pan na fydd pobl efallai’n gallu mynychu’r llysoedd, tribiwnlysoedd neu ganolfannau gwasanaeth yn gorfforol – er enghraifft, o ganlyniad i dywydd gwael, problemau iechyd y cyhoedd, problemau gyda thrafnidiaeth neu waith cynnal a chadw adeiladau.
Ar ôl datblygu llawer o systemau digidol ein hunain, gallwn barhau i’w haddasu, eu datblygu a’u gwella i fodloni amgylchiadau sy’n newid, boed hynny o ganlyniad i anghenion polisi, technolegol neu ddefnyddwyr.
Manteision amgylcheddol
Mae manteision cynaliadwyedd yn sylweddol wrth i wasanaethau digidol ddisodli ffeiliau papur a’r angen i’w symud rhwng safleoedd.
Mae gwasanaethau digidol wedi lleihau’r defnydd o bapur a gofynion teithio, gan arbed yr hyn sy’n cyfateb i tua 3.2 miliwn cilogram o garbon deuocsid yn flynyddol, sy’n cyfateb i dynnu 1,485 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.
Rydym hefyd yn amcangyfrif, trwy alluogi ceisiadau digidol trwy ein gwasanaethau, ein bod wedi arbed yr hyn sy’n cyfateb i bron i 55 miliwn o ddalenni o bapur ers 2019.
Data a mewnwelediad
Mae systemau digidol diwygiedig yn rhoi mewnwelediadau a data o ansawdd i ni i gefnogi gwelliannau pellach i wasanaethau. Mae’r data’n bwydo i mewn i adroddiadau asesu sy’n mesur pa mor effeithiol y mae ein gwasanaethau diwygiedig yn perfformio yn erbyn meini prawf a ddiffiniwyd ymlaen llaw.
Mae’r data hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau a phroblemau posibl yn gyflym, fel y gallwn weithredu arnynt yn effeithiol i wella neu ddatrys problemau.
Cewch ragor o wybodaeth am ddata perfformiad manwl ac ystadegau am ein gwasanaethau diwygiedig yn ein hadroddiad gwasanaethau diwygiedig diweddaraf
Gwasanaethau digidol
Astudiaethau achos
Mae astudiaethau achos yn dangos enghreifftiau o sut mae ein gwasanaethau digidol wedi gwella mynediad at gyfiawnder a’u manteision i ddefnyddwyr.
Wedi’u grwpio yn ôl awdurdodaeth – ar gyfer y llysoedd troseddol, sifil, teulu a thribiwnlysoedd, a gwasanaethau trawsbynciol, maent yn cynnwys:
- trosolwg o wasanaethau
- prif gyflawniadau
- adborth defnyddwyr a data perfformiad
- sut i gael mynediad at wasanaethau
- adnoddau pellach
Edrychwch ar yr astudiaethau achos ymarferol sy’n dangos sut mae ein gwasanaethau digidol yn gweithio ar draws:
- Y Llys Troseddol – Gan gynnwys y Platfform Cyffredin a’r Gwasanaeth Un Ynad
- Y Llys Sifil – Hawliadau am Arian Ar-lein yn y Llys Sifil
- Y Llys Teulu – Gwasanaethau Profiant ac Ysgariad Ar-lein
- Y Tribiwnlysoedd – Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, Mewnfudo a Lloches, Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
- Gwasanaethau trawsbynciol – Gwrandawiadau o bell a Chanolfannau Gwasanaethau
Moderneiddio gwasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd
Mae llawer o’n gwasanaethau hefyd ar gael yn Gymraeg.
Cael cymorth
Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth digidol am ddim i ddefnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i unrhyw un sy’n methu neu’n cael trafferth cael mynediad i’n gwasanaethau ar-lein.
Darperir cymorth wyneb yn wyneb drwy ganolfannau cyngor cymunedol, megis canolfannau Cyngor ar Bopeth a chanolfannau’r gyfraith, yn ogystal â thrwy sesiynau o bell.
Cynlluniau parhaus ar gyfer moderneiddio
Er bod y Rhaglen Ddiwygio wedi dod i ben, mae gwaith yn parhau i wella ein gwasanaethau. Gyda systemau digidol modern ar waith, mae gennym y sylfeini i archwilio sut y gall ein pobl, technoleg newydd a ffyrdd o weithio barhau i wella’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud.
Byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd i wella ein gwasanaethau. Bydd defnyddio data yn sicrhau bod ein hymdrechion yn rai wedi’u targedu a bydd yn ein helpu i fynd ar drywydd cyfleoedd i arloesi er mwyn sicrhau gwerth am arian.
Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r farnwriaeth a’n partneriaid cyfiawnder i nodi a darparu gwasanaethau cydgysylltiedig.
Wrth i ni wella’n barhaus, byddwn yn sicrhau bod ein technoleg a’n hamgylchedd ffisegol yn gweithio i’n defnyddwyr mwyaf agored i niwed.
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith
Mae amrywiaeth o ffyrdd o gael y newyddion, mewnwelediadau a’r datblygiadau diweddaraf gan GLlTEF:
- E-bost: Tanysgrifiwch i’n hysbysiadau e-bost a diweddariadau wythnosol GLlTEF
- Cyfryngau cymdeithasol: Dilynwch ni ar X (Twitter gynt), LinkedIn, Facebook a WhatsApp
- Blogiau a podlediadau: Inside HMCTS
- YouTube: Cynnwys fideo a recordiadau YouTube