Symud gwartheg: yr hyn mae angen i geidwaid gwartheg ei wybod
Beth yw symudiad gwartheg, beth mae angen ichi ei wneud cyn symud gwartheg, a phryd na chewch chi symud gwartheg.
Yn berthnasol i England and Gymru
Mae yna reolau mae’n rhaid ichi eu dilyn pan fyddwch chi’n symud gwartheg yn ôl ac ymlaen i’ch daliad.
Rhaid ichi gymryd yr holl gamau hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain bob amser. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau
Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, taliadau cymhorthdal llai neu gallech gael eich erlyn.
Beth yw daliad
Eich daliad yw’r tir a’r adeiladau rydych chi’n eu defnyddio i gadw gwartheg (ac unrhyw dda byw arall). Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn rhoi rhif unigryw i bob daliad ar sail y sir, y plwyf a’r daliad. Efallai y bydd gan fusnes da byw fwy nag un daliad a mwy nag un rhif daliad.
Gall un daliad gynnwys y tir a’r adeiladau o fewn 10 milltir i’r brif fan lle rydych chi’n cadw gwartheg. Bydd angen ichi roi manylion am bob lleoliad lle byddwch ci’n cadw gwartheg (ac unrhyw dda byw eraill) pan fyddwch chi’n gwneud cais am rif daliad (tudalen gwe yn Saesneg).
Beth yw symudiad gwartheg
Mae symud gwartheg, buail neu fyfflos yn ôl ac ymlaen i’ch daliad yn cael ei alw’n ‘symudiad’.
Mae symudiad yn digwydd unrhyw bryd y bydd anifeiliaid yn cael eu symud yn ôl ac ymlaen i’ch daliad. Gall hyn gynnwys eu symud nhw:
- yn ôl ac ymlaen i ddaliad neu fferm wahanol
- i’ch daliad chi pan fyddwch chi’n prynu neu’n mewnforio anifeiliaid
- o’ch daliad chi pan fyddwch chi’n gwerthu neu’n allforio anifeiliaid
- i ladd-dy
- yn ôl ac ymlaen i faes sioe neu farchnad
Cyn ichi symud gwartheg
Os dyma’r tro cyntaf ichi gadw gwartheg, mae’n rhaid ichi:
- Awneud cais am rif daliad gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) - tudalen gwe yn Saesneg - byddwch yn cael rhif daliad ar gyfer eich daliad.
- Sicrhau nod buches gan - tudalen gwe yn Saesneg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i’w ddefnyddio ar dagiau clust i adnabod gwartheg
- Cofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) – er mwyn ichi gofrestru genedigaethau a marwolaethau a chael pasbortau gwartheg
Cadw cofrestr daliad
Bydd angen ichi gadw cofrestr daliad i gofnodi genedigaethau, marwolaethau a symudiadau gwartheg. Rhaid ichi ddiweddaru hon bob tro y byddwch yn symud gwartheg yn ôl ac ymlaen i’ch daliad.
Darllen y ‘trwyddedau cyffredinol’ ar gyfer symud gwartheg
Dylech chi ddarllen a dilyn amodau’r drwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg yng Nghymru neu’r drwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg yn Lloegr (tudalen gwe yn Saesneg). Mae’r trwyddedau’n nodi’r gofynion cyfreithiol ynglŷn â symud gwartheg.
Pan fyddwch chi’n symud gwartheg yng Nghymru a Lloegr
Rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain bob amser.
Mae angen ichi sicrhau bod gan unrhyw anifail yr hoffech ei symud:
- y tagiau clust cywir
- pasbort neu dystysgrif gofrestru ddilys
- trwydded symud, os nad oes gan yr anifail basbort
Mae’n rhaid ichi hefyd:
- diweddaru cofrestr eich daliad o fewn 36 awr
- cofnodi’r symudiad i’ch daliad ym mhasbort yr anifail o fewn 36 awr ar ôl iddo gyrraedd
- cofnodi dyddiad y symudiad oddi ar y daliad ym mhasbort yr anifail cyn iddo adael y daliad
- rhoi gwybod am y symudiad i GSGP o fewn 3 diwrnod
Darllenwch y canllawiau ar sut i gofnodi symudiadau gwartheg a rhoi gwybod amdanyn nhw.
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau pan fyddwch chi’n mewnforio neu’n symud gwartheg o Ogledd Iwerddon i Gymru a Lloegr.
Pryd nad oes rhaid ichi adrodd a chofnodi symudiadau gwartheg
Does dim rhaid ichi adrodd a chofnodi symudiadau gwartheg o fewn 10 milltir i’r brif fan lle rydych chi’n eu cadw nhw:
- os yw’r tir neu’r adeiladau wedi’u cofrestru o dan eich rhif daliad - gallwch gysylltu â’r RPA i’w hychwanegu os byddwch chi’n eu defnyddio’n barhaol (am fwy na blwyddyn)
- os na fydd y gwartheg yn cymysgu â da byw rhywun arall
Asiantaeth Taliadau Gwledig
Ffôn (llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra): 03000 200 301
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os ydych chi’n defnyddio tir neu adeiladau ychwanegol dros dro o fewn 10 milltir i’r brif fan lle rydych chi’n cadw gwartheg, gallwch gael cysylltiad tir dros dro. Mae hyn yn cysylltu’r tir neu’r adeiladau â’ch rhif daliad, sy’n golygu nad oes rhaid ichi adrodd a chofnodi symudiadau.
Yr unig adeg y cewch chi wneud hyn yw:
- os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r tir neu’r adeiladau am lai na blwyddyn
- os na fydd y gwartheg yn cymysgu â da byw rhywun arall
Gwartheg heb basbortau
Chewch chi ddim symud unrhyw wartheg, buail neu fyfflos byw heb basport llawn. Darllenwch beth i’w wneud os nad oes gan eich gwartheg basport.
Gwartheg wedi’u geni yn y Deyrnas Unedig cyn Awst 1996
Bydd angen ichi gael trwydded symud er mwyn symud gwartheg sydd wedi’u geni neu wedi’u magu yn y Deyrnas Unedig cyn Awst 1996.
Os oes yna gyfyngiadau symud ar eich buches
Rhaid ichi ddilyn unrhyw gyfyngiadau symud sydd wedi’u gosod ar eich buches gyfan neu ar anifeiliaid unigol.
Os bydd cyfyngiad yn cael ei roi ar waith, fe gewch chi hysbysiad a fydd yn dweud beth sydd angen ichi ei wneud i ddod â’r cyfyngiadau i ben ac unrhyw derfynau amser.
Y rheol ar wahardd symud
Mae’r rheol ar wahardd symud yn helpu i leihau lledaeniad clefydau heintus. Mae’n gymwys i symudiadau gwartheg, defaid, geifr a moch.
Os byddwch chi’n symud gwartheg, defaid, neu eifr i’ch tir o ddaliad gwahanol, am 6 diwrnod wedyn chewch chi ddim symud unrhyw un neu ragor o’r canlynol oddi ar eich daliad:
- gwartheg
- defaid
- geifr
- moch
Os byddwch chi’n symud moch i’ch tir o ddaliad gwahanol, chewch chi ddim symud:
- unrhyw wartheg, defaid neu eifr oddi ar eich daliad am 6 diwrnod
- unrhyw foch oddi ar eich daliad am 20 diwrnod
Diwrnod 1 yw’r diwrnod ar ôl i’r anifeiliaid gyrraedd.
Enghraifft Os bydd buwch yn cyrraedd ar ddydd Llun, dydd Mawrth yw diwrnod 1 a dydd Sul yw diwrnod 6. Cewch symud anifeiliaid o bob rhywogaeth oddi ar eich daliad ar ddiwrnod 7 – sef y dydd Llun canlynol.
Does dim rhaid ichi ddilyn y rheol ar wahardd symud os ydych chi’n symud anifeiliaid yn uniongyrchol i gael eu lladd, gan gynnwys i farchnad da byw coch (marchnad lladd yn unig).
Mae yna eithriadau eraill. Darllenwch y canllawiau ynglŷn â phryd y gallech gael eich eithrio rhag dilyn y rheolau ar wahardd symud (tudalen gwe yn Saesneg).
Os oes arnoch chi angen help neu gyngor, cysylltwch â llinell gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra a dewiswch opsiwn APHA.
Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Ebost: customer.registration@apha.gov.uk
Ffôn (Llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra): 03000 200 301
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Cyfyngiadau symud pan fydd clefyd yn digwydd
Gall cyfyngiadau symud gael eu gosod ar fuchesi pan fydd amheuaeth o glefyd neu pan fydd clefyd wedi’i gadarnhau, fel twbercwlosis buchol (TB) neu ffliw adar.
Gallech gael dirwy neu gael eich erlyn os byddwch yn symud gwartheg tra bo cyfyngiad symud ar waith oherwydd clefyd.
Darllenwch y canllawiau ar yr hyn mae’n rhaid ichi ei wneud:
- wrth brofi am TB buchol yn eich buches (tudalen gwe yn Saesneg)
- pan fydd achos o ffliw adar dan amheuaeth - bydd angen ichi ddilyn y ‘drwydded gyffredinol ar gyfer symud mamaliaid’ (tudalen gwe yn Saesneg)
Pan fyddwch yn symud gwartheg yn ôl ac ymlaen i’r Alban
I symud gwartheg o Gymru neu Loegr yn ôl ac ymlaen i’r Alban, rhaid ichi ddilyn y rheolau ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.
Pan fyddwch chi’n mewnforio gwartheg neu’n eu symud o Ogledd Iwerddon
Pan fyddwch yn mewnforio gwartheg neu’n eu symud o Ogledd Iwerddon i Gymru a Lloegr, symudiadau i’ch daliad fydd y rhain. Mae’r hyn mae angen ichi ei wneud yn dibynnu ar o ble mae’r anifeiliaid yn dod.
Rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru gwartheg sy’n cael eu mewnforio neu eu symud o Ogledd Iwerddon i Gymru a Lloegr.
Pan fyddwch chi’n symud gwartheg i Ogledd Iwerddon neu’n eu hallforio i wlad arall
Pan fyddwch chi’n symud gwartheg i Ogledd Iwerddon neu’n eu hallforio i wlad arall o Gymru a Lloegr bydd y rhain yn symudiadau oddi ar eich daliad. Mae’r hyn mae angen ichi ei wneud yn dibynnu ar i ble mae’r anifeiliaid yn mynd.
Rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wartheg sy’n cael eu hallforio o Brydain Fawr neu’n cael eu symud i Ogledd Iwerddon.
Anfon gwartheg i gael eu lladd
Mae anfon eich gwartheg i gael eu lladd yn symudiad oddi ar eich daliad. Darllenwch y canllawiau ar beth i’w wneud pan fyddwch chi yn anfon gwartheg i gael eu lladd.
Rhaid i weithredwyr lladd-dai gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg i’w daliad nhw. Os ydych chi’n weithredwr lladd-dy, darllenwch y canllawiau ar yr hyn mae’n rhaid ichi ei wneud i gofnodi a rhoi gwybod am farwolaethau gwartheg mewn lladd-dy.
Symud gwartheg yn ôl ac ymlaen i faes sioe neu farchnad
Pan fyddwch chi’n symud eich gwartheg i faes sioe neu farchnad mae’n rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am y symudiad oddi ar eich daliad.
Os daw eich gwartheg yn ôl i’ch daliad, neu os byddwch chi’n prynu gwartheg yn y farchnad mae’n rhaid ichi gofnodi a rhoi gwybod am y symudiad i’ch daliad hefyd.
Rhaid i ysgrifennydd y maes sioe neu weithredwr y farchnad gofnodi a rhoi gwybod am y symudiad i’w daliad nhw a’r symudiad oddi arno pan fydd y gwartheg yn cael eu gwerthu neu eu dychwelyd i’r daliad y daethon nhw ohono.
Darllenwch y canllawiau ar sut i gofnodi a rhoi gwybod am symudiadau gwartheg.
Symud lloi i’r farchnad
Chewch chi ddim mynd â llo dan 12 wythnos oed i’r farchnad fwy na dwywaith mewn unrhyw gyfnod o 28 diwrnod. Os ewch chi â llo i’r farchnad am yr eildro o fewn 28 diwrnod mae’n rhaid ichi fod â dogfennau ysgrifenedig gyda chyfeiriad y farchnad flaenorol a’r dyddiad yr aeth y llo yno.
Rhaid i weithredwyr y farchnad wirio nad yw llo wedi bod mewn marchnad fwy na dwywaith yn ystod y 28 diwrnod blaenorol. Os yw’r llo wedi bod yno fwy na dwywaith, rhaid i’r gweithredwr gofnodi:
- cyfeiriad y farchnad - hyd yn oed os yr un farchnad yw hi
- y dyddiad neu’r dyddiadau roedd y llo yn y farchnad
Gwartheg ar goll neu wedi’u dwyn
Darllenwch y canllawiau ar beth i’w wneud os bydd unrhyw un neu ragor o’ch gwartheg yn cael eu colli neu eu dwyn a beth i’w wneud os cewch chi nhw yn ôl.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 December 2023 + show all updates
-
Added information on when you do not need to report and record cattle movements.
-
Added translation