Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau - materion cyffredin
Awgrymiadau datrys problemau ar gyfer ein cwestiynau mwyaf cyffredin am ddefnyddio Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau.
Yn berthnasol i England and Gymru
Cyfeiriad e-bost
Eich cyfeiriad e-bost yw eich dynodwr unigryw. I sefydlu cyfrif, mae angen i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost sy’n unigryw i chi. Os ydych yn ymddiriedolwr neu’n gyswllt elusen, bydd y cyfeiriad e-bost hwn hefyd yn cael ei gofrestru ar ein cronfa ddata.
Os ydych ar hyn o bryd yn rhannu cyfeiriad e-bost â defnyddwyr eraill Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau - a allai fod yn gydymddiriedolwyr neu’n gynghorwyr proffesiynol - byddwch yn cael anawsterau wrth sefydlu’ch cyfrif. Dim ond un person fydd yn gallu defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwnnw i sefydlu cyfrif.
Os ydych yn cael problem â’ch cyfeiriad e-bost, cysylltwch â ni fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. Gallwch ein ffonio ar 0300 066 9197 (mae ein llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am i 5:00pm). Bydd angen i ni anfon dolen newydd atoch i sefydlu’ch cyfrif.
Dolen gosod cyfrif wedi dod i ben
Os byddwch yn derbyn neges bod eich dolen wedi dod i ben, bydd angen i chi ofyn am un newydd.
Edrychwch sut i ddechrau a gofyn am gyfrif (mae hyn yn agor tudalen newydd) yn seiliedig ar eich rôl â’ch elusen.
Ailosod eich cyfrinair
Gallwch ailosod eich cyfrinair trwy ddewis ‘Ailosod eich cyfrinair’ ar y dudalen mewngofnodi. Os oes gennych gyfrif, byddwn yn e-bostio dolen ailosod. Os nad ydych eisoes wedi sefydlu eich Cyfrif Comisiwn Elusennau eich hun, bydd angen i chi wneud hynny yn gyntaf.
Edrychwch sut i ddechrau a gofyn am gyfrif (mae hyn yn agor tudalen newydd) yn seiliedig ar eich rôl â’ch elusen.
Eich cod mynediad
Bob tro y byddwch yn mewngofnodi, mae angen i chi ofyn am god mynediad. Mae hyn er mwyn darparu haen ychwanegol o ddiogelwch i’ch cyfrif.
Cliciwch ar y botwm ‘cais am god menediad’ a byddwn yn e-bostio’r cod 4 nod atoch. Mae’r cod yn ddilys am 30 munud.
Os na fyddwch chi’n derbyn eich e-bost wrth ddefnyddio rhaglen ar eich ffôn neu lechen, ceisiwch wirio’ch negeseuon e-bost trwy borwr PC.
Os ydych chi’n profi problem wrth fewngofnodi â’ch cod a gofyn am un arall, sicrhewch eich bod chi’n defnyddio’r un diweddaraf:
- gwirio nad yw eich negeseuon e-bost gan myaccount@charitycommision.gov.uk yn cael eu grwpio i mewn i sgwrs ‘edau’ gan efallai na fydd yn glir pa un yw’r e-bost diweddaraf gennym
- nidileu pob e-bost o myaccount@charitycommision.gov.uk nad ydynt bellach yn ddilys – gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam a gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn dileu’r holl negeseuon e-bost hyn o’ch ffolder ‘eitemau wedi’u dileu’
Ychwanegu defnyddwyr eraill i Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau
Dim ond os mai chi yw’r cyswllt elusennol (prif weinyddwr) neu wedi cael caniatâd gweinyddwr (mae’r ddolen hon yn agor tudalen newydd) y gallwch chi:
• wahodd defnyddwyr eraill i greu cyfrif
• rhoi mynediad i ddefnyddwyr trydydd parti i wahanol wasanaethau.
Os ydych eisiau gwahodd ymddiriedolwr i sefydlu cyfrif, ond nad ydynt yn dangos ar eich elusen, yn gyntaf mae angen i chi eu hychwanegu at y gofrestr drwy’r gwasanaeth “diweddaru manylion elusen”. Gweler diwygio manylion ymddiriedolwyr isod. Ar ôl eu hychwanegu, byddant yn cael dolen yn awtomatig i sefydlu cyfrif.
Os mae’r ymriddiedolwr yn dangos ar eich elusen, gweler ein canllawaiau ar wahodd ymddiriedolwyr i greu cyfrif (mae’r ddolen hon yn agor ar dudalen newydd)
Gweler ein canllawiau ar roi mynediad i ddefnyddwyr trydydd parti (mae’r ddolen hon yn agor tudalen newydd)
Diwygio manylion ymddiriedolwyr
Gall cysylltiadau elusennau (prif weinyddwyr) ac uwch weinyddwyr ychwanegu ymriddiedolwyr newydd neu olygu manylion personol ymddiriedolwyr presennol yn y gwasanaeth “diweddaru manylion yr elusen” unwaith y byddant wedi cadarnhau eu bod wedi’u hawdurdodi gan yr ymddiriedolwyr i gael y caniatâd hwn.
Os ydych yn gyswllt elusen yn mewngofnodi am y tro cyntaf, neu wedi cael caniaradau uwch-weinyddiaeth, mae angen i chi alluogi’ch caniatadau gweinyddwr (mae’r ddolen hon yn agor tudalen newydd).
Gall ymddiriedolwyr rwystro’r mynediad hwn unwaith y byddant wedi sefydlu eu cyfrif.
Elusennau coll
Os ydych yn gweithio gydag elusennau lluosog ond yn methu â’u gweld wedi’u rhestru, gallai hyn fod oherwydd nad ydych wedi cofrestru gwybodaeth bersonol union yr un fath ar gyfer pob un.
Os ydych yn ymddiriedolwr, siaradwch â chyswllt eich elusen goll fel y gallant newid eich manylion.
Os mai chi yw cyswllt yr elusen, bydd angen i chi gysylltu â ni.
Agor newidiadau i ddogfen lywodraethol eich elusen
Pan fyddwch yn mewngofnodi, efallai y byddwch yn cael hysbysiad bod gennych gamau agored neu yn yr arfaeth i ddiwygio eich dogfen lywodraethol. Bydd angen i chi naill ai lanlwytho penderfyniad sy’n ymwneud â’r diwygiad neu ganslo’r gweithgaredd i gau’r weithred. Os nad ydych yn siwr, gwiriwch âch ymddiriedolwyr neu gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio CustomerService@charitycommission.gov.uk
Bydd angen i chi gau unrhyw weithgareddau agored cyn gofyn am newidiadau ychwanegol i’ch dogfen lywodraethu.