Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP): Prosbectws Cyn-ymgeisio 2024 – Cwestiynau Cyffredin

Rhestr o gwestiynau cyffredin am y Prosbectws Cyn-ymgeisio Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Pryd byddwch yn dechrau codi tâl am y gwasanaethau cyn-ymgeisio? 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal ymarfer mynegi diddordeb rhwng 29 Mai 2024 a 10 Gorffennaf 2024, gan ofyn i ymgeiswyr fynegi pa un o’r tair haen cyn-ymgeisio yr hoffent ymwneud â hi ar gyfer pob NSIP (Sylfaenol, Safonol neu Fanylach). Ar hyn o bryd, bwriedir i’r holl ymgeiswyr gael gwybod am y gwasanaeth sydd ar gael i’w NSIP erbyn diwedd mis Awst 2024. 

O ran prosiectau nad ydynt wedi rhoi gwybod i ni neu ofyn am farn yn unol â Rheoliad 8 yr EIA erbyn 30 Ebrill 2024, byddwn yn dechrau codi tâl am ein gwasanaethau newydd ar 1 Hydref 2024. 

O ran prosiectau sydd wedi rhoi gwybod i ni neu ofyn am farn yn unol â Rheoliad 8 yr EIA cyn 30 Ebrill 2024, byddwn yn dechrau codi tâl am ein gwasanaethau newydd ar 1 Ebrill 2025. 

O ran yr holl brosiectau sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth cyn-ymgeisio haen fanylach, byddwn yn dechrau codi tâl ar 1 Hydref 2024. 

2. Pam mae ymarfer mynegi diddordeb yn cael ei gynnal? 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi sefydlu ymagwedd haenog newydd ar gyfer ei gwasanaeth cyn-ymgeisio, a esbonnir yn y Prosbectws newydd. Mae angen i ni ddeall pa haen gwasanaeth yr hoffai pob ymgeisydd NSIP cyn-ymgeisio presennol danysgrifio iddi. Bydd yr ymarfer mynegi diddordeb hwn yn cael ei gynnal unwaith yn unig, ar ddechrau’r gwasanaeth tair haen newydd hwn. Yn y dyfodol, bydd yr haen gwasanaeth cyn-ymgeisio yn cael ei thrafod gyda’r Arolygiaeth Gynllunio yn y cyfarfod cychwynnol ar gyfer pob cais, fel y manylir yn y Prosbectws a Chanllawiau’r Llywodraeth. 

3. A allaf drafod pa haen sy’n addas ar gyfer fy NSIP gyda’r Arolygiaeth Gynllunio cyn i mi ymateb i’r ymarfer mynegi diddordeb? 

Er bod y Prosbectws yn datgan y bydd yr haen gwasanaeth yn cael ei thrafod yn y cyfarfod cychwynnol, mae mwyafrif yr NSIPau cyn-ymgeisio presennol wedi cynnal eu cyfarfodydd cychwynnol eisoes. Yn ogystal, mae nifer sylweddol o brosiectau ar y cam cyn-ymgeisio ac ni fyddai’n bosibl i’r Arolygiaeth Gynllunio gynnal trafodaethau gyda phob ymgeisydd o fewn cyfnod yr ymarfer mynegi diddordeb. Felly, os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt eisoes wedi derbyn sylw yn yr atebion i’r cwestiynau cyffredin hyn, cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio trwy e-bost yn y ffordd arferol. Bydd y cwestiynau cyffredin yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Dylid nodi, fel yr esboniwyd yn y Canllawiau ar y Weithdrefn Garlam, y bydd rhaid i ymgeiswyr sy’n gofyn am gael defnyddio’r llwybr Gweithdrefn Garlam ar gyfer eu NSIP ddefnyddio’r haen gwasanaeth Manylach. 

4. A all yr Arolygiaeth Gynllunio benderfynu dyrannu fy NSIP i haen uwch (er enghraifft Manylach) er y byddai’n well gennyf haen is (Safonol neu Sylfaenol)? 

Na, ni fydd NSIP yn cael ei ddyrannu i haen uwch nag y gofynnir amdani. Fe allai’r Arolygiaeth Gynllunio gynghori os yw’n credu y byddai NSIP yn gweddu’n well i haen uwch, ond ni all orfodi ymgeisydd i gael ei ddyrannu i wasanaeth haen uwch. Fodd bynnag, sylwch efallai y bydd angen i’r Arolygiaeth Gynllunio ddyrannu ymgeiswyr i wasanaeth haen is os na ellir bodloni’r galw.  

5. Pam mae’r ymarfer mynegi diddordeb ar wahân i gyhoeddi’r Prosbectws newydd? 

Cyn ffurfio barn am y gwasanaethau y gofynnir amdanynt, roedd angen i ymgeiswyr roi ystyriaeth ofalus i gynnwys Canllawiau’r Llywodraeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar a Phrosbectws yr Arolygiaeth Gynllunio.    

6. Pryd mae angen i mi ddweud wrth yr Arolygiaeth Gynllunio ba haen gwasanaeth cyn-ymgeisio yr hoffem ei chael ar gyfer ein NSIP? 

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymarfer mynegi diddordeb yw 10 Gorffennaf 2024.  

7. A all unrhyw brosiect ofyn am gael defnyddio’r gwasanaeth Manylach? 

Gall, ond fe ddylai ymgeiswyr roi ystyriaeth ofalus i aeddfedrwydd eu NSIP cyn-ymgeisio. Er enghraifft, os bwriedir cyflwyno’r cais cyn mis Ebrill 2025, dylid ystyried p’un a fyddai’r ymgeisydd yn elwa o wasanaeth llawn yr haen Fanylach.   

8. Rydw i eisiau i’m NSIP ddilyn y weithdrefn garlam. Sut gallaf wneud cais am hyn? 

Yn unol â’r Canllawiau ar y Weithdrefn Garlam, bydd angen i NSIP Gweithdrefn Garlam ddefnyddio’r haen gwasanaeth Manylach. Amlinellir y gofynion manwl sy’n gysylltiedig â’r Weithdrefn Garlam yn ein Prosbectws. Fodd bynnag, sylwch fod yr Arolygiaeth Gynllunio’n ceisio cwblhau pob archwiliad mor effeithlon â phosibl a bydd yn gwneud hynny mewn llai na chwe mis, lle y bo’n briodol.  

9. Rydw i eisiau i’m NSIP ddilyn y weithdrefn garlam, ond nid wyf eisiau dilyn y llwybr manylach. 

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cwblhau’r archwiliad mor effeithlon â phosibl a bydd yn gwneud hynny mewn llai na chwe mis, lle y bo’n briodol. Fodd bynnag, fel y cyfarwyddir yn y Canllawiau ar y Weithdrefn Garlam, ni fydd yr NSIP yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam ffurfiol os na ddefnyddir yr haen Fanylach.  

10. Beth os nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymwybodol o’m NSIP ar hyn o bryd? 

Mae ymgeiswyr cyn-ymgeisio presennol wedi cael neges oddi wrth gyfeiriad e-bost yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cynnwys y wybodaeth sy’n ofynnol i ymateb i’r ymarfer mynegi diddordeb. Gall unrhyw ymgeiswyr NSIP nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd anfon neges e-bost atom trwy nsipeoi@planninginspectorate.gov.uk i ofyn am wybodaeth berthnasol yr ymarfer mynegi diddordeb, yn enwedig y rhai hynny sy’n dymuno dechrau trafodaethau cyn-ymgeisio â’r Arolygiaeth Gynllunio cyn mis Ebrill 2025.  

11. Mae fy mhrosiect yn newydd ac nid ydym wedi cyfarfod â’r Arolygiaeth i’w drafod eto. A oes angen i mi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb ar yr adeg briodol? 

Gallwch wneud hynny os dymunwch, yn enwedig os ydych yn bwriadu dechrau ymgysylltiad cyn-ymgeisio â’r Arolygiaeth Gynllunio cyn mis Ebrill 2025. Byddai’n ddefnyddiol i chi roi gwybod i ni am unrhyw NSIPau cyn-ymgeisio sydd ar ddod a’r haen cymorth cyn-ymgeisio debygol yr hoffech ofyn amdani. Os ydych yn darllen hyn ar ôl i’r ymarfer mynegi diddordeb orffen ac rydych yn dymuno cyflwyno prosiect newydd, gellir gwneud hyn yn y ffordd arferol, a bydd haen yn cael ei thrafod yn y cyfarfod cychwynnol. Dylai ymholiadau newydd gael eu hanfon at ein blwch negeseuon e-bost NIEnquiries@planninginspectorate.gov.uk

12. Ni fydd fy mhrosiect yn barod i ddechrau ymgysylltiad cyn-ymgeisio â’r Arolygiaeth eto. A oes angen i mi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb? 

Gweler yr ymateb uchod. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb os nad yw’n debygol y bydd angen i’ch NSIP gael ymgysylltiad cyn-ymgeisio â’r Arolygiaeth Gynllunio cyn mis Ebrill 2025. 

13. Nid ydym eisiau talu am y gwasanaeth cyn-ymgeisio/nid ydym eisiau tanysgrifio i un o’r haenau cyn-ymgeisio. 

Yn dilyn y Cynllun Gweithredu (a gyhoeddwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau) a’r ymateb ymgynghori cysylltiedig, mae’r llywodraeth wedi gosod gofyniad ar yr Arolygiaeth Gynllunio i geisio adennill costau llawn. Bydd pob NSIP yn derbyn y lleiafswm gwasanaeth statudol o leiaf (h.y. sy’n cynnwys proses sgrinio a/neu gwmpasu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (EIA) yn unol â Rheoliad 8 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017). Mae’r haen ‘Sylfaenol’ yn cyd-fynd â darparu ein dyletswyddau statudol ar y cam cyn-ymgeisio a’r gost gysylltiedig i gyflawni rhwymedigaethau perthnasol. Felly, gofynnir i ymgeiswyr danysgrifio i un o’r haenau a chodir tâl arnynt yn unol â hynny fel bod yr Arolygiaeth Gynllunio’n adennill ei chostau.   

14. Pam mae ymagwedd haenog at ddechrau codi tâl cyn-ymgeisio? 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod yr ymagwedd haenog at godi tâl yn un deg a rhesymol, o ystyried bod y gwasanaeth yn cael ei lansio hanner ffordd drwy flwyddyn ariannol y rhan fwyaf o sefydliadau a’n bod eisoes wedi cyflawni rhai dyletswyddau statudol ar gyfer rhai NSIPau. Mae proses Rheoliad 8 yr EIA yn cael ei defnyddio i wahaniaethu rhwng prosiectau sy’n fwy datblygedig ar y cam cyn-ymgeisio, o gymharu â rhai sy’n llai datblygedig, yn ogystal â’r ymgeiswyr hynny sy’n ceisio’r haen fanylach ar gyfer eu NSIP.   

15. Beth fydd yn digwydd i’r ffioedd cyn-ymgeisio rwyf wedi’u talu os bydd fy nghais yn cael ei gyflwyno cyn i drefniant y gwasanaeth cyn-ymgeisio gael ei gwblhau? 

Bydd unrhyw ad-daliadau’n cael eu gwneud ar sail mis cyfan. Gofynnir i ymgeiswyr gadw gwybodaeth am y rhaglen yn gyfredol i’n galluogi i gynllunio ein hadnoddau’n effeithiol a lliniaru unrhyw gost ddiangen a fyddai’n golygu bod angen i’r Arolygiaeth Gynllunio dynnu adnoddau yn ôl.  

16. Beth fydd yn digwydd os bydd fy mhrosiect yn newid yn sylweddol yn ystod y broses cyn-ymgeisio? 

Mae’n bosibl newid haenau gwasanaeth cyn-ymgeisio, os bydd angen. Fodd bynnag, bydd angen i’r Arolygiaeth Gynllunio gael tri mis o rybudd o flaen llaw o’r dymuniad i newid haen ac ni all warantu y cytunir ar geisiadau o’r fath, yn enwedig rhai i symud i haen uwch (o ystyried y galw cystadleuol tebygol am ddarparu gwasanaethau).  

17. A yw talu am gyngor cyn-ymgeisio yn golygu y bydd yr Awdurdod Archwilio’n argymell bod caniatâd datblygu’n cael ei roi ar gyfer fy mhrosiect? 

Nac ydyw. Nid yw’r cyngor a roddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar y cam cyn-ymgeisio yn gyfystyr â chyngor unrhyw Awdurdod Archwilio yn y dyfodol a fydd yn archwilio’r cais, na phenderfyniad terfynol yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a ellir rhoi caniatâd datblygu i’r NSIP. Fel y nodir yng Nghanllawiau Cyn-ymgeisio’r Llywodraeth (Deddf Cynllunio 2008: Y cam cyn-ymgeisio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol - GOV.UK (www.gov.uk)), bydd y cyngor a roddir ar y cam cyn-ymgeisio yn cael ei roi heb ragfarnu ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael bryd hynny yn unig, ac ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gallu cynghori ar b’un a yw caniatâd datblygu’n debygol o gael ei roi neu ei wrthod i NSIP yn y pen draw.  

18. Pam nad yw’r Prosbectws yn cael ei gyflwyno ar ffurf llyfryn, gyda thablau, diagramau a ffotograffau?  

Mae hyn o ganlyniad i’r gofynion ar yr Arolygiaeth Gynllunio, fel corff cyhoeddus, i sicrhau bod cynnwys y wefan ac unrhyw wybodaeth yn hygyrch. Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio gydymffurfio â’r gofynion yn ‘Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018’. I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â: Deall gofynion hygyrchedd ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus - GOV.UK (www.gov.uk) 

19. Beth fydd yn digwydd i brosiectau cyn-ymgeisio sy’n anweithredol ar hyn o bryd ond sy’n parhau i fod ar y gofrestr ceisiadau ar y wefan? 

Anogwn ymgeiswyr prosiectau cyn-ymgeisio anweithredol i ymateb i’r ymarfer mynegi diddordeb, gan gadarnhau a ydynt yn bwriadu naill ai tynnu eu cynnig yn ôl o’r Gofrestr NSIP ar y wefan a’r gwasanaeth cyn-ymgeisio, neu roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio ba haen gwasanaeth sy’n fwyaf priodol i’w prosiect, yn eu barn nhw.  

20. Beth fydd yn digwydd i brosiectau cyn-ymgeisio nad ydynt yn ymateb i’r ymarfer mynegi diddordeb? 

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n tybio, at ddibenion trefnu adnoddau, y bydd y prosiectau hynny’n ceisio’r haen gwasanaeth sylfaenol.  

21. Faint o fanylion y dylid eu darparu yn y Ddogfen Rhaglen? 

Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys wedi’i hamlinellu yn y canllawiau cyn-ymgeisio a’r Prosbectws. O ran prosiectau sydd eisoes hanner ffordd drwy’r broses cyn-ymgeisio, dylai’r Ddogfen Rhaglen ymdrin â’r hyn sydd wedi digwydd hyd yma, yn ogystal â’r hyn y bwriedir iddo ddigwydd cyn cyflwyno.  

22. A oes arnom angen Carreg Filltir Digonolrwydd Ymgynghori (AoCM)? Pryd dylai ddigwydd?

Mater i’r ymgeisydd yw cynnig y garreg filltir yn y Ddogfen Rhaglen, o fewn paramedrau a amlinellir yn y canllawiau, h.y. o leiaf 3 mis cyn cyflwyno. Mae canllawiau ar lunio datganiad AoCM ar gael yn y canllawiau newydd a’n Prosbectws. 

23. A oes gofyniad i ymgynghori’n ffurfiol â chyrff eraill ynglŷn â’r Ddogfen Rhaglen cyn cyhoeddi (a diweddariadau dilynol)? 

Disgwylir i ymgeiswyr ystyried safbwyntiau cyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt wrth ddatblygu a chynnal y Ddogfen Rhaglen. Dylai’r Ddogfen Rhaglen roi syniad o allu’r cyrff hynny i gefnogi’r rhaglen a gynigir gan yr ymgeisydd. Bydd hyn yn gofyn am ryngweithio rhwng yr ymgeisydd a’r cyrff yr effeithir arnynt, a byddem yn disgwyl i’r ymgeisydd rannu’r Ddogfen Rhaglen yn rhagweithiol â nhw, ond nid yw’n broses ymgynghori ffurfiol. 

24. Rydym yn Ymgeisydd sydd â rhaglen sy’n cynnwys sawl prosiect ar y cam cyn-ymgeisio. A allwn gyflwyno un ymateb trosfwaol i’r ymarfer mynegi diddordeb?

Er ei bod yn ddefnyddiol deall y rhaglen gyffredinol ac unrhyw fwriadau i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd o brosiect haen uwch i brosiectau eraill sy’n dilyn haen is, mae’n hollbwysig bod y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei darparu mewn ffordd sy’n ymateb i’r ymarfer mynegi diddordeb ar sail prosiect unigol. 

25. Rydym yn gweithredu ar ran ymgeiswyr amrywiol; a allwn negodi ffi is oherwydd hynny?

Na allwch. Nid yw hyn yn adlewyrchu bwriadau’r model gwasanaeth a ddisgrifir yn y Prosbectws. 

26. Yn nodweddiadol, rydym yn cael rhoi adborth ar y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Arolygiaeth ar ddiwedd y broses yn unig, ar ôl caniatâd. A fydd cyfle i roi adborth mwy amserol ar y gwasanaeth cyn-ymgeisio yn gynharach yn y dyfodol?

Bydd. Ystyriwn fod hyn yn bwysig i ddarparu’r gwasanaeth newydd a gall ymgeiswyr ddisgwyl i ni ofyn am eu hadborth ar wasanaethau cyn-ymgeisio yn gynharach o lawer nag ar hyn o bryd. Darperir rhagor o fanylion ynglŷn â hyn yn fuan.   

27. Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cyflwyno mynegiad o ddiddordeb anghyflawn?

Ystyrir bod y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn angenrheidiol i gynorthwyo’r Arolygiaeth (ac eraill ar draws y system) i ddeall y prosiect a chynllunio adnoddau mewn ffordd fwy effeithiol nag sy’n bosibl ar hyn o bryd. Os bydd ymgeisydd yn dewis peidio â darparu elfennau o’r wybodaeth sy’n ofynnol, fe allai hyn effeithio ar ganlyniad y mynegiad o ddiddordeb. Cysylltwyd â dros 70 o brosiectau, ac o ystyried y nifer dan sylw, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl i’r Arolygiaeth helpu i ffurfio cynnwys eu hymateb i’r ymarfer mynegi diddordeb nac amlygu unrhyw wybodaeth sydd ar goll/yn anghyflawn ar ôl y dyddiad cau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 July 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. Added translation

Sign up for emails or print this page