Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Prosbectws Cyn Ymgeisio 2024

Cyflwyno gwasanaeth cyn ymgeisio newydd ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Yn berthnasol i England and Gymru

Cyflwyno gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd

Yn 2020, sefydlodd y Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol uchelgais y llywodraeth i gyflymu a gwella’r broses benderfynu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys y rhai hynny a ystyrir o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Atgyfnerthwyd yr uchelgais hwn yn 2022 o fewn Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain a ymrwymodd i sefydlu proses i ganiatáu i rai Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau) dderbyn penderfyniad o fewn 12 mis.

Yn dilyn adolygiad gweithredol o broses Deddf Cynllunio 2008 a ddechreuodd yn 2021, cyhoeddodd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) Gynllun Gweithredu yn amlinellu diwygiadau arfaethedig a fyddai’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod proses Deddf Cynllunio 2008 yn gallu cefnogi anghenion seilwaith y wlad yn y dyfodol. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023, ymgynghorodd DLUHC ar fanylion y diwygiadau gweithredol a chyhoeddwyd ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar 6 Mawrth 2024.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi ymateb i friff y llywodraeth trwy ddatblygu gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd a amlinellir yn y ddogfen hon, sef Prosbectws Cyn-ymgeisio 2024. Mae gwasanaeth newydd yr Arolygiaeth yn cefnogi’r diwygiadau gweithredol allweddol canlynol:

  • Cyflwyno opsiwn ar gyfer tair haen cyn-ymgeisio sy’n adlewyrchu gwahanol lefelau gwasanaeth y gall ymgeiswyr eu derbyn gan yr Arolygiaeth cyn cyflwyno cais.
  • Cyflwyno ffioedd cyn-ymgeisio sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth o dan bob haen cyn-ymgeisio, gan gyflawni uchelgais polisi’r llywodraeth i’r Arolygiaeth adennill costau’n llawn am y gwasanaethau y mae’n eu darparu.
  • Cyflwyno ‘Gweithdrefn Garlam’ a fydd yn caniatáu i rai ceisiadau, sy’n gallu bodloni Safon Ansawdd newydd, dderbyn penderfyniad o fewn 12 mis o’r adeg y derbynnir y cais i’w archwilio, o bosibl.

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer ein gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd, gan gynnwys y Weithdrefn Garlam. Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y Llywodraeth.

Sut beth yw llwyddiant a beth mae’n dibynnu arno?

Mae’r Arolygiaeth yn hyderus y bydd y diwygiadau hyn yn gwella ein gwasanaeth yn sylweddol, gan roi cyngor mwy penodol a defnyddiol i ymgeiswyr, mwy o sicrwydd ynghylch graddfeydd amser a chanlyniadau gwell i brosiectau. Trwy ymdrech ar y cyd yn cynnwys cyrff statudol, awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill, disgwylir i’r gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd arwain at gamau ôl-gyflwyno sy’n gyson fwy didrafferth ac yn gyflymach o bosibl.

Nodwn fod llwyddiant ein diwygiadau i wasanaethau yn gyd-ddibynnol ar ddatblygiad mentrau polisi eraill y llywodraeth, gan gynnwys diweddaru Datganiadau Polisi Cenedlaethol a’u cynnal yn barhaus, er enghraifft. Mae llwyddiant ein gwasanaeth, a chyflawni amcanion polisi’r llywodraeth, hefyd yn gyd-ddibynnol ar ddiwygiadau i wasanaethau cyrff eraill y llywodraeth sydd â rôl gynghori ym mhroses Deddf Cynllunio 2008. Bydd y cyd-ddibyniaethau hyn yn cael eu hystyried wrth i berfformiad y gwasanaeth newydd gael ei fonitro gan yr Arolygiaeth a’r llywodraeth ehangach.

Mae Prosbectws Cyn-ymgeisio 2024 yn disodli’r ‘Prosbectws Cyn-ymgeisio i Ymgeiswyr’ a gyhoeddwyd yn 2014, sy’n cael ei dynnu’n ôl ac na ddylid dibynnu arno gan brosiectau sy’n dechrau system Deddf Cynllunio 2008 o fis Mai 2024 ymlaen. Rhagor o wybodaeth am drefniadau pontio.

Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod y gwasanaethau a amlinellir ym Mhrosbectws Cyn-ymgeisio 2024 yn berthnasol i holl ddefnyddwyr proses Deddf Cynllunio 2008 ac y byddant yn ychwanegu gwerth iddynt. Fodd bynnag, mae’r prosbectws yn sefydlu gwasanaeth o fewn y cam cyn-ymgeisio sy’n cael ei arwain, ac y telir amdano, gan ymgeiswyr o reidrwydd. Ar y sail hon, mae’r prosbectws yn disgrifio gwasanaethau sydd wedi’u llunio’n bennaf o amgylch buddiannau ac anghenion ymgeiswyr mewn perthynas â chyflwyno ceisiadau a baratowyd yn dda.

Paragraff: 001 Rhif Cyfeirnod: 1-001-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Y cam cyn-ymgeisio – trosolwg

Esbonnir prif nodweddion y cam cyn-ymgeisio ym mhroses Deddf Cynllunio 2008 yng nghanllawiau’r llywodraeth. Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y Llywodraeth ynglŷn â’r broses cyn-ymgeisio. Darperir manylion ychwanegol ar ein Tudalennau Cyngor sy’n cael eu diweddaru hefyd i adlewyrchu a chefnogi’r gwasanaeth newydd. A hithau’n broses sy’n dechrau’n ddwys, mae gweithgareddau o fewn y cam cyn-ymgeisio yn hollbwysig wrth baratoi ceisiadau y gellir penderfynu arnynt o fewn amserlenni statudol, os cânt eu derbyn, ac y gellir eu cyflawni i fodloni’r angen cenedlaethol, os rhoddir caniatâd.

O ran ymgeiswyr, yn gyffredinol, mae’r gweithgareddau yn ystod y cam cyn-ymgeisio yn cynnwys:

  • Sefydlu perthnasoedd cynnar â rhanddeiliaid y mae’r prosiect yn effeithio arnynt, gan gynnwys cyrff statudol, awdurdodau lleol, unigolion sydd â buddiant yn y tir y mae’r prosiect yn effeithio arno a’r gymuned leol;
  • sefydlu’r haen cymorth y gofynnir amdani gan yr Arolygiaeth a pharatoi a chynnal Dogfen Rhaglen cyn-ymgeisio;
  • datblygu perthnasoedd a, lle y bo’n berthnasol, cytuno ar lefelau gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt gyda chyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt, yn unol â’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio, a symud ymlaen i ddatrys materion perthnasol a godwyd gan y cyrff hynny, os oes modd;
  • datblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y gymuned leol, a symud ymlaen i ddatrys materion perthnasol a godwyd gan y rhanddeiliaid hynny, os oes modd;
  • o ran prosiectau perthnasol, ceisio cyngor gan yr Arolygiaeth ar addasrwydd y prosiect ar gyfer Gweithdrefn Garlam, a bodloni gofynion cysylltiedig yn ystod y cam cyn-ymgeisio;
  • datblygu dyluniad y prosiect i adlewyrchu’r meini prawf dylunio da yn y Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol;
  • rhoi’r hysbysiadau sy’n ofynnol i’r Arolygiaeth;
  • cynnal ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn-ymgeisio gorfodol;
  • paratoi a chynnal asesiadau angenrheidiol ar gyfer y prosiect, os oes angen, fel Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA);
  • dechrau’r gwaith sy’n angenrheidiol i gael cydsyniadau neu drwyddedau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â chynllunio, fel trwyddedau rhywogaethau neu drwyddedau amgylcheddol;
  • paratoi dogfennau’r cais, gan gynnwys y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) drafft; a
  • pharatoadau logistaidd ar gyfer y camau ôl-gyflwyno, gan gynnwys amlygu lleoliadau posibl ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol a gwrandawiadau ac ati.

Beth mae hyn yn ei olygu i bobl a sefydliadau eraill?

O ran unigolion a sefydliadau eraill y mae cynigion o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn effeithio arnynt, y cam cyn-ymgeisio yw’r prif gyfle i ymgysylltu â’r ymgeisydd i ffurfio’r cynnig. Ar ôl i gais gael ei dderbyn i’w archwilio, prin yw’r cyfle i sylwedd y cynigion newid. Mae hyn yn golygu bod ymgysylltu cynhwysfawr â rhanddeiliaid yn ystod y cam cyn-ymgeisio yn hollbwysig er mwyn i’w safbwyntiau ddylanwadu ar ffurf derfynol y cais a gyflwynir. Darperir rhagor o wybodaeth am ymgysylltu yn ystod y cam cyn-ymgeisio ar ein Tudalennau Cyngor.

Paragraff: 002 Rhif Cyfeirnod: 1-002-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Cyngor adran 51 a sut y gallai newid

Er bod y cam cyn-ymgeisio’n cael ei arwain gan yr ymgeisydd, gall yr Arolygiaeth gynghori ymgeiswyr ac eraill er mwyn ceisio sicrhau bod cais wedi’i baratoi’n well ar gyfer y camau ôl-gyflwyno, gan gynnwys yr archwiliad. Rhoddir y cyngor hwn o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008. Nid yw unrhyw gyngor adran 51 a roddwn yn rhagfarnu’r penderfyniad derbyn o dan adran 55 Deddf Cynllunio 2008 nac unrhyw benderfyniad a wneir yn y dyfodol gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol ynglŷn â ph’un a ddylid rhoi caniatâd datblygu. Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yw’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y math o ddatblygiad sy’n cael ei ystyried, er enghraifft yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth sy’n penderfynu ar geisiadau am ddatblygiad NSIP sy’n gysylltiedig â phriffyrdd.

Gallwn roi cyngor i ymgeiswyr ar faterion gweithdrefnol yn ogystal â rhoi barn ddiduedd am gwestiynau sy’n ymwneud â materion archwilio posibl a pharodrwydd cais i symud ymlaen y tu hwnt i’r cam cyn-ymgeisio. Gan ddefnyddio ein profiad, gallwn hefyd roi cyngor ar yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod y camau ôl-gyflwyno, gan gynnwys yr archwiliad, ac amlygu arfer gorau. O fewn y gwasanaeth newydd, bydd graddau’r gwasanaeth cyngor a ddarperir i ymgeiswyr gan yr Arolygiaeth yn gyfyngedig i haen danysgrifio yr ymgeisydd.

O ran ymgeiswyr, gall y math o gyngor sydd ar gael gan yr Arolygiaeth gynnwys, yn dibynnu ar yr haen danysgrifio, agweddau ar y cyngor a amlinellir isod:

Y broses a’r cais

  • Cyngor ynglŷn â materion gweithdrefnol;
  • Cyngor sy’n deillio o farn ddiduedd am gwestiynau sy’n ymwneud â materion archwilio posibl;
  • Cyngor ynglŷn â’r fframwaith polisi ar gyfer cais arfaethedig;
  • Cyngor ynglŷn â’r opsiynau dylunio prosiect sy’n cael eu hystyried gan yr ymgeisydd;
  • Cyngor ynglŷn â’r strategaethau ymgynghori, y strategaethau cydsynio a’r rhaglen ar gyfer gweithgareddau cyn-ymgeisio, e.e. cynghori ar b’un a yw amserlenni’n realistig neu ynglŷn ag unrhyw hepgoriadau pwysig;
  • Cyngor ynglŷn â’r profion derbyn o dan y ddeddfwriaeth a’r broses dderbyn; a
  • Chyngor ynglŷn â’r prawf Safon Ansawdd sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn Garlam.

Cyngor ynglŷn ag EIA, HRA a hawliau tir

  • Cyngor ynglŷn ag ymagweddau arfaethedig at EIA, gan gynnwys effeithiau cronnol a defnyddio amlen Rochdale;
  • Cyngor ynglŷn ag ymagweddau at HRA;
  • Cyngor ynglŷn â sgrinio a chwmpasu EIA;
  • Cyngor ynglŷn â’r rhestr ymgyngoreion ar gyfer y Datganiad Amgylcheddol;
  • Cyngor ynglŷn ag ymgynghoriad trawsffiniol a’r broses i’w dilyn;
  • Cyngor ynglŷn â gweithio gyda chyrff cyhoeddus mewn prosesau EIA a HRA; a
  • Chyngor ynglŷn â gwneud ceisiadau hawliau tir a mynediad (adran 52/ 53 Deddf Cynllunio 2008).

Cyngor arfer da

  • Helpu ymgeiswyr i ddatblygu a chynnal perthynas waith dda â chyrff statudol perthnasol, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y gymuned leol;
  • Cyngor ynglŷn â beth i’w ddisgwyl yn yr archwiliad a risgiau sy’n gysylltiedig â’r archwiliad yn seiliedig ar brofiad o achosion eraill;
  • Cyfeirio at enghreifftiau arfer da o ddogfennau ac ymagweddau mewn perthynas â cheisiadau ac archwiliadau; a
  • Chyngor ynglŷn ag ymagweddau at ddangos tystiolaeth o gytundeb/ anghytundeb ag ymgyngoreion, e.e. mewn Datganiadau Tir Cyffredin a Datganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADSS) cyn-ymgeisio.

Paragraff: 003 Rhif Cyfeirnod: 1-003-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Ein polisi ynghylch bod yn agored

Mae gan yr Arolygiaeth ddyletswydd o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008 i gyhoeddi unrhyw gyngor a roddwn ar wneud cais am DCO neu wneud sylwadau ynglŷn â chais, neu gais arfaethedig, am DCO. Mae’r ddyletswydd hon yn adlewyrchu pwysigrwydd y cam cyn-ymgeisio a rôl yr Arolygiaeth ynddo.

Ceisiwn fod o gymorth wrth gynghori ymgeiswyr a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â cheisiadau ac mae ein hymrwymiad i degwch, bod yn agored a didueddrwydd yn golygu ein bod yn cyhoeddi’r cyngor a roddwyd i unrhyw barti ni waeth p’un a roddwyd y cyngor hwnnw o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008. Pan fydd cyngor yn ymwneud â phrosiect penodol, fe’i cyhoeddir ar dudalen berthnasol y prosiect ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Os byddwn yn rhoi cyngor mewn cyfarfod, bydd drafft o’r cyngor yn cael ei rannu gyda mynychwyr y cyfarfod bob amser cyn ei gyhoeddi.

O fewn y gwasanaeth newydd, bydd cyngor penodol i brosiect a roddir i ymgeiswyr yn cael ei gyhoeddi ar ffurf Cofnod Cyngor. Bydd gan bob prosiect Gofnod Cyngor unigol a fydd yn cael ei gyhoeddi a’i gynnal ar dudalen berthnasol y prosiect ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Bydd drafft o’r Cofnod Cyngor yn cael ei rannu gyda’r ymgeisydd ar gyfer sylwadau bob amser cyn ei gyhoeddi. Bydd y Cofnod Cyngor yn cael ei ddiweddaru i gofnodi’r holl gyngor a roddwn i bob ymgeisydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys unrhyw gyngor a roddwyd mewn cyfarfodydd prosiect.

Paragraff: 004 Rhif Cyfeirnod: 1-004-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Cyhoeddi cyngor a gwybodaeth am brosiect yn gynnar

Rydym yn ymwybodol o’r angen i daro cydbwysedd priodol rhwng bod yn agored a galluogi darpar fuddsoddwyr i ddiogelu gwybodaeth sensitif ar gamau cynharaf trafodaeth. Mae rhai ymgeiswyr o’r farn y gallent ymgysylltu â ni’n llawnach ar adegau yn ystod y camau cyn-ymgeisio cynnar pe na byddai unrhyw gyngor a roddir ac unrhyw wybodaeth am brosiect a ddarperir i’r Arolygiaeth gan ymgeisydd ar gael i’r cyhoedd ar unwaith.

Fel yr esboniwyd uchod, mae’n ofynnol i ni gyhoeddi unrhyw gyngor a roddwn o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008. Er nad yw Deddf Cynllunio 2008 yn nodi cyfnod penodol erbyn pryd y mae’n rhaid cyhoeddi cyngor o’r fath, mae’n awgrymu disgwyliad na ddylai fod oedi afresymol. Mae ein polisi bod yn agored yn gosod disgwyliad y bydd cyngor yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol, heblaw mewn amgylchiadau lle y gellid cyfiawnhau oedi rhesymol.

Beth fydd yn digwydd o ran y Rheoliadau EIA?

Os nad yw ymgeisydd wedi cyflwyno cais neu hysbysiad o dan Reoliad 8 y Rheoliadau EIA eto, fe all ofyn i ni ohirio cyhoeddi trafodaethau cynnar y prosiect hyd at chwe mis. Yn benodol:

  • Cyhoeddi cyngor a roddwyd i’r ymgeisydd a gwybodaeth arall sy’n ymwneud â chyngor o’r fath; a/ neu
  • ychwanegu’r prosiect at y rhestr o brosiectau cyn-ymgeisio ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.

Byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr gyfiawnhau pam mae angen gohirio cyhoeddi gwybodaeth o’r fath am resymau cyfrinachedd/ sensitifrwydd masnachol. Ni fyddwn yn gwrthod unrhyw gais o’r fath yn afresymol.

Pan dderbynnir cais neu hysbysiad o dan Reoliad 8 yr EIA, bydd yr holl gyngor a roddwyd yn gysylltiedig â’r prosiect hwnnw’n cael ei gyhoeddi ar yr adeg honno, ni waeth p’un a oes chwe mis wedi mynd heibio o’r adeg y derbyniwyd gwybodaeth ar gyfer y wefan, y rhoddwyd cyngor, neu y cynhaliwyd cyfarfod yr oeddem wedi cytuno i ohirio ei gyhoeddi ai peidio. Pan fyddwn wedi derbyn cais neu hysbysiad o dan Reoliad 8 yr EIA, bydd yr arfer presennol o gyhoeddi’r holl gyngor a roddwyd cyn gynted ag y bo’n ymarferol yn parhau er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw.

Dylai ymgeiswyr nodi ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Fe allai’r rhain, yn dilyn cais, olygu bod rhaid i ni ddatgelu unrhyw wybodaeth heb ei chyhoeddi yr ydym wedi cytuno i ohirio ei chyhoeddi, naill ai lle nad yw esemptiad neu eithriad yn berthnasol neu, o ystyried holl amgylchiadau’r achos, os yw budd cyhoeddus datgelu’r wybodaeth yn drech na budd cyhoeddus cynnal yr esemptiad neu’r eithriad.

Yn ogystal, disgwylir i bob ymgeisydd gynnal trafodaethau cynnar (yn gyfrinachol os oes angen) gyda chyrff statudol yr effeithir arnynt, fel y cyrff cadwraeth natur statudol, ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt, ynglŷn â chwmpas eu EIA a HRA (gan gynnwys ystyried dewisiadau amgen yn lle arolygon ac ymagweddau atynt), lle y bo’r angen. Bydd unrhyw gofnod cyhoeddus o’r trafodaethau hyn yn ddarostyngedig i bolisïau unigol y cyrff hyn.

Paragraff: 005 Rhif Cyfeirnod: 1-005-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Ein gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd

Cydnabyddwn nad yw ein gwasanaeth cyn-ymgeisio yn darparu ‘un ateb sy’n addas i bawb’ ac, ar y sail honno, rydym wedi sefydlu hyblygrwydd trwy ymagwedd haenog newydd tuag at y gwasanaeth a gynigiwn. Bydd hyn yn galluogi ymagwedd gymesur yn unol ag anghenion ymgeiswyr unigol. Bydd angen i wahanol brosiectau, a gwahanol ymgeiswyr, gael ymgysylltiad ar wahanol lefelau yn ystod y cam cyn-ymgeisio, yn dibynnu ar y canlynol, er enghraifft:

  • p’un a oes gan yr ymgeisydd brofiad o ddefnyddio proses Deddf Cynllunio 2008;
  • p’un a oes gan system randdeiliaid y prosiect, gan gynnwys awdurdodau lleol yr effeithir arnynt, brofiad o broses Deddf Cynllunio 2008;
  • graddfa a lleoliad y prosiect;
  • cymhlethdod materion y prosiect a faint o gytundeb/ anghytundeb sy’n debygol rhwng yr ymgeisydd a rhanddeiliaid eraill allweddol, gan gynnwys cyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt, ar yr adeg cyflwyno;
  • i ba raddau y mae’r prosiect neu’r ymagwedd at geisio caniatâd yn newydd;
  • p’un a yw’r ymgeisydd yn ceisio Gweithdrefn Garlam;
  • p’un a oes Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol wedi’i ddynodi ai peidio, neu statws y Datganiad Polisi Cenedlaethol dynodedig fel arall; a
  • faint o ddiddordeb lleol a chenedlaethol sydd mewn prosiect.

Ar y sail hon, rydym wedi datblygu tair haen ar gyfer y gwasanaeth cyn-ymgeisio y disgwylir iddynt fod yn briodol i’r ystod o geisiadau rydym yn rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â nhw. Ym mhob haen gwasanaeth, disgwylir i bob ymgeisydd gyflawni pum prif nodwedd y gwasanaeth. Pum prif nodwedd y gwasanaeth.

Beth yw’r opsiynau tair haen?

Haen 1: Y gwasanaeth sylfaenol

Yn yr haen sylfaenol, mae rhyngweithiadau uniongyrchol rhwng yr Arolygiaeth ac ymgeiswyr yn lleiafsymiol. Mae’r Arolygiaeth yn cyflawni dyletswyddau statudol yn unig, gan gynnwys gwasanaeth sgrinio a chwmpasu os bydd yr ymgeisydd yn gofyn amdano. Credwn y gallai’r haen sylfaenol fod yn wasanaeth priodol i ymgeiswyr profiadol iawn a phrosiectau cymhlethdod isel, y mae Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol a chyfredol ar waith ar eu cyfer, nad ydynt yn ceisio pwerau caffael gorfodol neu sy’n ceisio pwerau caffael gorfodol cyfyngedig, a/ neu sy’n debygol o arwain at nifer fach o faterion archwilio a ystyrir yn gyffredin gan Awdurdodau Archwilio.

Yn gyffredinol, ystyriwn fod tanysgrifio i wasanaeth haen sylfaenol yn strategaeth gydsynio risg uwch i’r rhan fwyaf o geisiadau gan y bydd llai o gyfle o lawer i ni lywio unrhyw faterion allweddol sy’n achos pryder cyn derbyn y cais. Fe allai rhai mathau o geisiadau sy’n tanysgrifio i wasanaeth haen sylfaenol fod yn fwy tebygol o brofi archwiliadau mwy heriol a’r amserlenni statudol mwyaf.

Haen 2: Y gwasanaeth safonol

O fewn yr haen gwasanaeth hon, dylai’r rhan fwyaf o geisiadau allu cael eu paratoi hyd at safon sy’n eu galluogi i gael eu derbyn ar gyfer archwiliad a’u harchwilio o fewn cyfnod cymesur sydd o fewn yr uchafswm statudol o chwe mis. Mae’r haen gwasanaeth hon yn cynnwys cyfarfodydd diweddaru ar y prosiect rhwng yr ymgeisydd a’r Arolygiaeth ar gerrig milltir allweddol yn y broses cyn-ymgeisio, gwasanaeth adolygu dogfennau drafft safonol a phroses adolygu risgiau ymgorfforedig. Gallai ymgeiswyr ddewis datblygu un neu fwy o’r elfennau ychwanegol a amlygir yn yr haen gwasanaeth manylach er mwyn optimeiddio eu cais a lleihau risg i’r eithaf, ond ni fyddwn yn darparu cymorth penodol wrth ddatblygu’r elfennau hyn o fewn yr haen gwasanaeth safonol.

Ystyriwn y gallai’r haen safonol fod yn wasanaeth priodol i’r rhan fwyaf o brosiectau, h.y. y rhai hynny nad ydynt yn eithriadol o syml nac yn eithriadol o gymhleth. Fodd bynnag, ni fydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam o dan yr haen gwasanaeth safonol. Er nad oes modd dilyn Gweithdrefn Garlam ffurfiol, pan fydd materion cyn-ymgeisio gweddilliol wedi’u lleihau i’r eithaf o fewn haen gwasanaeth safonol, ni fydd hyn yn atal archwiliad rhag bod yn fyrrach na’r uchafswm statudol o chwe mis; yn unol â disgresiwn yr Awdurdod Archwilio a benodir.

Haen 3: Y gwasanaeth manylach

Mae’r haen fanylach yn cynnig nodweddion gwasanaeth unigryw, gan gynnwys:

  • Bydd yr Arolygiaeth yn cefnogi datblygiad hyd at naw elfen cyn-ymgeisio atodol sy’n gallu helpu i optimeiddio ceisiadau cyn cyflwyno, gan gynyddu’r tebygolrwydd o gamau ôl-gyflwyno sy’n fwy didrafferth ac yn gyflymach, o bosibl. Mae’r Atodiad i’r Prosbectws hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am elfennau cyn-ymgeisio atodol.
  • Bydd yr Arolygiaeth yn arfer rôl hwylusol a blaenachubol, gan gynnwys o fewn fforymau aml-barti. Bydd rôl ‘flaenachubol’ yn golygu bod yr Arolygiaeth yn amlygu risgiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect a’r rhaglen yn seiliedig ar ei phrofiad o broses Deddf Cynllunio 2008 ac yn rhoi cyngor i’r ymgeisydd ar sut i wrthbwyso neu liniaru’r risgiau hynny. Rhagor o wybodaeth am hwyluso.
  • Bydd yr Arolygydd Archwilio yn ymwneud yn fwy â chyngor cyn-ymgeisio.
  • Bydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam trwy fodloni’r Safon Ansawdd, gan gynnwys cymorth cysylltiedig gan yr Arolygiaeth.

O ran ceisiadau nad ydynt yn dilyn y Weithdrefn Garlam, ystyriwn y bydd yr haen fanylach yn wasanaeth priodol i brosiectau y mae arnynt angen cydlyniad a chymorth system gyfan, neu y byddent yn elwa o hynny. Fe allai’r prosiectau hyn fod yn gymhleth iawn, ac yn debygol o arwain at faterion niferus yn yr archwiliad a ystyrir yn llai cyffredin gan Awdurdodau Archwilio.

O ran ymgeiswyr sy’n ceisio Gweithdrefn Garlam, mae’n rhaid tanysgrifio i’r haen gwasanaeth manylach er mwyn cychwyn y prawf Safon Ansawdd a bod yn gymwys ar gyfer archwiliad pedwar mis, o bosibl. Mae’r gofyniad hwn wedi’i sefydlu yng Nghanllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y llywodraeth ynglŷn â’r broses Garlam.

Beth yw’r trefniadau manwl ar gyfer pob haen gwasanaeth?

Mae’r tabl isod yn manylu ar yr hyn a gynigir yn y tair haen gwasanaeth sydd ar gael ar gyfer ceisiadau. Er mwyn manteisio ar ein gwasanaethau, gofynnir i ymgeiswyr danysgrifio i un o’r haenau yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses. Ystyriwn fod yr haen sylfaenol yn cyd-fynd yn fras â’n dyletswyddau statudol mewn perthynas â gwasanaethau cyn-ymgeisio (e.e. ymdrin â sgrinio a/ neu gwmpasu EIA) ac mae ein lefelau mewnbwn yn cynyddu yn yr haenau safonol a manylach. Gwybodaeth am drefniadau pontio, gan gynnwys ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes wedi cynnal Cyfarfod Cychwynnol gyda ni cyn 16 Mai 2024.

Paragraff: 006 Rhif Cyfeirnod: 1-006-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

The Planning Inspectorate’s Pre-application Service Tiers

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

HAEN 1: SYLFAENOL

Cost i’r ymgeisydd (rhagor o wybodaeth am adennill costau)

£62,350 fesul blwyddyn gwasanaeth

Prosiectau addas

Ymgeiswyr profiadol iawn, prosiectau cymhlethdod isel y mae Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol a chyfredol ar waith ar eu cyfer, nad ydynt yn ceisio caffael gorfodol neu sy’n ceisio caffael gorfodol cyfyngedig, ac sy’n debygol o arwain at nifer fach o faterion archwilio a ystyrir yn gyffredin gan Awdurdodau Archwilio.

Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cyflawni dyletswyddau statudol yn unig, gan gynnwys cyngor adran 51 a sgrinio/ cwmpasu EIA.

Cyngor adran 51

Fel arfer, bydd cyngor yn gyfyngedig i gyfeirio at adnoddau ysgrifenedig sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys cyngor cyhoeddedig, canllawiau a chynseiliau a sefydlwyd mewn achosion eraill.

Cyfarfodydd a rhyngweithiadau

Mae cyfarfodydd â’r Arolygiaeth Gynllunio ar gael i ymgeiswyr ar gerrig milltir hanfodol yn unig (uchafswm o dri chyfarfod y flwyddyn) yn cynnwys:

  • Cyfarfod Cychwynnol
  • Cyfarfod ymgynghori ôl-adran 42
  • Cyfarfod cyn cyflwyno

Ym mhob haen gwasanaeth, ceir cytuno ar gyfarfodydd ychwanegol (h.y. mwy na’r uchafswm y flwyddyn a nodwyd) os bydd angen. Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio ar gael i gymryd rhan mewn fforymau aml-barti, gan gynnwys y broses Cynllun Tystiolaeth. Ni fydd Arolygydd Archwilio yn ymwneud â chyngor cyn-ymgeisio).

Dogfennau drafft

Ni fydd mynediad at wasanaeth adolygu dogfennau drafft yr Arolygiaeth Gynllunio.

Risg derbyn ac ôl-gyflwyno

Adolygir risgiau ar y dechrau, ar y cyd â phenderfyniad i symud ymlaen â’r cynnig haen sylfaenol.

Nodweddion ychwanegol

Dim

HAEN 2: SAFONOL

Cost i’r ymgeisydd (rhagor o wybodaeth am adennill costau)

£126,050 fesul blwyddyn gwasanaeth

Prosiectau addas

Unrhyw brosiect, o bosibl, heblaw am brosiectau sy’n ceisio bod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam y mae haen gwasanaeth manylach yn rhagofyniad ar ei chyfer.

Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cyflawni dyletswyddau statudol ac yn cefnogi’r broses o baratoi ceisiadau sy’n:

  • Gallu cael eu derbyn i’w harchwilio; ac sy’n
  • gallu cael eu harchwilio o fewn yr uchafswm statudol o chwe mis.

Caiff ymgeiswyr ddewis datblygu un neu fwy o’r elfennau cyn-ymgeisio atodol a restrir yn yr haen gwasanaeth manylach er mwyn optimeiddio eu cais, ond ni fyddant yn cael cymorth penodol gan yr Arolygiaeth.

Cyngor adran 51

Cyhoeddi cyngor gweithdrefnol i gefnogi rhaglen a chyngor i gynorthwyo i ddatblygu a/ neu ddatrys materion sy’n debygol o godi yn yr archwiliad cyn cyflwyno.

Cyfarfodydd a rhyngweithiadau

Bydd cyfarfodydd â’r Arolygiaeth Gynllunio ar gael i ymgeiswyr ar gerrig milltir allweddol, fel y ceisir/ sy’n ofynnol gan yr ymgeisydd (uchafswm o chwe chyfarfod y flwyddyn), gan gynnwys:

  • Cyfarfod Cychwynnol
  • Cyfarfod ymgynghori ôl-gwmpasu, cyn-adran 42
  • Cyfarfod ymgynghori ôl-adran 42/ ôl-Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol
  • Cyfarfod adborth ar ddogfennau drafft
  • Cyfarfod cyn cyflwyno

Ym mhob haen gwasanaeth, ceir cytuno ar gyfarfodydd ychwanegol (h.y. mwy na’r uchafswm y flwyddyn a nodwyd) os bydd angen.

Cynnig i’r Arolygiaeth Gynllunio ymwneud â fforymau aml-barti nad ydynt yn gysylltiedig â’r Cynllun Tystiolaeth, lle y cytunir, mewn rôl arsylwi/ cynghori. Rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd aml-barti.

Cynnig i’r Arolygiaeth Gynllunio ymwneud â’r broses Cynllun Tystiolaeth, lle y cytunir, mewn rôl arsylwi/ cynghori. Rhagor o wybodaeth am y broses Cynllun Tystiolaeth.

Bydd yr Arolygydd Archwilio yn ymwneud â rhai elfennau o gyngor cyn-ymgeisio.

Dogfennau drafft

Bydd gwasanaeth adolygu dogfennau drafft safonol ar gael i ymgeiswyr. Dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth adolygu haen safonol. Bydd Arolygwyr Archwilio’n cefnogi adolygiad o’r DCO drafft a’r Memorandwm Esboniadol.

Risg derbyn ac ôl-gyflwyno

Adolygiad risgiau ailadroddol ar gerrig milltir allweddol.

Nodweddion ychwanegol

Dim

HAEN 3: MANYLACH

Cost i’r ymgeisydd (rhagor o wybodaeth am adennill costau)

£208,850 fesul blwyddyn gwasanaeth

Prosiectau addas

Prosiectau sy’n ceisio bod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam.

NEU

Buddiannau newydd neu gymhleth iawn/ traws-sector sy’n debygol o arwain at faterion niferus yn yr archwiliad a ystyrir yn llai cyffredin gan Awdurdodau Archwilio, nad ydynt yn ceisio Caniatâd ar gyfer y Weithdrefn Garlam ond y mae arnynt angen cydlyniad a chymorth system gyfan neu y byddent yn elwa o hynny.

Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cyflawni dyletswyddau statudol ac yn ymgymryd â rôl fanylach wrth gefnogi’r broses o baratoi ceisiadau sy’n cael eu hoptimeiddio i hwyluso llwybr effeithlon ac effeithiol at benderfyniad, gyda’r potensial i rai prosiectau fod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam. Mae elfennau cyn-ymgeisio atodol y gellir eu cefnogi gan yr Arolygiaeth Gynllunio i optimeiddio ceisiadau yn cynnwys:

  • Cynllunio Tystiolaeth
  • PADSS cyn-ymgeisio
  • Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau
  • Dogfen Ymagwedd Ddylunio
  • Dogfennau rheoli amlinellol
  • Cyfarfodydd aml-barti (nad ydynt yn gysylltiedig â’r Cynllun Tystiolaeth)
  • Paratoi tystiolaeth Caffael Gorfodol a Meddiant Dros Dro
  • Paratoi tystiolaeth i gefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Gwiriad aml-barti o barodrwydd cais (treialu)

Mae rhai elfennau cyn-ymgeisio atodol yn ofynnol ar gyfer ceisiadau sy’n ceisio Gweithdrefn GarlamMae’r Atodiad i’r Prosbectws hwn yn rhoi manylion ynglŷn â datblygu elfennau cyn-ymgeisio atodol, gan gynnwys y gwerth y disgwylir iddynt ei ychwanegu, ac yn amlygu’r rhai hynny sy’n ofynnol ar gyfer ceisiadau sy’n ceisio Gweithdrefn Garlam.

Cyngor adran 51

Cyhoeddi cyngor gweithdrefnol i gefnogi rhaglen a chyngor i gynorthwyo i ddatblygu a/ neu ddatrys materion sy’n debygol o godi yn yr archwiliad cyn cyflwyno, gan gynnwys ar sail ragachubol yn unol ag amlygiad uwch yr Arolygiaeth Gynllunio i dystiolaeth cyn-ymgeisio.

Cyfarfodydd a rhyngweithiadau

Yn unol â chais yr ymgeisydd, a chytundeb yr Arolygiaeth Gynllunio, cyfarfodydd seiliedig ar bwnc gyda’r Arolygiaeth Gynllunio yn ychwanegol at gyfarfodydd ar gerrig milltir allweddol a gynigir yn yr haen safonol (uchafswm o naw cyfarfod y flwyddyn). Ym mhob haen gwasanaeth, ceir cytuno ar gyfarfodydd ychwanegol (h.y. mwy na’r uchafswm y flwyddyn a nodwyd) os bydd angen. Cynnig i’r Arolygiaeth Gynllunio ymwneud â fforymau aml-barti nad ydynt yn gysylltiedig â’r Cynllun Tystiolaeth, lle y cytunir, gan gynnwys ar y Garreg Filltir Digonolrwydd Ymgynghori. Fe allai hyn fod yn rôl cadeirydd neu hwylusydd. Rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd aml-barti. Cynnig i’r Arolygiaeth Gynllunio ymwneud â’r broses Cynllun Tystiolaeth, lle y’i defnyddir fel y cytunwyd, fel hwylusydd. Rhagor o wybodaeth am y broses Cynllun Tystiolaeth. Bydd yr Arolygydd Archwilio yn ymwneud yn fwy â chyngor cyn-ymgeisio, gan gynnwys fel hwylusydd mewn fforymau aml-barti, o bosibl.

Dogfennau drafft

Bydd gwasanaeth adolygu dogfennau drafft manylach ar gael i ymgeiswyr, a allai ystyried mwy nag un fersiwn ddrafft o ddogfennau dros amser, fel y cytunwyd yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio, gan gynnwys:

  • Dogfennau y gellir eu hadolygu o dan yr haen safonol
  • Dogfennau sy’n gysylltiedig â’r elfennau y gellir eu cefnogi a restrir uchod

Dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth adolygu haen fanylach.

Bydd Arolygwyr Archwilio ar gael i gefnogi’r broses o adolygu’r holl ddogfennau drafft.

Risg derbyn ac ôl-gyflwyno

Adolygiad risgiau ailadroddol, gan gynnwys cyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt.

Nodweddion ychwanegol

O ran ceisiadau sy’n ceisio Gweithdrefn Garlam, cymorth gan yr Arolygiaeth Gynllunio i baratoi cais sy’n gallu bodloni’r Safon Ansawdd a sefydlir yng Nghanllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y llywodraeth ynglŷn â’r broses Garlam.

Paragraff: 007 Rhif Cyfeirnod: 1-007-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Y Cyfarfod Cychwynnol

I’r Arolygiaeth, mae cam cyn-ymgeisio’r broses yn dechrau gyda rhyngweithiad cyntaf yr ymgeisydd a drefnwyd gyda ni mewn Cyfarfod Cychwynnol. Er bod y Cyfarfod Cychwynnol yn cynrychioli dechrau’r broses cyn-ymgeisio at ddibenion monitro’r amserlen ar gyfer cyn-ymgeisio, bydd yr ymgeisydd wedi bod yn cychwyn ei brosiect, gan gynnwys trwy ymgysylltu’n gynnar â chyrff statudol ac awdurdodau lleol perthnasol, cyn y cyfarfod hwn dros raddfeydd amser amrywiol.

Yn y Cyfarfod Cychwynnol, bydd yr ymgeisydd yn rhoi cyflwyniad i’r Datblygiad Arfaethedig, yn cadarnhau’r haen gwasanaeth y gofynnir amdani ac yn cyflwyno ei raglen arfaethedig ar gyfer gweithgareddau cyn-ymgeisio mewn Dogfen Rhaglen. Yn ogystal, y Cyfarfod Cychwynnol yw’r adeg pan fydd y broses o anfonebu ar gyfer gwasanaethau cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth yn dechrau. Rhagor o wybodaeth am y taliadau ar gyfer ein gwasanaethau cyn-ymgeisio.

Cyn y Cyfarfod Cychwynnol, disgwylir y bydd yr ymgeisydd wedi rhyngweithio â chyrff statudol ac awdurdodau lleol perthnasol i archwilio a, lle y bo’n bosibl, cytuno ar gwmpas y gwasanaethau sy’n ofynnol i gefnogi’r haen gwasanaeth y gofynnwyd amdani a’r rhaglen arfaethedig o weithgareddau cyn-ymgeisio. Bydd hefyd angen i ymgeiswyr fod wedi sefydlu cysylltiad â’r Arolygiaeth cyn y Cyfarfod Cychwynnol i ddarparu gwybodaeth sylfaenol hanfodol am y prosiect a pharatoi’r agenda ar gyfer y cyfarfod.

Inception Meeting agenda template

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Bydd yr haen cymorth cyn-ymgeisio a ddarperir yn cael ei chytuno rhwng yr ymgeisydd a’r Arolygiaeth 28 niwrnod ar ôl y Cyfarfod Cychwynnol fan bellaf. I lywio’r cytundeb hwn, mae’n rhaid i’r ymgeisydd roi’r wybodaeth sylfaenol ganlynol i ni o leiaf 14 diwrnod cyn y trefnwyd i’r Cyfarfod Cychwynnol ddigwydd:

  • Gwybodaeth sylfaenol am y prosiect, gan gynnwys manylion yr ymgeisydd, lleoliad y prosiect a disgrifiad lefel uchel o’r datblygiad arfaethedig.
  • Barn dros dro’r ymgeisydd am yr haen gwasanaeth briodol.
  • Dogfen Rhaglen sy’n ymdrin â gweithgareddau cyn-ymgeisio o’r Cyfarfod Cychwynnol i gyflwyno’r cais. Derbynnir y gallai fod rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn ag elfennau o fanylion yn y fersiwn gyntaf hon o’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio.

Basic case information required in advance of Inception Meeting template

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Yn y Cyfarfod Cychwynnol, bydd yr ymgeisydd yn ymhelaethu ar y wybodaeth sylfaenol a ddarparwyd i lywio cytundeb ar yr haen gwasanaeth briodol. Bydd hyn yn cynnwys disgrifiad ac esboniad manwl o’r gweithgareddau a’r amserlenni rhagfynedig a nodir yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio. Bydd y disgrifiad manwl o’r prosiect yn cynnwys elfennau fel amlinelliad o’r prif faterion/ cyfyngiadau amgylcheddol a graddau unrhyw bwerau caffael gorfodol a geisir mewn perthynas â’r prosiect. Fe allai’r Arolygiaeth ofyn cwestiynau i gael eglurhad ynglŷn â’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd ac fe allai ofyn am wybodaeth ychwanegol i allu amlygu’r haen gwasanaeth briodol. Bydd yr haen y cytunwyd arni’n cael ei hadolygu’n barhaus drwy gydol y cam cyn-ymgeisio ac, os bydd yr amgylchiadau’n newid, efallai y cynghorir yr ymgeisydd ar sail risg i newid ei danysgrifiad i haen arall. Rhagor o wybodaeth am newid tanysgrifiad.

Tybir, yn seiliedig ar ffeithiau’r achos, y bydd yr Arolygiaeth a’r ymgeisydd yn cytuno ar yr haen gwasanaeth cyn-ymgeisio briodol fel arfer. Mewn amgylchiadau lle y ceir anghytundeb, bydd barn yr Arolygiaeth yn derfynol. Byddwn yn arfer y polisi hwn dim ond pan ystyriwn fod gwasanaeth haen is yn briodol i’r cais dan sylw. Byddwn yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd am ein penderfyniad, gyda rhesymau, ac yn cyhoeddi unrhyw gyngor cysylltiedig o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008.

Paragraff: 008 Rhif Cyfeirnod: 1-008-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Prif nodweddion gwasanaeth

Ar draws tair haen y gwasanaeth cyn-ymgeisio, disgwylir i bob ymgeisydd gyflawni’r pum prif nodwedd gwasanaeth canlynol. Ystyriwn fod y nodweddion hyn yn ofynion cyffredinol sylfaenol ar gyfer gwasanaeth, sicrwydd a chanlyniadau gwell:

1. Dogfen Rhaglen

Dogfen Rhaglen cyn-ymgeisio a gynhyrchir ac a gynhelir gan yr ymgeisydd sy’n amlinellu’r prif gamau y mae’r ymgeisydd yn disgwyl eu cymryd yn ystod paratoi’r cais. Bydd y ddogfen hon yn cael ei chyflwyno gan yr ymgeisydd yn y Cyfarfod Cychwynnol a bydd yr Arolygiaeth yn monitro sut mae’n cael ei datblygu a’i chynnal drwy gydol y cam cyn-ymgeisio. Mae’n rhaid i fersiwn gyhoeddus o’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio gael ei chyhoeddi ar wefan yr ymgeisydd.

Dylai’r ymgeisydd roi gwybod yn rhagweithiol am ddiweddariadau i’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio, gan roi disgrifiad clir o’r effeithiau posibl ar y gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt gan yr Arolygiaeth, cyrff statudol perthnasol, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill. Mae golwg ddibynadwy o raglenni ar draws y portffolio NSIP yn hanfodol i alluogi’r partïon hyn i ddarparu adnoddau a chefnogi’r gwasanaeth cyn-ymgeisio’n effeithiol. Wrth baratoi a gwneud diweddariadau i’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio, disgwyliwn i ymgeiswyr fod yn ymatebol ac yn rhesymol wrth deilwra rhaglenni i gefnogi ymgysylltiad â chyrff statudol ac awdurdodau lleol lle y bo’r angen.

2. Traciwr Materion a Phrif Faterion Posibl ar gyfer yr Archwiliad

Traciwr Materion a gynhyrchir ac a gynhelir gan yr ymgeisydd drwy gydol y cam cyn-ymgeisio. Disgwylir i ymgeiswyr ddatgan materion a phwy maen nhw’n effeithio arnynt yn agored. Dylai’r Traciwr Materion fod ar gael i’w adolygu’n rheolaidd gan yr Arolygiaeth, a chyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt er mwyn annog trafodaeth a, lle y bo’n bosibl, cyflawni datrysiad. Dylid rhoi statws Coch, Melyn a Gwyrdd i raddau’r risg sy’n gysylltiedig â phob mater a amlygwyd yn y traciwr. Gellir parhau i gynnal y Traciwr Materion yn ystod y camau ôl-gyflwyno yn unol â disgresiwn yr Awdurdod Archwilio a benodir.

Bydd y broses tracio materion yn arwain at restr o Brif Faterion Posibl ar gyfer yr Archwiliad (PMIE) a fydd yn cael ei chyflwyno i’r archwiliad fel dogfen cais. Dylai’r PMIE fod yn ddogfen fer y cytunwyd arni gan gyrff statudol ac awdurdodau lleol perthnasol, lle y bo’n bosibl. Mae’n gwbl ar wahân i’r Asesiad Cychwynnol o Brif Faterion (IAPI) diweddarach a ddatblygir gan yr Awdurdod Archwilio a benodir, ond fe allai, yn unol ag unrhyw dystiolaeth o fewn dogfennau’r cais, ddylanwadu ar gynnwys yr IAPI. Swyddogaeth y PMIE (ynghyd â’r PADSS) yw dangos bod y materion gweddilliol yn ddigon bach o ran nifer a digymhleth i ganiatáu ar gyfer archwiliad pedwar mis (mewn achosion Gweithdrefn Garlam) o bosibl, a/ neu hwyluso paratoi’n fwy cadarn ar gyfer archwiliad a phrofiad archwilio mwy didrafferth a chymesur i’r holl bartïon. Yn yr haen gwasanaeth manylach, fe allai’r ymgeisydd ymgynnull cyfarfod aml-barti i gynorthwyo i gwblhau’r PMIE yn derfynol.

Sut mae’r Traciwr Materion, PADSS, PMIE a Datganiadau Tir Cyffredin yn rhyngweithio

Flow Chart 1 - How the Issues Tracker, PADSS, PMIE and Statements of Common Ground interact

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Pre-application Issues Tracker template

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Potential Main Issues for Examination template

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

3. Cofnod Cyngor

Ymgysylltiad â phroses yr Arolygiaeth o gynhyrchu Cofnod Cyngor i ddisodli nodiadau cyfarfod fel cofnod o ryngweithiadau rhyngom ni a’r ymgeisydd. Mae treialon o’r ymagwedd Cofnod Cyngor wedi dangos ei fod yn ddull effeithiol o symleiddio’r ffordd rydym yn cofnodi cyngor ac yn rhyddhau adnoddau (mewnol ac allanol) i ddelio ag elfennau eraill o’r broses cyn-ymgeisio sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd y cais sy’n dod i’r amlwg. Yr Arolygiaeth sy’n gyfrifol am y Cofnod Cyngor ac yn ei gynnal. Ar ôl pob cyfarfod â’r ymgeisydd, byddwn yn ceisio sylwadau ar ddrafftio’r Cofnod Cyngor gan yr ymgeisydd cyn ei gyhoeddi ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio’r Cofnod Cyngor fel sail i ddangos ystyriaeth o gyngor adran 51 o fewn y cais (gweler 5, isod).

4. Carreg Filltir Digonolrwydd Ymgynghori

Ymgysylltu â Charreg Filltir Digonolrwydd Ymgynghori (AoCM) cyn cyflwyno y bwriedir iddi ganiatáu ar gyfer ystyried digonolrwydd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd yn gynnar a lleihau risg gymaint â phosibl yn ystod y cam derbyn. Dylid trefnu i’r AoCM ddigwydd yn ddigon cynnar i alluogi ymgeiswyr i ystyried sut i gynnal unrhyw ymgysylltiad ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol, ond yn ddigon agos i ddiwedd y cam cyn-ymgeisio i asesu digonolrwydd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd. I lywio’r AoCM, bydd yr ymgeisydd yn gwneud cyflwyniad ysgrifenedig i’r Arolygiaeth sy’n cadarnhau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd hyd yma a’r ymagweddau a amlinellir yn y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned, ac yn crynhoi’r ymatebion ymgynghori a’r ffordd maen nhw’n ffurfio’r cais. Yn bwysig, dylai gynnwys safbwyntiau awdurdodau lleol ac unrhyw ddeunydd ategol perthnasol ganddynt, os yw ar gael. Bydd y cyflwyniad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi ar dudalen berthnasol y prosiect ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.

Bydd yr AoCM a gweithgareddau cysylltiedig yn cael eu cadarnhau yn Nogfen Rhaglen cyn-ymgeisio’r ymgeisydd. Yn yr haen gwasanaeth manylach, bydd cyfarfod aml-barti ychwanegol ar gael, ar gais a phan fydd yn ofynnol, a gadeirir/ hwylusir gan yr Arolygiaeth, i drafod y cyflwyniad AoCM gan gynnwys y safbwyntiau gan awdurdodau lleol.

5. Dangos y sylw a roddwyd i gyngor

Cynhyrchu tystiolaeth, a gyflwynir yn yr Adroddiad Ymgynghori sy’n cyd-fynd â’r cais a gyflwynwyd, sy’n dangos bod yr ymgeisydd wedi rhoi sylw i’r cyngor a roddwyd gan yr Arolygiaeth a chyrff statudol yr effeithir arnynt yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Dylai hyn amlygu diwygiadau i’r cais sy’n deillio o’r cyngor a dderbyniwyd ac, yn yr un modd, cyfiawnhau lle nad yw’r cyngor a dderbyniwyd wedi arwain at ddiwygio’r cais. Disgwylir i’r gofyniad newydd hwn arwain at dystiolaeth well i gefnogi achos yr ymgeisydd dros gydymffurfio â Rhan 5, Pennod 2 Deddf Cynllunio 2008, a rhoi mwy o hyder i’r system randdeiliaid fod yr ymgeisydd wedi ystyried y cyngor statudol a dderbyniwyd ac wedi gwneud ymdrech resymol i gyflwyno cais sydd yn y cyflwr gorau ar gyfer camau ôl-gyflwyno, gan gynnwys yr archwiliad.

Paragraff: 009 Rhif Cyfeirnod: 1-009-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Hwyluso o fewn yr haen gwasanaeth manylach

Weithiau, gall anghytundeb rhwng ymgeisydd ac ymgynghorai allweddol ynglŷn ag agwedd benodol ar brosiect olygu bod cynnydd yn anodd ei gyflawni. Os na ddatrysir anghytundebau o’r fath yn ystod y cam cyn-ymgeisio, a derbynnir y cais wedi hynny, fe allai hyn fod yn heriol i bawb yn ystod y camau ôl-gyflwyno sydd â chyfyngiad amser. Bryd arall hefyd fe allai cyfyngiadau adnoddau, er enghraifft, o fewn corff statudol gyfyngu ar faint o gyngor ac ymgysylltiad y gellir eu cynnig i ymgeisydd. Gall hyn oedi’r prosiect yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Os bydd hyn yn digwydd, neu i geisio ei atal rhag digwydd, gall yr Arolygiaeth helpu i hwyluso ffordd ymlaen o fewn yr haen gwasanaeth manylach. Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rhyngweithio â gwasanaethau cyrff statudol.

Ein rôl fel hwylusydd

O ran prosiectau sy’n ymwneud â’r haen gwasanaeth manylach, gallwn hwyluso cyfarfodydd bord gron aml-barti, gan gynnwys o fewn prosesau Cynllun Tystiolaeth, er mwyn ceisio gwella’r dystiolaeth sy’n cael ei pharatoi i gefnogi cais a/ neu fynd i’r afael â rhwystrau posibl yn y broses i symud cais ymlaen. Yn nodweddiadol, gallai cyfarfodydd o’r fath gynnwys yr Arolygiaeth, yr ymgeisydd, awdurdod lleol perthnasol a/ neu unrhyw gyrff statudol eraill perthnasol ac fe’u cynhelir ar sail ‘rhithwir yn gyntaf’. Mae hyn yn golygu y byddwn yn mynychu/ hwyluso o fewn fforymau aml-barti trwy Microsoft Teams (neu ddull tebyg). Gellid ystyried presenoldeb ‘wyneb yn wyneb’ pan fydd yr amgylchiadau’n cyfiawnhau hynny’n glir er mwyn y broses. Yn unol â’n dyletswydd statudol o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008, bydd unrhyw gyngor a roddwn mewn cyfarfod aml-barti yn cael ei gyhoeddi ar dudalen berthnasol y prosiect ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Bydd drafft o’r cyngor yn cael ei rannu gyda chyfranogwyr y cyfarfod bob amser ar gyfer sylwadau cyn ei gyhoeddi.

Pan gytunir y byddwn yn ymgymryd â rôl hwylusydd, ceisiwn hybu cydymffurfio â’r cylch gwaith cytunedig, ac i fod yn deg, yn gytbwys ac yn wrthrychol wrth ystyried y materion. Byddwn yn annog trafodaeth gynhyrchiol trwy ddehongli pwyntiau a godwyd gan gyfranogwyr, egluro a chrynhoi safbwyntiau a holi gweithredol a phenagored. Yn ein rôl fel hwylusydd, byddwn yn cyfathrebu yn nhermau’r risg y mae safbwyntiau’n ei hachosi i dderbyn, archwilio, argymhelliad a, lle y bo’n bosibl, bod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam, a byddwn yn gweithio gyda’r partïon i nodi camau gweithredu i oresgyn rhwystrau rhag datrys materion. Pan na ellir datrys materion penodol yn llwyr, byddwn yn annog y partïon i gulhau a ffocysu meysydd anghytundeb penodol cyn cyflwyno’r cais fel y gellir defnyddio amser yn fwy effeithlon ac effeithiol yn ystod y camau ôl-gyflwyno.

Paragraff: 010 Rhif Cyfeirnod: 1-010-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024 

Mathau o fforymau aml-barti

Cyfarfodydd aml-barti o fewn y broses Cynllun Tystiolaeth

Mae Cynllun Tystiolaeth yn fodd dewisol i gytuno ar y wybodaeth y mae angen i’r ymgeisydd ei chyflenwi i’r Arolygiaeth wrth wneud cais am DCO, a’i chofnodi, fel y gellir amlygu, tracio, trafod a datblygu materion amgylcheddol sy’n deillio o asesiadau niferus (er enghraifft Asesiadau EIA, HRA a/ neu Berygl Llifogydd) o fewn y cais yn effeithlon. Gall y broses hon arwain at archwiliad mwy didrafferth gan ei bod yn rhoi cyfle i’r holl bartïon gytuno ar asesiadau cymesur a rhoi sicrwydd arnynt, ac i gytuno ar faterion y tu allan i gyfyngiadau amserlenni statudol.

Mae’r opsiwn i ofyn am Gynllun Tystiolaeth a chytuno arno ar gael i bob ymgeisydd am NSIP arfaethedig sydd wedi’i leoli yn Lloegr, neu yng Nghymru a Lloegr, ac sy’n dechrau’r cam cyn-ymgeisio. Proses ddewisol ydyw, ac fe allai cyfyngiadau ar adnoddau o fewn corff ymgynghori gyfyngu ar faint o gyngor ac ymgysylltiad y gall eu darparu. Er mwyn goruchwylio a monitro cynnydd Cynlluniau Tystiolaeth yn ystod y cam cyn-ymgeisio, mae grwpiau llywio’n cael eu ffurfio sy’n gallu cymeradwyo/ cytuno ar unrhyw faterion sy’n codi o Grwpiau Pynciol Arbenigol. Mae Grwpiau Pynciol Arbenigol yn cael eu ffurfio o arbenigwyr technegol sy’n cytuno ar ddulliau asesu methodolegol a dadansoddol. Mae’r ddau grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr yr ymgeisydd a chyrff statudol perthnasol. Gall yr Arolygiaeth fynychu ar gais a phan gytunir ar hynny. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y broses Cynllun Tystiolaeth ar ein Tudalennau Cyngor.

Bydd strwythur ac egwyddorion gweithio’r Arolygiaeth ar gyfer Cynllunio Tystiolaeth, a manylion yr ymagwedd, yn cael eu datblygu trwy drafodaeth rhwng yr Arolygiaeth, yr ymgeisydd a’r cyrff statudol perthnasol. Cyn y gallwn ddechrau ymgysylltu â’r broses Cynllun Tystiolaeth, mae’n rhaid i ni dderbyn Dogfen Rhaglen cyn-ymgeisio’r ymgeisydd sy’n cynnwys y gweithgareddau a’r amserlenni arfaethedig sy’n gysylltiedig â’r broses. Mae’n rhaid i ni hefyd fod wedi cael cyfle i adolygu a chytuno ar y cylch gwaith ar gyfer y broses Cynllun Tystiolaeth y mae’r ymgeisydd yn gyfrifol amdano. Byddwn yn cyhoeddi testun safonol sy’n cadarnhau ein rôl i’w fewnosod gan yr ymgeisydd.

Bydd ein hymgysylltiad â’r broses Cynllun Tystiolaeth ar gael i ymgeiswyr o fewn yr haen gwasanaeth safonol a manylach, fel yr amlinellir isod. Mae cyfarfodydd a gynhelir o fewn yr elfen Cynllun Tystiolaeth yn ychwanegol at yr uchafswm cyfarfodydd gwasanaeth blynyddol, ond ni chodir tâl ychwanegol amdanynt o fewn paramedrau’r tabl isod. Bydd rhai cyrff statudol yn codi tâl am ymgysylltu â phroses Cynllun Tystiolaeth. Yn yr un modd, fe allai cyfranogiad awdurdod lleol gael ei lywodraethu gan delerau unrhyw Gytundeb Perfformiad Cynllunio sydd ar waith.

HAEN 2: SAFONOL

Beth yw rôl yr Arolygiaeth?

Arsylwr yn unig. Bydd yr Arolygiaeth yn rhoi cyngor lefel uchel ar oblygiadau’r trafodaethau a gynhelir. Byddwn yn adolygu un fersiwn o nodiadau’r ymgeisydd o’r cyfarfod sydd i’w chylchredeg o fewn pum niwrnod gwaith o’r cyfarfod. 

Sut bydd yr Arolygiaeth yn mynychu?

Ar sail ‘rhithwir yn gyntaf’.

Faint o gyfarfodydd y gall yr Arolygiaeth eu mynychu?

Hyd at bum cyfarfod. Gall presenoldeb yr Arolygiaeth yn y pum cyfarfod hyn fod yn gymysgedd o gyfarfodydd grŵp llywio a Grŵp Pynciol Arbenigol. Bydd yr ymgeisydd, ar y cyd â chyrff statudol perthnasol, yn ein cynghori yn unol â hynny.

Beth yw’r cyfnod rhybudd angenrheidiol ar gyfer cyfarfodydd a’r wybodaeth sy’n ofynnol?

Dylai’r rhestr o weithgareddau’r Cynllun Tystiolaeth (gan gynnwys cyfarfodydd) gael ei darparu i’r Arolygiaeth cyn i’r broses ddechrau’n ffurfiol, yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio. Ar gyfer unrhyw gyfarfodydd ychwanegol, er mwyn darparu adnoddau i fynychu a gwneud paratoadau priodol, bydd arnom angen o leiaf chwe wythnos o rybudd i gymryd rhan.

O leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn pob cyfarfod, bydd yr ymgeisydd yn cylchredeg y wybodaeth berthnasol i ni er mwyn sicrhau y gallwn baratoi’n llawn ar gyfer y cyfarfod. Dylai’r wybodaeth hon fod yn ddigon manwl, gan gynnwys tybiaethau allweddol a thystiolaeth i gefnogi unrhyw ymagwedd/ casgliad arfaethedig.

Pwy fydd yn mynychu o’r Arolygiaeth?

Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol yr Arolygiaeth.

Sut bydd yr Arolygiaeth yn ymgysylltu â’r Cyrff Cadwraeth Natur Statudol y tu allan i gyfarfodydd Cynllun Tystiolaeth penodol i brosiect?

Bydd yr Arolygiaeth ar gael i ymgysylltu â’r cyrff statudol perthnasol i drafod cynnydd o ran datrys materion, gan gynnwys sut gallai ein hymgysylltiad fod o gymorth.

HAEN 3: MANYLACH

Beth yw rôl yr Arolygiaeth?

Arsylwr a/ neu hwylusydd, fel y bo angen. Fel hwylusydd, bydd yr Arolygiaeth yn ymgysylltu’n weithredol i hybu datrys materion sy’n weddill a dileu camau gweithredu. Byddwn yn adolygu un fersiwn o nodiadau’r ymgeisydd o’r cyfarfod sydd i’w chylchredeg o fewn pum niwrnod gwaith o’r cyfarfod. 

Sut bydd yr Arolygiaeth yn mynychu?

Uchafswm o bum cyfarfod wyneb yn wyneb y flwyddyn (gallant fod yn gymysgedd o gyfarfodydd grŵp llywio a Grŵp Pynciol Arbenigol). Mynychir yr holl gyfarfodydd eraill yn rhithwir.

Faint o gyfarfodydd y gall yr Arolygiaeth eu mynychu?

Hyd at wyth cyfarfod. Gall presenoldeb yr Arolygiaeth yn yr wyth cyfarfod hyn fod yn gymysgedd o gyfarfodydd grŵp llywio a Grŵp Pynciol Arbenigol. Bydd yr ymgeisydd, ar y cyd â chyrff statudol perthnasol, yn ein cynghori yn unol â hynny.

Beth yw’r cyfnod rhybudd angenrheidiol ar gyfer cyfarfodydd a’r wybodaeth sy’n ofynnol?

Dylai’r rhestr o weithgareddau’r Cynllun Tystiolaeth (gan gynnwys cyfarfodydd) gael ei darparu i’r Arolygiaeth cyn i’r broses ddechrau’n ffurfiol, yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio. Ar gyfer unrhyw gyfarfodydd ychwanegol, er mwyn darparu adnoddau i fynychu a gwneud paratoadau priodol, bydd arnom angen o leiaf chwe wythnos o rybudd i gymryd rhan.

O leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn pob cyfarfod, bydd yr ymgeisydd yn cylchredeg y wybodaeth berthnasol i ni er mwyn sicrhau y gallwn baratoi’n llawn ar gyfer y cyfarfod. Dylai’r wybodaeth hon fod yn ddigon manwl, gan gynnwys tybiaethau allweddol a thystiolaeth i gefnogi unrhyw ymagwedd/ casgliad arfaethedig.

Pwy fydd yn mynychu o’r Arolygiaeth?

Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol yr Arolygiaeth a/ neu Arolygydd Archwilio, yn dibynnu ar y cam o’r broses a’r eitemau agenda/ materion sy’n cael eu trafod.

Sut bydd yr Arolygiaeth yn ymgysylltu â’r Cyrff Cadwraeth Natur Statudol y tu allan i gyfarfodydd Cynllun Tystiolaeth penodol i brosiect?

Yn ogystal â’r hyn a gynigir yn yr haen safonol, pan amlygir materion, fe allai’r Arolygiaeth ymgysylltu’n rhagweithiol â’r cyrff statudol perthnasol i ddeall y materion yn fanylach a chynnig cyngor ar oblygiadau.

Cyfarfodydd aml-barti y tu allan i’r broses Cynllun Tystiolaeth

Fe allai fod yn briodol i’r Arolygiaeth ymwneud â chyfarfodydd aml-barti y tu allan i broses Cynllun Tystiolaeth sefydledig, naill ai oherwydd nad yw proses Cynllun Tystiolaeth wedi cael ei chychwyn mewn perthynas â phrosiect penodol, neu oherwydd nad yw’r pwnc neu’r mater sydd i’w drafod yn y cyfarfod yn uniongyrchol gysylltiedig â mater amgylcheddol yr ymdrinnir ag ef o fewn cwmpas y Cynllun Tystiolaeth. Fe allem fynychu cyfarfod aml-barti o’r fath ar sail arsylwi/ cynghori o fewn yr haen gwasanaeth safonol, neu fel hwylusydd neu gadeirydd o fewn yr haen gwasanaeth manylach. Pennir ein hymgysylltiad trwy drafod gyda’r ymgeisydd, a chyrff statudol a/ neu awdurdodau lleol yr effeithir arnynt. Nid yw’r Arolygiaeth ar gael i gymryd rhan mewn cyfarfodydd aml-barti ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi tanysgrifio i’r haen gwasanaeth sylfaenol.

Pwy all fynychu cyfarfod aml-barti?

Swyddogion awdurdod lleol, yr ymgeisydd, yr Arolygiaeth, cyrff statudol perthnasol, grwpiau buddiant eraill. Bydd rhai cyrff statudol yn codi tâl am fynychu cyfarfodydd o’r fath. Yn yr un modd, fe allai cyfranogiad awdurdod lleol gael ei lywodraethu gan delerau unrhyw Gytundeb Perfformiad Cynllunio sydd ar waith.

Pryd dylai cyfarfod aml-barti gael ei gynnal?

Yn dibynnu ar y prosiect, gallai cyfarfod aml-barti gael ei gynnal cyn i’r ymgeisydd ddechrau ymgynghoriad statudol neu ar ôl diwedd rownd olaf ymgynghoriad adran 42. Dewisir yr amser gorau ar gyfer cyfarfodydd aml-barti yn seiliedig ar ffeithiau achosion unigol, gan gynnwys y thema neu’r mater sydd i’w thrafod/drafod. Gall yr ymgeisydd, neu gyrff statudol neu awdurdodau lleol yr effeithir arnynt ofyn am gyfarfod aml-barti. Pan ofynnir am gael cynnal cyfarfod aml-barti, mae’n rhaid i’r parti sy’n gofyn amdano ddarparu rhesymau, diben a chanlyniadau bwriadedig clir. Yr ymgeisydd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, bob amser, ynglŷn â ph’un a fydd cyfarfod aml-barti y gofynnwyd amdano’n cael ei gynnull.

Faint o rybudd y mae angen i’r Arolygiaeth ei gael ar gyfer cyfarfodydd a pha wybodaeth sy’n ofynnol?

Er mwyn darparu adnoddau i fynychu a gwneud paratoadau priodol, bydd arnom angen o leiaf chwe wythnos o rybudd i gymryd rhan.

O leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn cyfarfod aml-barti, bydd yr ymgeisydd yn cylchredeg y wybodaeth berthnasol i ni er mwyn sicrhau y gallwn baratoi’n llawn ar gyfer y cyfarfod.

Sut bydd cyfarfodydd aml-barti’n cael eu cynnal?

Ar ffurf bord gron, a gynhelir ar sail ‘rhithwir yn gyntaf’.

Pwy fydd yn mynychu o’r Arolygiaeth?

Tîm Achos a/ neu Dîm Gwasanaethau Amgylcheddol yr Arolygiaeth a/ neu Arolygydd Archwilio, yn dibynnu ar y cam o’r broses a’r eitemau agenda/ materion sy’n cael eu trafod.

Beth yw diben cyfarfodydd aml-barti?

I ddeall:

  • Yr hyn y mae angen i bob parti ei wneud yn rhan o’r broses a chytuno ar amserau ymateb;
  • unrhyw faterion y gallai fod yn anodd dod i gytundeb arnynt, o bosibl, yn ystod y cam cyn-ymgeisio;
  • goblygiadau unrhyw faterion heb eu datrys i’r partïon ac i’r broses statudol;
  • pa gamau y mae’n ofynnol i’r partïon perthnasol eu cymryd cyn cyflwyno’r cais a’r amserlen ar gyfer mynd i’r afael â materion penodol; a/ neu b’un a yw’r holl bartïon yn barod ar gyfer y camau derbyn ôl-gyflwyno.

Paragraff: 011 Rhif Cyfeirnod: 1-011-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Adolygu dogfennau cais drafft

Yn yr haenau gwasanaeth safonol a manylach, gall yr Arolygiaeth adolygu dogfennau cais drafft penodol yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Nid oes gwasanaeth adolygu dogfennau drafft ar gael yn yr haen gwasanaeth sylfaenol.

Mae adolygu dogfennau drafft yn caniatáu i ni roi cyngor ynglŷn â safon y dogfennau, unrhyw agweddau y gallai fod angen eu hegluro ac unrhyw hepgoriadau gweithdrefnol cyn cyflwyno. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall mwy am y cais arfaethedig a pharatoi ar gyfer y cyflwyniad fel y gallwn ymdrin â’r cais o fewn amserlenni statudol, ac efallai’n gyflymach.

Mae profiad wedi dangos bod ein hadolygiad o ddogfennau drafft yn gallu helpu i osgoi problemau posibl cyn iddynt godi, gan arwain at brofiad mwy hwylus yn ystod y camau ôl-gyflwyno i’r ymgeisydd a Phartïon â Buddiant eraill. Amlinellir ein hymagwedd at adolygu dogfennau cais drafft yn y tabl isod.

Pa ddogfennau drafft y gall yr Arolygiaeth eu hadolygu?

Gall yr Arolygiaeth adolygu’r dogfennau cais drafft canlynol o fewn yr haen gwasanaeth safonol:

  • DCO drafft, gan gynnwys darpariaethau amddiffynnol a/ neu drwydded forol dybiedig ddrafft/trwyddedau morol tybiedig drafft
  • Memorandwm Esboniadol drafft y DCO
  • Cynlluniau Gwaith a Chynlluniau Tir enghreifftiol drafft
  • Adroddiad Ymgynghori drafft gan gynnwys rhestr o ymgyngoreion adran 42
  • Adroddiad HRA drafft
  • Pennod/penodau disgrifiad o’r prosiect yn y Datganiad Amgylcheddol drafft
  • Datganiad Cynllunio drafft
  • Llyfr Cyfeirio drafft
  • Datganiad o’r Rhesymau drafft
  • Datganiad Ariannu drafft

Yn ogystal â’r dogfennau drafft y gellir eu hadolygu yn yr haen gwasanaeth safonol, gall y dogfennau drafft canlynol gael eu hadolygu yn yr haen gwasanaeth manylach hefyd:

Beth nad yw’r Arolygiaeth yn gallu ei adolygu?

Nid yw’r Arolygiaeth yn gallu adolygu Datganiadau Amgylcheddol drafft yn eu cyfanrwydd o ganlyniad i faint y dogfennau. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr i rannu penodau drafft o’r Datganiad Amgylcheddol gyda chyrff statudol ac awdurdodau lleol perthnasol yn ystod y cam cyn-ymgeisio.

Pryd y dylai dogfennau drafft gael eu paratoi a pha mor hir mae’r cam adolygu’n para?

Anogir ymgeiswyr i ddechrau paratoi dogfennau cais yn ddigon cynnar (er enghraifft, cyn ymgynghoriad statudol). Dylai ymgeiswyr haen safonol a manylach roi ystyriaeth ofalus i’r amser gorau i ddarparu dogfennau drafft i ni. Po fwyaf cyflawn yw’r dogfennau a ddarperir i ni, y mwyaf trwyadl y gall ein cyngor fod. Mae angen i hyn gael ei gydbwyso yn erbyn ceisio cyngor ar elfennau allweddol yn ddigon cynnar i fframio a ffurfio datblygiad y prosiect.

O ganlyniad i faint o ddeunydd sydd dan sylw, mae’n rhaid i ymgeiswyr haen safonol a manylach ganiatáu digon o amser i’r Arolygiaeth adolygu dogfennau drafft. Mae’n rhaid i gyflwyno dogfennau drafft gael ei sefydlu yn Nogfen Rhaglen cyn-ymgeisio’r ymgeisydd, gan ganiatáu chwe wythnos i’r Arolygiaeth adolygu’r dogfennau a rhoi adborth. Fe allai hyn fod yn fyrrach neu’n hirach yn dibynnu ar ba mor gymhleth a newydd yw’r prosiect neu’r materion y mae’n eu codi, yn amodol ar ein cytundeb.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr haen safonol a manylach ddarparu digon o amser i ganiatáu i sylwadau’r Arolygiaeth ar ddogfennau drafft gael eu hadlewyrchu yn ffurf derfynol y cais a gyflwynir. Mae hyn yn hanfodol o ran y gofyniad i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried cyngor cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth yn yr Adroddiad Ymgynghori.

Pwy sy’n adolygu dogfennau drafft?

Yn yr haen gwasanaeth safonol, yn gyffredinol, bydd dogfennau drafft yn cael eu hadolygu gan unigolion addas yn nhîm y prosiect a ddyrannwyd gan yr Arolygiaeth. Bydd y DCO drafft a’r Memorandwm Esboniadol drafft yn cael eu hadolygu gan Arolygydd/ Arolygwyr Archwilio.

Yn yr haen gwasanaeth manylach, bydd dogfennau drafft yn cael eu hadolygu gan dîm y prosiect gyda chymorth ar draws y gyfres o ddogfennau gan Arolygydd/ Arolygwyr Archwilio.

Sut mae cyngor ar ddogfennau drafft yn cael ei roi?

Rhoddir cyngor ar ddogfennau drafft yn ysgrifenedig fel arfer. Yna, mae’r nodyn ysgrifenedig hwn (a gofnodir yn y Cofnod Cyngor) yn ffurfio’r agenda ar gyfer cyfarfod dilynol lle y gall yr ymgeisydd geisio eglurhad ynglŷn â’r cyngor ysgrifenedig a roddwyd gan yr Arolygiaeth. Mewn rhai amgylchiadau, gallwn ddefnyddio ymagwedd wahanol, i’w chytuno rhyngom ni a’r ymgeisydd. Ym mhob achos, cyhoeddir ein cyngor ar ddogfennau cais drafft.

Gyda phwy arall y dylai’r ymgeisydd rannu dogfennau drafft?

Disgwylir i bob ymgeisydd, gan gynnwys y rhai hynny yn yr haen gwasanaeth sylfaenol, rannu dogfennau cais drafft perthnasol gyda rhanddeiliaid allweddol, gan alluogi’r rhanddeiliaid hynny i ddarparu ymateb, ac amlinellu unrhyw feysydd pryder neu anghytundeb. Gellir gwneud hyn yn rhan o ymgynghoriad ymgeisydd o dan adran 42 Deddf Cynllunio 2008 a/ neu ar adegau eraill priodol a sefydlir yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio.

Er enghraifft, byddem yn disgwyl o leiaf i ddarpariaethau perthnasol yn y DCO drafft gael eu rhannu gydag unrhyw barti y mae’r darpariaethau hynny’n effeithio arno’n benodol, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gyfrifol am gyflawni neu orfodi gofynion, a’r rhai hynny y mae unrhyw ddarpariaethau amddiffynnol yn effeithio arnynt. Disgwylir i gynifer o faterion â phosibl gael eu cytuno gyda’r rhai hynny y mae drafftio’r DCO yn effeithio arnynt yn uniongyrchol cyn cyflwyno’r cais.

Rydym hefyd yn disgwyl i ymgeiswyr rannu penodau o’r Datganiad Amgylcheddol drafft gyda chyrff statudol, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill perthnasol pan fyddant yn ymwybodol y gallent fod â buddiannau sylweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw, o bosibl. Dylid caniatáu digon o amser yn y Ddogfen Rhaglen i unrhyw ymatebion y gofynnir amdanynt gael eu hadlewyrchu yn ffurf derfynol y Datganiad Amgylcheddol.

Bydd rhai cyrff statudol yn codi tâl am gyngor a roddir wrth ymateb i ddogfennau drafft. Yn yr un modd, fe allai ymatebion awdurdodau lleol gael eu llywodraethu gan delerau unrhyw Gytundeb Perfformiad Cynllunio sydd ar waith.

Paragraff: 012 Rhif Cyfeirnod: 1-012-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Y Weithdrefn Garlam a’r Safon Ansawdd

Mae’r llywodraeth wedi sefydlu fframwaith polisi newydd a fydd yn caniatáu i rai NSIPau dderbyn penderfyniad o fewn 12 mis o’r adeg y derbynnir y cais i’w archwilio. I wireddu’r amserlen hon, caiff ymgeiswyr ofyn i’r Arolygiaeth am gael eu hystyried ar gyfer Gweithdrefn Garlam. Bydd derbyn i’r Weithdrefn Garlam yn golygu y bydd angen i’r cais gael ei archwilio o fewn cyfnod statudol mwyaf o bedwar mis. O dan amserlenni arferol Deddf Cynllunio 2008, y cyfnod statudol mwyaf ar gyfer yr archwiliad yw chwe mis.

Er y bydd yr Arolygiaeth yn rheoli’r broses o gyflawni archwiliadau o fewn uchafswm o bedwar mis, a chynhyrchu argymhelliad o fewn deufis a hanner, bydd cyflawni’r targed 12 mis a osodwyd gan y llywodraeth yn gofyn am y canlynol hefyd:

  • Buddsoddiad sylweddol gan yr ymgeisydd, fel yr amlinellir isod, gan gynnwys ymrwymiad, ar gyfer elfennau sydd o fewn ei reolaeth, i leihau hyd y cam cyn-archwilio gymaint â phosibl i uchafswm o dri mis;
  • buddsoddiad yn yr amserlenni byrrach gan gyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt drwy gydol y camau cyn-ymgeisio ac ôl-gyflwyno, gan gynnwys yr archwiliad; a
  • bod yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol ym mhob achos yn cynnal ymrwymiad anstatudol i wneud ei benderfyniad ar b’un a ddylid rhoi caniatâd datblygu o fewn deufis a hanner.

Bydd angen i ymgeiswyr sy’n dymuno cyflwyno eu prosiectau ar gyfer Gweithdrefn Garlam ddangos bod eu cais yn bodloni’r Safon Ansawdd a amlinellir yng Nghanllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y llywodraeth ynglŷn â’r broses Garlam.

Paratoi cais i’w ystyried ar gyfer Gweithdrefn Garlam

Cyn penderfynu p’un ai a fyddant yn ymgeisio am Weithdrefn Garlam, dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus a yw’r strategaeth gydsynio hon yn briodol ac yn realistig mewn perthynas â’r prosiect maen nhw’n ei hyrwyddo. Bydd ystyriaethau yn hyn o beth yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • Pa mor newydd a chymhleth yw’r materion tebygol sy’n gysylltiedig â’r cais a pha mor debygol yw’r materion hynny o gael eu datrys yn ystod y cam cyn-ymgeisio, a/ neu o fewn amserlenni byrrach y broses ôl-gyflwyno;
  • p’un a yw’r cais yn debygol o arwain at geisiadau i wneud newidiadau ar ôl ei gyflwyno;
  • faint o ddiddordeb lleol, cenedlaethol a thraws-sector sydd yn y prosiect; a
  • statws unrhyw Ddatganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol.

Dylai diddordeb yr ymgeisydd mewn Gweithdrefn Garlam gael ei gadarnhau yn y Cyfarfod Cychwynnol, lle y bydd yr Arolygiaeth yn rhoi cyngor i’r ymgeisydd ynglŷn ag addasrwydd ei gais ar gyfer Gweithdrefn Garlam, gan gynnwys ystyried y rhyngweithiadau gofynnol â chyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt.

Dylai diddordeb yr ymgeisydd mewn Gweithdrefn Garlam gael ei gadarnhau yn y Cyfarfod Cychwynnol. I lywio’r Cyfarfod Cychwynnol, mae’n rhaid i’r ymgeisydd gadarnhau yn ei Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio y prif faterion, i fod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam, y bydd angen i’r ymgeisydd ymdrin â nhw yn ogystal â’r gofynion cyn-ymgeisio arferol. O ran ymgeiswyr sy’n ceisio bod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam, mae’n rhaid i’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio gynnwys:

  • rhaglen ddangosol sy’n amlinellu’r camau allweddol yn y broses o baratoi’r cais am Weithdrefn garlam hyd at yr adeg cyflwyno;
  • crynodeb o’r cyd-destun polisi ar gyfer y cais;
  • y materion posibl y bydd angen i gyrff statudol roi mewnbwn arnynt, gan gynnwys amserlen ddangosol ar gyfer proses Cynllun Tystiolaeth mewn perthynas â phrosiectau perthnasol;
  • ar gyfer prosiectau perthnasol, rhaglen ddangosol ar gyfer paratoi Adroddiad Gwybodaeth i Lywio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, gyda chymeradwyaeth gan y corff cadwraeth natur statudol perthnasol;
  • safbwynt clir ynglŷn â’r ymagwedd ddylunio fwriadedig, a gweithgareddau i’w chefnogi, a faint o fanylion sy’n debygol o gael eu darparu yn y cais terfynol;
  • gweithgareddau sy’n ymwneud â datblygu dogfennau cais allweddol, ac ymgysylltu arnynt, gan gynnwys y DCO drafft a’r Memorandwm Esboniadol; a
  • manylion unrhyw ofynion trwyddedu neu gydsyniadau nad ydynt yn ymwneud â chynllunio nad ydynt wedi’u cynnwys yn y DCO drafft sy’n angenrheidiol.

Bydd yr Arolygiaeth yn parhau i roi cyngor ar addasrwydd y cais ar gyfer Gweithdrefn Carlam wrth i’r rhaglen cyn-ymgeisio ddatblygu.

Yn dilyn y Cyfarfod Cychwynnol, ac fel y sefydlwyd yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio, mae’n rhaid i ymgeisydd sy’n ceisio bod yn gymwys ar gyfer Gweithdrefn Garlam gyflawni’r camau gweithdrefnol canlynol:

  • Tanysgrifio i ddefnyddio haen gwasanaeth cyn-ymgeisio manylach yr Arolygiaeth;
  • o fewn ei ddeunyddiau hysbysu ac ymgynghori statudol o dan adran 42, adran 47 ac adran 48 Deddf Cynllunio 2008, darparu cadarnhad/ hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad neu ei botensial i wneud cais am Weithdrefn Garlam;
  • cyn ymgynghoriad statudol, rhoi cyhoeddusrwydd i’w raglen o weithgareddau perthnasol, cerrig milltir a dibyniaethau (sy’n ofynnol ar gyfer Gweithdrefn Garlam a gweithdrefnau eraill), gan sicrhau tryloywder ac ymgysylltiad ystyrlon wrth wneud cynnydd tuag at fodloni’r Safon Ansawdd; a
  • darparu Dogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam i gyd-fynd â chyflwyno’r cais, sy’n amlinellu sut mae’r cais yn bodloni’r Safon Ansawdd ym marn yr ymgeisydd.

Dangos y bodlonir y Safon Ansawdd

Mae’r prawf Safon Ansawdd yn cael ei gymhwyso gan yr Arolygiaeth, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ystod y cam Derbyn 28 niwrnod. Gwneir penderfyniad dros dro ar addasrwydd y cais ar gyfer Gweithdrefn Garlam ar yr un pryd â’r penderfyniad Derbyn. Mae’r penderfyniad anstatudol ar addasrwydd y cais ar gyfer Gweithdrefn Garlam, a’r prawf Safon Ansawdd, yn gwbl annibynnol ar y penderfyniad a’r profion sy’n ymwneud â derbyn y cais o dan adran 55 Deddf Cynllunio 2008. Ar y sail hon, bydd ymgeiswyr yr effeithir arnynt yn cael dau benderfyniad ar wahân; fe allai’r cais gael ei dderbyn i’w archwilio ond ni chaniateir iddo ddilyn Gweithdrefn Garlam.

Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer y Ddogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam, ond mae’n rhaid iddi ddangos yn glir sut y bodlonir y prif brofion a’r profion ategol sy’n ffurfio’r Safon Ansawdd, gan gynnwys sut mae pob un o’r elfennau ychwanegol sy’n ofynnol ar gyfer Gweithdrefn Garlam wedi cyfrannu. Yn rhan o hyn, i gefnogi’r prif brawf, mae’n rhaid i’r Ddogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam gynnwys y PADSS a gynhyrchwyd gan ymgyngoreion perthnasol fel atodiadau. Bydd hyn yn caniatáu i gasgliadau’r ymgeisydd yn y Ddogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam gael eu dilysu gan yr Arolygiaeth. Disgwylir i’r ddogfen hefyd gynnwys Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau fel atodiad.

Yn yr haen gwasanaeth cyn-ymgeisio manylach, bydd yr ymgeisydd yn cael cymorth penodol gan yr Arolygiaeth wrth baratoi camau gweithredu a thystiolaeth i fodloni’r Safon Ansawdd, gan gynnwys y Ddogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam.

Y penderfyniad ar y Weithdrefn Garlam

Os bydd yr Arolygiaeth o’r farn bod y cais yn bodloni’r Safon Ansawdd, ar ôl ystyried y Ddogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam a thystiolaeth ategol, byddwn yn rhoi penderfyniad i’r ymgeisydd sy’n cadarnhau bod y cais wedi’i dderbyn dros dro ar gyfer Gweithdrefn Garlam. Fodd bynnag, ni ellir cadarnhau Gweithdrefn Garlam hyd nes bod yr Awdurdod Archwilio a benodwyd wedi derbyn ac ystyried yr holl Sylwadau Perthnasol yn ddiweddarach yn y cam cyn-archwilio. Mae hyn yn rhoi cyfle hanfodol i’r Awdurdod Archwilio fod yn fodlon na fyddai tystiolaeth newydd yn y Sylwadau Perthnasol yn atal y cais rhag cael ei archwilio o fewn uchafswm o bedwar mis. Ar ôl i’r Awdurdod Archwilio ystyried y Sylwadau Perthnasol, bydd yr Arolygiaeth yn cyhoeddi penderfyniad terfynol ynglŷn â ph’un a fydd y cais yn symud ymlaen trwy Weithdrefn Garlam.

Os cymeradwyir y cais ar gyfer Gweithdrefn Garlam, bydd yr Awdurdod Archwilio yn datblygu amserlen archwilio ddrafft ar gyfer hyd at bedwar mis yn unol â Rheol 6 y Rheolau Archwilio. Os na chymeradwyir y cais ar gyfer Gweithdrefn Garlam, bydd yr Awdurdod Archwilio yn llunio amserlen archwilio ddrafft ar gyfer hyd at chwe mis yn unol â’r amserlenni statudol arferol. O fewn amserlenni statudol arferol, mae’r Awdurdod Archwilio bob amser yn cadw ei ddisgresiwn i gwblhau’r archwiliad mewn llai na chwe mis. Mae ein Tudalennau Cyngor yn rhoi gwybodaeth am baratoi’r amserlen archwilio ddrafft.

Paratoi ar gyfer Gweithdrefn Garlam a’r broses benderfynu

Flow Chart 2 - Preparing for a Fast Track procedure and the decision process

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Paragraff: 013 Rhif Cyfeirnod: 1-013-20240516

Revision date: 16 05 2024

Adennill cost ein gwasanaethau cyn-ymgeisio

Er mwyn cyflawni amcan polisi’r llywodraeth o adennill costau wrth ddarparu gwasanaeth NSIP, codir tâl ar ymgeiswyr am y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddisgrifir yn y Prosbectws hwn. Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 wedi cael eu diwygio gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) (Diwygio) 2024 i fewnosod Rheoliad 2A sy’n galluogi adennill costau am wasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir gan yr Arolygiaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Dylid darllen Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y llywodraeth ynglŷn ag adennill costau ar y cyd â’r ddeddfwriaeth a’r Prosbectws hwn.  

Mae’r taliadau isod yn adlewyrchu’r diwrnodau disgwyliedig a’r cymysgedd mewnbwn sy’n ofynnol gan yr Arolygiaeth i ddarparu pob haen gwasanaeth, gan gynnwys costau Arolygydd, staff cymorth a gorbenion ac, fel y bo’n briodol, hawlildiad rhannol gan ddefnyddio’r ffigur cyfradd ddyddiol berthnasol a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) (Diwygio) 2024.

Haen gwasanaeth Cost i’r ymgeisydd Lefel y cymorth Nifer y diwrnodau y codir tâl amdanynt ar 63% o’r gyfradd ddyddiol berthnasol (£1,450) (hawlildiad rhannol) Nifer y diwrnodau y codir tâl amdanynt ar y gyfradd ddyddiol berthnasol lawn (£2,300)
HAEN 1: SYLFAENOL £62,350 fesul blwyddyn gwasanaeth Cymorth + Gorbenion 43 0
HAEN 2: SAFONOL £126,050 fesul blwyddyn gwasanaeth Cymorth + Gorbenion + Arolygydd 79 5
HAEN 3: MANYLACH £208,850 fesul blwyddyn gwasanaeth Cymorth + Gorbenion + Arolygydd 125 12

Yn unol â Rheoli arian cyhoeddus - GOV.UK (www.gov.uk), ni all yr Arolygiaeth wneud elw ar y gwasanaethau cyffredinol a ddarparwn. Mae’r taliadau’n ymwneud â gwaith yr Arolygiaeth yn unig ac nid unrhyw gymorth cyn-ymgeisio a ddarperir i’r ymgeisydd gan sefydliadau eraill. Bydd y taliadau’n cael eu hadolygu’n gyfnodol ac yn cael eu haddasu yn unol â’r mynegai prisiau defnyddwyr bob blwyddyn a diwygiadau i’r Rheoliadau Ffioedd. Byddwn yn adolygu’r lefelau gwasanaeth a chost y gwasanaeth i ymgeiswyr o bryd i’w gilydd. 

Byddwn yn anfonebu o flaen llaw er mwyn darparu adnoddau ar gyfer y gwasanaeth, ddwywaith y flwyddyn fel arfer, ym mis Ebrill a mis Hydref. Pan fydd ymgeisydd yn ymuno â’r gwasanaeth cyn-ymgeisio hanner ffordd drwy unrhyw gyfnod anfonebu, bydd taliadau’n cael eu cymhwyso pro rata ar gyfer y cyfnod hwnnw ar sail mis cyfan.  

Os na thelir y ffioedd, ni fyddwn yn darparu’r gwasanaeth cyn-ymgeisio fel y cytunwyd fel arall gyda’r ymgeisydd.   

Yn dibynnu ar aeddfedrwydd y prosiect arfaethedig, deallwn y gallai rhai ymgeiswyr ddymuno dechrau ar wasanaeth haen is yn y Cyfarfod Cychwynnol cyn symud i haen wahanol wrth i’r prosiect esblygu. Byddem yn disgwyl i unrhyw ymgeisydd roi o leiaf dri mis o rybudd o unrhyw ddymuniad i newid haen, a byddem yn disgwyl i debygolrwydd ac amseriad hyn gael eu nodi yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio gysylltiedig. Ni allwn warantu y bydd ceisiadau o’r fath i symud i fyny haen yn cael eu cytuno yng ngoleuni’r tebygolrwydd o ofynion sy’n cystadlu am ddarparu gwasanaeth, ond byddwn yn eu bodloni lle y bo’n bosibl. Felly, cynghorir ymgeiswyr i ystyried eu hymagwedd fwriadedig at gymorth cyn-ymgeisio yn ofalus ac mewn ymgynghoriad â’r Arolygiaeth, a chyrff statudol ac awdurdodau lleol perthnasol cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Codir tâl am unrhyw wasanaeth uwch a ddarperir o flaen llaw a bydd hyn ar sail mis cyfan. 

Yn unol â Chanllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y llywodraeth ynglŷn â’r broses Garlam, bydd yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd sy’n bwriadu cyflwyno cais sy’n gymwys ar gyfer y Weithdrefn Garlam danysgrifio i’r haen gwasanaeth manylach o’r Cyfarfod Cychwynnol hyd at gyflwyno’r cais.

Byddwn yn adolygu’r gwasanaeth cyn-ymgeisio wrth i amser fynd heibio ac fe allem gytuno ar gynigion gwasanaeth ychwanegol gydag ymgeisydd am ffi ychwanegol, o bosibl. Byddai unrhyw wasanaeth ychwanegol yn destun y gyfradd ddyddiol briodol ar gyfer yr haen gwasanaeth cyn-ymgeisio a ddewiswyd. Mae’n annhebygol y bydd unrhyw wasanaethau ychwanegol yn cael eu cynnig yn y flwyddyn gyntaf tra bod y broses newydd yn cael ei sefydlu. 

Paragraff: 014 Rhif Cyfeirnod: 1-014-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Rhyngweithio â gwasanaethau cyrff statudol

Mae gan yr Arolygiaeth berthynas waith dda â’r cyrff statudol sy’n berthnasol i broses Deddf Cynllunio 2008 ac mae’n cynnal cysylltiad rheolaidd ynglŷn â’r materion sy’n codi o’n profiad cyfunol, ond nid rôl yr Arolygiaeth yw sicrhau na monitro perfformiad eu gwasanaethau cyn-ymgeisio ar ran yr ymgeisydd a/ neu riant-adran y corff yn y llywodraeth.

Mae cam cyn-ymgeisio proses Deddf Cynllunio 2008 yn cael ei sbarduno gan yr ymgeisydd, ond mae ansawdd ceisiadau a llwyddiant diwygiadau i wasanaethau’n dibynnu ar berfformiad nifer o weithredwyr o fewn proses Deddf Cynllunio 2008, gan gynnwys cyrff statudol. Mae gan rai cyrff statudol rôl bwysig wrth gynghori ymgeiswyr ar baratoi tystiolaeth i gefnogi ceisiadau. Mae’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth hon wedi’u hamlinellu mewn adnoddau ar wahân a berchnogir ac a gynhelir gan y cyrff statudol hynny ac fe allai taliadau fod yn gysylltiedig â nhw. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am gael at yr adnoddau hyn a sicrhau bod gwasanaethau gofynnol cyrff statudol yn cael eu rhaglennu’n effeithiol trwy ryngweithio’n gynnar ac yn uniongyrchol â’r cyrff hynny. Dylai’r holl ryngweithiadau sy’n ofynnol neu a geisiwyd gyda chyrff statudol ac awdurdodau lleol gael eu sefydlu yn Nogfen Raglen cyn-ymgeisio’r ymgeisydd.

Rhagor o wybodaeth am ein hymagwedd at weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys gwybodaeth gyswllt i ymgeiswyr.

Paragraff: 015 Rhif Cyfeirnod: 1-015-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Trefniadau pontio

Er mwyn sefydlu’r haen gwasanaeth a ffefrir gan yr holl brosiectau cyfredol ar y cam cyn-ymgeisio ar Chwilio am Brosiect Seilwaith Cenedlaethol, bydd yr Arolygiaeth yn cynnal ymarfer mynegi diddordeb ar ddiwedd mis Mai 2024. Bydd manylion yr ymarfer mynegi diddordeb, gan gynnwys pa wybodaeth sy’n ofynnol i gyd-fynd ag ymatebion, a’r dyddiad cau ar gyfer ymateb, yn cael eu hanfon at ymgeiswyr unigol yn uniongyrchol.

Mae haenau gwasanaeth cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth yn gofyn am wahanol lefelau adnoddau gan y rhai sy’n ymwneud â’r cam cyn-ymgeisio. Fel y cyfryw, bydd yr Arolygiaeth yn ystyried ymatebion i’r ymarfer mynegi diddordeb yn ofalus er mwyn deall, ymhlith pethau eraill, y galw ar gapasiti’r adnoddau sydd ar gael iddi. Yn yr un modd, mae angen ystyried capasiti adnoddau dibynyddion allweddol, gan gynnwys cyrff statudol perthnasol. Dylai ymgeiswyr nodi’n glir p’un a yw’r lefel cymorth debygol sy’n ofynnol gan sefydliadau o’r fath, yn benodol i’r prosiect, eisoes wedi cael ei sicrhau ac, os na, a ellir ei chyflawni’n realistig ar gyfer yr haen a ddymunir.

Nid yw’r Arolygiaeth yn gyfrifol am gydlynu adnoddau cyn-ymgeisio ar draws y system. Dylai ymgeiswyr nodi y gallai gwybodaeth a gyflwynir mewn mynegiadau o ddiddordeb gael ei rhannu gyda chyrff statudol perthnasol, yn enwedig os ydynt yn ceisio’r haen gwasanaeth manylach, er mwyn cael eu mewnbwn. Wrth symud ymlaen, dylai ymgeiswyr weithio gyda chyrff o’r fath i gytuno ar eu capasiti i gefnogi’r haen gwasanaeth a ffefrir, a’i sicrhau, cyn llunio cytundeb â’r Arolygiaeth.

Dylai pob prosiect ddisgwyl cael cadarnhad o’i haen gwasanaeth cyn diwedd mis Awst 2024.

O ran prosiectau nad ydynt wedi rhoi gwybod i ni na gofyn am farn yn unol â Rheoliad 8 yr EIA cyn 30 Ebrill 2024, dechreuir codi tâl am ein gwasanaethau newydd ar 1 Hydref 2024.

O ran prosiectau sydd wedi rhoi gwybod i ni neu ofyn am farn yn unol â Rheoliad 8 yr EIA cyn 30 Ebrill 2024, dechreuir codi tâl am ein gwasanaethau newydd ar 1 Ebrill 2025.

O ran pob prosiect sy’n tanysgrifio i’r haen gwasanaeth cyn-ymgeisio manylach, dechreuir codi tâl ar 1 Hydref 2024.

Dylai holl ddefnyddwyr y system fod yn ymwybodol y disgwylir i’r gwasanaethau a sefydlir yn y fersiwn hon o’r Prosbectws esblygu wrth iddynt aeddfedu ac ymsefydlu mewn arferion a gweithdrefnau. Ar y sail hon, bydd y Prosbectws yn adnodd hyblyg ac yn cael ei ddiwygio a’i ddiweddaru wrth i ni barhau i ddysgu sut i optimeiddio’r broses gyda’n gilydd.

Paragraff: 016 Rhif Cyfeirnod: 1-016-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Gwybodaeth gyswllt

Os hoffech gael gwybod mwy am ein gwasanaethau cyn-ymgeisio, cysylltwch â ni. Os ydych yn ddarpar ymgeisydd ac nid ydych wedi siarad â ni am eich prosiect yn flaenorol, cysylltwch â ni ar 0303 444 5000 neu drwy nienquiries@planninginspectorate.gov.uk.

Os ydych yn ymgeisydd presennol sydd eisoes â Rheolwr Achos/ Rheolwr Gweithrediadau a nodwyd, cysylltwch â nhw i drafod sut mae’r newidiadau i’n gwasanaethau cyn-ymgeisio’n effeithio arnoch. Os nad oes gennych Reolwr Achos/ Rheolwr Gweithrediadau a nodwyd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a roddwyd uchod.

Paragraff: 017 Rhif Cyfeirnod: 1-017-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Atodiad – Elfennau cyn-ymgeisio ychwanegol

Mae cymorth yr Arolygiaeth Gynllunio wrth ddatblygu’r elfennau cyn-ymgeisio atodol a fanylir yn yr atodiad hwn ar gael i ymgeiswyr sydd wedi tanysgrifio i’r haen gwasanaeth manylach. Disgwylir i ddatblygu’r elfennau hyn helpu i optimeiddio ceisiadau ar gyfer camau ôl-gyflwyno sy’n fwy didrafferth ac yn gyflymach, o bosibl.

Nid oes rhaid i ymgeiswyr haen manylach nad ydynt yn ceisio cael eu derbyn i’r Weithdrefn Garlam ddatblygu’r holl elfennau ychwanegol a gynigir, yn dibynnu ar nodweddion y cais dan sylw. Bydd addasrwydd elfennau unigol mewn perthynas â chais yn cael eu trafod gyda’r Arolygiaeth yn y Cyfarfod Cychwynnol ac fe’u cadarnheir yn gynnar yn ystod rhaglen yr ymgeisydd.

Anogir ymgeiswyr sy’n ceisio bod yn gymwys ar gyfer y Weithdrefn Garlam i ddatblygu’r holl elfennau ychwanegol, ond mae’r elfennau a nodir yn y tabl isod yn ofynnol:

Elfen ychwanegol A yw’n ofynnol ar gyfer y Weithdrefn Garlam?
Elfen 1: Cynllunio Tystiolaeth Nac ydyw
Elfen 2: Defnyddio Datganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb cyn-ymgeisio Ydyw
Elfen 3: Cynhyrchu Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau Ydyw
Elfen 4: Cynhyrchu Dogfen Ymagwedd Ddylunio Ydyw
Elfen 5: Cynhyrchu dogfennau rheoli amlinellol aeddfed Ydyw
Elfen 6: Defnyddio cyfarfodydd aml-barti (nad ydynt yn gysylltiedig â’r Cynllun Tystiolaeth) Nac ydyw
Elfen 7: Paratoi tystiolaeth Caffael Gorfodol a Meddiant Dros Dro Ydyw
Elfen 8: Paratoi tystiolaeth i gefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus Ydyw
Elfen 9: Gwirio parodrwydd cais aml-barti (treialu) Nac ydyw

Caiff ymgeiswyr sy’n tanysgrifio i’r haen gwasanaeth safonol ddewis datblygu un neu fwy o’r elfennau ychwanegol a restrir isod, ond ni fyddant yn cael y cymorth penodol gan yr Arolygiaeth a ddisgrifir yn yr atodiad hwn.

Y gwerth a gynigir a’r rolau yn gysylltiedig â datblygu elfennau cyn-ymgeisio ychwanegol

ELFEN 1: Cynllunio Tystiolaeth

Gall rôl yr Arolygiaeth wrth ddatblygu Cynllun Tystiolaeth gael amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol ar y profiad o’r broses a’i chanlyniadau. Adlewyrchir y gwerth a ychwanegir gan gyfraniad yr Arolygiaeth mewn adborth gan gyrff statudol amrywiol sy’n adrodd bod ein hymgysylltiad yn gallu cael dylanwad cadarnhaol ar ryngweithiadau a datblygiad materion. Gall sefydlu safbwyntiau terfynol a, lle y bo’n bosibl, cytunedig rhwng y partïon sy’n ymwneud â’r broses Cynllun Tystiolaeth helpu i gulhau a ffocysu’r materion y gallai fod angen eu hystyried ymhellach yn ystod y camau ôl-gyflwyno, gan wneud y broses yn fwy didrafferth ac yn gyflymach, o bosibl, i bawb sy’n gysylltiedig.

Rôl yr ymgeisydd: Sbarduno Cynllun Tystiolaeth wedi’i optimeiddio pan fydd materion amgylcheddol cymhleth neu sylweddol/ niferus yn codi o’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, yr Asesiad Perygl Llifogydd ac ati. Dylai’r materion/ anghytundebau hyn gael eu hamlygu, a dylai’r rhaglen gael ei chytuno gyda chyrff statudol ac awdurdodau lleol yr effeithir arnynt cyn gynted â phosibl yn ystod y cam cyn-ymgeisio a’i rhannu gyda’r Arolygiaeth. Bydd y broses yn ymchwiliol, ac yn canolbwyntio ar ddatrysiad/ cytundeb. Dylai’r safbwyntiau terfynol ar ddiwedd y Cynllun Tystiolaeth gael eu hadlewyrchu yn y Traciwr Materion.

Rôl yr Arolygiaeth: Darparu cymorth hwylusol, gan gynnwys cynorthwyo/ cynghori pan fydd materion parhaus a/ neu anghytundebau/ sefyllfa ddiddatrys a allai effeithio ar y camau ôl-gyflwyno. Rhagor o wybodaeth am rôl yr Arolygiaeth wrth Gynllunio Tystiolaeth.

ELFEN 2: Defnyddio Datganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb cyn-ymgeisio

Mae Datganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADSS) cyn-ymgeisio yn fodd i ymgyngoreion gyflwyno tystiolaeth ddilyffethair i’r broses cyn-ymgeisio. Yn seiliedig ar y dystiolaeth hon, gall yr Arolygiaeth amlygu ac archwilio meysydd anghytundeb allweddol gyda’r ymgeisydd cyn i’r cais gael ei gyflwyno. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddarparu esboniadau a/ neu gymryd camau, lle y bo’n bosibl, ac i optimeiddio sut mae meysydd anghytundeb yn cael eu cyflwyno yn y cais. Gall PADSS cyn-ymgeisio helpu i gulhau a ffocysu’r materion y gallai fod angen eu hystyried ymhellach gan Awdurdod Archwilio yn ystod y camau ôl-gyflwyno, gan wneud y broses yn fwy didrafferth ac yn gyflymach, o bosibl, i bawb sy’n gysylltiedig.

Rôl yr ymgeisydd: Cychwyn PADSS cyn-ymgeisio gydag ymgyngoreion perthnasol o ddechrau’r cam cyn-ymgeisio. Ymgyngoreion sy’n gyfrifol am PADSS cyn-ymgeisio a nhw sy’n eu llunio. Disgwylir i PADSS cyn-ymgeisio gael eu diweddaru’n gyfnodol gan ymgyngoreion ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno, gan gyfrannu at Ddatganiadau Tir Cyffredin a gytunir mewn da bryd cyn i’r Archwiliad gau. Bydd PADSS yn ategu’r broses o baratoi Datganiadau Tir Cyffredin, nid ei disodli. Rhagor o wybodaeth am y berthynas rhwng PADSS cyn-ymgeisio a Datganiadau Tir Cyffredin.

Diben PADSS yw:

  • Darparu cofnod o’r meysydd anghytundeb cyn-ymgeisio o safbwynt yr ymgynghorai; a/ neu
  • yn gysylltiedig â chais am Weithdrefn Garlam, helpu i benderfynu p’un a fyddai nifer a chymhlethdod y materion gweddilliol ar yr adeg cyflwyno’n atal cais rhag cyflawni archwiliad cadarn o fewn uchafswm o bedwar mis.

Dylai PADSS gael eu paratoi gan ymgyngoreion gyda meysydd anghytundeb wedi’u cyflwyno yn ôl trefn blaenoriaeth.

Mae’n rhaid i Draciwr Materion yr ymgeisydd gydgrynhoi meysydd anghytundeb perthnasol a sefydlir mewn PADSS, gan alluogi PADSS i lywio’r Prif Faterion Posibl ar gyfer yr Archwiliad hefyd. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gasglu PADSS cyn-ymgeisio gan ymgyngoreion yr effeithir arnynt a’u darparu gyda’r cais a gyflwynir. O ran prosiectau sy’n ceisio cael eu derbyn i’r Weithdrefn Garlam, bydd y PADSS yn cael eu darparu fel atodiad i’r Ddogfen Derbyn i’r Weithdrefn Garlam.

Rôl yr Arolygiaeth: Codi statws PADSS fel tystiolaeth allweddol sy’n llywio rhyngweithiadau cyn-ymgeisio â’r ymgeisydd. Bydd yr Arolygiaeth yn monitro ac yn holi ynghylch statws materion a amlygwyd mewn PADSS gyda’r ymgeisydd a, lle y bo’n briodol, gydag ymgyngoreion priodol, mewn rhyngweithiadau cyn-ymgeisio.

Pre-application Principal Areas of Disagreement Statement template

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

ELFEN 3: Cynhyrchu Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau

Bydd Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau a ddatblygir gan yr ymgeisydd yn adnodd a allai gynorthwyo amrywiaeth o randdeiliaid, ond bydd yn arbennig o werthfawr i’r Awdurdodau Archwilio a benodir. Rydym wedi clywed gan Awdurdodau Archwilio fod cyflwyno tystiolaeth bolisi ar ffurf Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau yn eu helpu i fonitro perfformiad y cais yn erbyn gofynion ac amcanion polisi mewn ffordd systematig, gan wella’r profiad ôl-gyflwyno i bawb. Gall ymgeiswyr ddisgwyl i ddatblygu Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau arwain, o bosibl, at lai o gwestiynau ysgrifenedig a llafar iddyn nhw a Phartïon â Buddiant eraill ynglŷn â’r achos polisi, gan olygu y gellir canolbwyntio adnoddau ar feysydd eraill pwysig o’r archwiliad.

Rôl yr ymgeisydd: Paratoi Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau i gyd-fynd â’i gais. Mae’r ddogfen hon ar wahân i’r Datganiad Cynllunio sy’n ofynnol yng Nghanllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol 2024 y llywodraeth ynglŷn â’r broses cyn-ymgeisio. Bydd y Ddogfen Cydymffurfio â Pholisïau yn cynnwys tystiolaeth fanwl ynglŷn â sut mae’r gofynion polisi a sefydlir mewn unrhyw Ddatganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol (a/ neu ddrafftiau sy’n dod i’r amlwg) a dogfennau polisi cenedlaethol a lleol eraill pwysig yn cael eu bodloni gan y cais. Dylid mynd ati adran wrth adran/ gofyniad wrth ofyniad ac fe ddylai amlinellu ymateb yr ymgeisydd gyda dolenni i (a) tystiolaeth yn y Datganiad Amgylcheddol, (b) y canlyniadau ac (c) ble y’u sicrheir.

Dylai’r ymgeisydd ofyn i ymgyngoreion perthnasol (gan gynnwys perchnogion polisïau) roi mewnbwn ar gwmpas y Ddogfen Cydymffurfio â Pholisïau yn ystod y cam cyn-ymgeisio, a rhoi diweddariadau ar ei datblygiad i’r ymgyngoreion hynny a’r Arolygiaeth ar adegau priodol. Bydd yr ymgeisydd yn onest/ agored ynglŷn â materion polisi a allai arwain at oblygiadau i’r camau ôl-gyflwyno, gan gynnwys yr archwiliad.

Rôl yr Arolygiaeth: Darparu cymorth penodol i’r ymgeisydd wrth ddatblygu’r Ddogfen Cydymffurfio â Pholisïau, gan gynnwys gwasanaeth adolygu Dogfen Cydymffurfio â Pholisïau ddrafft gyda mewnbwn arbenigol perthnasol. Bydd angen i’r Arolygiaeth gael diweddariadau gan yr ymgeisydd ar baratoi’r Ddogfen Cydymffurfio â Pholisïau a bydd yn holi ynghylch mewnbwn/ consensws gan ymgyngoreion perthnasol (gan gynnwys perchnogion polisïau). Bydd yr Arolygiaeth yn cynnal cyngor manwl ynglŷn â pharatoi Dogfennau Cydymffurfio â Pholisïau ac yn cyfeirio at enghreifftiau da o Ddogfennau Cydymffurfio â Pholisïau a baratowyd ar gyfer achosion y penderfynwyd arnynt.

Bydd yr Arolygiaeth yn gweithio gydag ymgeiswyr i sefydlu gwahanol swyddogaethau’r Datganiad Cynllunio a’r Ddogfen Cydymffurfio â Pholisïau wrth iddynt gael eu datblygu.

ELFEN 4: Cynhyrchu Dogfen Ymagwedd Ddylunio

Bydd datblygu Dogfen Ymagwedd Ddylunio gan yr ymgeisydd yn helpu’r Awdurdod Archwilio a Phartïon â Buddiant i ddeall sut mae’r achos dylunio wedi cael ei baratoi ac esblygu o ddechrau’r prosiect, gan ddarparu cyd-destun pwysig ar gyfer dyluniad y prosiect a gyflwynir yn y cais terfynol. Disgwyliwn i Ddogfen Ymagwedd Ddylunio a gynhyrchir helpu Awdurdodau Archwilio i ystyried sut y bodlonir gofynion polisi sy’n gysylltiedig â dylunio a sefydlwyd mewn Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol. Gall ymgeiswyr ddisgwyl i ddatblygu Dogfen Ymagwedd Gynllunio arwain, o bosibl, at lai o gwestiynau ysgrifenedig a llafar iddyn nhw a Phartïon â Buddiant eraill ynglŷn â’r achos dylunio, gan olygu y gellir canolbwyntio adnoddau ar feysydd eraill pwysig o’r archwiliad.

Rôl yr ymgeisydd: Paratoi Dogfen Ymagwedd Ddylunio i gyd-fynd â’i gais sy’n amlinellu sut mae’r cais yn bodloni meini prawf dylunio mewn, er enghraifft, unrhyw Ddatganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol a chanllawiau arfer gorau. Mae’r Ddogfen Ymagwedd Ddylunio’n gynnyrch ar wahân i’r Datganiad Egwyddorion Dylunio (neu gyfwerth), sydd hefyd yn cael ei ddarparu’n gyffredin gan ymgeiswyr i gefnogi ceisiadau ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Bydd rhagor o wybodaeth am fformat a chynnwys Dogfen Ymagwedd Ddylunio yn cael ei darparu ar ein Tudalennau Cyngor.

Dylai’r ymgeisydd ofyn i ymgyngoreion perthnasol (gan gynnwys perchnogion polisïau) roi mewnbwn ar gwmpas y Ddogfen Ymagwedd Ddylunio yn ystod y cam cyn-ymgeisio, a rhoi diweddariadau ar ei datblygiad i’r ymgyngoreion hynny a’r Arolygiaeth ar adegau priodol.

Rôl yr Arolygiaeth: Darparu cymorth penodol i’r ymgeisydd wrth ddatblygu’r Ddogfen Ymagwedd Ddylunio, gan gynnwys gwasanaeth adolygu Dogfen Ymagwedd Ddylunio ddrafft gyda mewnbwn arbenigol perthnasol. Bydd angen i’r Arolygiaeth gael diweddariadau gan yr ymgeisydd ar baratoi’r Ddogfen Ymagwedd Ddylunio a bydd yn holi ynghylch mewnbwn/ consensws gan ymgyngoreion perthnasol. Bydd yr Arolygiaeth yn cynnal cyngor manwl ynglŷn â pharatoi Dogfennau Ymagwedd Ddylunio ac yn cyfeirio at enghreifftiau da o Ddogfennau Ymagwedd Ddylunio a baratowyd ar gyfer achosion y penderfynwyd arnynt.

Bydd yr Arolygiaeth yn gweithio gydag ymgeiswyr i sefydlu gwahanol swyddogaethau’r Datganiad Egwyddorion Cynllunio (neu gyfwerth) a’r Ddogfen Ymagwedd Ddylunio wrth iddynt gael eu datblygu.

ELFEN 5: Cynhyrchu dogfennau rheoli amlinellol aeddfed

Mae paratoi dogfennau rheoli amlinellol aeddfed i gefnogi’r cais a gyflwynir, a gytunwyd gan randdeiliaid yr effeithir arnynt, yn debygol o arwain at lai o gwestiynau ysgrifenedig a llafar i’r ymgeisydd a Phartïon â Buddiant eraill ynglŷn ag adeiladu a gweithredu’r Datblygiad Arfaethedig. Rydym wedi clywed gan Awdurdodau Archwilio fod darparu dogfennau rheoli amlinellol nad ydynt wedi’u datblygu’n ddigonol gyda’r cais yn gallu mynnu cryn dipyn o amser ac ymdrech yn ystod y camau ôl-gyflwyno i ddatblygu manylion a datrys materion, gan gymhlethu’r camau ôl-gyflwyno a’u hymestyn o bosibl. 

Rôl yr ymgeisydd: Paratoi dogfennau rheoli amlinellol aeddfed i gyd-fynd â’i gais. Dylai’r rhain fod yn destun ymgynghoriad â rhanddeiliaid perthnasol yn unol â’r Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio gytunedig. Mae dogfennau rheoli’n cynnwys unrhyw ddogfennau a enwyd yn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) drafft (o fewn Gofynion fel arfer) sy’n darparu rheolaethau ymarferol penodol a manwl ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig, e.e. Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu a dogfennau cyfatebol. Dylai dogfennau rheoli amlinellol gynnwys, lle y bo’n berthnasol, achos cadarn i esbonio pam y gallai fod angen i elfennau o fanylion ddilyn yn ddiweddarach.

Rôl yr Arolygiaeth: Darparu cymorth penodol i’r ymgeisydd wrth ddatblygu dogfennau rheoli amlinellol, gan gynnwys gwasanaeth adolygu dogfennau drafft yn unol â’r Ddogfen Rhaglen gytunedig. Bydd yr Arolygiaeth yn ceisio diweddariadau gan yr ymgeisydd yn rhagweithiol ar baratoi dogfennau rheoli amlinellol ac yn holi ymgyngoreion perthnasol ynghylch mewnbwn/ consensws.

ELFEN 6: Defnyddio cyfarfodydd aml-barti (nad ydynt yn gysylltiedig â’r Cynllun Tystiolaeth)

Mae cyfarfodydd aml-barti yn rhoi cyfle i faterion allweddol gael eu hystyried mewn modd agored ac i gamau gweithredu tuag at ddatrysiad cyn cyflwyno gael eu hamlygu a, lle y bo’n bosibl, eu cytuno a’u cyflawni. Mae adborth yn cadarnhau bod rôl yr Arolygiaeth mewn cyfarfodydd aml-barti yn gallu helpu i ddarparu canolbwynt ar gyfer trafodaethau a’u rheoli, a’i bod yn darparu gwerth ychwanegol trwy sefydlu effeithiau tebygol materion heb eu datrys ar amserlenni statudol yn y camau ôl-gyflwyno.

Rôl yr ymgeisydd: Defnyddio cyfarfodydd aml-barti yn ystod y cam cyn-ymgeisio i hwyluso datrys materion neu anghytundebau. Dylai’r ymagwedd at gyfarfodydd aml-barti fod yn gymesur ag unrhyw faterion/ anghytundebau sy’n codi neu gymhlethdod materion/ anghytundebau parhaus. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am drefnu cyfarfodydd aml-barti a rhoi gwybodaeth i’r mynychwyr am eu rolau a disgwyliadau cyn y cyfarfod.

Rôl yr Arolygiaeth: Ymgysylltu ar sail yr haen y mae’r ymgeisydd wedi tanysgrifio iddi, gan weithredu fel arsylwr/ cynghorydd (yr haen safonol neu fanylach) neu fel cadeirydd/ hwylusydd (yr haen manylach yn unig). Rôl yr Arolygiaeth fel hwylusydd. Bydd yr Arolygiaeth yn ymatebol i amcanion y cyfarfod a’r rôl y gofynnwyd iddi ei chyflawni ynddo, ac yn darparu adnoddau i sicrhau bod y sgiliau a’r arbenigedd perthnasol/ gofynnol ar gael ar gyfer cyfarfodydd. Bydd yr Arolygiaeth yn rhoi cyngor i’r ymgeisydd a mynychwyr eraill, gan gynnwys mewn perthynas â datrys (neu fel arall) materion parhaus a’r goblygiadau i gamau ôl-gyflwyno, gan gynnwys yr archwiliad.

ELFEN 7: Paratoi tystiolaeth Caffael Gorfodol a Meddiant Dros Dro

Bydd datblygu traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau cyn-ymgeisio yn helpu’r Arolygiaeth i ddeall y materion, monitro cynnydd a thargedu cyngor yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Mae profiad yn dangos bod materion tir a hawliau sydd heb eu datrys yn gallu cymhlethu ac ymestyn hyd camau ôl-gyflwyno. Bydd cymorth yr Arolygiaeth yn helpu’r ymgeisydd i baratoi ac optimeiddio’r dystiolaeth Caffael Gorfodol a Meddiant Dros Dro o fewn y cais, gan arwain, o bosibl, at lai o gwestiynau ysgrifenedig a llafar gan yr Awdurdod Archwilio a chamau ôl-gyflwyno sy’n fwy didrafferth ac yn gyflymach, o bosibl. Bydd y Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau cyn-ymgeisio yn darparu’r sail ar gyfer Traciwr Hawliau Tir ôl-gyflwyno manwl y bydd yr Awdurdod Archwilio a benodir yn gofyn amdano.

Rôl yr ymgeisydd: Paratoi tystiolaeth aeddfed a chadarn i gefnogi’r cais ar gyfer pwerau caffael gorfodol a meddiant dros dro yn y DCO drafft. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei datblygu o amgylch Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau cyn-ymgeisio a fydd, yn y pen draw, yn ffurfio rhan o’r cais a gyflwynir. Bydd y Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau yn rhoi darlun byw ac wedi’i gydgrynhoi o statws trafodaethau ac yn llywio rhyngweithiadau cyn-ymgeisio rhwng yr ymgeisydd a’r Arolygiaeth. Bydd yr ymgeisydd yn onest/ agored ynglŷn â rhwystrau a’r tebygolrwydd y bydd materion tir a hawliau unigol a/ neu ar y cyd yn effeithio ar rwyddineb a hyd yr archwiliad. Bydd yr ymgeisydd yn paratoi fersiynau aeddfed o’r DCO drafft, Cynlluniau Tir drafft (gan gynnwys gwybodaeth am dir categori arbennig a thir y goron), Llyfr Cyfeirio drafft, Datganiad o’r Rhesymau drafft a Datganiad Ariannu drafft i’w hadolygu gan yr Arolygiaeth o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt yn y Ddogfen Rhaglen cyn-ymgeisio.

Rôl yr Arolygiaeth: Codi statws y Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau fel tystiolaeth allweddol sy’n llywio rhyngweithiadau cyn-ymgeisio â’r ymgeisydd. Bydd yr Arolygiaeth yn monitro a holi ynghylch statws materion a amlygwyd yn y Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau gyda’r ymgeisydd, gan roi cyngor ar yr effeithiau (a mesurau lliniaru) ar gyfer y camau ôl-gyflwyno.

Pre-application Land and Rights Negotiations Tracker template

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email corpcomms@planninginspectorate.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

ELFEN 8: Paratoi tystiolaeth i gefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Disgwylir i gymorth gan yr Arolygiaeth i ddatblygu tystiolaeth cais sydd wedi’i hoptimeiddio o ran gofyniad yr Awdurdod Archwilio i gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus arwain at arferion gwell gan yr ymgeisydd a threulio llai o amser yn yr archwiliad yn gofyn cwestiynau ysgrifenedig a llafar i’r ymgeisydd a Phartïon â Buddiant eraill.

Rôl yr ymgeisydd: Dylunio digwyddiadau, cyfathrebu ag ymgyngoreion (gan gynnwys, yn arbennig, y rhai hynny yr effeithir arnynt gan bwerau Caffael Gorfodol a/ neu Feddiant Dros Dro) a chyflwyno tystiolaeth aeddfed ar y cam cyn-ymgeisio i gynorthwyo’r Arolygiaeth a’r Awdurdod Archwilio a benodir, yn ystod y camau ôl-gyflwyno, i gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rôl yr Arolygiaeth: Codi statws gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chynorthwyo’r ymgeisydd i ystyried y gofynion hynny wrth ddylunio digwyddiadau, cyfathrebu ag ymgyngoreion, datblygu adnoddau cyn-ymgeisio, sefydlu ffurf derfynol y cais a pharatoi ar gyfer sylwadau ôl-gyflwyno.

ELFEN 9: Gwirio parodrwydd cais aml-barti (treialu)

Diben y broses treialu gwiriad yw sefydlu digwyddiad ar ôl ymgynghoriad statudol a chyn i’r cais gael ei gyflwyno i amlygu unrhyw fylchau sylweddol mewn gwybodaeth, gyda phwyslais ar unrhyw fylchau o’r fath a allai gyflwyno risgiau i dderbyn ac archwilio. Bydd amseriad y digwyddiad gwirio’n caniatáu i’r ymgeisydd a phartïon eraill perthnasol gymryd camau unioni cyn i’r cais gael ei gyflwyno, gan hwyluso camau ôl-gyflwyno sydd â phwyslais mwy pendant, ac sy’n fwy didrafferth ac yn gyflymach, o bosibl.

Rôl yr ymgeisydd: Gweithio gyda’r Arolygiaeth a chyrff statudol perthnasol wrth dreialu proses wirio aml-barti, gan ymgysylltu’n rhagweithiol, bod yn ymatebol, a datblygu unrhyw adnoddau ategol hanfodol a sicrhau eu bod ar gael mewn modd amserol. Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am drefnu’r cyfarfod gwirio (yn ychwanegol at yr uchafswm cyfarfodydd safonol) y bydd yr ymgeisydd, yr Arolygiaeth a chyrff statudol perthnasol yn bresennol ynddo.

Rôl yr Arolygiaeth: Hwyluso cyfarfod gwirio aml-barti ar gyfer ymgeiswyr, gan gynnwys cyrff statudol perthnasol. O fewn y cyfnod treialu, byddai’r gwiriad yn digwydd rhwng y camau ymgynghori statudol a chyflwyno a byddai’n galluogi’r Arolygiaeth i ddeall materion a risgiau cysylltiedig a hwyluso cytundeb yn gysylltiedig â chamau unioni priodol cyn cyflwyno. Gall y digwyddiad gwirio ystyried unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â phrosiect, ond disgwylir iddo ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, gan gynnwys y rhai hynny a amlygwyd yn y broses Cynllun Tystiolaeth (lle y’i defnyddiwyd).

Bydd y gwiriad treialu ar gael i nifer gyfyngedig o ymgeiswyr i brofi’r awydd amdano, y gallu i’w gyflawni a’r gwerth ychwanegol. Bydd rhagor o fanylion am y broses wirio arfaethedig a’r gofynion ar gael i ymgeiswyr sy’n ymwneud â’r broses dreialu.

Paragraff: 018 Rhif Cyfeirnod: 1-018-20240516

Dyddiad adolygu: 16 05 2024

Cyhoeddwyd ar 16 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 June 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.