Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor i Awdurdodau Lleol

Bwriedir i’r cyngor hwn gynghori awdurdodau lleol ynglŷn â’u rôl yn y broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio). 

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio. 

Rôl awdurdodau lleol yn y broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol 

Mae NSIP arfaethedig yn ddatblygiad mawr yn yr ardal leol. Mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig i’w chwarae yn y broses: 

  • rhoi safbwynt lleol i’r ymgeisydd ynglŷn â’r prosiect arfaethedig 

  • os rhoddir caniatâd, efallai y bydd angen iddynt fonitro a gorfodi rhai rhannau o’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) 

  • os rhoddir caniatâd, efallai y byddant yn awdurdod sy’n gyfrifol am ryddhau gofynion penodol (fel amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio), neu efallai y byddant yn gweithredu fel ymgynghorai ar gyfer gofyniad. 

Er y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd datblygu i gais NSIP, byddai’n fuddiol i’r awdurdod lleol: 

  • ymgysylltu’n rhagweithiol â’r ymgeisydd ynglŷn â’i gynllun arfaethedig, yn enwedig yn ystod y cam cyn-ymgeisio 

  • cymryd rhan ym mhob cam o’r broses NSIP 

Darperir trosolwg o’r broses ar gyfer NSIPau a disgrifiad o’r bobl a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses. Darperir rhagor o wybodaeth am y broses yng Nghanllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol y llywodraeth. 

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio (PAS) yn hwyluso rhwydwaith cymorth ar gyfer awdurdodau lleol. Mae PAS wedi datblygu enghreifftiau o arfer da. Gall yr Arolygiaeth Gynllunio roi awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag eraill fel y gallant ddysgu am gynllunio, adnoddau, ac ymgysylltu â’r broses NSIP. 

Mae’n rhaid ymgynghori ag awdurdodau lleol perthnasol ynglŷn â chais NSIP fel ymgynghorai statudol. Mae Adran 43 y Ddeddf Cynllunio yn disgrifio pa awdurdodau lleol sy’n berthnasol yn seiliedig ar yr ardal o dir sydd wedi’i chynnwys yn y cais. Bydd awdurdodau lleol perthnasol yn awdurdodau cynhaliol neu gyfagos: 

  • Awdurdodau lleol cynhaliol  – mae’r rhain yn gynghorau unedol, cynghorau dosbarth haen is neu gynghorau sir haen uwch y mae’r tir sydd wedi’i gynnwys yn y cais yn dod o fewn eu ffin weinyddol (fe all hyn gynnwys cynghorau bwrdeistrefol Llundain, Cyngor Ynysoedd Scilly, awdurdodau Parc Cenedlaethol ac Awdurdodau’r Broads) 

  • Awdurdodau cyfagos – mae’r rhain yn gynghorau unedol, cynghorau dosbarth haen is neu gynghorau sir haen uwch sy’n rhannu ffin ag awdurdod lleol cynhaliol. 

Dirprwyaethau ac adnoddau 

Dylai’r awdurdod lleol sefydlu dirprwyaethau clir yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses. Mae gwahanol weithgareddau yn ystod y camau cyn-ymgeisio a derbyn y mae’n debygol y bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo o dan drefniadau llywodraethu mewnol yr awdurdod lleol, yn aml o fewn amserlenni tynn, fel: 

Mae gweithgareddau yn ystod y camau cyn-archwilio ac archwilio y mae’n debygol y bydd angen eu cymeradwyo hefyd, fel: 

Yn ystod y camau cyn-archwilio ac archwilio, mae’n bosibl na fydd unrhyw gyflwyniadau a dderbynnir ar ôl dyddiad cau yn cael eu hystyried gan yr Awdurdod Archwilio. Mae’n annhebygol y bydd amser i geisio cymeradwyaeth pwyllgor ar gyfer cyflwyniadau yn ystod y cam archwilio. 

Felly, mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried lefel y gymeradwyaeth sy’n ofynnol ar gyfer y gweithgareddau hyn. Dylent drefnu pwerau cytunedig yn y Cabinet cyn gynted â phosibl yn ystod y cam cyn-ymgeisio i alluogi swyddogion i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. 

Dylai’r awdurdod lleol hefyd ystyried yr adnoddau sydd ar gael iddo drwy gydol camau’r broses NSIP, gan gynnwys cyflenwi yn ystod absenoldeb staff. Dylent ystyried pa gymorth y gallai fod arnynt ei angen gan adrannau eraill, fel arbenigwyr cyfreithiol, amgylcheddol a thrafnidiaeth, dadansoddwyr data a chyllid. 

Rôl yr awdurdod lleol yn y broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol 

Barn Gwmpasu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) 

Fe allai’r ymgeisydd ofyn i’r Arolygiaeth Gynllunio (a fydd yn gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) am farn ysgrifenedig ffurfiol ynglŷn â’r wybodaeth y dylai ei chynnwys yn ei Ddatganiad Amgylcheddol. Adwaenir hyn fel barn gwmpasu. 

Bydd yr ymgeisydd yn anfon adroddiad cwmpasu at yr Arolygiaeth Gynllunio (a adwaenir fel y cais cwmpasu) a fydd yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio fabwysiadu barn gwmpasu o fewn 42 niwrnod o dderbyn y cais cwmpasu. 

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ymgynghori ag awdurdodau lleol cynhaliol a chyfagos ynglŷn â’r adroddiad cwmpasu. Gofynnir i awdurdodau lleol ymateb o fewn 28 niwrnod er mwyn rhoi amser i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried yr ymatebion cyn mabwysiadu’r farn gwmpasu. Mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau lleol ymgynghori ag adrannau mewnol eraill ac arbenigwyr i gael cyngor ar beth i’w gynnwys yn eu hymateb ymgynghori. Dylid cytuno ar yr ymateb ar y lefel briodol, fel uwch swyddog neu arweinydd prosiect y cyngor, yn unol â’r trefniadau dirprwyo cytunedig. Gweler Dirprwyaethau ac adnoddau.

Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio cyngor ar faterion amgylcheddol i gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu AEA a dyletswyddau’r awdurdod lleol. 

Paratoi’r Datganiad Amgylcheddol gan yr ymgeisydd  

Os yw’r prosiect arfaethedig yn ddatblygiad AEA, mae’n rhaid i’r ymgeisydd gynnwys Datganiad Amgylcheddol pan fydd yn cyflwyno ei gais NSIP. 

Mae Rheoliad 11 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 yn disgrifio’r broses y mae’n rhaid i gyrff ymgynghori, gan gynnwys awdurdodau lleol, ei dilyn i ymgysylltu â’r ymgeisydd pan fydd yn paratoi ei Ddatganiad Amgylcheddol. Os bydd yr ymgeisydd yn gofyn i’r awdurdod lleol am wybodaeth y mae’n ystyried ei bod yn berthnasol i baratoi ei Ddatganiad Amgylcheddol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol drafod hyn gydag ef. Os oes gan yr awdurdod lleol y wybodaeth berthnasol, mae’n rhaid iddo ei rhoi i’r ymgeisydd (oni bai ei bod wedi’i heithrio o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004). 

Mae’r Ddeddf Cynllunio yn cynnwys darpariaethau a dyddiadau cau statudol y bydd angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried y Datganiadau Polisi Cenedlaethol a chanllawiau perthnasol y llywodraeth, hefyd. 

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru 

Yng Nghymru, mae angen DCO ar gyfer rhai mathau o brosiectau cynhyrchu ynni, piblinellau, cyfleusterau storio nwy tanddaear, llinellau trydan uwchben y ddaear a chyfleusterau harbwr. Mae Adran 115 y Ddeddf Cynllunio yn rhoi diffiniad o ‘ddatblygiad cysylltiedig’ ar gyfer NSIPau yng Nghymru y gellir ei ganiatáu mewn DCO: 

Ni all mathau eraill o ddatblygiad sy’n gysylltiedig â’r NSIP ond nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Cynllunio gael eu caniatáu o fewn y DCO a bydd arnynt angen caniatâd neu gydsyniad ar wahân.   

Dylai’r ymgeisydd a’r awdurdodau lleol perthnasol drafod unrhyw ddatblygiad sy’n gysylltiedig â’r prosiect ar gam cynnar. Dylent amlygu unrhyw ddatblygiad y bydd arno angen caniatâd cynllunio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (TCPA) a/neu gydsyniad o fath arall.   

Cynghorir yr ymgeisydd i gael y canlynol cyn cyflwyno’r cais am ganiatâd datblygu: 

  • cytundebau ar gyfer unrhyw dir sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad cysylltiedig 
  • caniatâd cynllunio a/neu unrhyw gydsyniad o fath arall. 

Bydd hyn yn osgoi risg cael caniatâd ar gyfer prosiect na ellir ei weithredu. Felly, bydd angen i’r awdurdod lleol a’r ymgeisydd gydweithio i gydlynu’r broses o gyflwyno unrhyw gais am ganiatâd a/neu gydsyniad ar gyfer datblygiad cysylltiedig. Fe allai hyn gynnwys darparu cyngor cyn-ymgeisio perthnasol. Dylai’r ymgeisydd roi diweddariadau i’r Arolygiaeth Gynllunio am gynnydd ceisiadau ar gyfer datblygiad cysylltiedig. 

Os yw’r prosiect yn ddatblygiad AEA ac yn cynnwys ceisiadau DCO a TCPA, gall yr ymgeisydd baratoi un Datganiad Amgylcheddol. Fodd bynnag, fe ddylai hwn amlygu’n glir pa wybodaeth amgylcheddol sy’n berthnasol i ba gais. Bydd angen i’r Datganiad Amgylcheddol hefyd ystyried effeithiau cronnol pob rhan o’r datblygiad a’r datblygiad cysylltiedig. 

Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gall awdurdodau lleol gymryd rhan 

Mae 6 cham i’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Darperir rhagor o wybodaeth am bob cam o’r broses yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses NSIP a sut gallwch leisio’ch barn. 

Yn dilyn adolygiad gweithredol o’r system NSIP, cyhoeddodd y llywodraeth Gynllun Gweithredu ar gyfer diwygio. Yna, ymgynghorodd y llywodraeth ar y newidiadau gweithredol a gynigiwyd yn y Cynllun Gweithredu a chyhoeddodd ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2024. I gefnogi’r diwygiadau, mae deddfwriaeth wedi cael ei diwygio ac mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ac wedi’u diweddaru. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datblygu gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd i gefnogi diwygiadau’r llywodraeth sy’n cyflwyno: 

  • 3 haen gwasanaeth cyn-ymgeisio sy’n cynnig gwahanol lefelau cymorth i’r ymgeisydd  
  • Gweithdrefn Garlam a fydd ar gael i rai prosiectau 
  • ffioedd ar gyfer y gwasanaethau cyn-ymgeisio y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn eu darparu i ymgeiswyr. 

Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n cadarnhau penderfyniad dros dro’r Arolygiaeth Gynllunio bod cais NSIP yn addas ar gyfer y Weithdrefn Garlam, bydd hyn yn effeithio ar amseriad camau’r broses NSIP a rhai o’r gweithgareddau yn ystod y camau. 

Dylai awdurdodau lleol nodi y bydd y cam cyn-ymgeisio’n cynnwys rolau newydd i awdurdodau lleol perthnasol, fel: 

Gweler Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio a chanllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio a’r broses Garlam i gael rhagor o wybodaeth. 

Crynodeb o sut gall awdurdodau lleol gymryd rhan yn ystod pob cam 

Cam Camau Gweithredu
Cyn-ymgeisio Ymgysylltu â’r ymgeisydd yn gynnar yn y broses i ddeall y prosiect, cyfrannu at baratoi ei ddogfen raglen ac ymateb i unrhyw ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd ganddo
  Cytuno ar delerau unrhyw Gytundeb Perfformiad Cynllunio (PPA) gyda’r ymgeisydd
  Trefnu dirprwyaethau perthnasol ar gyfer cymeradwyaeth fewnol. Ystyried adnoddau a’r angen am gymorth gan adrannau eraill
  Gwneud trefniadau ar gyfer cydweithio ag awdurdodau lleol eraill, fel y bo angen
  Cynnal Datganiad Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADSS)
  Ymgysylltu â’r ymgeisydd wrth baratoi Datganiad Tir Cyffredin (SoCG)
  Ymateb i gais yr Arolygiaeth Gynllunio am sylwadau ar gwmpas yr AEA. Ymgysylltu â’r ymgeisydd ynglŷn â pharatoi ei Ddatganiad Amgylcheddol
  Ystyried Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) drafft yr ymgeisydd, gan gynnwys gofynion
  Ystyried cynnwys unrhyw ddogfennau rheoli perthnasol, fel Cynlluniau Rheoli Amgylcheddol drafft
  Archwilio opsiynau ar gyfer mesurau lliniaru. Lle y bo’n berthnasol, trafod unrhyw rwymedigaethau DCO gyda’r ymgeisydd
  Ymateb i gais yr ymgeisydd am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw fuddiannau tir sydd gan yr awdurdod lleol y gallai unrhyw gais am gaffael gorfodol sydd wedi’i gynnwys yn ei gais effeithio arnynt
  Ymateb o fewn 28 niwrnod o gais yr ymgeisydd am sylwadau ar ei Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) drafft
  Ymateb i ymgynghoriad statudol yr ymgeisydd o fewn y dyddiad cau a roddwyd gan yr ymgeisydd ar gyfer sylwadau
  Rhoi safbwyntiau ac unrhyw ddeunydd ategol i’r ymgeisydd mewn perthynas â’r broses ‘Carreg filltir digonolrwydd ymgynghori’
  Dechrau datblygu cynnwys ei adroddiad ar yr effaith leol (LIR)
   
Derbyn Ymateb o fewn 14 diwrnod o gais yr Arolygiaeth Gynllunio am sylwadau ar ddigonoldeb ymgynghoriad yr ymgeisydd
  Parhau i gynnal PADSS, fel y bo angen
  Parhau i ymgysylltu a thrafod â’r ymgeisydd, er enghraifft ynglŷn â SoCG neu unrhyw rwymedigaethau DCO
  Parhau i ystyried cynnwys ei LIR
   
Cyn-archwilio Cyflwyno sylw perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn y dyddiad cau a roddwyd
  Ymateb i wahoddiad yr Awdurdod Archwilio i’r cyfarfod rhagarweiniol (hysbysiad Rheol 6) o fewn y dyddiad cau a roddwyd a gwneud trefniadau i fynychu, fel y bo angen
  Ymateb, fel y bo angen, i unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio, fel darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gadarnhau presenoldeb mewn unrhyw wrandawiadau cynnar
  Ystyried amserlen ddrafft yr archwiliad a ddarparwyd gan yr Awdurdod Archwilio a rhoi sylwadau os gofynnwyd amdanynt
  Trefnu unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol ar gyfer y cam archwiliad, fel cymorth cyfreithiol ac unrhyw gymorth amgylcheddol neu arbenigol arall
  Parhau i gynnal PADSS, fel y bo angen
  Parhau i ymgysylltu a thrafod â’r ymgeisydd, er enghraifft ynglŷn â SoCG neu unrhyw rwymedigaethau DCO
  Dechrau paratoi ei LIR
  Dechrau paratoi sylw ysgrifenedig
   
Archwiliad Cyflwyno’r canlynol erbyn y dyddiad cau a roddwyd yn amserlen yr archwiliad:
  · LIR
  · sylw ysgrifenedig
  · atebion i gwestiynau ysgrifenedig yr Awdurdod Archwilio
  · sylwadau ar DCO drafft yr ymgeisydd
  · sylwadau ar gynrychiolaethau neu gyflwyniadau a wnaed gan bartïon eraill, gan gynnwys yr ymgeisydd
  Ymateb, fel y bo angen, i unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio, gan gynnwys unrhyw geisiadau am wybodaeth ychwanegol
  Ymateb i hysbysiad yr Awdurdod Archwilio ynghylch unrhyw wrandawiadau neu archwiliadau safle gyda chwmni o fewn y dyddiad cau a roddwyd a gwneud trefniadau i fynychu, fel y bo angen
  Parhau i ymgysylltu a thrafod â’r ymgeisydd, er enghraifft ynglŷn â SoCG neu unrhyw rwymedigaethau DCO
   
Argymhelliad a Phenderfyniad Ar yr adeg hon, gall yr awdurdod lleol ymateb, fel y bo angen, i unrhyw ymgynghoriadau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol
   
Ôl-benderfyniad (Pan fydd caniatâd datblygiad yn cael ei roi) Cynnal camau gweithredu, fel y bo’n ofynnol, mewn perthynas â chyflawni gofynion y DCO
  Monitro’r gwaith, fel sy’n ofynnol gan y DCO
  Cynnal camau gorfodi, fel y bo angen
  Ymateb i unrhyw hysbysiadau ynghylch newid sylweddol neu ansylweddol i’r DCO
  Storio a galluogi mynediad at unrhyw ddeunyddiau ardystiedig yn rhan o’r DCO

Y cam cyn-ymgeisio 

Y cam cyn-ymgeisio yw’r adeg pryd gall yr awdurdod lleol ddylanwadu ar yr ymgeisydd wrth iddo baratoi ei gais NSIP. Dylai’r ymgeisydd roi gwybod i’r awdurdodau lleol perthnasol am ei brosiect arfaethedig ar ddechrau’r cam cyn-ymgeisio, cyn ei gyfarfod cychwynnol gyda’r Arolygiaeth Gynllunio a’i gais neu hysbysiad cwmpasu. Nid yw elfennau dylunio ac adeiladu’r datblygiad arfaethedig yn bendant ar yr adeg hon, sy’n rhoi cyfle i’r awdurdod lleol ddefnyddio ei wybodaeth leol i weithio gyda’r ymgeisydd i ffurfio ei gynigion a mynd i’r afael â phryderon. 

Gall awdurdodau lleol: 

  • gael gwybod mwy am y prosiect gan yr ymgeisydd er mwyn deall yr effeithiau tebygol ar eu cymunedau lleol 
  • dechrau ystyried unrhyw fesurau lliniaru sy’n angenrheidiol i leihau neu ddatrys yr effeithiau a allai gael eu hachosi gan adeiladu, gweithredu a datgomisiynu’r datblygiad  
  • adolygu cynnwys y DCO drafft (gan gynnwys gofynion) ac unrhyw ddogfennau rheoli perthnasol, fel Cynlluniau Rheoli Amgylcheddol drafft 
  • dechrau datblygu cynnwys eu hadroddiad ar yr effaith leol (LIR). Gweler yr adran ar yr adroddiad ar yr effaith leol yn y nodyn cyngor hwn i gael manylion pwysig am gynnwys yr LIR a phryd y dylid ei gyflwyno 
  • rhoi gwybodaeth i’r ymgeisydd i helpu i lywio ei ymgynghoriad trwy ymateb i gais yr ymgeisydd am sylwadau ar ei ddatganiad ymgynghori â’r gymuned (SoCC) 

Ymgysylltu â’r ymgeisydd a chyngor gan yr Arolygiaeth Gynllunio 

Dylai’r ymgeisydd ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn ystod camau cynnar paratoi ei gais a’i ddogfen raglen. Dylai’r awdurdod lleol gyfranogi yng ngweithgareddau ymgysylltu’r ymgeisydd, fel cymryd rhan mewn gweithgorau seiliedig ar bwnc neu sesiynau briffio technegol. Fodd bynnag, dylai’r ymgeisydd fod yn ymwybodol nad yw hyn yn ofyniad statudol i’r awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol ymgysylltu â’r ymgeisydd hyd yn oed os yw’n anghytuno ag egwyddor y prosiect. Ni fydd ymgysylltu’n gynnar â’r ymgeisydd yn tanseilio unrhyw wrthwynebiadau neu gyflwyniadau y gallai eu gwneud yn ystod camau nesaf y broses NSIP. 

Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol ei bod yn anodd gwneud newidiadau sylfaenol i’r prosiect ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. 

Gall yr Arolygiaeth Gynllunio roi cyngor i awdurdodau lleol ac eraill ynglŷn â’r broses NSIP, a adwaenir fel ‘cyngor adran 51’, a gyhoeddir ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Os yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, ac yn amodol ar ba haen o’r gwasanaeth cyn-ymgeisio y mae’r ymgeisydd yn ei defnyddio, fe all hwyluso cyfarfod amlbarti rhwng yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol (ac eraill os oes angen) er mwyn helpu i symud ymlaen â thrafodaethau. 

Bydd yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol adolygu Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae hwn yn esbonio’r lefelau cyngor y gall yr Arolygiaeth Gynllunio eu rhoi i ymgeiswyr, ynghyd â diben a disgwyliadau’r cam cyn-ymgeisio. 

Dylai awdurdodau lleol hefyd gyfeirio at ganllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio a’r broses Garlam

Cytundebau Perfformiad Cynllunio 

Gall yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol lunio Cytundeb Perfformiad Cynllunio (PPA). 

Gallai PPA gael ei strwythuro i gynnwys trefniadau cydweithio ag awdurdodau lleol eraill. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cefnogi defnyddio PPAau. Fodd bynnag, gan fod y PPA yn gytundeb cyfreithiol rhwng yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol, ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud â thrafodaethau yn ei gylch. 

Mae’r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi canllawiau sy’n amlinellu’r egwyddorion ar gyfer PPAau, sy’n benodol i brosiectau unigol, yn ystod ail hanner 2024. 

Ymgynghoriad anstatudol 

Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am gynnal ymgynghoriad pellgyrhaeddol cyn cyflwyno ei gais NSIP i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd aelodau o’r gymuned leol yn gallu ymgysylltu â’r ymgeisydd a chyflwyno sylwadau iddo’n uniongyrchol. Ni ddylai’r awdurdod lleol gynnal ei ymgynghoriad ei hun ynglŷn â’r NSIP er mwyn osgoi dryswch ynghylch at bwy y dylid anfon adborth. 

Dogfennau Cynllunio Atodol a Datganiadau Polisi Cenedlaethol 

Ar gyfer NSIPau mawr iawn sy’n debygol o gael effeithiau arwyddocaol, mae rhai awdurdodau lleol wedi paratoi Dogfen Gynllunio Atodol (SPD). Bydd SPDau a Chynlluniau Gweithredu Ardal yn cael eu disodli yn 2024 gan Ddogfennau Atodol (SD) o dan ddarpariaethau yn Neddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu p’un a fyddai hyn yn ddefnydd da o’u hadnoddau. Dylai’r awdurdod lleol nodi y bydd NPSau dynodedig perthnasol yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddogfen gynllunio leol. 

Dylai’r awdurdod lleol ymgysylltu â’r ymgeisydd yn gynnar yn ystod paratoi unrhyw SPD sy’n dod i’r amlwg. Diben ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r ymgeisydd yw cael adborth ar y cais arfaethedig fel y gellir ei fireinio a’i ddiwygio. Er enghraifft, fe allai’r wybodaeth ymgynghori gynnwys opsiynau ar gyfer lleoli datblygiad cysylltiedig. Ar ôl i’r ymgeisydd ystyried yr ymatebion ymgynghori, fe all fireinio’r opsiynau. Ni ddylai’r awdurdod lleol danseilio diben ymgynghoriad trwy fod yn rhy ragnodol mewn unrhyw bolisi cynllunio lleol sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft trwy gyfyngu ar ddewis o leoliadau ar gyfer datblygiad cysylltiedig. 

Cydweithio ag awdurdodau lleol eraill 

Fe allai fod yn fuddiol i’r awdurdod lleol weithio gydag awdurdodau lleol eraill cynhaliol a chyfagos yn ystod camau cyn-ymgeisio ac archwilio’r cais. Fe allai trafodaethau cynnar ag awdurdodau lleol eraill gynnwys ystyried sut gall meysydd o ddiddordeb a phryder a rennir gael eu hamlygu yn y canlynol: 

  • ymatebion carreg filltir digonolrwydd ymgynghori 
  • datganiadau crynhoi prif feysydd anghytundeb 
  • sylwadau ar ddigonolrwydd ymgynghori 
  • sylwadau perthnasol 
  • adroddiadau ar yr effaith leol 
  • datganiadau tir cyffredin 
  • sylwadau ysgrifenedig 
  • cynrychiolaeth ar y cyd mewn gwrandawiadau NSIP, neu ddigwyddiadau NSIP eraill 

Fe allai awdurdodau lleol benderfynu gwneud cyflwyniadau ar y cyd lle y ceir cytundeb ar faterion. Pan fydd awdurdod lleol unigol yn dymuno amlygu materion sy’n benodol i’r safle neu sy’n ymwneud â materion y mae eisiau eu hamlygu ar wahân, gellir gwneud hyn ochr yn ochr ag unrhyw gyflwyniad ar y cyd. 

Dylai cyflwyniadau nodi’n glir ar ran pwy y cânt eu gwneud. 

Datganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADSS) Cyn-ymgeisio 

Mae prosbectws cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth Gynllunio yn esbonio bod yr ymgeisydd yn gallu cychwyn PADSS cyn-ymgeisio gydag ymgyngoreion perthnasol, gan gynnwys awdurdodau lleol yr effeithir arnynt, ar ddechrau’r cam cyn-ymgeisio. Mae PADSS yn hanfodol ar gyfer ceisiadau Gweithdrefn Garlam. Yr ymgyngoreion perthnasol sy’n llunio PADSS cyn-ymgeisio ac yn gyfrifol amdanynt, ac maen nhw’n ategu datblygu Datganiadau Tir Cyffredin (SoCG). 

Mae Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio a chanllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio a’r broses Garlam yn rhoi rhagor o wybodaeth am PADSS. 

Datganiadau Tir Cyffredin (SoCG) 

Mae SoCG, gan gynnwys drafftiau, yn wybodaeth ddefnyddiol i’r Awdurdod Archwilio. Maen nhw’n helpu’r Awdurdod Archwilio i ddeall a yw materion wedi’u cytuno, heb eu cytuno, neu’n destun trafodaeth o hyd. Gall y PADSS helpu’r awdurdod lleol a’r ymgeisydd i baratoi SoCG. 

Dylai’r ymgeisydd ddechrau llunio SoCG gyda’r awdurdod lleol yn gynnar yn y broses. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda’r ymgeisydd i ddatblygu’r SoCG cyn belled â phosibl cyn i’r cais gael ei gyflwyno. Dylai’r ymgeisydd gyflwyno drafft cyfredol o unrhyw SoCG gyda gwybodaeth y cais. Dylai’r ymgeisydd gyflwyno SoCG terfynol, a lofnodwyd gan y ddau barti, cyn diwedd yr archwiliad. 

Dylai’r ymgeisydd a’r awdurdod lleol barhau i drafod unrhyw SoCG drafft drwy gydol y camau cyn-archwilio ac archwilio. Fe allai’r Awdurdod Archwilio ddymuno gofyn cwestiynau am unrhyw faterion y cytunwyd arnynt mewn SoCG yn ystod yr archwiliad o hyd. Y rheswm am hyn yw oherwydd y gallai partïon eraill â buddiant wrthwynebu’r safbwynt a amlinellir yn y SoCG. Hefyd, fe allai’r Awdurdod Archwilio ddymuno profi’r sail i gytundeb ar rai materion. 

Y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) 

Dylai’r awdurdod lleol ystyried DCO drafft yr ymgeisydd a’r pwerau a’r darpariaethau yn yr erthyglau arfaethedig, a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r DCO. Dylai gyfeirio at ganllawiau’r llywodraeth ar Gynnwys Gorchymyn Caniatâd Datblygu i gael rhagor o wybodaeth am elfennau’r DCO, gan gynnwys darpariaethau amddiffynnol a gofynion. 

Bydd y DCO drafft ar ffurf Offeryn Statudol (OS) (gweler adran 117 y Ddeddf Cynllunio). Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod ganddo adnoddau a chymorth priodol i ystyried yr offeryn statudol drafft hwn. Dylai awdurdodau lleol hefyd sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw wrandawiad mater penodol ar y DCO. 

Fe allai’r awdurdod lleol ddymuno ystyried: 

  • Erthyglau’r DCO – beth yw goblygiadau’r datblygiad arfaethedig i’r ardal leol? 
  • Darpariaethau yn y DCO sy’n amlinellu’r weithdrefn ar gyfer rhyddhau gofynion – a oes unrhyw ffioedd cymwys yn briodol? 
  • Gofynion y DCO – mae gofynion yn debyg i amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio. Bydd gan yr awdurdod lleol rôl wrth ryddhau gofynion os rhoddir caniatâd datblygu ac ef yw’r awdurdod rhyddhau. Efallai y bydd ganddo rôl hefyd fel ymgynghorai ynglŷn â gofyniad. Efallai y bydd rhaid iddo ryddhau gofynion trafnidiaeth, hawliau tramwy ac archaeoleg, er enghraifft, neu faterion a gadwyd yn ôl ar lefel ranbarthol. A yw’r gofynion hyn: 

  • yn fanwl gywir? 
  • yn orfodadwy? 
  • yn angenrheidiol? 
  • yn berthnasol? 

  • Fframweithiau rheoli a lliniaru – a yw’r wybodaeth wedi’i chroesgyfeirio yn y DCO drafft ac a ydynt yn gadarn? A ydynt yn sicrhau’r mesurau lliniaru a gynigir? 

  • Darpariaethau amddiffynnol – os yw’r awdurdod lleol yn Awdurdod Priffyrdd, a ddylai geisio darpariaethau amddiffynnol? 

  • Caffael gorfodol a meddiant dros dro – os oes gan yr awdurdod lleol fuddiant mewn tir y gallai’r prosiect effeithio arno, dylai ystyried y darpariaethau caffael gorfodol a meddiant dros dro  

Os yw’r awdurdod lleol o’r farn y dylai’r DCO drafft (gan gynnwys gofynion) gael ei ddiwygio, neu os yw’n dymuno awgrymu cynnwys newydd, dylai ddarparu geiriad amgen neu newydd i’r Awdurdod Archwilio. Byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r awdurdod lleol hefyd yn nodi beth yw effeithiau cynyddol unrhyw eiriad sydd wedi’i newid. Er enghraifft, os oes angen croesgyfeirio geiriad ychwanegol neu os oes angen addasu’r rhifau. 

Mesurau Lliniaru 

Dylai’r ymgeisydd ystyried unrhyw fesurau lliniaru a allai leihau effaith y prosiect a awgrymwyd gan yr awdurdod lleol yn ystod y cam cyn-ymgeisio. 

Dylai’r awdurdod lleol ystyried y fframweithiau lliniaru a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad anstatudol neu statudol a ph’un a ddylid paratoi unrhyw elfennau lliniaru ychwanegol. Fe allai fframweithiau lliniaru gynnwys: 

  • cod ymarfer adeiladu 
  • cynlluniau rheoli amgylcheddol 
  • strategaeth ansawdd aer 

Gall yr awdurdod lleol hefyd amlygu ble y gallai’r prosiect gefnogi ei amcanion strategol a thrafod hyn gyda’r ymgeisydd, er enghraifft polisïau sgiliau ac economaidd. Gall yr ymgeisydd ystyried a ellir cynnwys yr awgrymiadau a wnaed yn ei gais neu a oes ffordd arall o ddatblygu’r rhain, er enghraifft trwy rwymedigaeth caniatâd datblygu. 

Rhwymedigaethau caniatâd datblygu (Rhwymedigaeth DCO) 

Fe allai awdurdodau lleol ddymuno ystyried sicrhau unrhyw fesurau lliniaru trwy gytundeb cyfreithiol rwymol. Fe allai hwn fod y DCO ei hun neu rwymedigaeth gynllunio. Mae Adran 174 y Ddeddf Cynllunio yn esbonio sut mae adran 106 y TCPA wedi cael ei diwygio mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio a lunnir mewn cysylltiad â chais am ganiatâd datblygu. Adwaenir y rhain fel ‘rhwymedigaethau caniatâd datblygu’ (rhwymedigaethau DCO). Fe allai’r ymgeisydd a’r awdurdod lleol ystyried bod rhwymedigaeth DCO yn ddull addas o liniaru rhai o effeithiau’r prosiect, yn amodol ar y profion perthnasol ar gyfer pryd y gellir defnyddio rhwymedigaeth. 

Mae’n hanfodol bod rhwymedigaeth DCO yn cael ei pharatoi’n gynnar os yw’r awdurdod lleol a’r ymgeisydd eisiau i’r Awdurdod Archwilio ystyried y materion y cytunwyd arnynt wrth wneud ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod rhaid i unrhyw rwymedigaeth DCO gael ei llofnodi gan yr holl bartïon cyn diwedd yr archwiliad er mwyn iddi gael ei hystyried. Gall yr ymgeisydd gyflwyno ymgymeriad unochrog os nad oedd wedi gallu cytuno ar rwymedigaeth DCO. Ni all yr Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio rhwymedigaeth DCO lofnodedig. 

Dylai’r ymgeisydd ddarparu penawdau telerau drafft i’r awdurdod lleol yn ystod y cam cyn-ymgeisio, sy’n amlinellu’n glir y rhwymedigaethau y mae’n fodlon ymrwymo iddynt. Dylai’r awdurdod lleol ymateb yn brydlon a pharhau â thrafodaethau ynglŷn â rhwymedigaethau DCO drwy gydol y camau cyn-ymgeisio, cyn-archwilio ac archwilio, fel y bo angen. 

Buddiannau tir yr awdurdod lleol a chaffael gorfodol 

Efallai bydd yr awdurdod lleol yn berchen ar dir neu’n meddu ar fuddiant mewn tir y gallai’r prosiect effeithio arno. Fe allai’r cais gynnwys cais i gaffael y tir hwn yn orfodol neu dros dro. Bydd yr ymgeisydd yn casglu gwybodaeth am bwy sydd â buddiant yn y tir yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio’r wybodaeth gyswllt a roddir iddo gan y Gofrestrfa Tir i gael gwybod pa fuddiannau tir sydd gan yr awdurdod lleol. Efallai bydd yn cysylltu ag adran wahanol i’r un sy’n delio â’r cais am ganiatâd datblygu. Fe allai’r awdurdod lleol ddymuno rhoi manylion un pwynt cyswllt i’r ymgeisydd ar gyfer yr holl ohebiaeth sy’n ymwneud â’r prosiect. 

Pan fydd gan yr awdurdod lleol safbwyntiau ynglŷn â phwerau caffael gorfodol arfaethedig yr ymgeisydd, dylai gynnwys y rhain yn ei sylw perthnasol, a’i sylw ysgrifenedig os oes angen. 

Y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) 

Cyn i ymgeisydd ddechrau ei ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â phrosiect, mae’n rhaid iddo ymgynghori ag awdurdodau lleol cynhaliol ynglŷn â sut mae’n bwriadu cynnal yr ymgynghoriad. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd baratoi SoCC drafft sy’n rhoi gwybodaeth am ei strategaeth gyfathrebu. 

Dylai’r ymgeisydd drafod ei gynlluniau ymgynghori gyda’r awdurdod lleol wrth baratoi ei SoCC drafft a chyn iddo ymgynghori â’r awdurdod lleol o dan adran 47 y Ddeddf Cynllunio. Dylai’r awdurdod lleol drafod yr ymgynghoriad a hyd yr ymgynghoriad gyda’r ymgeisydd. 

Dylai’r awdurdodau lleol cynhaliol ymateb i ymgynghoriad yr ymgeisydd ar y SoCC o fewn 28 niwrnod o’i dderbyn. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ystyried yr ymatebion a gaiff. Nid yw’n ofynnol i’r ymgeisydd weithredu ar yr ymatebion, ond mae’n rhaid iddo wneud yr hyn y mae’n dweud y bydd yn ei wneud yn y SoCC. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol sy’n esbonio ble y gellir gweld y SoCC. 

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n gofyn i’r awdurdod lleol am ei farn ynglŷn ag ymgynghoriad yr ymgeisydd pan fydd yn derbyn y cais. Dylai awdurdodau lleol perthnasol fonitro’r ymgynghoriad statudol yn erbyn y SoCC a bydd hyn yn llywio eu hymateb carreg filltir digonolrwydd ymgynghori a’u sylw ynghylch digonolrwydd ymgynghori

Dylai’r ymgeisydd gynnwys unrhyw ohebiaeth â’r awdurdodau lleol ynglŷn â’r SoCC gyda’i adroddiad ymgynghori pan gyflwynir y cais. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i ymgeiswyr – Yr adroddiad ymgynghori. 

Dulliau ymgynghori 

Dylai’r ymgeisydd ystyried y dulliau mwyaf priodol ar gyfer ymgynghori â chymunedau sy’n aml yn amrywiol iawn a chanddynt anghenion gwahanol. Dylai’r awdurdod lleol ddefnyddio ei wybodaeth leol am yr ardal i ystyried nodweddion y cymunedau y gallai’r prosiect effeithio arnynt a sut gall y cymunedau hyn ymgysylltu â’r ymgynghoriad. Er enghraifft: 

  • Cyflymder y rhyngrwyd – a fydd hyn yn effeithio ar sut gall y gymuned leol edrych ar wybodaeth ar-lein ac ymateb i’r ymgeisydd? 
  • Gwasgariad daearyddol y prosiect – pa leoliadau y dylai’r ymgeisydd eu hystyried wrth drefnu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau ymgynghori ffisegol? A fydd y drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael yn effeithio ar y lleoliadau a ddewisir? 
  • Natur y gymuned – a oes unrhyw grwpiau y mae’n anodd i’r awdurdod lleol eu cyrraedd, grwpiau nas clywir yn aml neu grwpiau y gallai fod angen iddynt ymgysylltu mewn ffordd wahanol? Er enghraifft, y rhai hynny a allai fod dan anfantais yn ddigidol. A oes unrhyw rannau o’r gymuned y gallai’r prosiect effeithio arnynt yn anghymesur, fel pobl sydd wedi ymddeol, plant ysgol, twristiaid, neu gymudwyr? 

Fe allai’r awdurdod lleol ddymuno gofyn i gynghorau tref, plwyf neu gymuned am eu sylwadau ynglŷn â’r dulliau y gallai’r ymgeisydd eu defnyddio i ymgynghori â’r gymuned leol. 

Mae’n bosibl y bydd gan yr awdurdod lleol Ddatganiad Cynnwys y Gymuned (neu Gynllun Cynnwys y Gymuned ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru) wedi’i fabwysiadu. Dylent ystyried sut y gellir defnyddio neu addasu hwn i gynghori’r ymgeisydd ynglŷn â sut y dylid ymgynghori â’r gymuned leol. 

Hyd ymgynghori 

Dylai’r awdurdod lleol fod yn ymwybodol y bydd y manylion sydd ar gael am brosiect yn cynyddu wrth i’r ymgeisydd baratoi a mireinio ei gais. Dylai’r ymgeisydd ymgynghori â’r awdurdod lleol ynglŷn â’r amserlen ar gyfer ymgynghori â’r gymuned leol yn llawn a nifer y camau ymgynghori sy’n angenrheidiol. Fe allai ymgynghoriad aml-gam ganiatáu i’r ymgeisydd ddatrys unrhyw faterion a allai godi ynglŷn â’r ymgynghoriad. Dylai’r awdurdod lleol a’r gymuned leol fod yn glir ynglŷn ag ymrwymiad yr ymgeisydd yn ei SoCC. 

Os bydd oedi cyn i’r ymgynghoriad ddechrau, neu rhwng camau ymgynghori ar ôl i’r SoCC gael ei gyhoeddi, dylai’r awdurdod lleol ei adolygu. Y rheswm am hyn yw oherwydd: 

  • fe allai graddfa neu natur y prosiect fod wedi newid. Fe allai hyn fod o ganlyniad i ymatebion i gam ymgynghori cynharach 
  • fe allai fod newid yn y cymunedau y gallai’r prosiect effeithio arnynt 
  • fe allai dangosyddion economaidd fod yn wahanol 
  • fe allai materion eraill fod wedi codi neu newid a allai effeithio ar ddulliau neu hyd yr ymgynghoriad 

Nid oes rhaid i’r ymgeisydd adolygu’r SoCC os yw’n bwriadu cynnwys digwyddiad ymgynghori ychwanegol neu gam ymgynghori arall. Fodd bynnag, dylai roi gwybod i’r awdurdod lleol am unrhyw newidiadau ac ystyried unrhyw ddiwygiadau a awgrymwyd. 

Ymgynghoriad Statudol 

Fel arfer, cynhelir ymgynghoriad statudol yn agosach i’r adeg pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno. Dylai’r awdurdod lleol eisoes fod yn gyfarwydd â’r wybodaeth y mae’r ymgeisydd yn ei darparu ar gyfer ymgynghoriad (yn amodol ar unrhyw newidiadau a wnaed yn dilyn ymgynghoriad anstatudol cynharach). 

Dylai’r awdurdod lleol adolygu’r wybodaeth ymgynghori ac anfon ei sylwadau at yr ymgeisydd erbyn y dyddiad cau a roddwyd. Gall yr ymgeisydd ddiwygio’r prosiect o hyd yn seiliedig ar unrhyw adborth ymgynghori. 

Carreg filltir digonolrwydd ymgynghori (AOCM) 

Bydd yr ymgeisydd yn cynnwys AOCM yn ei raglen cyn-ymgeisio a sefydlwyd yn y ddogfen raglen. Bydd yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig sy’n disgrifio’r ymgynghoriad a gynhaliwyd hyd at yr adeg honno, gan gadarnhau’r ymagweddau a amlinellwyd yn y SoCC a chrynhoi’r ymatebion ymgynghori a’r ffordd maen nhw’n ffurfio’r cais. Dylai’r datganiad ysgrifenedig gynnwys safbwyntiau’r awdurdod lleol, ac unrhyw ddeunydd ategol perthnasol ganddo, os ydynt ar gael. 

Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio a Phrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio i gael rhagor o wybodaeth am rôl yr awdurdodau lleol yn yr AOCM. 

Yr Arolygiaeth Gynllunio – cadw mewn cysylltiad 

Dylai’r ymgeisydd roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio am y dyddiad pan fydd yn bwriadu cyflwyno ei gais. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ceisio cysylltu â’r awdurdod lleol oddeutu mis cyn y dyddiad hwnnw i: 

  • ofyn iddo gadarnhau manylion cyswllt yr awdurdod lleol 

  • rhoi gwybod iddo y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn am ei sylwadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r ymgeisydd o fewn 14 diwrnod o gyflwyno’r cais  

Y cam derbyn 

Pan fydd yr ymgeisydd wedi cyflwyno ei gais NSIP, bydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio hyd at 28 niwrnod i benderfynu p’un a yw’r cais yn bodloni’r safon sy’n ofynnol i gael ei dderbyn.  

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cyhoeddi dogfennau’r cais ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyflwyno. Dylai’r awdurdod lleol ddechrau adolygu dogfennau’r cais cyn gynted ag y byddant ar gael. 

Dylai’r awdurdod lleol barhau i ymgysylltu â’r ymgeisydd a chynnal y PADSS. Fe all barhau i drafod SoCG neu unrhyw rwymedigaeth DCO. 

Dylai awdurdodau lleol barhau i ystyried cynnwys eu hadroddiad ar yr effaith leol. 

Sylwadau ar ddigonolrwydd ymgynghori 

Mae ymgeiswyr yn cyflwyno adroddiad ymgynghori gyda’u cais NSIP. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n adolygu’r adroddiad ymgynghori i sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Gwahoddir awdurdodau cynhaliol a chyfagos i gwblhau ‘profforma sylwadau ar ddigonolrwydd ymgynghori’. Gofynnir i awdurdodau lleol gadarnhau p’un a ydynt o’r farn bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â’i ddyletswyddau ymgynghori cyn-ymgeisio, fel yr amlinellir yn adrannau 42, 47 a 48 y Ddeddf Cynllunio. Gellir ategu hyn gan sylwadau ychwanegol, os oes angen. Dylai unrhyw sylw fod ynglŷn â’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn unig ac nid ynglŷn â’r prosiect ei hun. 

Mae adran 55(4)(b) y Ddeddf Cynllunio yn esbonio bod rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried unrhyw sylw digonolrwydd ymgynghori y mae’n ei dderbyn gan awdurdod lleol. Felly, gofynnir i awdurdodau lleol gyflwyno’r profforma o fewn 14 diwrnod o’i dderbyn. Bydd hyn yn rhoi amser i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried y sylwadau cyn penderfynu a yw’r cais yn bodloni’r safon sy’n ofynnol. 

Os oes gan aelodau’r cyhoedd bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r ymgeisydd yn cynnal ei ymgynghoriad cyn-ymgeisio, fe’u cynghorir i gysylltu â’r ymgeisydd. Fodd bynnag, os bydd ganddynt bryderon o hyd, fe’u cynghorir i gysylltu â’r awdurdod lleol. Fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cynnwys unrhyw bryderon a godwyd gan aelodau’r cyhoedd yn ei sylwadau.

Y cam cyn-archwilio 

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi hysbysiad sy’n cadarnhau bod ei gais NSIP wedi cael ei dderbyn yn unol â rheoliad 9 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009. Mae’n rhaid i’r hysbysiad gynnwys manylion ynglŷn â sut gall pobl a sefydliadau gyflwyno sylwadau perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys y dyddiad cau ar gyfer eu derbyn. 

Rhoddir gwybodaeth am lenwi’r ffurflen gofrestru a gwneud sylw perthnasol yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd

Dylai’r awdurdod lleol barhau i ymgysylltu â’r ymgeisydd. Dylai’r ymgeisydd a’r awdurdod lleol geisio dod i gytundeb ar gynifer o faterion â phosibl cyn i’r archwiliad ddechrau. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau ynglŷn ag unrhyw PADSS, SoCG a gofynion a rhwymedigaethau DCO. 

Dylai’r awdurdod lleol barhau i drefnu unrhyw gymorth angenrheidiol ar gyfer y cam archwilio, a sicrhau bod y dirprwyaethau priodol ar waith. Dylai’r awdurdod lleol gwblhau unrhyw drefniadau cydweithio yn derfynol gydag awdurdodau lleol eraill. 

Dylai’r awdurdod lleol ddechrau paratoi ei LIR. Bydd paratoi’r ddogfen dechnegol bwysig hon yn gynnar yn helpu i sicrhau ei bod yn cynnwys asesiad cynhwysfawr, wedi’i seilio ar dystiolaeth o effeithiau lleol y prosiect. Gweler yr adran ar yr adroddiad ar yr effaith leol (LIR) yn y nodyn cyngor hwn i gael manylion pwysig ynglŷn â chynnwys yr LIR a phryd y dylid ei gyflwyno. 

Fe allai awdurdodau lleol cynhaliol a chyfagos hefyd ddymuno ystyried paratoi sylw ysgrifenedig. Ni ddylai hwn ailadrodd yr hyn a gynhwyswyd mewn cyflwyniadau eraill, fel y sylw perthnasol neu’r LIR. Fe allai awdurdodau lleol benderfynu peidio ag anfon sylw ysgrifenedig. Fodd bynnag, mae’r sylw ysgrifenedig yn gyfle i roi mwy o fanylion am dystiolaeth nad oeddent ar gael yn flaenorol, o bosibl, neu i ymhelaethu ar unrhyw faterion a godwyd eisoes. 

Sylwadau perthnasol 

Dylai awdurdodau lleol gyflwyno sylw perthnasol llawn a manwl ar rinweddau cynllunio’r datblygiad arfaethedig. Dylent amlinellu pa rannau o’r cais maen nhw’n eu cefnogi neu beidio, a beth yw’r materion a’r effeithiau, yn eu barn nhw. Gweler paragraffau 003 i 008 yng nghanllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio i gael gwybodaeth am bwysigrwydd sylwadau perthnasol, y newidiadau i’r diffiniad o sylw perthnasol i gefnogi diwygiadau’r llywodraeth o’r broses NSIP a chynnwys sylwadau perthnasol. 

Dylai awdurdodau lleol ddechrau llunio eu sylw perthnasol yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Gweler Dirprwyaethau ac adnoddau. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried y rhain pan fydd yn gwneud ei asesiad cychwynnol o’r prif faterion sy’n codi o’r cais (IAPI). Gweler paragraff 013 yng nghanllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio i gael rhagor o wybodaeth am yr IAPI. 

Dylai’r sylw perthnasol gynnwys manylion ynglŷn â’r hyn y mae’r awdurdod lleol wedi’i gytuno gyda’r ymgeisydd a pha feysydd anghytundeb sy’n parhau. Fe all groesgyfeirio i’r PADSS, fel y bo angen. Fe ddylai gynnwys manylion unrhyw fesurau lliniaru sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol. Dylai’r sylw perthnasol gael ei ategu gan unrhyw dystiolaeth a dogfennau perthnasol, er enghraifft y data a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd. 

Os oes gan yr awdurdod lleol fuddiannau tir y gallai pwerau caffael gorfodol arfaethedig yr ymgeisydd effeithio arnynt, fe ddylai gynnwys unrhyw wrthwynebiadau i hyn neu sylwadau ynglŷn â hyn yn ei sylw perthnasol. 

Dylai’r awdurdod lleol ddarllen nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau. 

Er bod awdurdodau lleol cynhaliol yn bartïon â buddiant yn awtomatig, dylent gofrestru o hyd i leisio’u barn a chyflwyno sylw perthnasol. 

Er bod awdurdodau lleol cyfagos yn gallu rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio eu bod eisiau bod yn barti â buddiant yn ystod camau cynnar yr archwiliad, bydd yr archwiliad yn fwy effeithlon a bydd ffocws mwy pendant iddo os gall yr Awdurdod Archwilio ystyried y materion a godwyd mewn sylwadau perthnasol yn ystod y cam cyn-archwilio. 

Y cyfarfod rhagarweiniol 

Ar ôl i’r Awdurdod Archwilio wneud ei IAPI, bydd yn paratoi amserlen ddrafft ar gyfer yr archwiliad. Yna, bydd yn gwneud trefniadau ar gyfer cyfarfod rhagarweiniol i drafod sut dylai’r cais gael ei archwilio. Cyfarfod gweithdrefnol yw hwn ac ni fydd rhinweddau’r prosiect yn cael eu trafod. 

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi gwybod i’r holl bartïon â buddiant am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod rhagarweiniol. Adwaenir hyn fel yr hysbysiad Rheol 6, a bydd yn cynnwys: 

  • amserlen ddrafft yr archwiliad 
  • yr agenda ar gyfer y cyfarfod rhagarweiniol 
  • unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol eraill y gallai’r Awdurdod Archwilio fod wedi’u gwneud  

Fe allai’r hysbysiad Rheol 6 gynnwys yr IAPI, hefyd. 

Efallai bydd yr Awdurdod Archwilio’n gwahodd pobl a sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, i ddarparu sylwadau ysgrifenedig cyn y cyfarfod rhagarweiniol ynglŷn â sut dylai’r cais gael ei archwilio, ac fe allai’r rhain ffurfio’r sail i rai o’r trafodaethau yn y cyfarfod rhagarweiniol. 

Darperir rhagor o wybodaeth am y cyfarfod rhagarweiniol, gan gynnwys sut i gofrestru presenoldeb gyda’r Arolygiaeth Gynllunio a beth i’w ddisgwyl yn y digwyddiad, yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd

Dylai’r awdurdod lleol gofrestru i fynychu’r cyfarfod rhagarweiniol fel y gall ymateb i unrhyw faterion y gallai’r Awdurdod Archwilio ddymuno eu codi gydag ef. Fe allai hyn gynnwys materion a godwyd gan yr ymgeisydd a phartïon eraill â buddiant. Fe ddylai ystyried pwy fydd yn siarad ar ran yr awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod holl aelodau perthnasol ei dîm ar gael. 

Amserlen ddrafft yr archwiliad 

Dylai awdurdodau lleol roi ystyriaeth ofalus i amserlen ddrafft yr archwiliad. Os bydd yn cyflwyno anawsterau, dylai’r awdurdod lleol roi gwybod i’r Awdurdod Archwilio am y rhain. Gweler Dirprwyaethau ac adnoddau. Dylai’r awdurdod lleol ystyried: 

  • ei adnoddau staff a’u hargaeledd i fynychu gwrandawiadau ac unrhyw archwiliad safle gyda chwmni 
  • pa ddyddiadau cau y bydd angen darparu adnoddau dwysach ar eu cyfer, er enghraifft y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r LIR 
  • a oes unrhyw etholiadau lleol y bydd angen i’r Awdurdod Archwilio fod yn ymwybodol ohonynt? Beth fydd effaith y cyfnod cyn-etholiad? 
  • a oes unrhyw ddigwyddiadau lleol mawr a allai effeithio ar yr amserlen? 

Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol nodi, yn ystod archwiliad 6 mis (neu archwiliad 4 mis ar gyfer ceisiadau Gweithdrefn Garlam), bod yr amserlen yn debygol o gynnwys dyddiadau cau a digwyddiadau yn ystod cyfnodau gwyliau’r ysgol. 

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried yr holl faterion a godwyd ac yn cyhoeddi amserlen archwiliad derfynol yn fuan ar ôl i’r cyfarfod rhagarweiniol orffen. Mae’n bosibl y bydd amserlen yr archwiliad yn cael ei diwygio yn ystod y cam archwilio i gynnwys dyddiadau cau a dyddiadau digwyddiadau newydd. Felly, dylai awdurdodau lleol roi cynlluniau wrth gefn ar waith o ran adnoddau staff, er enghraifft i gyflenwi yn ystod absenoldeb staff. 

Dylai’r awdurdod lleol ymateb i unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol eraill a gynhwyswyd yn yr hysbysiad Rheol 6. Er enghraifft, dylai gofrestru ei bresenoldeb mewn unrhyw wrandawiad cynnar a darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gallai’r Awdurdod Archwilio fod wedi gofyn amdani. 

Y cam archwilio 

Proses ysgrifenedig yw’r archwiliad, gan mwyaf (gweler adran 90 y Ddeddf Cynllunio). Bydd partïon â buddiant yn gallu lleisio’u barn mewn gwrandawiadau, ond bydd hyn er mwyn ychwanegu at y sylwadau a wnaed eisoes yn ysgrifenedig, yn gyffredinol. 

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi gwybod i’r holl bartïon â buddiant am amserlen yr archwiliad yn fuan ar ôl i’r cyfarfod rhagarweiniol orffen. Adwaenir hyn fel yr hysbysiad Rheol 8. Dylai’r awdurdod lleol fod yn barod i: 

  • gyflwyno ei LIR yn gynnar yn ystod yr archwiliad 
  • cyflwyno ei sylw ysgrifenedig (os oes angen) 
  • ateb cwestiynau ysgrifenedig neu geisiadau am wybodaeth ychwanegol yr Awdurdod Archwilio 
  • gwneud sylwadau ar DCO drafft yr ymgeisydd 
  • gwneud sylwadau ar sylwadau neu gyflwyniadau a wnaed gan bartïon eraill, gan gynnwys yr ymgeisydd 
  • mynychu gwrandawiadau, yn enwedig pan fydd yr Awdurdod Archwilio wedi gofyn iddo fod yn bresennol 
  • mynychu unrhyw archwiliadau safle gyda chwmni 
  • cytuno ar SoCG, os yw’n briodol 
  • llofnodi rhwymedigaethau DCO, os yw’n briodol 

Yr adroddiad ar yr effaith leol (LIR) 

Yn ystod y cam archwilio, gwahoddir awdurdodau lleol cynhaliol a chyfagos i gyflwyno LIR. Os yw’n briodol, fe allai awdurdodau lleol ystyried cyflwyno LIR ar y cyd i amlinellu asesiad a safbwyntiau’r holl gynghorau sy’n cymryd rhan. Fe allai LIR ar y cyd ddefnyddio ymagwedd strategol at faterion dros ffiniau gwahanol gynghorau ar gyfer cynlluniau llinellol ac fe allai leihau dyblygu. Dylai LIR ar y cyd wahaniaethu’n glir rhwng effeithiau a rennir ac effeithiau sy’n benodol i safle neu sy’n berthnasol i un awdurdod lleol yn unig. 

Dylai’r adroddiad roi manylion ynglŷn ag effaith debygol prosiect ar ardal yr awdurdod lleol. Mae adrannau 104(2)(b) a 105(2)(a) y Ddeddf Cynllunio yn esbonio bod rhaid i’r Awdurdod Archwilio a’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried unrhyw LIR a gyflwynwyd wrth benderfynu ar y cais. Felly, ni ddylai awdurdodau lleol fychanu pwysigrwydd yr adroddiad. 

Dylai’r adroddiad ymdrin ag unrhyw bwnc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol i effaith y prosiect ar ei ardal a’r cymunedau lleol yr effeithir arnynt. Gweler cynnwys yr adroddiad ar yr effaith leol

Diben yr LIR yw gwneud yr Awdurdod Archwilio’n ymwybodol o effeithiau posibl y prosiect yn seiliedig ar wybodaeth leol. Asesiad technegol ydyw wedi’i seilio ar dystiolaeth o’r holl effeithiau. Felly, ni ddylai’r awdurdod lleol amlinellu ei wrthwynebiadau neu ei gefnogaeth i’r cais yn yr LIR (gweler sylwadau perthnasol). 

Dylai awdurdodau lleol ddechrau gwerthuso effeithiau lleol y prosiect yn gynnar yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Gellir defnyddio hyn i lywio ymatebion yr awdurdod lleol i ymgynghoriad yr ymgeisydd. Dylai’r awdurdod lleol ddechrau datblygu’r LIR cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ymgeisydd gysylltu ag ef ynglŷn â’r cynllun arfaethedig yn ystod y cam cyn-ymgeisio. 

Cynnwys yr adroddiad ar yr effaith leol 

Mater i’r awdurdod lleol yw cynnwys yr LIR. Bydd cyflwyno LIR sy’n amlinellu ac yn gwerthuso’r effeithiau’n glir mewn modd strwythuredig o gymorth i’r Awdurdod Archwilio. Dylai’r awdurdod lleol osgoi dyblygu tystiolaeth sydd eisoes wedi cael ei chyflwyno i’r Awdurdod Archwilio. Gall yr LIR groesgyfeirio i unrhyw SoCG cytunedig neu ddrafft gyda’r ymgeisydd ac unrhyw rwymedigaethau DCO llofnodedig neu ddrafft. 

Mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol wedi derbyn sylwadau ynglŷn ag effaith y prosiect gan gynghorau tref, plwyf neu gymuned, sefydliadau, neu aelodau’r cyhoedd yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Fe allai’r LIR gynnwys cyfeiriadau at y sylwadau hyn. Fodd bynnag, dylid gwneud hyn dim ond lle maen nhw’n berthnasol i effeithiau y mae’r awdurdod lleol eisiau eu hamlygu. Dylai awdurdodau lleol annog y rhai hynny sydd wedi cyflwyno’r sylwadau i gyflwyno sylw perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio a chofrestru fel parti â buddiant fel y gall yr Awdurdod Archwilio ystyried eu sylwadau. 

Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol gynnal ei ymgynghoriad ei hun ynglŷn â’r LIR. Nid oes angen i’r LIR gael ei ysgrifennu ar ffurf adroddiad pwyllgor. 

Fe allai NPSau fod yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol wrth baratoi eu LIR fel canllaw i faterion ac iddynt effaith leol sy’n debygol o fod yn berthnasol i benderfynu ar gais. Nid oes angen i’r LIR ddyblygu unrhyw asesiad o’r safle sydd eisoes wedi’i gynhyrchu, fel y safleoedd hynny sydd wedi’u cynnwys mewn unrhyw NPS. Fodd bynnag, pan fydd NPS yn benodol i leoliad, fe allai’r LIR asesu effeithiau lleol nad ydynt wedi’u cyfleu yn y broses NPS. 

Dylai’r LIR gynnwys datganiad ynghylch effeithiau lleol cadarnhaol, niwtral a negyddol. Fodd bynnag, nid oes angen iddo gynnwys ymarfer cydbwyso rhwng y cadarnhaol a’r negyddol. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynnal ymarfer cydbwyso o’r effeithiau perthnasol, gan gynnwys effeithiau lleol a adroddwyd yn benodol yn yr LIR. 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n annog awdurdodau lleol i ystyried cynnwys y canlynol. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol nac yn rhagnodol: 

Pynciau: Sylwadau:
Disgrifiad o leoliad y safle a’r amgylchoedd. Manylion am y prosiect. Fe all hyn fod yn gryno a chroesgyfeirio at ddisgrifiad yr ymgeisydd o’r prosiect, lle y bo’n berthnasol
Manylion am nodweddion yr ardal leol, fel nodweddion trefol a’r dirwedd a safleoedd cadwraeth natur Fe ddylai hyn gynnwys unrhyw safleoedd dynodedig. Nid oes angen i’r LIR ddyblygu’r AEA
Unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol i’r safle a’r ardal  
Patrymau a materion trafnidiaeth lleol  
Unrhyw dystiolaeth leol o lifogydd  
Lleoliadau derbynyddion sensitif ac effeithiau arnynt Fe ddylai hyn gynnwys esboniad o sut yr ystyriwyd yr effeithiau hynny
Manylion effaith y prosiect ar yr ardal leol, gan gynnwys materion cymdeithasol, amgylcheddol, trafnidiaeth / priffyrdd, treftadaeth ac economaidd a’u pwysigrwydd cymharol Fe ddylai hyn gynnwys unrhyw effeithiau sy’n ymwneud â chyflogaeth a gwasanaethau lleol
Unrhyw hanes cynllunio perthnasol a materion sy’n codi, gan gynnwys unrhyw gynigion datblygu perthnasol sy’n cael eu hystyried neu a ganiatawyd, ond nad ydynt wedi’u dechrau neu eu cwblhau Fe ddylai hyn gynnwys manylion unrhyw effeithiau cronnol tebygol
Arfarniad o gydymffurfedd y prosiect â’r holl bolisïau a chanllawiau cynllunio lleol perthnasol Nid oes angen cynnal asesiad o gydymffurfedd ag NPS. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gynnal gan yr Awdurdod Archwilio
Ystyried y DCO drafft, erthyglau a gofynion a’u heffaith ar ardal yr awdurdod lleol Dylai’r rhain gael eu hamlygu a’u crybwyll yn benodol. Pan fydd yr awdurdod lleol o’r farn bod angen erthyglau neu ofynion DCO newydd neu ddiwygiedig, dylai gynnwys geiriad arfaethedig.
Ystyried digonolrwydd y mesurau sydd wedi’u cynnwys yn nogfennau rheoli’r ymgeisydd, fel y Cynlluniau Rheoli Amgylcheddol  
Polisïau perthnasol y cynllun datblygu, dogfennau cynllunio atodol, briffiau datblygu neu uwchgynlluniau cymeradwy, ac arfarniad o’u perthynas â’r datblygiad arfaethedig a’u perthnasedd iddo  
Ystyried unrhyw rwymedigaethau DCO a’u heffaith ar ardal yr awdurdod lleol Fe ddylai hyn gynnwys tystiolaeth ynglŷn ag effeithiau a sut mae mesurau lliniaru’n briodol

Sylw Ysgrifenedig 

Fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cyflwyno sylw ysgrifenedig i egluro ei safbwyntiau ar y cais a gynhwyswyd yn ei sylw perthnasol. Dylai’r sylw ysgrifenedig gael ei ategu gan unrhyw ddata, methodoleg a thybiaethau. 

Os bydd yn penderfynu cyflwyno sylw ysgrifenedig, ni ddylai’r awdurdod lleol ddyblygu gwybodaeth a gyflwynwyd mewn man arall, yn yr LIR neu sylw perthnasol er enghraifft. Byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r sylw ysgrifenedig groesgyfeirio gwybodaeth yn y cais, yr LIR, y SoCG, y PADSS a chyflwyniadau eraill perthnasol. Dylai’r sylw ysgrifenedig fod yn gryno ac osgoi ailadrodd. 

Os bydd safbwyntiau’r awdurdod lleol ar y cais yn newid, er enghraifft os bydd newid i’r safbwynt polisi neu arweinyddiaeth wleidyddol, dyma’r cyfle i ddarparu sylwadau ychwanegol. 

Pan fydd trafodaethau ynglŷn â chynnig i gaffael unrhyw fuddiannau tir yn orfodol wedi symud ymlaen, dylid rhoi diweddariad yn y sylw ysgrifenedig. Bydd cyfle i roi sylwadau ychwanegol mewn gwrandawiadau hefyd. 

Cwestiynau ysgrifenedig neu geisiadau am wybodaeth yr Awdurdod Archwilio 

Yn ystod y cam archwilio, fe allai’r Awdurdod Archwilio ofyn cwestiynau’n ysgrifenedig neu ofyn am wybodaeth gan yr awdurdod lleol. Gall y cwestiynau hyn ymwneud ag unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys yng ngwybodaeth y cais neu gyflwyniadau eraill, fel sylwadau perthnasol. 

Fe allai’r Awdurdod Archwilio gyhoeddi set o gwestiynau ysgrifenedig gyda’r hysbysiad Rheol 8. Fel arall, bydd amserlen yr archwiliad yn cynnwys dyddiad pan fydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Fe allai’r Awdurdod Archwilio hefyd gyhoeddi rhestr o gwestiynau ysgrifenedig drafft gyda’r hysbysiad Rheol 6 er mwyn rhoi cyfle i’r holl bartïon ddechrau paratoi eu hymatebion. Mae’n bosibl na fydd y rhestr ddrafft o gwestiynau yn cynnwys yr holl gwestiynau a fydd yn y fersiwn derfynol ac fe allai rhai cwestiynau gael eu newid neu eu diweddaru. Bydd y fersiwn derfynol yn disodli’r rhestr ddrafft yn barhaol, a dylai’r awdurdod lleol ymateb i fersiwn derfynol y cwestiynau yn unig. 

Fe allai mwy nag un set o gwestiynau gael ei chyhoeddi a bydd amserlen yr archwiliad yn cynnwys dyddiadau ar gyfer y rhain. Bydd amserlen yr archwiliad hefyd yn cynnwys dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r cwestiynau ysgrifenedig ac ar gyfer sylwadau ar yr atebion a roddwyd gan bartïon eraill â buddiant. 

Dylai’r awdurdod lleol ystyried unrhyw gwestiwn a gyfeiriwyd ato a rhoi ateb mor llawn â phosibl. Dylai hefyd adolygu’r cwestiynau eraill a gyfeiriwyd at yr ymgeisydd a phartïon eraill â buddiant. Dylai ystyried a all roi gwybodaeth ddefnyddiol i’r Awdurdod Archwilio wrth ateb cwestiwn a gyfeiriwyd at barti arall. Fel arall, fe allai’r awdurdod lleol ddewis gwneud sylwadau ar yr atebion a roddwyd gan yr ymgeisydd neu barti arall â buddiant ar yr adeg briodol. 

Wrth ateb cwestiwn, dylai’r awdurdod lleol ei amlygu’n glir trwy ddyfynnu rhif cyfeirnod y cwestiwn. Gall tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio ddarparu copi MS Word o’r cwestiynau i’r awdurdod lleol ar gais. 

Y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) drafft 

Bydd yr Awdurdod Lleol yn archwilio’r DCO drafft yn ofalus i fodloni ei hun bod y prosiect yn cael ei reoli a’i liniaru’n ddigonol yn ystod y camau adeiladu a gweithredu. Bydd angen i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod ei gyfrifoldebau ar gyfer gorfodi a rhyddhau’r gofynion yn y DCO drafft wedi’u hamlinellu’n glir. Gweler y Gorchymyn Caniatâd Datblygu am ragor o wybodaeth. 

Gwrandawiadau 

Mae 3 math o wrandawiad a allai gael ei gynnal yn ystod y cam archwilio. Darperir rhagor o wybodaeth am wrandawiadau yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys: 

  • y mathau o wrandawiadau 

  • cofrestru i siarad mewn gwrandawiad 

  • beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad 

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi gwybod i’r holl bartïon â buddiant am ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiadau. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys dyddiad cau ar gyfer cofrestru i siarad yn y gwrandawiad. Bydd yr hysbysiad hwn hefyd yn cynnwys agenda lefel uchel ar gyfer gwrandawiadau mater penodol a chaffael gorfodol. 

Dylai’r awdurdod lleol ystyried yr agenda a’r pynciau sy’n debygol o gael eu trafod, gan gynnwys unrhyw faterion penodol i safle. Bydd agenda fanwl yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol oddeutu wythnos cyn y gwrandawiad. Fodd bynnag, fe allai’r awdurdod lleol ddymuno cofrestru i siarad yn y gwrandawiad ar sail dros dro oherwydd bydd y dyddiad cau ar gyfer cofrestru cyn yr adeg pan fydd yr agenda fanwl ar gael. Os yw’r awdurdod lleol wedi cofrestru dros dro i siarad mewn gwrandawiad, fe ddylai adolygu agenda fanwl yr Awdurdod Archwilio pan fydd ar gael a chadarnhau pob unigolyn a allai fod yn siarad gyda thîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn brydlon. 

Fe allai’r Awdurdod Archwilio ofyn i’r awdurdod lleol fynychu rhai gwrandawiadau. Gall yr awdurdod lleol fynychu ar-lein os oes angen ac fe’i hanogir i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiadau hynny. 

Gwrandawiadau Llawr Agored 

Mae’r rhain yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn rhoi cyfle i unigolion a chynrychiolwyr cymunedol roi eu barn i’r Awdurdod Archwilio. Felly, mae’n bosibl y bydd rôl awdurdodau lleol yn gyfyngedig. Fe allai’r gwrandawiadau hyn weddu i rôl cynghorwyr lleol fel cynrychiolwyr cymunedol. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt gadarnhau wrth yr Awdurdod Archwilio ym mha rinwedd maen nhw’n siarad – ar eu rhan eu hunain, yn cynrychioli eu ward neu ranbarth a’r bobl sy’n byw ynddi/ynddo, neu’r awdurdod lleol. 

Gwrandawiadau Mater Penodol 

Cynhelir y rhain dim ond os yw’r Awdurdod Archwilio’n ystyried bod angen sicrhau bod materion penodol yn cael eu harchwilio’n ddigonol. Gwrandawiadau holgar ydynt lle y bydd yr Awdurdod Archwilio’n gofyn cwestiynau i’r cyfranogwyr am bynciau penodol. Yn nodweddiadol, bydd gwrandawiad o’r math hwn yn dilyn y fformat canlynol: 

  1. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n gofyn i’r ymgeisydd ymateb i gwestiwn o dan eitem agenda 
  2. Yna, gwahoddir yr awdurdod lleol i gyflwyno ei safbwyntiau 
  3. Wedi hynny, gwahoddir partïon eraill statudol a phartïon eraill â buddiant i gyflwyno eu safbwyntiau 
  4. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi cyfle olaf i’r ymgeisydd ymateb i’r safbwyntiau a glywyd 

Dylai’r awdurdod lleol ystyried pa gymorth y gallai fod arno ei angen yn y gwrandawiadau hyn yn dibynnu ar natur y pynciau sydd i’w trafod. Er enghraifft, gan arbenigwyr amgylcheddol neu gymorth cyfreithiol. 

Gwrandawiadau Caffael Gorfodol 

Cynhelir y rhain os yw’r Awdurdod Archwilio’n ystyried bod angen gofyn cwestiynau i’r ymgeisydd am ei achos dros ofyn am gaffael tir a hawliau’n orfodol a’u meddiannu dros dro yn ei gais. Cânt eu cynnal hefyd os bydd un neu fwy o unigolion yr effeithir arnynt wedi gofyn am gael siarad am gaffael yn orfodol tir y mae ganddynt fuddiant ynddo. Mae’r awdurdod lleol yn unigolyn yr effeithir arno os yw’n berchen ar dir y gallai’r prosiect effeithio arno neu os oes ganddo fuddiant yn y tir hwnnw. 

Dylai’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn deall graddfa a natur y caffael gorfodol a/neu’r meddiant dros dro ar dir a hawliau y gofynnir amdano. Dylai adolygu Llyfr Cyfeirio’r ymgeisydd i amlygu lleiniau perthnasol. Dylai ystyried sut gallai’r rhain ryngweithio ac, o bosibl, effeithio ar ei safbwyntiau ehangach ynglŷn ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r cais. 

Dylai’r awdurdod lleol ystyried pa gymorth y gallai fod arno ei angen yn y gwrandawiadau hyn, er enghraifft gan ei dîm gwasanaethau corfforaethol neu gymorth cyfreithiol. 

Archwiliadau Safle gyda Chwmni 

Cynhelir y rhain pan fydd angen i’r Awdurdod Lleol fynd ar dir preifat i weld safle’r cais a’i amgylchoedd. Cânt eu cynnal hefyd os yw’r Awdurdod Archwilio o’r farn bod angen i bartïon â buddiant ei dywys neu amlygu nodweddion penodol o’r safle neu’r amgylchoedd. Byddai’n ddefnyddiol pe gallai cynrychiolydd o’r awdurdod lleol fynychu er mwyn bod ar gael i amlygu lleoliadau a nodweddion penodol. Trwy wneud hynny, bydd yn gwybod beth a welwyd, hefyd. 

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n esbonio nad yw’r archwiliad safle gyda chwmni yn gyfle i drafod rhinweddau’r cais. 

Bydd yr ymgeisydd yn paratoi amserlen ddrafft ar gyfer yr archwiliad safle gyda chwmni. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cyfle i bartïon â buddiant wneud sylwadau ar y drafft. Bydd gan yr awdurdod lleol wybodaeth leol y gall ei defnyddio i adolygu’r drafft a chynghori’r Awdurdod Archwilio ynghylch unrhyw anawsterau posibl. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu ar yr amserlen derfynol a chaiff ei chyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Y camau Argymhelliad a Phenderfyniad 

Ni fydd yr awdurdod lleol yn ymwneud â’r camau hyn yn gyffredinol. Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn unrhyw gyflwyniadau ar ôl i’r archwiliad ddod i ben, bydd yn eu hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol ac ni fydd yr Awdurdod Archwilio’n eu gweld. Mae hyn yn golygu na fyddant yn cael eu hystyried yn adroddiad argymhelliad yr Awdurdod Archwilio. 

Fe allai’r Ysgrifennydd Gwladol wahodd partïon â buddiant i wneud sylwadau ar faterion penodol yn ystod y cam penderfyniad. Bydd angen i’r awdurdod lleol fod yn barod i ymateb i unrhyw ymgynghoriad a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. 

Bydd penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol a’r DCO (os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu rhoi caniatâd i’r prosiect) yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Dyma’r adeg hefyd pan fydd yr awdurdod lleol yn gallu gweld adroddiad argymhelliad yr Awdurdod Archwilio. 

Ar ôl penderfyniad 

Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi caniatâd i’r prosiect, mae’n debygol y bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am y canlynol: 

  • rhyddhau gofynion y DCO 
  • ymateb fel ymgynghorai ynglŷn â rhyddhau gofynion 
  • monitro’r gwaith fel sy’n ofynnol gan y DCO 
  • cynnal camau gorfodi, fel y bo angen – mae adrannau 160 i 173 y Ddeddf Cynllunio yn amlinellu pwerau’r awdurdod lleol i orfodi mewn perthynas ag achos o dorri telerau’r DCO  
  • storio a galluogi mynediad at unrhyw wybodaeth ardystiedig yn rhan o’r DCO 

Mae natur a graddfa NSIPau yn golygu efallai y bydd angen gwneud newidiadau i DCO naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl adeiladu. Ceir proses ymgeisio statudol i ymgeiswyr wneud newidiadau ansylweddol a sylweddol i DCO. Mae canllawiau’r llywodraeth ar Newidiadau i Orchmynion Caniatâd Datblygu yn rhoi gwybodaeth am y broses. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu ar y ceisiadau hyn. 

Mae’n bosibl yr ymgynghorir â’r awdurdod lleol ynglŷn â chais i newid y DCO. Fodd bynnag, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn defnyddio ymagwedd gymesur at ymgynghori a hysbysu ynglŷn â’r ceisiadau hyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation Update to last paragraph under 'Adequacy of consultation' subheading

  3. First published.

Print this page