Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar gyflwyno sylwadau
Bwriedir i’r cyngor hwn esbonio’r hyn y dylai ac na ddylai pobl a sefydliadau ei wneud pan fyddant yn lleisio’u barn am Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd, hefyd. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Canllawiau ar gyflwyno sylwadau
Dylech wneud y canlynol:
-
Darllen y canllawiau hyn cyn gwneud sylw
-
Cyflwyno sylw mewn da bryd. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich sylwadau’n cael eu cyflwyno cyn y dyddiad cau perthnasol
-
Bod yn onest ac yn bwyllog wrth wneud sylwadau, gan gofio y byddant ar gael yn gyhoeddus. Gweler Golygu – Gwybodaeth bwysig am gyflwyno sylwadau a dogfennau i’r Arolygiaeth Gynllunio
-
Sicrhau bod eich sylwadau’n esbonio eich safbwyntiau’n glir, gan eu trefnu’n rhesymegol a chadw at y pwynt. Mae’n ddefnyddiol defnyddio paragraffau wedi’u rhifo.
-
Esbonio’r rhesymau dros eich safbwyntiau’n glir ac osgoi ailadrodd yr un pwynt. Pan fydd angen, dylech gynnwys tystiolaeth ategol, fel:
a. darnau o ddogfennau. Gweler y wybodaeth am hyperddolenni yn y canllawiau ‘Peidiwch â gwneud y canlynol’ isod
b. mapiau, cynlluniau, lluniadau neu siartiau
c. ffotograffau o’r ardal leol neu dirnodau, ond cofiwch fod rhaid i’r rhain beidio ag adnabod unigolion, er enghraifft trwy ddangos wynebau neu rifau cofrestru cerbydau
Nodyn ynghylch sylwadau perthnasol
Fe ddylai eich sylw perthnasol gynnwys manylion llawn y materion rydych eisiau iddynt gael eu hystyried. Mae hyn yn golygu na ddylai ddweud yn syml ‘Rwy’n cefnogi’ neu ‘Rwy’n gwrthwynebu’ prosiect. Fe ddylai eich sylw perthnasol roi rhesymau manwl dros y safbwyntiau hynny, gan ddarparu tystiolaeth, fel y bo angen, a pheidio â rhoi amlinelliad yn unig o’r materion rydych eisiau eu codi.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch sylw perthnasol ar y ffurflen gofrestru. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol. Os bydd angen i chi gynnwys tystiolaeth ategol nad ydych yn gallu ei chynnwys ar y ffurflen sylwadau perthnasol, gellir ei hanfon drwy e-bost at y tîm achos gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost y prosiect perthnasol ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen gofrestru. Mae’n *rhaid i’r dystiolaeth ategol gael ei derbyn erbyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylw perthnasol. Bydd angen i chi gynnwys y canlynol yn eich neges e-bost fel y gellir atodi’ch tystiolaeth i’ch sylw perthnasol:
a. eich enw llawn
b. eich rhif cyfeirnod cofrestru
c. y dyddiad pryd y cyflwynoch eich ffurflen gofrestru
-
Gall eich sylwadau fod o blaid (cefnogi) neu yn erbyn (gwrthwynebu) prosiect, neu’n gymysgedd o’r ddau. Er enghraifft, efallai byddwch yn cefnogi dyluniad y prosiect ond yn gwrthwynebu’r lleoliad. Os oes gennych bryderon, dylai’r rhain ganolbwyntio ar fanteision a / neu anfanteision (rhinweddau) prosiect, fel:
a. sut bydd yn effeithio ar yr ardal amgylchynol
b. diogelwch ar y priffyrdd
c. dyluniad y prosiect (sut bydd yn edrych)
ch. p’un a fydd y prosiect yn effeithio ar fwynhad o’ch eiddo eich hun mewn unrhyw ffordd (fel yr ardd)
d. effeithiau posibl y prosiect ar eich bywyd beunyddiol. Gweler y manylion am wybodaeth bersonol a meddygol yn y canllawiau ‘Peidiwch â gwneud y canlynol’ isod.
-
Meddyliwch yn ofalus ynghylch anfon cyflwyniad fideo, gan gynnwys fideo drôn. Cyn anfon tystiolaeth fideo, mae’n rhaid i chi anfon profforma cyflwyno fideo wedi’i lenwi (Atodiad A i’r cyngor hwn) at dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn yr adeg pan ddymunwch anfon y fideo. Bydd y ffurflen yn cynnwys gwybodaeth am fformat a maint cyflwyniad fideo y gellir ei dderbyn. I fod yn dderbyniol, mae’n rhaid i gyflwyniad fideo:
a. fod yn hygyrch i bobl eraill
b. peidio â chynnwys gwybodaeth bersonol gan unrhyw un nad yw wedi rhoi caniatâd
c. peidio â bod yn gamarweiniol o ran delweddau a chynnwys sain
ch. peidio â chynnwys delweddau na sylwadau difenwol
d. peidio â gallu cael ei drin neu ei newid yn rhwydd ar ôl iddo gael ei gyflwyno
dd. bod yn angenrheidiol ac yn gymesur, a bod yn anaddas i’w ddarparu mewn unrhyw ffordd arall
e. bod mewn fformat MP4
-
Dylech ddeall goblygiadau Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu (GDPR) mewn perthynas â sut bydd eich data a’ch sylwadau’n cael eu defnyddio. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Arolygiaeth Gynllunio
-
Os byddwch yn cyfeirio at sylwadau penodol, dogfennau penodol neu dystiolaeth benodol mewn sylw ysgrifenedig yn ystod y cam cyn-archwilio neu archwilio, dyfynnwch rif cyfeirnod llyfrgell yr archwiliad
Peidiwch â gwneud y canlynol:
-
Cynnwys unrhyw enwau personol (defnyddiwch eiriau fel ‘aelod o’r teulu’ neu ‘gymydog’ yn lle hynny), nac unrhyw wybodaeth ariannol bersonol, fel copïau o gyfriflenni banc
-
Cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, fel “Rwy’n byw ar fy mhen fy hun” neu “Byddaf ar wyliau ym mis Gorffennaf”
-
Cynnwys unrhyw lofnodion
-
Cynnwys unrhyw wybodaeth am ddata meddygol sy’n ymwneud â chi eich hun neu bobl eraill. Defnyddiwch dermau mwy cyffredinol fel “Fe allai’r prosiect effeithio ar bobl sydd â [cyflwr meddygol – corfforol neu feddyliol]” ac nid, er enghraifft “Mae gennyf epilepsi ac rwy’n dioddef o orbryder” neu “Bydd hyn yn effeithio ar asthma fy mhlentyn”. Peidiwch â chynnwys manylion am ffordd o fyw sy’n datgelu agwedd ar iechyd, fel “Angen gofalwr” neu “Rhaid iddo gymryd meddyginiaeth”
-
Cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n ddifenwol (yn athrodus neu’n enllibus) ynglŷn ag unrhyw unigolyn neu sy’n fygythiol, yn sarhaus, yn ddifrïol, yn atgas neu’n ymfflamychol, nac unrhyw ddeunydd sy’n tresmasu ar breifatrwydd unigolyn arall
-
Cynnwys unrhyw ddeunydd a fyddai’n adnabod unigolion agored i niwed, gan gynnwys plant neu oedolion ifanc, fel enwau ysgolion neu golegau maen nhw’n mynd iddynt neu ffotograffau. Gallwch gyfeirio at ysgolion neu golegau yn yr ardal leol yn gyffredinol
-
Cynnwys hyperddolenni i wefannau. Bydd y rhain yn cael eu dadactifadu cyn eu cyhoeddi, felly ni fyddant yn cael eu gweld gan yr Awdurdod Archwilio. Gallwch gynnwys hyperddolenni i ddogfennau ar ein gwefan ni, gwefannau eraill y llywodraeth sydd â chyfeiriad gov.uk neu wefannau proffesiynol cyfyngedig eraill, fel y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI). Mae’n rhaid i chi esbonio pam y cawsant eu cynnwys yn eich sylw a’r dyddiad y cawsant eu cyrchu.
Os ydych eisiau cynnwys gwybodaeth o wefan arall, gallwch ei chynnwys fel dogfen ar wahân (atodiad) gyda chopi o’r wybodaeth, ond mae’n rhaid i chi gynnwys manylion sy’n nodi o ble y daeth y wybodaeth a’r dyddiad y gwnaethoch ei chyrchu. Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau hawlfraint. Mae’n well cynnwys yr adran berthnasol o’r wybodaeth yn unig (darn ohoni) yn eich sylw yn hytrach na chynnwys dogfen hir. Dylech esbonio’n glir y rhesymau pam mae’r wybodaeth yn berthnasol
-
Hyrwyddo gwahaniaethu yn seiliedig ar hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran, neu unrhyw weithgarwch anghyfreithlon neu drais
-
Gwneud sylw sy’n torri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy’n ddyledus i drydydd parti, fel dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd ymddiriedaeth, neu dorri unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata neu nod masnach unrhyw unigolyn
-
Gwneud sylw sy’n datgelu union leoliad rhywogaeth a warchodir, fel moch daear, ystlumod, neu safleoedd nythu adar
-
Gwneud sylw sy’n debygol o dwyllo unrhyw unigolyn neu gael ei ddefnyddio i esgus bod yn unrhyw un, neu gamgyfleu pwy ydych neu’ch cysylltiad ag unrhyw unigolyn neu sefydliad
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n darllen ac ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir. Fodd bynnag, gall cyflwyniadau niferus union debyg fod yn ddi-fudd ac effeithio ar effeithlonrwydd y broses NSIP. Mae’n ddefnyddiol os gall grwpiau o unigolion â safbwyntiau tebyg ffurfio grŵp a gwneud un cyflwyniad ar ran pawb yn y grŵp hwnnw. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.
Os bydd unrhyw un yn ansicr ynghylch p’un a yw sylw penodol yn dderbyniol, fe all gysylltu â’r tîm achos yn yr Arolygiaeth Gynllunio am gyngor.
Golygu – Gwybodaeth bwysig am gyflwyno sylwadau a dogfennau i’r Arolygiaeth Gynllunio
Bydd sylwadau a anfonwyd at yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ôl i gais NSIP gael ei dderbyn, yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Bydd enw’r unigolyn neu’r sefydliad a wnaeth y sylw yn cael ei gyhoeddi, ond, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, bydd y wybodaeth ganlynol yn cael ei dileu:
- llofnodion
- cyfeiriadau
- rhifau ffôn
- cyfeiriadau e-bost
- dolenni cyfryngau cymdeithasol
- wynebau a rhifau cofrestru cerbydau o ffotograffau
Ni chaiff yr Arolygiaeth Gynllunio ddileu manylion masnachol na busnes.
Mae’r holl sylwadau’n cael eu gwirio ac fe allai’r fersiwn sy’n ymddangos ar y wefan gael ei golygu (i ddileu cynnwys sensitif neu amhriodol trwy amnewid y cynnwys â [wedi’i olygu] neu ei liwio’n ddu) i sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth diogelu data ac at ddibenion diogelu. Caiff cynnwys ei olygu heb hysbysu awdur y sylw.
Bydd copi o’r sylw gwreiddiol, heb ei olygu, yn cael ei gadw mewn ffeil bob amser ar gyfer yr Awdurdod Archwilio. Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried bod y rhan o’r sylw sydd wedi’i golygu yn bwysig ac yn berthnasol, efallai y gofynnir i’r anfonwr ailanfon y sylw mewn modd y gellir ei gyhoeddi ar y wefan, yn llawn, fel bod pobl eraill yn gallu ei ddarllen a gwneud sylwadau arno. Mae hyn er mwyn tegwch a bod yn agored.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pa wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi ar y wefan a sut mae’n trin data personol.
Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fformatau ffeiliau a meintiau dogfennau y gellir eu hanfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Tynnu sylw yn ôl
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno tynnu’n ôl sylw sydd eisoes wedi’i wneud anfon neges e-bost at dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio gan ddatgan yn glir pa sylw sydd i’w dynnu’n ôl, neu ba ran o sylw sydd i’w thynnu’n ôl. Mae’n ddefnyddiol dyfynnu rhif cyfeirnod llyfrgell yr archwiliad.
Bydd y cais i dynnu sylw yn ôl yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol ochr yn ochr â’r sylw gwreiddiol a fydd yn aros wedi’i gyhoeddi ar gyfer cofnod cyhoeddus.
Llyfrgell yr archwiliad
Bydd gan bob Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol lyfrgell o’r holl sylwadau, dogfennau a thystiolaeth sydd wedi cael eu cyflwyno a’u cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol (https://national-infrastructure-consenting.planninginspectorate.gov.uk/). Fe’i gelwir yn ‘Llyfrgell yr archwiliad’ a chaiff ei diweddaru’n rheolaidd ar ôl i gais gael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Mae’r llyfrgell yn rhestr o’r holl ddogfennau unigol, gan gynnwys sylwadau, cynlluniau, a datganiadau. Rhoddir rhif cyfeirnod unigol i bob eitem yn y rhestr. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall ceisiadau gynnwys cannoedd o sylwadau, dogfennau a darnau tystiolaeth unigol. Dylai pobl a sefydliadau ddyfynnu unrhyw rifau cyfeirnod perthnasol o lyfrgell yr archwiliad yn eu sylwadau fel bod pawb yn deall pa ddogfennau y mae’r sylw’n cyfeirio atynt.
Diweddariadau e-bost
Mae’r wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol yn rhoi gwybodaeth am y broses NSIP a’r prosiectau datblygu unigol. Mae gan bob prosiect ei dudalen wybodaeth ei hun lle y gall unrhyw un gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ‘Cael diweddariadau’. Bydd diweddariadau e-bost yn cael eu hanfon ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio yn unig. Nid yw cofrestru i gael diweddariadau yn golygu eich bod wedi cofrestru i leisio’ch barn ac nid yw’n golygu eich bod yn barti â buddiant.