Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar Hysbysu ac Ymgynghori ynglŷn ag AEA

Mae’r cyngor hwn yn crynhoi’r broses o hysbysu ac ymgynghori â chyrff rhagnodedig ynglŷn â chwmpas Datganiadau Amgylcheddol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.

Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd â nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol a chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.

Cyd-destun y cyngor

Mae’r cyngor hwn yn esbonio ymagwedd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, at hysbysu ac ymgynghori â’r cyrff ymgynghori rhagnodedig ynglŷn â chwmpas Datganiadau Amgylcheddol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau), fel sy’n ofynnol gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)) 2017 (y Rheoliadau AEA).

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gynnal eu hymchwiliadau eu hunain a chael cyngor cyfreithiol, fel y bo’n briodol, i sicrhau eu bod yn bodloni’r rhwymedigaethau ar gyfer eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 ac offerynnau statudol cysylltiedig. Fodd bynnag, fe allai fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr ddeall yr ymagwedd a ddefnyddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio a amlinellir yn y cyngor hwn.

Ategir y cyngor hwn gan ddau atodiad sy’n cynnwys ymagwedd fanwl yr Arolygiaeth Gynllunio at hysbysu ac ymgynghori. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at yr atodiad sy’n berthnasol i’w prosiect. Gweler yr adran ‘Diwygiadau i’r Rheoliadau CFfGR ac amlygu’r cyrff ymgynghori cywir ar gyfer eich prosiect’ isod i amlygu’r atodiad cywir y dylid ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad arfaethedig perthnasol.

Pwy y dylid ymgynghori â nhw?

Mae pobl a sefydliadau penodol y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio eu hysbysu ac ymgynghori â nhw ynglŷn â datblygiad AEA arfaethedig naill ai:

  • ym mhob achos
  • yn dibynnu ar eu perthnasedd i’r datblygiad (y ‘prawf perthnasedd’)
  • a/neu drwy benderfynu p’un a yw amgylchiadau penodol yn berthnasol (y ‘prawf amgylchiadau’)

Adwaenir y bobl a’r sefydliadau hyn fel y ‘cyrff ymgynghori rhagnodedig’ a ‘chyrff Rheoliad 11(1)(c)’. Diffinnir y cyrff ymgynghori rhagnodedig gan ddeddfwriaeth.

Ceir hefyd gyrff nad ydynt wedi’u diffinio mewn deddfwriaeth y caiff yr Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â nhw’n ddewisol hefyd. Gelwir y rhain yn ‘gyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig’. Rhoddir rhagor o fanylion am y cyrff hyn isod.

Cyrff ymgynghori rhagnodedig

Diffinnir y cyrff hyn o dan Reoliad 3(1) y Rheoliadau AEA fel:

  • y rhai hynny a ragnodir o dan adran 42(1)(a) Deddf Cynllunio 2008 ac a restrir yng ngholofn 1 Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) (CFfGR) 2009 (“y Rheoliadau CFfGR”) sy’n bodloni’r meini prawf yng ngholofn 2
  • awdurdodau yn adran 43 Deddf Cynllunio 2008 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel awdurdodau lleol adran 43)
  • Awdurdod Llundain Fwyaf, os yw’r datblygiad o fewn neu’n ymwneud â thir yn Llundain Fwyaf

Cyrff Rheoliad 11(1)(c)

Mae Rheoliad 11(1)(c) y Rheoliadau AEA yn diffinio’r rhain fel “unigolion y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt neu y mae’n debygol o effeithio arnynt neu sydd â buddiant yn y datblygiad arfaethedig, sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r datblygiad arfaethedig trwy’r mesurau a gymerir wrth gydymffurfio â Rhan 5 y Ddeddf Cynllunio”.

Mae’r mesurau o dan Ran 5 y Ddeddf Cynllunio yn cynnwys, er enghraifft, y gofyniad i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio â chymunedau lleol, awdurdodau lleol, cyrff ymgynghori statudol, a’r rhai hynny y byddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt yn uniongyrchol. Mae angen i ymgeiswyr ddilyn y gofynion o dan y Rheoliadau AEA ar gyfer hysbysu ac ymgynghori ag unigolion Rheoliad 11(1)(c), fel y disgrifir er enghraifft yn Rheoliadau 13, 16, 19, 20, 22 a 24.

Cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig

Nid yw’r cyrff hyn wedi’u diffinio fel cyrff ymgynghori o dan y Rheoliadau AEA. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn barnu p’un a ddylid ymgynghori â nhw yn seiliedig ar a oes ganddynt swyddogaethau perthnasol a chyfrifoldeb sy’n debyg i gyrff ymgynghori a amlygwyd o dan y Rheoliadau AEA.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu nifer o gyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig, a gellir ymgynghori â nhw pan ystyrir bod hynny’n briodol. Rhoddir esboniad pellach ynglŷn â’r sefyllfaoedd pryd y gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r cyrff hyn yn Atodiad 1 (ODT, 61.7 KB) ac Atodiad 2 (ODT, 68.8 KB) i’r dudalen gyngor hon.

Hysbysu ac ymgynghori â’r cyrff ymgynghori rhagnodedig gan yr Arolygiaeth Gynllunio

O dan Reoliad 8 y Rheoliadau AEA, mae’n ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer datblygiadau arfaethedig naill ai hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio yn ysgrifenedig eu bod yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig (‘hysbysiad rheoliad 8’) neu ofyn am farn sgrinio gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Mae hyn yn ofynnol cyn y gall ymgeiswyr ddechrau eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol o dan adran 42 Deddf Cynllunio 2008. Esbonnir gwybodaeth am wneud hysbysiad Rheoliad 8 a’r broses sgrinio yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Rhoddir gwybodaeth am ymgynghoriad cyn-ymgeisio o dan adran 42 yn y nodyn Cyngor ar Lunio’r Adroddiad Ymgynghori.

Pan fydd hysbysiad Rheoliad 8 dilys wedi cael ei dderbyn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n rhoi gwybod i’r cyrff ymgynghori rhagnodedig fod yr Ymgeisydd yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae hefyd yn ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r cyrff ymgynghori rhagnodedig am y ddyletswydd a osodir arnynt o dan Reoliad 11(3) y Rheoliadau AEA. Mae’r ddyletswydd hon yn mynnu bod y cyrff ymgynghori rhagnodedig yn cymryd rhan mewn trafodaethau â’r ymgeisydd os gofynnir am hynny ac yn darparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt sy’n berthnasol i baratoi’r Datganiad Amgylcheddol. Nid yw’r ddyletswydd hon yn berthnasol i gyrff Rheoliad 11(1)(c) na chyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig.

Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, hefyd ymgynghori â’r cyrff ymgynghori rhagnodedig o dan Reoliad 10 y Rheoliadau AEA cyn mabwysiadu barn gwmpasu.

Yn nodweddiadol, mae ymgeiswyr yn darparu eu hysbysiad Rheoliad 8 pan fyddant yn gofyn am farn gwmpasu. Mae hyn yn sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol sy’n ofynnol ar gyfer yr hysbysiad Rheoliad 8 yn cael ei darparu ac yn osgoi dyblygu. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cadarnhau enwau’r cyrff yr ymgynghorwyd â nhw at ddibenion cwmpasu yn y farn gwmpasu.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn rhoi’r ‘rhestr Rheoliad 11’ i ymgeiswyr ynghyd â’r farn gwmpasu, pan gyflwynwyd yr hysbysiad Rheoliad 8 a’r cais am farn gwmpasu ar yr un pryd. Rhoddir y rhestr Rheoliad 11 i ymgeiswyr yn dilyn cais Rheoliad 8 dilys hefyd, lle na cheisiwyd barn gwmpasu ar yr un pryd.

Mae’r rhestr Rheoliad 11 yn rhestru’r holl gyrff y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi’u hysbysu a/neu ymgynghori â nhw. Gall ymgeiswyr ddefnyddio’r rhestr hon i lywio eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio, ond ni ddylent ddibynnu arni. Esbonnir gwybodaeth am y broses gwmpasu a sgrinio yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol.

Caiff ymgeiswyr amlygu ac ymgynghori â llai o gyrff neu gyrff gwahanol yn rhan o’u hymgynghoriad adran 42 nag y mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n eu hysbysu ac yn ymgynghori â nhw o dan Reoliadau AEA 10 ac 11. Dylai ymgeiswyr sicrhau y rhoddir esboniad yn eu hadroddiad ymgynghori pan fydd hyn yn digwydd.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) (CFfGR) ac amlygu’r cyrff ymgynghori cywir ar gyfer eich prosiect

Fel y disgrifiwyd uchod, mae’r cyrff ymgynghori rhagnodedig y dylid eu hysbysu ac ymgynghori â nhw o dan y Rheoliadau AEA yn cynnwys y cyrff hynny a restrir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Ar 30 Ebrill 2024, daeth Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) 2024 (‘y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol’) i rym, gan ddiwygio’r Rheoliadau CFfGR.

Mae Rheoliad 4 y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol yn cynnwys darpariaethau trosiannol hefyd. Mae’r darpariaethau hyn yn cadarnhau y bydd y Rheoliadau CFfGR, fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol, yn berthnasol i unrhyw gais arfaethedig am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu lle nad yw’r ymgeisydd wedi dechrau ymgynghori o dan adran 42 Deddf Cynllunio 2008 cyn 30 Ebrill 2024.

Mae’r Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol wedi diwygio’r tablau a gynhwysir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Bellach, darperir un tabl o gyrff ymgynghori rhagnodedig ar gyfer y prosiectau hynny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Lloegr. Yn flaenorol, roedd Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR yn cynnwys tablau ar wahân i amlygu’r cyrff ymgynghori rhagnodedig ar gyfer prosiectau yn Lloegr a’r cyrff ymgynghori rhagnodedig ar gyfer prosiectau yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol hefyd wedi diwygio’r ‘prawf perthnasedd’ mewn perthynas â’r cyrff ymgynghori. Mae’r prawf perthnasedd o dan y Rheoliadau CFfGR a ddiwygiwyd gan y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol yr un fath bellach ar gyfer prosiectau yn Lloegr a phrosiectau yng Nghymru.

Felly, mae’r cyrff ymgynghori rhagnodedig y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n eu hysbysu ac yn ymgynghori â nhw yn dibynnu ar b’un a yw’r trefniadau trosiannol yn berthnasol i ddatblygiad arfaethedig ai peidio.

O ran prosiectau nad oeddent wedi dechrau eu hymgynghoriad adran 42 cyn 30 Ebrill 2024, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu ac yn ymgynghori yn unol â’r Rheoliadau CFfGR fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol. Manylir ar yr ymagwedd hon yn Atodiad 1 (ODT, 61.7 KB) i’r dudalen gyngor hon.

O ran unrhyw gais arfaethedig am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu yr oedd yr ymgeisydd wedi dechrau ymgynghori arno o dan adran 42 y Ddeddf Cynllunio cyn 30 Ebrill 2024, nid yw’r Rheoliadau CFfGR diwygiedig yn berthnasol. Manylir ar y senario hwn yn Atodiad 2 (ODT, 68.8 KB) i’r dudalen gyngor hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mawrth 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon