Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar Ddylunio Da

Mae’r cyngor hwn yn esbonio pam mae dylunio da yn bwysig, beth allai fod yn llwyddiannus a sut y gellid ei gyflawni mewn ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.

Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSau) yn amlinellu’r gofyniad i gyflawni dylunio da a’r meini prawf a ddefnyddir i’w asesu.

Y gofyniad ar gyfer dylunio da

Wrth baratoi NPSau, mae’n ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, a chyflawni dylunio da.

Mae dylunio da yn hanfodol i gyflawni ymarferoldeb gwych, cynaliadwyedd, creu lleoedd cadarnhaol a gwydnwch mewn NSIPau.

Mae’r NPSau yn amlinellu meini prawf ar gyfer cyflawni dylunio da mewn prosiectau, gan gysylltu ymarferoldeb ag egwyddorion cynaliadwyedd a chydbwyso ffactorau amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol.

Mae’r NPSau a chanllawiau hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd esbonio penderfyniadau a wneir yn ystod y broses ddylunio a’r rhesymau drostynt. Mae hyn yn cynnwys sut mae asesu effeithiau amgylcheddol (AEA) a safbwyntiau a gafwyd o ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid wedi llywio’r broses ddylunio.

Diffiniadau o ddylunio da

Mae’r diffiniadau o ddylunio da yn dod o sawl ffynhonnell. Mae’r egwyddorion a amlinellwyd gan y pensaer a’r peiriannydd Rhufeinig, Marcus Vitruvius (c70-15CC), ar gyfer pensaernïaeth dda yr un mor berthnasol i seilwaith heddiw ac yn cyd-fynd â’r datganiadau yn yr NPSau. Diffiniodd bensaernïaeth dda fel “firmitas, utilitas, venustas”, sef cadernid, defnydd, a hyfrydwch, sy’n pwysleisio ymarferoldeb, gwydnwch, ac apêl esthetig mewn adeiladau a strwythurau.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cydnabod dylunio da fel proses, hefyd. Mae’n diffinio dylunio fel “y berthynas rhwng holl elfennau’r amgylchedd naturiol ac adeiledig”. Mae’n pwysleisio’r angen i fynd y tu hwnt i estheteg a chynnwys “yr agweddau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ar y datblygiad, gan gynnwys ei adeiladwaith, ei weithrediad a’i reolaeth, a’i berthynas â’i gyffiniau.”

Cyflawni dylunio da

I gyflawni dylunio da, mae angen ymagwedd gyfannol i ddarparu seilwaith cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n ymateb i le ac yn ystyried amgylcheddau sy’n aml yn gymhleth. Nid yw dylunio da yn ymwneud yn bennaf â sut mae seilwaith yn edrych, er bod yr ystyriaethau hyn (yr estheteg) yn bwysig.

Mae angen i broses effeithiol, fwriadol, dryloyw a chyflawnadwy gael ei chynllunio, ei dilyn a’i sicrhau i gyflawni canlyniadau dylunio da o ansawdd uchel. Daw llwyddiant o ran dylunio da o gyfuniad o sicrhau proses dda a chanlyniadau da.

O ystyried graddfa ac effaith datblygiadau NSIP, mae cyflawni canlyniadau prosiect a ddyluniwyd yn dda sy’n mynd i’r afael â chynaliadwyedd a’r newidiadau yn yr hinsawdd yn hanfodol.

Y Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol

Mae’r Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol yn ymrwymo’r llywodraeth i ymgorffori dylunio da ym mhob NSIP. Mae Grŵp Dylunio’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn argymell bod ystyried dylunio mewn modd priodol mewn NSIPau yn cefnogi uchelgais y llywodraeth i gyflymu’r broses gyflawni a chynyddu gwerth i’r eithaf trwy fynd i’r afael â’r canlynol:

  • proses ddylunio strwythuredig

  • egwyddorion dylunio

  • canlyniadau buddiol niferus

Egwyddorion, paramedrau a chodau dylunio

Mae’r llywodraeth wedi mabwysiadu pedair egwyddor lefel uchel ar gyfer seilwaith, sef yr hinsawdd, pobl, lleoedd a gwerth, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn ei Egwyddorion Dylunio ar gyfer Seilwaith Cenedlaethol.

Yng nghanllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio, paragraff 14, cynghorir ymgeiswyr y dylent gynnwys ystod amrywiol o bobl wrth ddatblygu eu dyluniad ac y dylent esbonio sut mae’n ymateb i egwyddorion y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol.

Ategwyd egwyddorion y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ymhellach gan ganllawiau ar sut i’w cymhwyso yng nghyd-destun prosiect, sef Egwyddorion Dylunio ar Lefel Prosiect. Mae’r rhain yn amlinellu proses strwythuredig ar gyfer cymhwyso egwyddorion dylunio wedi’u teilwra ar bob cam o gylch oes prosiect. Gan ychwanegu at egwyddorion dylunio lefel uchel y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, mae’r Egwyddorion Dylunio ar Lefel Prosiect yn rhoi materion i ymgeiswyr eu hystyried o dan bob un o’r pedair egwyddor ddylunio. 

O ran yr hinsawdd, gall y rhain gynnwys effaith carbon, gwella’r amgylchedd gan gynnwys adfer natur, a gwrthsefyll yr hinsawdd. Mae dylunio gwirioneddol gynhwysol a hygyrch sy’n ystyriol o’r cyd-destun cymdeithasol a chymunedol yn bwysig i bobl. Dylai lleoedd ymdrin â hybu ymdeimlad lleol o hunaniaeth a gwarchod y dirwedd leol. O ran gwerth, mae’n bwysig edrych y tu hwnt i ffin y safle, gan weithio gyda phartneriaid i ddatgloi gwerth ychwanegol.

Mae diben yr egwyddorion dylunio ar lefel prosiect yn cynnwys cael gweledigaeth drosfwaol gyda naratif dylunio cyd-destunol lleol, cael ei lywio gan bobl a grwpiau yr effeithir arnynt, bod yn gynhwysol ac amlygu cyfleoedd ar gyfer buddion a chanlyniadau ehangach y tu hwnt i’r prosiect ei hun.

Mae Cymru’r Dyfodol, Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol yn amlinellu’r polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer cyflawni dylunio da yng Nghymru. Dylai ymgeiswyr bennu’r egwyddorion dylunio priodol ar gyfer y prosiect.

Amlinellir ymagweddau at egwyddorion dylunio mewn canllawiau, fel yr Egwyddorion Dylunio ar gyfer Seilwaith Cenedlaethol, yr Egwyddorion Dylunio ar Lefel Prosiect a’r Canllaw Dylunio Cenedlaethol, yn ogystal ag mewn polisïau a safonau dylunio lleol. Dylai ymgeiswyr sicrhau y bydd canlyniadau dylunio da yn cael eu sicrhau trwy ddefnyddio egwyddorion, paramedrau a chodau dylunio o’r fath.

Mae’r Cod Dylunio Enghreifftiol Cenedlaethol yn offeryn defnyddiol ar gyfer sefydlu codau dylunio. Mae’r rhain yn fwyaf tebygol o fod yn berthnasol ar ôl cael caniatâd wrth lywio cam adeiladu’r prosiect. Gellir sicrhau codau dylunio trwy ofynion neu’r Datganiad Dylunio a Mynediad.

Proses dylunio da

Mae proses dylunio da yn ailadroddus o fewn ymagwedd strwythuredig sy’n datrys problemau a sicrhau canlyniadau dylunio da.

Mae proses dylunio da yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • proses effeithiol, fwriadol, dryloyw, a chyflawnadwy

  • ymagwedd gydweithredol, amlddisgyblaethol sy’n cynnwys ymgysylltu’n gadarnhaol â’r gymuned ac ynglŷn â hawliau tir

  • gweledigaeth gryno ac uchelgeisiol ar gyfer y prosiect, wedi’i seilio ar ddadansoddiad clir o’r cyd-destun ar gyfer y lle, ei amgylchedd a’r cyfleoedd i greu gwerth cymdeithasol, gan gynnwys ar gyfer yr economi leol ac ehangach

  • datganiad clir o egwyddorion dylunio a fydd yn sbarduno’r prosiect ac yn cyflawni gwerth a buddion ehangach y tu hwnt i ddiben craidd y cynllun

  • naratif sy’n esbonio sut mae’r ymagwedd at ddylunio wedi esblygu, y rhesymau dros y dewisiadau a wnaed neu a fydd yn cael eu gwneud, esboniad o’r canlyniadau buddiol niferus y bydd y prosiect yn eu cyflawni a sut byddant yn cael eu sicrhau

  • arweinyddiaeth ddylunio a gefnogir gan hyrwyddwr dylunio i sicrhau bod trefniadau llywodraethu dylunio’n cael eu sicrhau a bod yr egwyddorion dylunio’n sbarduno proses ddylunio strwythuredig a hierarchaeth rheoli dylunio

Canlyniadau dylunio da

Mae cyflawni canlyniadau dylunio da yn cynnwys:

  • sicrhau cysyniad dylunio integredig a chlir, iaith ddylunio gyson, a chynaliadwyedd ar draws y prosiect

  • iaith ddylunio gyson sy’n golygu y gellir dilyn yr holl elfennau drwodd mewn penderfyniadau ôl-ganiatâd

  • eglurder ynglŷn â chyflawni cynaliadwyedd ar draws y prosiect sy’n mynd y tu hwnt i liniaru effeithiau niweidiol i gyflawni budd net economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol

  • egwyddorion dylunio sy’n ymateb yn gadarnhaol i’r pedair elfen – yr hinsawdd, pobl, lleoedd a gwerth – a sefydlwyd gan y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol

  • asesiadau realistig o wydnwch ac effeithiolrwydd y prosiect yn ystod ei gam gweithredol, i ategu a sicrhau system cynnal a chadw a monitro lwyddiannus

  • digon o hyblygrwydd ar gyfer arloesedd technegol a gydbwysir gan ddigon o fanylion a rheolaethau ar gyfer cymeradwyaethau ôl-ganiatâd a fydd yn sicrhau bod canlyniadau dylunio da yn cael eu cyflawni

  • sylw arbennig i greu lleoedd er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol y datblygiad ar gymeriad lle a chyflawni buddion cyhoeddus

  • dulliau a gynlluniwyd yn ofalus i alluogi craffu ar ganlyniadau dylunio, eu hasesu a’u datblygu yn ystod y broses ddylunio ôl-ganiatâd. Er enghraifft, cynlluniau paramedr, codau dylunio, cynlluniau rheoli, adolygiad dylunio annibynnol ac ymgysylltiad bwriadol â’r gymuned a sicrheir mewn gofynion neu ddogfennau ardystiedig

Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a dylunio da

Pwysigrwydd AEA

Mae AEA yn offeryn pwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau ac fe all helpu i gyflawni canlyniadau dylunio da trwy osgoi neu leihau effeithiau niweidiol a darparu buddion trwy amlygu ffyrdd o wella’r cyfleoedd amgylcheddol neu ddiwylliannol. Mae Cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol yn rhoi mwy o wybodaeth am AEA.

Mae Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 yn galluogi rheoliadau sy’n mynnu bod datblygwr yn cynhyrchu ‘Adroddiad Canlyniadau Amgylcheddol’ i asesu’r effaith ar gyflawni ‘canlyniadau amgylcheddol penodedig’.

Cynyddu effeithiolrwydd AEA i’r eithaf

Bydd ymgysylltu a chydweithio ag arbenigwyr technegol ac integreiddio’r tîm dylunio â’r tîm AEA yn cynyddu effeithiolrwydd y broses i’r eithaf. Dylid defnyddio’r cydweithrediad hwn i lywio’r prif benderfyniadau dylunio a sicrhau enillion amgylcheddol.

Pan ddefnyddir ymagwedd seiliedig ar baramedrau, mae’n rhaid i’r tybiaethau a’r egwyddorion dylunio sy’n sail i’r paramedrau gael eu hamlinellu’n glir.

AEA yn y broses ddylunio

Dylai AEA lywio’r broses ddylunio, a dylai ei ddylanwad ar y dyluniad gael ei fynegi’n glir yn y Datganiad Amgylcheddol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i amlygu safle ac arfarnu a dethol seilwaith wrth ystyried dewisiadau amgen.

Sefydlu dylunio da

Heriau wrth ddylunio NSIP

Mae dylunio’n fodd o ddelio â’r cymhlethdodau a’r heriau sy’n gysylltiedig ag NSIPau. Gall y rhain gynnwys amserlenni hir, technolegau sy’n newid a microleoli sy’n gallu dylanwadu ar ganlyniadau dylunio ac amodau newidiol y farchnad.

Yn aml, ni fydd manylion yr NSIP a ystyrir yn ystod archwiliad yn adlewyrchu’r seilwaith terfynol a adeiladwyd oherwydd bydd angen mewnbwn dylunio ychwanegol am y rhesymau a amlinellir uchod. Felly, bydd angen i’r Awdurdod Archwilio (ExA) fod yn fodlon bod tystiolaeth bod ymgeiswyr wedi ymwneud â phroses sy’n gallu cyflawni canlyniadau dylunio da, sy’n benodol i’r math o seilwaith a gynigir ac yn gymesur ag ef, a’u bod wedi ymrwymo i’r broses honno. Bydd angen i’r rhain gael eu sicrhau gan y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) trwy ofynion, amodau, cynlluniau rheoli neu ddogfennau eraill ardystiedig.

Diagram proses dylunio da

Mae’r diagram isod yn ddisgrifiad graffigol o elfennau’r broses ddylunio gyffredinol y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n disgwyl gweld tystiolaeth ohonynt yn ystod y camau cyn-ymgeisio ac archwilio.

Image:

Dylid ystyried yr elfennau canlynol yn ystod y broses cyn-ymgeisio a rhoi sylw iddynt mewn cais NSIP. Bydd angen mynd i’r afael â nhw i raddau amrywiol yn dibynnu ar natur y seilwaith a gynigir a’r safle. Gellir ceisio cyngor cyn-ymgeisio gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn hyn o beth.

Cydosod

Mae’r cam hwn yn gofyn am friff sy’n amlinellu diben y prosiect, cyllideb, amserlen arfaethedig, tîm amlddisgyblaethol sydd â sgiliau dylunio a chasglu gwybodaeth sylfaenol a all lywio’r broses o ystyried dewisiadau amgen a dethol safle yn y pen draw.

Mae’n rhaid i’r tîm prosiect amlddisgyblaethol ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd ganddo i ddatblygu gweledigaeth. Dylai’r weledigaeth gynnwys naratif cymhellol, sy’n mynd y tu hwnt i ddatrys problemau technegol a chydymffurfio â pholisi ac sy’n ystyried adeiladu yn ogystal â gweithredu. Dylai ddiffinio uchelgais sy’n mynd y tu hwnt i derfynau’r Gorchymyn yn unol â chanlyniadau sy’n ehangach na therfynau’r prosiect. Mae’n rhaid iddi gynnwys datblygu egwyddorion dylunio.

Ymchwilio

Mae angen i’r cam hwn fod yn ailadroddol. Dylai ddadansoddi cyfyngiadau a chyfleoedd yn ymwneud â thechnoleg a lleoliad gan ddisgrifio sut mae’r dyluniad wedi esblygu o’r briff. Bydd angen iddo liniaru effeithiau niweidiol a aseswyd yn rhan o’r broses AEA a dangos sut bydd y datblygiad arfaethedig yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol a chreu lle newydd ac unigryw. Yn ystod y cam hwn, dylai ymgysylltu ac ymgynghori â phartïon statudol, unigolion yr effeithir arnynt, cymunedau lleol a phaneli dylunio annibynnol lywio esblygiad dylunio’r prosiect. Dylid esbonio hyn. 

Cydlynu

Mae’n rhaid llunio fersiwn arall i fireinio dewisiadau ar gyfer manylion a pharamedrau. Dylai hyn gynnwys ymatebion ymgynghori a mewnbwn dylunio annibynnol, a sicrhau bod egwyddorion dylunio’n cael eu bodloni. Mae’n bosibl y bydd dewisiadau i’w gwneud. Bydd angen gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio arweinyddiaeth ddylunio gref, wedi’i sbarduno gan y weledigaeth. Mae’n rhaid i’r cam hwn amlinellu’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ar ôl cael caniatâd.

Sicrhau

Allbwn hanfodol y cam hwn yw amlinellu sut mae dyluniad da yn cael ei sicrhau ar gyfer y prosiect a sut y caiff ei gyflawni, gan gynnwys cyngor dylunio parhaus ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn deall y dylanwad y gallai penderfyniadau caffael ei gael a bod unrhyw anghytundebau ag awdurdodau cydsynio yn y dyfodol yn cael eu mynegi. Bydd ExAau yn disgwyl i ddyluniad manwl gael ei ddatblygu ar gyfer nodweddion lle y ceir eglurder ynglŷn â sut y penderfynir ar y rhai hynny sy’n llai sicr ar ôl cael caniatâd.

Y prif ffactorau i ymgeiswyr

Ystyriaethau ar gyfer dylunio da

Mae Atodiad A isod yn amlinellu’r ystyriaethau yn ymwneud â dylunio da y dylai ymgeiswyr eu hystyried cyn gwneud cais am dderbyn o dan adran 55 y Ddeddf Cynllunio.

Y broses cyn-ymgeisio

Gall ymgeiswyr geisio cyngor gan yr Arolygiaeth Gynllunio o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio i fynd i’r afael ag ystyriaethau dylunio da. Anogir ymgeiswyr i ymgysylltu ynglŷn â materion yn ymwneud â dylunio da yn gynnar yn ystod datblygu’r prosiect. Y nod yw sicrhau bod y pwyslais a roddir ar ddylunio da yn yr NPSau neu ddogfennau dylunio lleol yn cael ei ystyried o’r dechrau. Dylai hyn olygu y gellir cynhyrchu ceisiadau a baratowyd yn dda, sy’n ddigon manwl, a all symud ymlaen trwy archwiliad effeithlon.

Cydnabyddir efallai y bydd angen i ymgeiswyr gael cymorth ar lefelau gwahanol yn ystod y cam cyn-ymgeisio trwy’r haenau cymorth a gynigir, a amlinellir yn y Prosbectws Cyn-ymgeisio. Un elfen o’r fath yw Dogfen Ymagwedd Ddylunio. Bydd Dogfennau Ymagwedd Ddylunio’n cynorthwyo ExAau a Phartïon â Buddiant i ddeall sut mae’r achos dylunio wedi cael ei baratoi a sut mae wedi esblygu o’r syniad cychwynnol ar gyfer y prosiect i hwnnw a gyflwynir yn y cais. Cefnogir Dogfennau Ymagwedd Ddylunio o dan y cynnig Haen 3. Maen nhw’n briodol i unrhyw NSIP fel modd o gyfleu’r achos dylunio a chefnogi archwiliad effeithlon.

Meini prawf derbyn

Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod y cais a’r dogfennau ategol o safon foddhaol, gan gynnwys i ba raddau y mae’r ymgeisydd wedi ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd o dan adran 50 y Ddeddf Cynllunio.

Archwiliad, Argymhelliad a Phenderfyniad

Bydd angen dangos ymagwedd glir at ddylunio da, yr ymgynghorwyd arni ac sydd wedi ymateb i sylwadau, er mwyn cefnogi archwiliad effeithlon o’r NSIP. Bydd hefyd angen dyluniad manwl ar lefel briodol ynghyd ag eglurder ynglŷn â sut y bydd cymeradwyaethau yn y dyfodol ar ôl cael caniatâd yn cael eu hasesu a’u sicrhau. Bydd hyn yn arbed amser yn yr archwiliad (cwestiynau ysgrifenedig a gwrandawiadau, lle y bo’r angen), yn lleihau’r angen i Ysgrifenyddion Gwladol ymgynghori ymhellach ac yn lleihau’r amser sy’n ofynnol ar gyfer cymeradwyaethau ôl-ganiatâd.

Mae dylunio da yn un ffactor y bydd angen i ExAau ei ystyried wrth adrodd ar y cydbwysedd cynllunio a gwneud unrhyw newidiadau argymelledig i DCO terfynol ymgeisydd. Bydd angen i ExAau ystyried pa mor llwyddiannus y cyflawnwyd dylunio da yn yr argymhelliad ynglŷn â’r prosiect. Os na ddatrysir materion dylunio, neu os na sicrheir dulliau ar gyfer cymeradwyaethau yn y dyfodol (a allai hefyd gynnwys mewnbwn dylunio annibynnol ychwanegol ac ymgynghori â’r gymuned), bydd angen i ExAau archwilio ffyrdd o sicrhau bod hyn yn digwydd yn eu hargymhellion.

Casgliad

Mae dylunio da yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith cynaliadwy a chynhwysol a ddyluniwyd yn dda, a dylai ymgeiswyr ddilyn yr argymhellion a’r ystyriaethau a amlinellir yn y cyngor.

Atodiad A – Materion dylunio da i’w hystyried

Mae Atodiad A yn amlinellu materion dylunio da y dylai ymgeiswyr eu hystyried cyn cyflwyno cais NSIP i’w archwilio.

Mater Ystyriaethau
Dogfen Ymagwedd Ddylunio A ddarperir Dogfen Ymagwedd Ddylunio?
  A yw’r Ddogfen Ymagwedd Ddylunio yn mynd i’r afael â’r briff, y broses ddylunio, yr egwyddorion dylunio, a chanlyniadau buddiol?
  Os na ddarperir Dogfen Ymagwedd Ddylunio, ble mae’r broses ddylunio a’r egwyddorion dylunio wedi’u hamlinellu?
   
Dadansoddi, Ymchwil Sut mae’r safle datblygu wedi cael ei ddadansoddi i lywio ymagwedd dylunio da?
  Beth yw’r prif gasgliadau o’r dadansoddiad hwn sy’n llywio’r dyluniad ar y cam hwn ac wrth iddo ddatblygu?
   
Ymateb Beth yw prif effeithiau niweidiol arwyddocaol y datblygiad arfaethedig a sut yr eir i’r afael â nhw i alluogi dylunio da?
   
Gweledigaeth Beth yw’r weledigaeth ar gyfer y datblygiad wedi’i gwblhau a’i gyffiniau? Ble mae hyn wedi’i amlinellu?
  Amlinellwch y naratif, sut bydd y weledigaeth yn cyflawni cynaliadwyedd, yn creu lle newydd ac yn dal y dyluniad at ei gilydd.
   
Sgiliau Pa ddisgyblaethau proffesiynol a setiau sgiliau sy’n gweithio ar ddyluniad y prosiect ac a fydd yn gweithio arno?
  A oes hyrwyddwr dylunio wedi’i ddynodi ar gyfer y prosiect hwn ac, os felly, pwy ydyw a beth yw ei sgiliau?
   
Datblygu’r dyluniad Disgrifiwch yr ymagwedd at ddylunio da ac esboniwch sut mae’r dyluniad wedi esblygu (ac y bydd yn parhau i esblygu).
  Sut mae unrhyw hyblygrwydd sy’n ofynnol yn derbyn sylw?
  Pa ddewisiadau dylunio sydd wedi cael eu gwneud (ac a fydd yn cael eu gwneud)?
  Beth yw’r egwyddorion dylunio sy’n dod i’r amlwg a sut mae’r egwyddorion wedi llywio penderfyniadau yn uniongyrchol?
  A oes ymagwedd hierarchaidd at elfennau o’r cynnig (er enghraifft wrth ddylunio pontydd pwysig a llai pwysig mewn cynllun priffyrdd)?
  A ddefnyddiwyd technegau digidol, gan gynnwys algorithmau a deallusrwydd artiffisial, i ddatblygu’r dyluniad? Os felly, esboniwch yr offer a’r data a ddefnyddiwyd.
  A oes naratif cydlynol ynglŷn â sut mae’r ymagwedd at ddylunio wedi esblygu?
  Ble mae’r canlyniadau dylunio wedi’u hamlinellu?
  A fydd gwerth ychwanegol y tu hwnt i ffin y safle yn cael ei gynnwys?
   
Adolygiad dylunio annibynnol A yw datblygiad y dyluniad wedi bod yn destun adolygiad dylunio annibynnol?
  Os felly, beth oedd y prif sylwadau a sut mae’r dyluniad wedi ymateb iddynt?
  A fwriedir cynnwys adolygiadau o’r dyluniad ar ôl cael caniatâd? Os felly, sut mae’r rhain yn cael eu sicrhau?
   
Cyflawni Sut bydd y dyluniad terfynol yn cael ei gyflawni? A fydd cynllun rheoli dylunio, canllaw dylunio neu god dylunio? Os na, pam nad oes eu hangen?
  A oes cynllun ymgynghori ynglŷn â’r dyluniad i ymgysylltu â’r gymuned ar ôl i’r DCO gael ei ganiatáu?
  A oes proses gytunedig ar gyfer penderfyniadau ôl-ganiatâd gydag awdurdodau cynllunio lleol ac eraill, pan fydd angen?
   
Lleoedd Sut mae creu lleoedd yn derbyn sylw?
  Sut bydd y lle hwn yn unigryw a sut bydd y gymuned yn elwa ohono?
  Disgrifiwch beth fydd y canlyniad ansawdd lle, sut mae hyn yn berthnasol i’r weledigaeth a sut y caiff ei sicrhau.
   
Pobl Pa ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag awdurdodau statudol a lleol, cymunedau a phobl sydd â buddiant yn y tir?
  Sut bydd eu safbwyntiau’n cael eu cynnwys yn esblygiad y dyluniad a ble bydd hyn yn cael ei amlinellu?
   
Ymagwedd ddylunio integredig Esboniwch sut y bydd ymagwedd gyfannol, integredig at ddylunio’r prosiect yn cael ei chyflawni.
  Ble y dangosir hyn yn y dogfennau? A oes uwchgynllun?
  Sut bydd hyn yn cael ei sicrhau?
   
Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSau) Sut mae’r gofynion ar gyfer dylunio da yn yr NPS (neu’r NPSau) perthnasol wedi cael eu bodloni?
   
Egwyddorion Dylunio Amlinellwch yr egwyddorion dylunio da sy’n cael eu cymhwyso i’r prosiect.
  A yw’r egwyddorion dylunio wedi’u strwythuro neu wedi’u trefnu mewn grwpiau yn rhesymegol?
  Sut byddant yn cael eu datblygu cyn cael caniatâd?
  Sut byddant yn cael eu dangos a’u sicrhau?
   
‘Egwyddorion’ y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol A oes ymateb i bedair egwyddor dylunio da y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol?
  Os na, pa egwyddorion dylunio a fabwysiadwyd?
  Pa broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu ac ymgorffori egwyddorion dylunio ar lefel prosiect?
   

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Hydref 2024

Argraffu'r dudalen hon