Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd
Mae’r cyngor hwn yn crynhoi rhwymedigaethau’r ymgeisydd a’r penderfynwr o dan y Rheoliadau Cynefinoedd yng nghyd-destun Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd â chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.
Beth yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)?
Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (ar gyfer cynlluniau a phrosiectau y tu hwnt i ddyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig (12 môr-filltir)) (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel y ‘Rheoliadau Cynefinoedd’ o hyn allan) yn darparu ar gyfer dynodi safleoedd yn Lloegr sy’n bwysig ar gyfer gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd penodol. Adwaenir y safleoedd hyn fel ‘safleoedd Ewropeaidd’ neu ‘safleoedd Cynefinoedd’ ac maen nhw’n ffurfio rhan o rwydwaith o safleoedd gwarchodedig ledled y Deyrnas Unedig a adwaenir fel y ‘Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol’.
Mae ‘safle Ewropeaidd’ yn cyfeirio at safleoedd gwarchodedig ledled y Deyrnas Unedig ac, er hwylustod, fe’i defnyddir yn y cyngor hwn i ddisgrifio safleoedd Ewropeaidd a safleoedd morol alltraeth Ewropeaidd.
Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys:
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau)
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Ymgeisiol (ACAau Ymgeisiol)
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau)
Yn unol â pholisi’r llywodraeth, mae’n rhaid i safleoedd gwarchodedig eraill gael eu trin fel petaent yn safleoedd Ewropeaidd dynodedig hefyd:
- ACAau arfaethedig
- AGAau posibl
- safleoedd Ramsar – gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol (rhestredig ac arfaethedig)
- ardaloedd a amlygwyd neu sy’n ofynnol i ddigolledu am niwed i safle Ewropeaidd
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn sefydlu sawl cam asesu i bennu a allai cynllun neu brosiect effeithio ar nodweddion gwarchodedig safle Ewropeaidd cyn i Awdurdod Cymwys benderfynu p’un ai ei gynnal, ei ganiatáu neu ei awdurdodi.
Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yw’r Awdurdod Cymwys at ddibenion y Rheoliadau Cynefinoedd. Defnyddir y term ‘HRA’ i ddisgrifio’r camau yn y broses asesu, sef sgrinio ar gyfer effeithiau arwyddocaol tebygol, asesiad priodol a chymhwyso rhanddirymiadau pan fydd angen.
Os yw datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd, naill ai o’r datblygiad arfaethedig ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, bydd angen asesiad priodol (rheoliad 63).
Pan fydd asesiad priodol wedi cael ei gynnal ac yn arwain at asesiad negyddol (lle na ellir diystyru effeithiau niweidiol), gellir rhoi caniatâd dim ond os bodlonir y profion canlynol, a adwaenir fel ‘rhanddirymiadau’ (rheoliadau 64 a 68):
- nid oes unrhyw ddatrysiadau amgen
- mae Rhesymau Hanfodol Er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig (IROPI)
- mae mesurau digolledu wedi cael eu sicrhau
Deddfwriaeth a Chanllawiau
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:
- Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd)
- Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (fel y’u diwygiwyd)
- Deddf Cynllunio 2008
- Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol (Cymru a Lloegr)
- Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (Lloegr)
- Polisi Cynllunio Cymru
- Nodyn Cyngor Technegol 5 (TAN 5) Cadwraeth Natur a Chynllunio (Cymru)
- Cylchlythyrau’r llywodraeth fel Cylchlythyr 06/2005 Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog: Bioamrywiaeth a Chadwraeth Ddaearegol – Rhwymedigaethau Statudol a’u Heffaith yn y System Gynllunio
- Canllawiau’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (olynydd-gorff yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd) ar asesu effeithiau trawsffiniol datblygiadau ynni ar safleoedd Natura 2000 y tu allan i’r Deyrnas Unedig
- Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd: Gwarchod safle Ewropeaidd (2021) a gyhoeddwyd ar y cyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Natural England, Llywodraeth Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru
- Canllawiau Ymarfer Cynllunio’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar Asesiad Priodol
Fe allai’r canllawiau canlynol fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr, hefyd:
- Y Comisiwn Ewropeaidd (2021) Asesu cynlluniau a phrosiectau mewn perthynas â safleoedd Natura 2000 – Arweiniad Methodolegol ar Ddarpariaethau Erthygl 6(3) a (4) y Gyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC
- Y Comisiwn Ewropeaidd (2018) Rheoli Safleoedd Natura 2000 – Darpariaethau Erthygl 6 y Gyfarwyddeb ‘Cynefinoedd’ 92/43/EEC
- Barn y Comisiwn (2007/2012) Dogfen Ganllaw ar Erthygl 6(4) y Gyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC
- Y Comisiwn Ewropeaidd (2020) Dogfen Ganllaw ar Ddatblygiadau Ynni Gwynt a Deddfwriaeth Natur yr Undeb Ewropeaidd
- Y Comisiwn Ewropeaidd (2018) Arweiniad ar Seilwaith Trawsyrru Trydan a Deddfwriaeth Natur yr Undeb Ewropeaidd
- Y Comisiwn Ewropeaidd (2011) Dogfen Ganllaw – Gweithredu Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd mewn Aberoedd a Pharthau Arfordirol
Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod ei gais NSIP yn cydymffurfio â’r holl bolisïau, deddfwriaeth, cyfraith achosion a chanllawiau perthnasol.
Y broses Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Mae arweiniad gan Defra, Llywodraeth Cymru, Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru ar Asesiadau rheoliadau cynefinoedd: gwarchod safle Ewropeaidd (yr ‘arweiniad ar y cyd’) yn esbonio gwahanol gamau’r broses HRA. Mae’n bosibl na fydd angen i ymgeiswyr gwblhau pob cam; bydd hyn yn dibynnu ar ba benderfyniadau a wneir ar bob cam.
Dyma’r camau (yn ôl eu trefn):
- sgrinio – i wirio a yw’r cynnig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar amcanion cadwraeth y safle, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill
- asesiad priodol/ystyried effeithiau ar gyfanrwydd safle - i asesu goblygiadau’r cynnig i nodweddion cymwys y safle neu’r safleoedd Ewropeaidd, o ystyried amcanion cadwraeth y safle, ac amlygu ffyrdd o osgoi unrhyw effeithiau neu eu lleihau gymaint â phosibl
- rhanddirymiad – i ystyried a yw cynigion a fyddai’n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd yn gymwys ar gyfer esemptiad
Mae’r cam rhanddirymiad yn cynnwys (yn ôl eu trefn):
- ystyried datrysiadau amgen
- ystyried IROPI
- sicrhau mesurau digolledu a fyddai’n cynnal cydlyniant Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol y Deyrnas Unedig
Mae’n rhaid bodloni pob prawf yn olynol er mwyn i randdirymiad gael ei roi.
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Ymgeisydd
Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am ganiatâd datblygu roi’r fath wybodaeth i’r Awdurdod Cymwys ag sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer asesiad priodol neu i’w alluogi i benderfynu a oes angen asesiad. Os cyflwynir gwybodaeth annigonol gyda chais NSIP, mae’n bosibl na chaiff ei dderbyn i’w archwilio.
Gall y wybodaeth hon fod ar ffurf:
- datganiad byr sy’n cadarnhau nad oes llwybrau a allai arwain at effeithiau ar safle Ewropeaidd o’r datblygiad arfaethedig, neu
- Adroddiad Dim Effeithiau Arwyddocaol (NSER), lle mae sgrinio’n dangos, ar sail tystiolaeth wyddonol oddrychol, na fyddai effeithiau arwyddocaol tebygol ar safleoedd Ewropeaidd yn digwydd, neu
- Adroddiad HRA, lle na ellir eithrio effeithiau arwyddocaol ar safleoedd Ewropeaidd. Lle y bo’n berthnasol, dylai’r Adroddiad HRA hefyd gynnwys gwybodaeth am fodloni’r profion rhanddirymiad
Os yw’r wybodaeth a ddarparwyd gyda’r cais NSIP yn annigonol, mae’n bosibl na fydd y cais yn cael ei dderbyn i’w archwilio.
Yn ystod y cam cyn-ymgeisio, dylai ymgeiswyr gael cyngor gan y corff/cyrff cadwraeth natur priodol (ANCB) a restrir yn y Rheoliadau Cynefinoedd (a rhanddeiliaid eraill os oes angen) er mwyn sicrhau bod yr holl effeithiau posibl wedi cael eu hystyried, a hynny’n ddigon manwl, cyn i’r cais NSIP gael ei gyflwyno. Dylid atodi tystiolaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad i’r NSER neu’r Adroddiad HRA.
Lle gallai’r datblygiad arfaethedig gael effeithiau arwyddocaol tebygol ar safle neu safleoedd Ewropeaidd, fe allai fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr ddefnyddio’r broses Cynllun Tystiolaeth i gytuno ar y wybodaeth sydd i’w darparu i’r Arolygiaeth Gynllunio, a’i chofnodi, yn gynnar yn y broses.
Mae Cynllun Tystiolaeth yn fodd i ymgeiswyr gytuno ar y wybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr Adroddiad HRA gyda’r ANCBau a rhanddeiliaid eraill o bosibl, fel cwmpas yr asesiad, unrhyw arolygon sy’n ofynnol, a’r fethodoleg.
Gallai Cynlluniau Tystiolaeth, Datganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADS) neu Ddatganiadau Tir Cyffredin (SoCG) llofnodedig gydag ANCBau a gyflwynir gyda cheisiadau NSIP, gynnwys datganiadau yn ymwneud â’r canlynol:
- y safleoedd Ewropeaidd a’r nodweddion cymwys a amlygwyd ac a ystyriwyd yn yr NSER neu’r Adroddiad HRA (neu’r ddau)
- y data sylfaenol
- y fethodoleg a ddewiswyd
- y cam o’r broses HRA a gyrhaeddwyd
- casgliadau ar yr effaith arwyddocaol debygol neu’r effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd (AEoI) ar y safle (neu’r ddau)
- lle mae’r ANCBau yn cytuno y gellir eithrio effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd yn gyfan gwbl
Fe allai ymgeiswyr ddymuno cyflwyno Adroddiadau NSER neu HRA drafft i’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer sylwadau cyn gwneud cais NSIP. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd gallu’r Arolygiaeth Gynllunio i ddarparu sylwadau yn dibynnu ar argaeledd staff.
Dylai ymgeiswyr drafod pryd i rannu dogfennau drafft gyda’r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn cael y budd mwyaf o’i wasanaeth cyn-ymgeisio. Dylai ymgeiswyr rannu dogfennau drafft gyda’r ANCB perthnasol hefyd a mynd i’r afael ag unrhyw sylwadau a dderbynnir.
Cam 1: Sgrinio ar gyfer effeithiau arwyddocaol tebygol
Mae sgrinio’n cadarnhau p’un a fydd y cynllun neu’r prosiect ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill yn arwain at effaith arwyddocaol debygol. Mae sgrinio’n ystyried nodweddion y datblygiad arfaethedig a ph’un a oes unrhyw lwybrau posibl a allai arwain at effeithiau ar safle Ewropeaidd.
Bydd angen i’r Awdurdod Cymwys fod yn fodlon ei fod yn cytuno â chasgliadau’r ymgeisydd. Fe allai safbwyntiau’r ANCB a chorff/cyrff anstatudol perthnasol fod yn berthnasol i’r broses hon a dylai’r ymgeisydd eu ceisio’n gynnar yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Os na ellir diystyru’r perygl y gallai’r cynnig ar ei ben ei hun gael effaith arwyddocaol debygol ar sail tystiolaeth wyddonol wrthrychol, bydd angen asesiad priodol.
Os nad yw’r effaith o ddatblygiad arfaethedig ar ei ben ei hun yn arwyddocaol, bydd rhaid i’r ymgeisydd ystyried effeithiau cynlluniau neu brosiectau eraill sy’n effeithio ar yr un safle neu safleoedd Ewropeaidd a nodwedd neu nodweddion cymwys o hyd. Os gallai’r datblygiad arfaethedig gael effaith arwyddocaol debygol ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, bydd angen asesiad priodol.
Nid oes diffiniad cyfreithiol o gynllun neu brosiect at ddibenion y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n cynghori y dylid ystyried y canlynol ar gyfer asesiad ar y cyd yr HRA (nid yw’r rhestr hon yn gyflawn):
- prosiectau sy’n cael eu hadeiladu
- cais neu geisiadau a gyflwynwyd ond na phenderfynwyd arnynt eto
- cynlluniau neu brosiectau a wrthodwyd sy’n destun apêl ond na phenderfynwyd arni eto
- prosiectau yn rhaglen prosiectau seilwaith cenedlaethol yr Arolygiaeth Gynllunio
- prosiectau a amlygwyd yn y cynllun datblygu perthnasol (a chynlluniau datblygu sy’n dod i’r amlwg - gan roi pwys priodol iddynt wrth iddynt nesáu at gael eu mabwysiadu)
Dylai ymgeiswyr ystyried dynodiadau safleoedd Ewropeaidd yn y dyfodol neu ddiwygiadau i nodweddion cymwys y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arnynt. Mae’r rhain yn safleoedd sy’n debygol o fod yn gymwys i fod yn safleoedd Ewropeaidd o dan bolisi’r llywodraeth. Dylai ymgeiswyr geisio cyngor yr ANCBau perthnasol i amlygu unrhyw safleoedd o’r fath. Dylai statws presennol y safle Ewropeaidd gael ei esbonio’n glir yn yr NSER/Adroddiad HRA.
Eglurodd dyfarniad Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn People Over Wind a Sweetman v Coillte Teoranta (Achos C-323/17) na all Awdurdodau Cymwys, wrth wneud penderfyniadau sgrinio, ystyried mesurau y bwriedir iddynt osgoi neu leihau effeithiau niweidiol.
Os penderfynir na allai effaith arwyddocaol debygol ddigwydd ar safleoedd Ewropeaidd a’u nodweddion cymwys heb ddarparu mesurau o’r fath, ni fydd angen symud ymlaen i gamau nesaf HRA.
Fe allai ymgeiswyr ystyried bod mesurau’n rhan annatod o’r cais NSIP neu wedi’u hymgorffori ynddo ac nad ydynt wedi’u bwriadu’n benodol i osgoi neu leihau effeithiau ar unrhyw safle Ewropeaidd. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr i ddefnyddio ymagwedd ragofalus a datblygu unrhyw fesur o’r fath i Gam 2 HRA.
Canlyniadau sgrinio
Dylai’r ymagwedd gyffredinol at asesu fod yn ailadroddol ac fe ddylai esblygu trwy gam cyn-ymgeisio’r prosiect wrth i’r prosiect ddatblygu, fel bod fersiwn derfynol yr ymarfer sgrinio’n gadarn. Fodd bynnag, er mwyn osgoi dryswch, dylid cyflwyno fersiwn derfynol unigol o’r ymarfer sgrinio Cam 1 gyda’r cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).
O’r dystiolaeth a gasglwyd ac unrhyw ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd gan ANCB, bydd angen i ymgeiswyr benderfynu bod un o’r canlynol yn berthnasol:
- nid oes effaith bosibl ar unrhyw safle Ewropeaidd a’i nodweddion cymwys/nid oes llwybrau effaith posibl i unrhyw safle Ewropeaidd a’i nodweddion cymwys o’r datblygiad arfaethedig (a amlinellir mewn datganiad a ddarperir gyda’r cais NSIP), neu
- gellir eithrio effeithiau arwyddocaol tebygol ar safle neu safleoedd Ewropeaidd oherwydd y datblygiad arfaethedig, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, felly nid oes angen symud ymlaen i Gam 2 HRA (darperir NSER gyda’r cais NSIP), neu
- ni ellir eithrio bodolaeth effeithiau arwyddocaol tebygol ar safle neu safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys, naill ai o’r datblygiad arfaethedig ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac mae’n debygol y bydd angen asesiad priodol gan yr Awdurdod Cymwys
Cam 2: Asesiad Priodol – y ‘prawf cyfanrwydd’
Bydd angen asesiad priodol pan na ellir diystyru effeithiau arwyddocaol tebygol ar safle neu safleoedd Ewropeaidd o’r datblygiad arfaethedig ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill.
Bydd angen i ymgeiswyr ystyried p’un a fydd yr effeithiau arwyddocaol tebygol hyn yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle neu’r safleoedd Ewropeaidd o ystyried ei amcanion/eu hamcanion cadwraeth. Mae’n rhaid i’r amcanion cadwraeth ar gyfer pob safle Ewropeaidd a ystyriwyd yn ystod Cam 2 HRA gael eu darparu yn yr Adroddiad HRA.
Ar y cam hwn, dylai Adroddiad HRA yr ymgeisydd:
- grynhoi canfyddiadau Ymarfer Sgrinio Cam 1 yr HRA, gan gynnwys rhestru’r safleoedd Ewropeaidd a’r nodweddion cymwys hynny a hepgorwyd o asesiad pellach
- rhoi disgrifiad clir o’r datblygiad arfaethedig, gan gynnwys pob elfen a allai arwain at effeithiau arwyddocaol tebygol neu groesgyfeirio i’r disgrifiad o’r prosiect mewn unrhyw ddatganiad amgylcheddol a gynhwysir yn nogfennau’r cais
- nodi pa safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys sy’n destun asesiad priodol, gan gynnwys gwybodaeth am eu statws cadwraeth presennol (os yw’n hysbys) a chyflwr y safle
- darparu asesiad o sut byddai elfennau o’r datblygiad arfaethedig yn arwain at effaith arwyddocaol debygol ar safle neu safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, o ystyried yr amcanion cadwraeth ac yn seiliedig ar y wybodaeth wyddonol orau yn y maes
- nodi’r prosiectau neu’r cynlluniau a ystyriwyd yn yr asesiad ar y cyd, fel y bo’n berthnasol
- nodi unrhyw fesurau lliniaru y dibynnwyd arnynt a sut y sicrheir y rhain trwy’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft (neu ddulliau eraill)
- darparu gwybodaeth am sut bydd y mesurau’n cael eu gweithredu a’u monitro, eu heffeithiolrwydd, ac amserlenni ar gyfer eu gweithredu’n llawn
- cynnwys unrhyw gyngor gan ANCBau perthnasol ar asesiad yr ymgeisydd, gan gynnwys y casgliad ac unrhyw fesurau a gynigiwyd
- darparu casgliad clir ynglŷn â ph’un a ellir diystyru AEoI ar safle Ewropeaidd, o’r datblygiad arfaethedig ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill
Cam 3: Rhanddirymiadau
Pan na ellir diystyru AEoI ar safle Ewropeaidd, mae’n bosibl y gall cynnig symud ymlaen trwy randdirymiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae 3 phrawf cyfreithiol y mae’n rhaid eu bodloni ac mae’n rhaid llwyddo ym mhob prawf er mwyn i randdirymiad gael ei roi (gweler isod).
Dylai ymgeiswyr hefyd ddilyn y cyngor ar randdirymiadau yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w prosiect. Pan fydd yn ofynnol gan y Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol, os bydd ANCB yn nodi yn ystod y cam cyn-ymgeisio bod y datblygiad yn debygol o gael effaith niweidiol ar safle Ewropeaidd, mae’n rhaid i ymgeiswyr gynnwys y wybodaeth sy’n angenrheidiol i asesu rhanddirymiadau posibl o dan y Rheoliadau Cynefinoedd gyda’u cais DCO.
Gellir darparu’r wybodaeth hon gyda’r cais DCO ar sail ‘heb ragfarnu’ penderfyniad terfynol yr Ysgrifennydd Gwladol ar b’un a ysgogir y rhanddirymiadau.
Dyma’r 3 phrawf:
Prawf 1: Asesu Datrysiadau Amgen
Dylai’r ymgeisydd ddarparu asesiad sy’n:
- nodi ac asesu’r datrysiadau amgen a ystyriwyd
- diffinio amcanion y datblygiad arfaethedig
- esbonio sut gallai’r datblygiad arfaethedig gael effaith niweidiol ar safle Ewropeaidd
- cymharu’r datblygiad arfaethedig ac unrhyw ddatrysiadau amgen a ystyriwyd â’r opsiwn ‘gwneud dim byd’
Gallai datrysiadau amgen gynnwys safle gwahanol, llwybr ar draws safle, neu raddfa, maint, dyluniad, dull neu amseriad gwahanol ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Dylai ymgeiswyr ddarparu’r dystiolaeth i alluogi’r Awdurdod Cymwys i ddod i’w gasgliad.
Bydd datrysiad amgen yn dderbyniol:
- os yw’n cyflawni’r un amcan cyffredinol â’r cynnig gwreiddiol
- os yw’n ymarferol yn ariannol, yn gyfreithiol ac yn dechnegol
- os yw’n llai niweidiol i’r safle Ewropeaidd ac nid yw’n arwain at AEoI ar y safle Ewropeaidd hwn neu unrhyw safle Ewropeaidd arall
Mae’r arweiniad ar y cyd yn rhoi enghreifftiau o ddewisiadau amgen na fyddent yn cyflawni’r amcan gwreiddiol o bosibl, ac felly na fyddai angen eu hystyried, er enghraifft cynigion sy’n cynnig ynni niwclear yn lle ynni gwynt alltraeth, trafnidiaeth rheilffyrdd yn lle ffyrdd, neu fewnforio llwythi mewn ffordd wahanol yn lle cynyddu capasiti porthladd.
Prawf 2: Ystyried Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig (IROPI)
Pan nad oes datrysiadau amgen ymarferol yn bodoli, fe allai’r datblygiad arfaethedig gael ei ganiatáu o hyd os yw’r Awdurdod Cymwys yn fodlon bod rhaid iddo gael ei gynnal oherwydd IROPI.
Dylai ymgeiswyr ddarparu’r dystiolaeth a’r dadleuon sy’n cyfiawnhau’r datblygiad arfaethedig gyda’u Hadroddiad HRA, er gwaethaf yr effeithiau niweidiol y bydd yn eu cael neu y gallai eu cael ar y safle neu’r safleoedd Ewropeaidd. Dylai’r achos dros IROPI yn yr Adroddiad HRA esbonio’r rhesymau pam y mae’n:
- hanfodol – mae’n hanfodol ei fod yn symud ymlaen er budd y cyhoedd
- er budd y cyhoedd – ei fod o fudd i’r cyhoedd, nid dim ond i fuddion preifat
- tra phwysig – bod budd y cyhoedd yn drech na’r niwed, neu risg niwed, i gyfanrwydd y safle Ewropeaidd fel y rhagfynegwyd gan yr asesiad priodol
Mae’r arweiniad ar y cyd yn nodi ei bod yn fwy tebygol y bydd gan gynlluniau strategol cenedlaethol, datganiadau polisi a phrosiectau mawr lefel uchel o fudd cyhoeddus ac y byddant yn gallu dangos eu bod yn hanfodol ac yn dra phwysig.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr egluro yn yr Adroddiad HRA a yw’r nodwedd neu’r nodweddion cymwys yr effeithir arnynt yn gynefin neu’n rhywogaeth â blaenoriaeth. Mewn achosion o’r fath, fel arfer gall y cyfiawnhad IROPI ystyried rhesymau o fudd cyhoeddus sy’n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus, a chanlyniadau buddiol o bwysigrwydd pennaf i’r amgylchedd yn unig.
Os yw rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cael eu hystyried, fel buddion cymdeithasol neu economaidd, a byddai effaith ar gynefin neu rywogaeth â blaenoriaeth, mae’n rhaid i’r Awdurdod Cymwys gael barn yr Awdurdod Priodol (sef yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru fel arfer, fel y’i diffinnir yn y Rheoliadau Cynefinoedd).
Prawf 3: Mesurau Digolledu
Os nad oes datrysiadau amgen ymarferol, a dangoswyd bod rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig, mae’n rhaid i’r awdurdod priodol (sef yr Ysgrifennydd Gwladol fel arfer) sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu’n cael eu cymryd i warchod cydlyniant cyffredinol y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol.
Mae angen i’r mesurau digolledu wrthbwyso effeithiau niweidiol y datblygiad arfaethedig yn llwyr. Mae’r arweiniad ar y cyd yn nodi ystyriaethau priodol ar gyfer mesurau digolledu, gan gynnwys:
- ymarferoldeb technegol
- hyfywedd ariannol
- sut byddent yn cael eu cynnal, eu rheoli a’u monitro
- y pellter oddi wrth y safle Ewropeaidd yr effeithir arno
- pa mor hir y byddai’n ei gymryd i’r mesurau digolledu gyflawni cynefin o’r ansawdd a’r maint sy’n ofynnol
Mae’r arweiniad ar y cyd yn cynghori y dylai mesurau digolledu fod ar waith ac yn effeithiol cyn i’r effaith negyddol ar safle neu safleoedd Ewropeaidd ddechrau.
Dylai’r mesurau digolledu y mae’r ymgeisydd yn dibynnu arnynt gael eu hamlinellu yn yr Adroddiad HRA, gan gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl am y trefniadau cyfreithiol, ariannol a thechnegol tebygol ac unrhyw gynigion monitro. Bydd hyn yn helpu i leihau oedi wrth benderfynu p’un a ddylid caniatáu DCO ar gyfer prosiect. Dylai’r ymgeisydd esbonio sut byddai ei gynigion yn sicrhau y byddai cydlyniant y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol yn cael ei gynnal.
Derbyn ac Archwilio
Rhoddir crynodeb o’r broses ar ôl cyflwyno cais NSIP yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i Aelodau’r Cyhoedd.
Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n gallu gofyn am wybodaeth ychwanegol i ategu’r cais NSIP yn ystod y cam derbyn. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol efallai na fydd cais NSIP yn cael ei dderbyn i’w archwilio os yw’r wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer yr HRA yn annigonol.
Efallai bydd yr Awdurdod Archwilio yn mynnu bod yr ymgeisydd yn darparu gwybodaeth ychwanegol yn ystod yr archwiliad o’r cais NSIP os yw’n rhesymol ofynnol i’r Awdurdod Cymwys gynnal ei asesiad. Os na ellir darparu’r wybodaeth hon yn ystod yr archwiliad, fe allai’r Awdurdod Archwilio argymell bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod rhoi caniatâd neu ystyried gofyn am estyniad i’r amserlen.
Yr Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd (RIES)
Yn ystod yr archwiliad, fe allai’r Awdurdod Archwilio gyhoeddi Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd (RIES). Mae’r adroddiad hwn yn casglu, cofnodi a chyfeirio at wybodaeth sy’n ymwneud â HRA hyd at ddyddiad cau penodol yn yr archwiliad. Fe’i llunnir i amlygu’r materion HRA y canolbwyntiwyd arnynt yn yr archwiliad a nodi unrhyw faterion sy’n destun dadl o hyd neu y ceir ansicrwydd ynglŷn â nhw ar yr adeg y’i cyhoeddir.
Fe allai’r wybodaeth ddod o’r cais DCO neu sylwadau gan yr ymgeisydd, yr ANCB a phartïon â buddiant. Mae’r RIES hefyd yn nodi p’un a drafodwyd rhanddirymiadau yn yr archwiliad.
Fe allai’r RIES gynnwys cwestiynau ar gyfer yr ANCB, ymgeiswyr a/neu bartïon eraill â buddiant i helpu’r Awdurdod Archwilio i egluro unrhyw feysydd lle y ceir ansicrwydd. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddibynnu ar gyhoeddi’r RIES i fodloni dyletswyddau ymgynghori’r Awdurdod Cymwys (rheoliad 63(3) y Rheoliadau Cynefinoedd a/neu reoliad 28(4) y Rheoliadau Morol).
Bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu ar yr amser a ganiateir ar gyfer ymgynghori ar y RIES yn rhan o amserlen yr archwiliad. Cyhoeddir yr ymatebion gan yr ANCBau, ymgeiswyr a phartïon â buddiant i’r ymgynghoriad ac fe’u hystyrir gan yr Awdurdod Archwilio wrth wneud ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol. Ni fydd y RIES yn cael ei ddiwygio yn dilyn ymgynghoriad.
Ystyriaethau Eraill
Y berthynas ag Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)
Mae’n debygol y bydd angen HRA ac Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA) ar y rhan fwyaf o geisiadau NSIP. Bydd yr AEA yn asesu effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd a bydd yn cynnwys asesiad o effeithiau ar fflora a ffawna (fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (fel y’u diwygiwyd) (y Rheoliadau AEA). Mae’r wybodaeth hon yn debygol o lywio Adroddiad HRA yr ymgeisydd.
Mae’r prosesau AEA a HRA ar wahân i’w gilydd, gan eu bod yn deillio o ofynion gwahanol yn y Rheoliadau AEA a’r Rheoliadau Cynefinoedd. Ond maen nhw’n cydfodoli hefyd.
Er bod canlyniad yr AEA fel y’i hadroddir yn y Datganiad Amgylcheddol yn amlygu effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol o’r datblygiad arfaethedig, nid yw’r rhain yn atal y penderfynwr rhag rhoi awdurdodiad. Fodd bynnag, fe allai effeithiau arwyddocaol sy’n arwain at AEoI ar safle Ewropeaidd a amlygwyd trwy’r broses HRA wneud hynny.
Mae’r Rheoliadau AEA yn mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod perthnasol, lle y bo’n briodol, yn cydlynu HRA ac AEA. Os bydd ymgeiswyr yn dewis cyfuno’r wybodaeth yn un ddogfen, dylent sicrhau bod y wybodaeth sy’n berthnasol i’r HRA a’i gasgliadau wedi’i diffinio’n glir.
Cydlynu cydsyniadau cyfochrog ac asesiad priodol arall
Mae’n debygol y bydd angen i geisiadau NSIP gael trwyddedau ar wahân o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill. Fe allai gweithgareddau y mae angen cydsyniad ar eu cyfer nad ydynt wedi’u cynnwys mewn cais NSIP, neu na ellir eu cynnwys ynddo, gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd hefyd. Mae’n bosibl y bydd angen asesiad priodol gan Awdurdod Cymwys gwahanol hefyd cyn y gellir awdurdodi’r cais.
Dylai ymgeiswyr ymgynghori ag Awdurdodau Cymwys eraill ynglŷn â faint o wybodaeth y bydd ei hangen ar yr awdurdodau hynny i gynnal asesiad priodol. Dylai ymgeiswyr gadarnhau gyda’r Awdurdodau Cymwys hynny p’un a ydynt eisiau mabwysiadu rhesymeg neu gasgliadau’r asesiad a gynhaliwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol o dan broses Deddf Cynllunio 2008.
Fe ddylai fod yn eglur bod unrhyw effaith arwyddocaol debygol o’r datblygiad arfaethedig a reoleiddir gan Awdurdodau Cymwys eraill wedi cael ei hystyried yn Adroddiad HRA yr ymgeisydd.
Os oes angen i’r ymgeisydd wneud cais am gydsyniadau o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill sy’n gofyn am asesiad priodol, dylai’r cais NSIP gynnwys gwybodaeth am ba mor debygol yw’r cydsyniad neu’r cydsyniadau trwydded eraill o gael ei awdurdodi/eu hawdurdodi.
Dylai’r ymgeisydd ystyried amseriad y cais ar gyfer cydsyniadau eraill a’r amserlen debygol ar gyfer penderfyniad yr Awdurdod Cymwys ar gydsyniadau o’r fath, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar archwilio’r cais NSIP a pharatoi ei asesiad priodol.
Er enghraifft, pan fydd angen Trwydded Amgylcheddol ar gyfer achosion asesiad priodol, cynghorir ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno eu cais/ceisiadau am drwydded i Asiantaeth yr Amgylchedd o leiaf 6 mis cyn cyflwyno eu cais NSIP.
Fe allai methiant i ddatrys materion cyn diwedd archwiliad atal yr ANCB ac Asiantaeth yr Amgylchedd rhag rhoi cyngor i’r penderfynwr ar y posibilrwydd o AEoI a graddau unrhyw fesurau lliniaru neu ddigolledu sy’n ofynnol. Rhoddir cyngor ychwanegol ar weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus.
Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ac Adar Gwyllt
Os yw datblygiad arfaethedig yn debygol o arwain at effeithiau ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop, mae’n bosibl y bydd angen i ymgeiswyr gael trwyddedau eraill, yn ogystal â chwblhau HRA. Rhoddir cyngor ychwanegol ar weithio gyda Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru yn y nodyn cyngor Gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus.
Cyflwyno Gwybodaeth
Dylai ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth HRA ganlynol gyda’u cais:
- tabl sy’n crynhoi’r holl safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys a phob llwybr effaith a ystyriwyd ar bob Cam HRA (sgrinio, asesiad priodol/AEoI, a’r rhanddirymiadau, fel y bo’n berthnasol), ar gyfer pob cam o’r datblygiad arfaethedig (adeiladu, gweithredu, a datgomisiynu, fel y bo’n berthnasol);
- copi o’r dyfyniad/dalen ddata Natura 2000 ar gyfer pob safle Ewropeaidd;
- copi o’r amcanion cadwraeth ar gyfer pob safle Ewropeaidd na eithriwyd effeithiau arwyddocaol tebygol ar eu cyfer ac a dducpwyd ymlaen i Gam 2 HRA;
- cynllun o’r safle neu’r safleoedd Ewropeaidd y gellid effeithio arnynt o bosibl mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig (rheoliad 5(2)(l)(i) y Rheoliadau CFfGR);
- datganiad sy’n nodi (gyda rhesymau) p’un a yw effeithiau arwyddocaol yn debygol mewn perthynas â safleoedd Ewropeaidd mewn gweinyddiaethau datganoledig neu Aelod-wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
- tystiolaeth (fel Cynlluniau Tystiolaeth, copïau o ohebiaeth, cofnodion cytundeb, PADS neu SoCG) o gytundeb rhwng yr ymgeisydd ac ANCBau perthnasol (gan gynnwys y rhai hynny mewn gweinyddiaethau datganoledig a/neu gyrff perthnasol yn Aelod-wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, lle y bo’n berthnasol) ynglŷn â chwmpas, methodoleg, dehongliad, a chasgliadau’r asesiad sgrinio
- croesgyfeiriadau at ofynion perthnasol y DCO drafft, rhwymedigaethau caniatâd datblygu ac unrhyw ddulliau eraill a gynigir i sicrhau mesurau y dibynnir arnynt yn yr asesiad priodol ac achosion rhanddirymiad (fel y bo’n berthnasol), gan gynnwys amlygu unrhyw ffactorau a allai effeithio ar sicrwydd neu effeithiolrwydd eu gweithredu