Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar yr Adroddiad Ymgynghori
Mae’r nodyn cyngor hwn yn esbonio sut dylai ymgeiswyr lunio adroddiad ymgynghori ar gyfer ceisiadau Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Mae’n rhaid i gais ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) gynnwys adroddiad ymgynghori sy’n disgrifio’r broses ymgynghori a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd cyn i’r cais NSIP gael ei gyflwyno, gan gynnwys sut mae wedi ystyried adborth. Gweler adran 37(3)(c) y Ddeddf Cynllunio.
Dylai’r ymgeisydd gyfeirio at y canlynol:
- canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio
- Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio
Diben yr adroddiad ymgynghori
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n adolygu’r adroddiad ymgynghori yn ystod cam derbyn y broses i benderfynu:
- a yw’r ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r gofynion ymgynghori cyn-ymgeisio
- yn y pen draw, a yw’r cais o safon foddhaol i’w dderbyn ar gyfer ei archwilio
Dylai’r ymgeisydd ystyried yr adroddiad ymgynghori yn rhan bwysig o’r sylfaen dystiolaeth sy’n cefnogi ei gais. Fe allai’r Awdurdod Archwilio gyfeirio at yr adroddiad ymgynghori yn ystod archwilio’r cais ac fe allai’r Ysgrifennydd Gwladol gyfeirio ato wrth wneud ei benderfyniad.
Mae’n rhaid i’r adroddiad ymgynghori esbonio sut mae’r ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r gofynion ymgynghori cyn-ymgeisio statudol a amlinellir yn y Ddeddf Cynllunio, ac yn benodol y gofynion i:
- ymgynghori ag ymgyngoreion rhagnodedig (adran 42)
- ymgynghori â’r gymuned (adran 47)
- rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig (adran 48)
- ystyried ymatebion ymgynghori (adran 49)
- ystyried canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio (adran 50)
Dylai’r adroddiad hefyd esbonio unrhyw ymgynghoriad cyn-ymgeisio anstatudol a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd.
Dylai’r adroddiad ymgynghori esbonio sut mae’r ymgeisydd wedi ystyried cyngor cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth Gynllunio a’r cyngor a roddwyd gan ymgyngoreion statudol eraill ac awdurdodau lleol.
Dylai’r ymgeisydd fod yn ymwybodol bod gofynion ymgynghori ychwanegol yn gysylltiedig â cheisiadau sy’n ceisio dilyn y Weithdrefn Garlam. Amlinellir y gofynion hyn yng nghanllawiau’r llywodraeth ar y broses Garlam a Phrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio.
Ymgynghoriad Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol
Mae ymgynghoriad a gynhelir yn rhan o’r broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 ar wahân i hwnnw sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Cynllunio. Er enghraifft, mae ymgynghoriad statudol ar adroddiad cwmpasu yn dilyn cais cwmpasu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymgynghoriad o dan y rheoliadau AEA. Fe allai’r ymgeisydd ddymuno tynnu sylw at ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd o dan y broses AEA, ond dylai unrhyw gyfeiriad at yr ymgynghoriad AEA gael ei drin ar wahân i’r ymgynghoriad anstatudol a statudol a gynhaliwyd o dan y Ddeddf Cynllunio.
I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ymgynghori ar gyfer AEA, gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar Hysbysu ac Ymgynghori ynghylch Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol.
Fformat a chynnwys yr adroddiad ymgynghori
Nid oes fformat safonol ar gyfer adroddiad ymgynghori. Mae’r cyngor hwn yn rhoi rhai canllawiau arfer da ynglŷn â strwythur adroddiad ymgynghori.
Prif nod yr adroddiad ymgynghori yw egluro pa ymgynghoriad a gynhaliwyd a sut mae’r ymgeisydd wedi ystyried adborth. Dylai’r Arolygiaeth Gynllunio allu deall sut y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a sut yr ymdriniwyd â’r materion a godwyd neu yr ymatebwyd iddynt. Nid oes angen i’r adroddiad gynnwys disgrifiad rhy fanwl o bob elfen o’r rhaglen ymgynghori. Gweler paragraff 026 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio i gael rhagor o wybodaeth.
Testun cyflwyniadol
Dylai’r testun cyflwyniadol roi trosolwg, gan gynnwys:
- crynodeb o’r gweithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd
- tabl neu linell amser yn crynhoi ymgynghoriad statudol ac anstatudol mewn trefn gronolegol
Dylai’r adran hon esbonio’r berthynas rhwng unrhyw gamau opsiynau strategol cychwynnol o’r prosiect, unrhyw ymgynghoriad anstatudol dilynol a allai fod wedi cael ei gynnal, a’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd.
Mae llawer o NSIPau yn esblygu dros gyfnod estynedig ac fe allai cynigion blaenorol, neu elfennau o gynigion, wedi bod yn destun ymgynghoriad ac yna wedi cael eu diystyru. Yn yr achos hwn, gall disgrifiad byr o unrhyw weithgarwch hanesyddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd ar gael am gynnwys cyffredinol yr ymgynghoriad a nifer yr ymatebion bryd hynny, fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, nid oes angen hanes cynllunio manwl o’r safle.
Ymgynghoriadau aml-gam
Byddai’n ddefnyddiol petai pob cam o ymgynghoriad anstatudol a statudol yn cael ei gyflwyno a’i esbonio’n gronolegol mewn penodau neu adrannau ar wahân o’r adroddiad. Gall hyn hefyd gynnwys atodlenni ar wahân sy’n crynhoi’r ymatebion ymgynghori ar gyfer pob rownd ymgynghori, y gellid eu cynnwys fel atodiad i’r adroddiad.
Ymgynghoriad statudol
Dyma’r ymgynghoriad sy’n ofynnol gan y Ddeddf Cynllunio.
Dyletswydd i hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol (adran 46)
Dylai’r adroddiad gynnwys manylion pryd yr hysbysodd yr ymgeisydd yr Arolygiaeth Gynllunio o’i fwriad i gyflwyno cais NSIP a chynnal ymgynghoriad statudol. Fel sy’n ofynnol gan adran 46 y Ddeddf Cynllunio, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio cyn dechrau ymgynghoriad o dan adran 42. Dylai’r adroddiad gadarnhau pryd y darparwyd y gyfres lawn o ddogfennau ymgynghori i’r Arolygiaeth Gynllunio a chynnwys rhestr o’r dogfennau hynny.
Dyletswydd i ymgynghori (adran 42)
Dylai’r adroddiad gynnwys rhestr o’r holl unigolion a chyrff ymgynghori yr ymgynghorwyd â nhw. Dylai’r ymgeisydd ddarparu sampl o’r llythyr a anfonwyd at bob math o ymgynghorai sy’n cynnwys y dyddiad pryd y’i hanfonwyd, a’r dyddiad cau a roddwyd ar gyfer ymatebion. Gellir cynnwys y rhain fel atodiad. Dylai’r ymgeisydd restru’r ymgyngoreion yn y drefn a awgrymir isod. Ar gyfer pob math o ymgynghorai, dylai’r ymgeisydd gynnwys y dyddiadau pryd yr ymgynghorwyd â nhw.
· Ymgyngoreion rhagnodedig (adran 42(1)(a), (aa) ac (c))
Dylai’r rhestr o’r ymgyngoreion rhagnodedig ddilyn y drefn y cawsant eu cyflwyno ynddi yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (Rheoliadau CFfGR 2009). Dylid cyfiawnhau unrhyw amrywiadau rhwng rhestr yr ymgeisydd o ymgyngoreion rhagnodedig a’r rhestr a amlinellir yn Atodlen 1 Rheoliadau CFfGR 2009. Lle y bo’n berthnasol, dylai’r rhestr o ymgyngoreion rhagnodedig hefyd gynnwys y Sefydliad Rheoli Morol (adran 42(1)(aa)) ac Awdurdod Llundain Fwyaf (adran 42(1)(c)).
Cyflwynodd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) 2024 ddarpariaethau trosiannol ar gyfer achosion lle y dechreuodd yr ymgeisydd ymgynghori o dan adran 42 cyn 30 Ebrill 2024.
· Awdurdodau lleol perthnasol (adran 42(1)(b))
Dylai’r adroddiad gynnwys disgrifiad byr o sut y cymhwyswyd adran 43 y Ddeddf Cynllunio wrth amlygu’r awdurdodau lleol perthnasol. Gellir dangos hyn gan fap sy’n dangos y safle ac yn amlygu ffiniau’r awdurdodau lleol perthnasol.
· Unigolion â buddiant mewn tir (adran 42(1)(d))
Dylai’r adroddiad gynnwys nifer yr unigolion â buddiant yn nhir y Gorchymyn yr ymgynghorwyd â nhw. Gellir rhannu hyn i ddangos y nifer ym mhob categori a amlinellir yn adran 44 y Ddeddf Cynllunio. Nid oes angen rhestru enwau’r holl unigolion a nodwyd yn y Llyfr Cyfeirio.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddangos y gwnaed ymholiadau diwyd i amlygu unigolion o dan adran 44 ac i sicrhau bod Llyfr Cyfeirio cyfredol yn cael ei gyflwyno gyda’r cais. Fe ddylai hefyd amlinellu’r fethodoleg ar gyfer amlygu unigolion yng Nghategori 3 (y rhai hynny a allai wneud hawliad perthnasol).
Os gwnaed newidiadau i ffin llinell goch y prosiect yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ac arweiniodd hynny at amlygu ac ymgynghori ag unigolion ychwanegol â buddiant mewn tir, dylai’r ymgeisydd ddisgrifio:
- faint o bobl ychwanegol â buddiant mewn tir yr ymgynghorwyd â nhw
- sut a phryd yr ymgynghorwyd â nhw
- pa wybodaeth a roddwyd iddynt
Dylai’r ymgeisydd esbonio sut yr ymdriniodd ag unrhyw fuddiannau newydd mewn tir a ddaeth i’r amlwg ar ôl i’r ymgynghoriad statudol orffen. Gweler paragraff 024 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio i gael rhagor o wybodaeth.
Dyletswydd i ymgynghori â’r gymuned leol (adran 47)
Bydd angen i’r Arolygiaeth Gynllunio fod yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r broses paratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC). Dylai’r adroddiad gynnwys tystiolaeth sy’n dangos:
- pa awdurdodau lleol yr ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â chynnwys y SoCC drafft
- beth oedd sylwadau’r awdurdodau lleol
- cadarnhad y rhoddwyd 28 niwrnod i’r awdurdodau lleol gyflwyno eu sylwadau
- disgrifiad o sut yr ystyriodd yr ymgeisydd sylwadau’r awdurdodau lleol. Er enghraifft, lle yr amlygodd awdurdod lleol grwpiau sydd dan anfantais yn ddigidol, dylai’r ymgeisydd esbonio pa fesurau lliniaru a weithredwyd i ganiatáu i’r bobl hyn ymgysylltu, fel darparu llinell ffôn gymorth
- lle y bo’n briodol, esboniad ynghylch pam na weithredodd yr ymgeisydd ar ymateb gan awdurdod lleol
Dylai’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth bod y SoCC:
- ar gael i’w archwilio ar-lein. Gallai tystiolaeth gynnwys sgrin lun o’r dudalen we berthnasol sy’n dangos y SoCC cyhoeddedig a chynnwys cyfeiriad llawn y wefan, rhif ffôn perthnasol ar gyfer ymholiadau, a chadarnhad y gallai’r cyhoedd gael at y dudalen we am ddim
- wedi cael ei gyhoeddi yn y wasg leol. Dylai tystiolaeth gynnwys copi wedi’i sganio o’r hysbysiad cyhoeddedig fel y’i hymddangosodd, a manylion y papurau newydd lleol y cawsant eu cyhoeddi ynddynt a phryd
Lle nad oes modd darparu copi clir wedi’i sganio o hysbysiad, dylai’r ymgeisydd ddarparu’r copi wedi’i sganio gorau sydd ar gael a dogfen sy’n cynnwys testun yr hysbysiad. Os nad oedd modd gosod y SoCC mewn papur newydd lleol printiedig, dylai’r ymgeisydd ddarparu sgrin lun o’r hysbysiad fel y’i cyhoeddwyd mewn papur newydd lleol ar-lein. Dylai’r sgrin lun gynnwys cyfeiriad llawn y wefan, rhif ffôn perthnasol ar gyfer ymholiadau a’r dyddiad cyhoeddi.
Os cafodd SoCC ei ddiweddaru mwy nag unwaith, dylid cynnwys y fersiynau wedi’u diweddaru o bob SoCC. Dylai’r adroddiad esbonio pam yr adolygwyd ac y diweddarwyd y SoCC o’r fersiwn flaenorol.
Os bydd anghysondebau rhwng y SoCC a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd, dylid esbonio a chyfiawnhau hyn yn glir. Er enghraifft, os cynhaliwyd ymgynghoriad ychwanegol na chynhwyswyd yn y SoCC.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses SoCC ar gael yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i Awdurdodau Lleol.
Dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd (adran 48)
Dylai’r adroddiad gynnwys copi wedi’i sganio o’r hysbysiad adran 48 fel y’i hymddangosodd yn y papurau newydd a’r cyfnodolion lleol a chenedlaethol. Lle nad oes modd darparu copi clir wedi’i sganio o’r hysbysiad, dylai’r ymgeisydd ddarparu’r copi wedi’i sganio gorau sydd ar gael a dogfen sy’n cynnwys testun yr hysbysiad. Dylai’r copi wedi’i sganio o’r hysbysiad ddangos enw’r cyhoeddiad a’r dyddiad cyhoeddi yn glir.
Lle nad oedd modd gosod yr hysbysiad mewn papurau newydd a chyfnodolion printiedig, dylid darparu sgrin lun o’r hysbysiad fel y’i cyhoeddwyd mewn cyhoeddiadau ar-lein. Dylai’r sgrin lun gynnwys cyfeiriad llawn y wefan, rhif ffôn perthnasol ar gyfer ymholiadau a’r dyddiad cyhoeddi.
Dylai’r adroddiad gadarnhau ble a phryd y cyhoeddwyd yr hysbysiad, a’r cyfnod a roddwyd ar gyfer ymatebion.
Dylai’r adroddiad gadarnhau bod yr hysbysiad adran 48 wedi cael ei anfon at y cyrff ymgynghori Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) ar yr un pryd ag y’i cyhoeddwyd. Gweler Rheoliad 13 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y Rheoliadau AEA 2017).
Dyletswydd i ystyried ymatebion i ymgynghoriad (Adran 49)
Dylai’r adroddiad ddarparu tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi ystyried yr ymatebion i ymgynghoriadau wrth baratoi ei gais.
Crynodeb o ymatebion
Dylai’r ymgeisydd ddarparu crynodeb o’r ymatebion unigol a dderbyniwyd. Dylai’r ymatebion gael eu categoreiddio mewn ffordd briodol. Fe allai fod yn briodol i’r ymgeisydd gasglu ymatebion ynghyd o dan brif faterion. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd beidio â chyflwyno ymatebion mewn ffordd gamarweiniol neu allan o gyd-destun y safbwyntiau gwreiddiol yn yr ymateb.
Dylai’r ymgeisydd esbonio’r dull a ddefnyddiwyd (codio) i gasglu ymatebion ynghyd a’u trefnu, gan gynnwys unrhyw brosesau diogelu a chroeswirio.
Dylai’r crynodeb o ymatebion amlygu:
- sylwadau sy’n berthnasol (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i newidiadau a wnaed i’r prosiect yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Er enghraifft, newidiadau i leoliad, llwybr, dyluniad, neu raddfa’r cynllun ei hun, neu i fesurau lliniaru neu ddigolledu a gynigiwyd
- sylwadau a arweiniodd at ddim newid, gan gynnwys esboniad ynghylch pam nad oedd yr ymgeisydd yn credu bod angen newid y prosiect
- sylwadau a dderbyniwyd ar ôl dyddiadau cau a osodwyd gan yr ymgeisydd a’r broses a ddefnyddiwyd i ddelio â’r rhain
Dyletswydd i ystyried canllawiau cyn-ymgeisio’r llywodraeth (Adran 50)
Dylai’r adroddiad ddarparu tystiolaeth sy’n dangos sut mae’r ymgeisydd wedi ystyried canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio. Dylai’r adroddiad ddangos sut y dilynwyd y canllawiau perthnasol. Os yw’r ymgeisydd wedi gwyro oddi wrth y canllawiau, dylid esbonio a chyfiawnhau hyn.
Dangos ystyriaeth o’r cyngor cyn-ymgeisio
Dylai adroddiad ymgynghori’r ymgeisydd gynnwys tystiolaeth sy’n dangos sut yr ystyriodd y cyngor cyn-ymgeisio adran 51 gan yr Arolygiaeth Gynllunio a chyngor gan yr ymgyngoreion statudol eraill sy’n rhoi cyngor ar ran y llywodraeth.
Bydd darparu’r dystiolaeth hon yn:
- cefnogi achos yr ymgeisydd i ddangos ei fod wedi cydymffurfio â gofynion Rhan 5, Pennod 2 y Ddeddf Cynllunio
- rhoi hyder i randdeiliaid bod yr ymgeisydd wedi ystyried y cyngor statudol a dderbyniwyd a gwneud pob ymdrech resymol i gyflwyno cais a baratowyd yn dda
Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer darparu’r dystiolaeth hon, ond efallai y byddai’n amgenach ei chyflwyno mewn tabl wedi’i atodi i’r adroddiad ymgynghori.
Adrodd ar y garreg filltir digonolrwydd ymgynghori
Mae’r garreg filltir digonolrwydd ymgynghori yn ofyniad a sefydlwyd yng nghanllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio.
Mae Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi mwy o fanylion am y weithdrefn carreg filltir digonolrwydd ymgynghori.
Dylai’r ymgeisydd grynhoi sut mae wedi cyflawni’r weithdrefn carreg filltir digonolrwydd ymgynghori yn yr adroddiad ymgynghori. Dylai hyn gynnwys sut mae’r ymgeisydd wedi ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwyd gan awdurdodau lleol, ymgyngoreion statudol a’r Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â’r garreg filltir digonolrwydd ymgynghori.
Ymgynghori ac ymgysylltu anstatudol
Mae’n bosibl y bydd yr ymgeisydd wedi cynnal ymgynghoriad anstatudol cynnar. Er enghraifft, gyda chyrff ymgynghori statudol wrth amlygu opsiynau, neu cyn ymgynghoriad statudol. Fe allai’r ymgeisydd hefyd wedi cynnal ymgynghoriad anstatudol ar ôl yr ymgynghoriad statudol. Er enghraifft, pan wnaed newidiadau i’r prosiect.
Dylai’r ymgeisydd ddisgrifio’r ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd gan roi’r un faint o fanylion â’r ymgynghoriad statudol. Er nad oes angen i’r ymgeisydd ddangos sut yr ystyriodd y sylwadau ymgynghori anstatudol, dylai esbonio sut oedd y sylwadau a dderbyniwyd wedi dylanwadu ar y prosiect.
Dylai’r ymgeisydd esbonio natur a diben unrhyw ymgynghoriad anstatudol wedi’i dargedu. Er enghraifft, os oedd iddo bwyslais daearyddol, pa ymgyngoreion a gynhwyswyd a beth oedd y sail resymegol dros hyd a lled daearyddol yr ymgynghoriad. Os ymgynghorwyd â nifer lai o ymgyngoreion rhagnodedig, dylai’r ymgeisydd esbonio’r sail resymegol dros y detholiad.
Pan fydd yr ymgeisydd wedi gwneud newidiadau i’r prosiect, p’un a ydynt yn sylweddol neu’n ansylweddol, dylai esbonio pa ymgyngoreion y rhoddwyd gwybod iddynt am y newid, yr ymagwedd at ddewis ymgyngoreion ac esboniad ynghylch sut a phryd yr ymgynghorwyd â nhw.
Atodiadau adroddiad ymgynghori
Dylid defnyddio atodiadau i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos cydymffurfedd â gofynion y Ddeddf Cynllunio, canllawiau’r llywodraeth a chyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ac ymgyngoreion statudol eraill. Dylai’r atodiadau gael eu cyfeirnodi’n glir yn yr adroddiad. Dylai’r ymgeisydd ddefnyddio system gyfeirnodi sy’n cyd-fynd â phenodau neu adrannau’r adroddiad. Dylid defnyddio ymagwedd gronolegol sy’n dangos y daith trwy’r ymgynghoriad.
Dylid darparu atodiad ar wahân ar gyfer pob elfen o’r ymgynghoriad statudol adran 42 a’r cyhoeddusrwydd adran 48. O ran ymgynghoriadau aml-gam, dylid trefnu’r atodiadau’n gronolegol gydag atodiad ar wahân ar gyfer pob cam sydd wedi’i isrannu’n wahanol elfennau’r ymgynghoriad.
Dylid casglu tystiolaeth o ymgynghoriad anstatudol yn gronolegol mewn atodiad ar wahân.
Gellir cynnwys y tabl crynodeb o’r ymatebion ar gyfer pob cam o’r ymgynghoriad fel atodiad, hefyd.
Cais i’r ymgeisydd ddarparu ymatebion ymgynghori
Yn ystod y cam derbyn, fe allai’r Arolygiaeth Gynllunio ofyn i’r ymgeisydd ddarparu copi o unrhyw un, neu bob un, o’r ymatebion ymgynghori statudol a dderbyniodd. Gellir gofyn am hyn os oes ansicrwydd ynglŷn â ph’un a gyflawnwyd y ddyletswydd i ystyried ymatebion ymgynghori. Dylai’r ymgeisydd baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn yn ystod y cam cyn-ymgeisio fel y gall ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio ar fyr rybudd yn ystod y cam derbyn 28 niwrnod.
Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am sicrhau y gellir darparu copïau o ymatebion ymgynghori mewn modd amserol. Dylai ystyried unrhyw rwymedigaethau sydd ganddo o dan ddeddfwriaeth diogelu data wrth baratoi’r ymatebion. Ni ellir atal y cam derbyn dros dro na’i ymestyn tra’n disgwyl i’r ymatebion ymgynghori gael eu cyflwyno. Ni fydd yr ymatebion ymgynghori’n cael eu cyhoeddi ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Diogelu Data a chanllawiau golygu
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod yr adroddiad ymgynghori’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a bod data personol unigolion yn cael ei drin yn briodol. Fe allai hyn gynnwys golygu data a chael cydsyniad ar sail gwybodaeth gan yr unigolion dan sylw, fel y bo’n briodol.
Ni ddylai’r adroddiad ymgynghori gynnwys yr eitemau canlynol (os oes angen, dylai’r ymgeisydd olygu gwybodaeth berthnasol):
- cyfeiriadau cartref preifat unigolion neu wybodaeth a allai arwain at adnabod lleoliad unigolyn preifat
- cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn preifat unigolion
- data sensitif neu gategori arbennig o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig
- llofnodion ysgrifenedig
- ffotograffau o wynebau unigolion nad ydynt wedi rhoi caniatâd i’w delwedd gael ei chyhoeddi, gan gynnwys delweddau a dynnwyd mewn digwyddiadau ymgynghori
- gwybodaeth a allai arwain at adnabod lleoliad penodol rhywogaeth a warchodir