Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae’r cyngor hwn yn crynhoi gofynion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr 2017 (Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) mewn perthynas â cheisiadau Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd â nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol a chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.
Nodau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD)
Mae Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 yn trosi’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gyfraith y Deyrnas Unedig.
Mae’r WFD yn gwarchod dyfroedd wyneb gan gynnwys afonydd, llynnoedd, dyfroedd trawsnewidiol (y cyfeirir atynt yn y cyngor hwn fel dyfroedd aberol), dyfroedd arfordirol a dŵr daear.
Nodau’r WFD yw:
- gwella statws cyrff dŵr wyneb, cyrff dŵr daear a’u hecosystem, a’u hatal rhag dirywio ymhellach
- sicrhau bod llygredd dŵr daear yn lleihau’n gynyddol
- lleihau llygredd dŵr, yn enwedig gan Sylweddau â Blaenoriaeth a Llygryddion Penodol Eraill o dan Atodiad II Cyfarwyddeb Safonau Ansawdd Amgylcheddol 2008/105/EC
- helpu i liniaru effeithiau llifogydd a sychderau
- cyflawni statws dŵr wyneb da o leiaf ar gyfer pob corff dŵr wyneb a statws cemegol da mewn cyrff dŵr daear erbyn 2015 (Erthygl 4), neu botensial ecolegol da ar gyfer cyrff dŵr artiffisial neu a addaswyd yn sylweddol
- cefnogi defnydd cynaliadwy o ddŵr
Mae Rheoliadau WFD 2017 yn mynnu bod yr asiantaeth briodol, sef Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru, yn paratoi Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar gyfer pob Ardal Basn Afon, i’w cymeradwyo gan yr awdurdod priodol. Yr awdurdod priodol yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr a Gweinidogion Cymru yng Nghymru.
Mae 12 Ardal Basn Afon yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys dwy Ardal Basn Afon drawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr ac un sy’n croesi’r ffin rhwng Lloegr a’r Alban.
Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn disgrifio:
- cyflwr presennol yr amgylchedd dŵr ar gyfer pob ardal basn afon
- y pwysau sy’n effeithio ar yr amgylchedd dŵr
- yr amcanion ar gyfer ei warchod a’i wella
- y rhaglen o fesurau sy’n angenrheidiol i gyflawni amcanion amgylcheddol statudol yr WFD
Cyhoeddwyd y cynlluniau hyn gyntaf yn 2009 ac maen nhw’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phrif amcanion yr WFD. Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf yn 2022.
Dyletswyddau’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Awdurdod Archwilio
Mae Rheoliadau WFD 2017 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, a Cyfoeth Naturiol Cymru i arfer eu ‘swyddogaethau perthnasol’ i sicrhau cydymffurfedd â’r WFD (Rheoliad 3). Nid yw swyddogaethau o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn ‘swyddogaethau perthnasol’ at y diben hwn.
Mae gan yr awdurdodau hyn a phob corff cyhoeddus (fel y’u diffinnir yn Rheoliad 2) ddyletswydd hefyd i ystyried y Cynllun Rheoli Basn Afon wrth arfer eu swyddogaethau (Rheoliad 33). Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i swyddogaethau o dan Ddeddf Cynllunio 2008 wrth archwilio a phenderfynu ar geisiadau NSIP.
Wrth benderfynu ar geisiadau NSIP, bydd angen i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried effeithiau posibl unrhyw ddatblygiad arfaethedig ar:
- yr amcanion a’r mesurau amgylcheddol o fewn Cynllun Rheoli Basn Afon ac unrhyw gynlluniau atodol a
- gallu’r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â’r WFD, gan gynnwys (os yw’n berthnasol) darpariaethau rhanddirymiad Erthygl 4.7
Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio ar gyfer cais NSIP adrodd ar yr effeithiau hyn hefyd a sicrhau bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddigon o wybodaeth i benderfynu p’un a oes gan y datblygiad oblygiadau i rwymedigaethau’r Deyrnas Unedig o dan yr WFD. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth i gefnogi unrhyw randdirymiad y gellid ei geisio.
Mae sawl Datganiad Polisi Cenedlaethol yn dweud bod rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys gwybodaeth am effeithiau sy’n deillio o’r datblygiad arfaethedig ar gyrff dŵr neu ardaloedd gwarchodedig o dan yr WFD a chyfarwyddebau eraill. Gweler y Datganiadau Polisi Cenedlaethol EN-1 Ynni, EN-6 Niwclear, Rhwydweithiau Cenedlaethol, Porthladdoedd, Dŵr Gwastraff, a Gwastraff Peryglus.
Mae Rheoliad 5(2) (l) (iii) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (y Rheoliadau CFfGR) yn mynnu bod ymgeiswyr yn darparu cynllun a gwybodaeth sy’n amlygu cyrff dŵr mewn cynllun rheoli basn afon, ynghyd ag asesiad o unrhyw effeithiau ar gyrff o’r fath y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o’u hachosi.
Mae’n rhaid i unrhyw asesiad WFD gael ei gynnal yn drwyadl ac mae’n rhaid iddo allu cael ei adnabod yn rhwydd ymhlith dogfennau’r cais.
Y berthynas ag Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)
Bydd angen AEA ar y rhan fwyaf o geisiadau NSIP a bydd angen HRA arnynt hefyd yn aml. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at dudalennau cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar AEA a HRA i gael rhagor o wybodaeth am yr asesiadau hyn.
Mae’r Asesiad WFD, yr AEA a’r HRA yn asesiadau ar wahân, ond maen nhw i gyd yn rhan annatod o’r cais ac mae perthynas uniongyrchol rhyngddynt.
Mae’r asesiadau hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau mewn gwahanol ffyrdd:
- mae’r asesiad WFD yn rhoi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol o ran y ddyletswydd i roi sylw dyladwy i’r Cynllun Rheoli Basn Afon ac unrhyw gynlluniau atodol (Rheoliad 33 Rheoliadau WFD 2017)
- mae’r AEA yn rhoi gwybod i’r Ysgrifennydd Gwladol am effeithiau arwyddocaol tebygol o’r datblygiad arfaethedig ac mae’n rhaid i’w ganfyddiadau gael eu hystyried (Rheoliad 4(2) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (AEA) 2017)
- mae’r HRA yn cynnwys camau gofynnol y mae’n rhaid i’r penderfynwr eu dilyn wrth awdurdodi caniatâd datblygu y gellir ei roi dim ond os bodlonir gofynion y Rheoliadau Cynefinoedd (Rheoliad 28/61 y Rheoliadau Cynefinoedd perthnasol)
Bydd angen i asesiad WFD gofnodi effeithiau’r datblygiad arfaethedig ar amcanion yr WFD a Chynlluniau Rheoli Basnau Afon perthnasol. Mae’n rhaid i’r wybodaeth hon gael ei hamlygu’n glir yn nogfennau’r cais, ac argymhellir bod yr asesiad yn cael ei gyflwyno naill ai fel adroddiad ar wahân neu fel asesiad ar wahân yn y datganiad amgylcheddol.
Gall ymgeiswyr ddefnyddio’r weithdrefn gwmpasu AEA i gyflwyno gwybodaeth sy’n amlygu’r cyrff dŵr o fewn Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd perthnasol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt, gan gynnwys y fethodoleg asesu. Bydd hyn yn helpu i rybuddio’r Arolygiaeth Gynllunio, yr Ysgrifennydd Gwladol, ac ymgyngoreion perthnasol am oblygiadau’r datblygiad arfaethedig i’r WFD yn gynnar yn y cam cyn-ymgeisio.
Cynghorir ymgeiswyr i ddisgrifio’r dulliau maen nhw’n bwriadu eu defnyddio yn eu hasesiad WFD yn eu hadroddiad cwmpasu AEA.
Cyrff ymgynghori
Mae’n rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru gydymffurfio â’r WFD ac maen nhw’n gyrff ymgynghori statudol o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Dylai ymgeiswyr geisio safbwyntiau Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynnar yn y broses cyn-ymgeisio ac yn ystod yr archwiliad os bydd angen.
Fe allai trafodaethau gynnwys:
- yr angen am asesiad WFD penodol
- cwmpas a methodoleg unrhyw asesiad WFD
- effaith bosibl y datblygiad arfaethedig ar gyrff dŵr o fewn y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol a chydymffurfio ag amcanion yr WFD
- unrhyw fesurau lliniaru sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd
- y wybodaeth sydd i’w chyflwyno yn rhan o’r cais NSIP i lywio profion Erthygl 4.7, os oes angen rhanddirymiad, y dylid ei chasglu’n gynnar yn y broses, gan gynnwys yn ystod y cam arfarnu opsiynau dylunio
Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r broses ymgynghori cyn-ymgeisio i gael cyngor gan y cyrff ymgynghori. Dylai hyn gynnwys cadarnhad bod yr holl gyrff dŵr perthnasol wedi cael eu hystyried, bod yr holl effeithiau posibl ar y cyrff dŵr hyn wedi cael eu hystyried a ph’un a fodlonwyd gofynion yr WFD.
Dylai canlyniad yr ymgynghoriad hwn gael ei gofnodi yn rhan o’r asesiad WFD neu ei atodi i bennod berthnasol y datganiad amgylcheddol.
Pan fydd Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno nad oes angen asesiad WFD penodol, dylid adrodd ar hyn, a dylai’r ymateb ymgynghori perthnasol gael ei ddarparu gyda’r cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).
I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus.
Trosolwg o’r broses asesiad WFD
Nid oes proses na fformat rhagnodedig ar gyfer asesiadau WFD. Fodd bynnag, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynhyrchu arweiniad ar Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr: dyfroedd aberol ac arfordirol.
Er bod y cyngor hwn yn canolbwyntio ar ddyfroedd aberol ac arfordirol yn Lloegr, mae’r arweiniad yn amlinellu egwyddorion cyffredinol ac ymagwedd fesul cam at asesu y mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn y gellir eu defnyddio ar gyfer cyrff dŵr eraill fel afonydd, llynnoedd a dŵr daear yng Nghymru a Lloegr. Dylid trafod cymhwyso’r egwyddorion hyn gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pob prosiect.
Dylai ymgeiswyr ddefnyddio ymagwedd gytbwys a hyblyg, ond mae’n rhaid i’r asesiad fod yn gynhwysfawr. Fe allai fod yn ddefnyddiol dilyn yr ymagwedd tri cham a ddisgrifir yn arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd:
- Cam 1 WFD – Sgrinio: i bennu os oes rhannau o’r datblygiad arfaethedig nad oes angen eu hystyried ymhellach, er enghraifft gweithgareddau sydd wedi bod yn parhau ers cyn y cylch Cynllun Rheoli Basn Afon presennol ac sydd felly’n rhan o’r llinell sylfaen
- Cam 2 WFD – Cwmpasu: i amlygu risgiau gweithgareddau’r datblygiad arfaethedig i dderbynyddion yn seiliedig ar y cyrff dŵr perthnasol a’u helfennau ansawdd dŵr, gan gynnwys gwybodaeth am statws, amcanion, a’r paramedrau ar gyfer pob corff dŵr
- Cam 3 WFD – Asesiad effaith: asesiad manwl o gyrff dŵr a’u helfennau ansawdd y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt
Os gallai’r cyrff dŵr ddirywio, ac nid oes modd lliniaru’r effeithiau, byddai angen asesu’r prosiect yng nghyd-destun Erthygl 4.7. Pan fydd angen rhanddirymiad, bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol i gyfiawnhau eu hachos ar yr un pryd â dangos eu bod wedi ceisio osgoi dirywiad y corff neu’r cyrff dŵr. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried p’un a oes cyfiawnhad i randdirymiad ar gyfer y datblygiad arfaethedig.
Dylai’r ymarfer sgrinio WFD ac unrhyw waith WFD dilynol ddechrau yn gynnar yn ystod y broses cyn-ymgeisio a dylid ei gynnal mewn ymgynghoriad ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae trafodaethau cynnar yn arbennig o bwysig i lywio’r broses casglu tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith arolygu, monitro ac asesu i gadarnhau’r amodau sylfaenol. Dylai arolygon gael eu hamseru i sicrhau y gellir casglu digon o ddata er mwyn cwblhau’r asesiadau cyn i unrhyw gais DCO gael ei wneud.
Mae Ffigur 1 yn rhoi trosolwg o’r broses asesu argymelledig.
SVG needed
Cam 1 WFD – Sgrinio
Dylai sgrinio amlygu i ba raddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio ar gyrff dŵr. Pan fydd effeithiau’n cael eu ‘hepgor’ o asesiad pellach, dylid cyfiawnhau hyn yn glir.
Dylai’r cam sgrinio:
- ddangos yr holl gyrff dŵr WFD perthnasol ar fap neu gynllun
- amlygu’r parth neu’r parthau dylanwad yn seiliedig ar weithgareddau penodol a/neu nodweddion y datblygiad arfaethedig a allai effeithio ar y cyrff dŵr a amlygwyd ac
- amlygu unrhyw weithgareddau penodol a/neu nodweddion y datblygiad arfaethedig sydd wedi cael eu hepgor, a pham
Dylai ymgeiswyr rannu canfyddiadau’r ymarfer sgrinio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru (y cyrff ymgynghori). Dylent ddarparu crynodebau ysgrifenedig o safbwyntiau Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru ac i ba raddau y mae’r partïon yn cytuno ar y casgliadau. Dylai hyn gael ei gynnwys yn y cais NSIP. Os na ddarperir y wybodaeth hon gyda’r cais, mae’n debygol y gofynnir amdani yn ystod yr archwiliad.
Fe allai’r ymarfer sgrinio ganfod nad oes angen ystyried materion WFD ymhellach. Er enghraifft, lle nad yw cyrff dŵr wedi’u lleoli ym mharth dylanwad y datblygiad neu lle nad oes llwybr effaith yn bodoli. Mater i ymgeiswyr yw darparu digon o dystiolaeth i ddangos hyn wedi’i hategu gan gytundeb gyda’r cyrff ymgynghori.
Mae’n bwysig adolygu penderfyniadau a wnaed yn ystod y cam sgrinio’n rheolaidd er mwyn ystyried unrhyw wybodaeth fanwl ychwanegol am y datblygiad arfaethedig wrth iddi ddod ar gael.
Cam 2 WFD – Cwmpasu
Ar ôl sgrinio, dylai ymgeiswyr gytuno ar gwmpas asesiad pellach gyda’r cyrff ymgynghori a dangos tystiolaeth o hyn yn rhan o’r broses adrodd a dogfennau’r cais.
Dylai’r cam cwmpasu:
- gynnwys asesiad cychwynnol i amlygu’r risgiau o’r datblygiad arfaethedig i dderbynyddion o fewn y parth dylanwad, yn seiliedig ar y cyrff dŵr perthnasol a’u helfennau ansawdd dŵr
- amlygu’r cyrff dŵr y mae angen asesiad effaith manylach arnynt
Dylai ymgeiswyr rannu canfyddiadau eu hymarfer cwmpasu gyda’r cyrff ymgynghori. Yn yr un modd â’r cam sgrinio, dylent ddarparu crynodebau ysgrifenedig o’r casgliadau, ac i ba raddau y daethpwyd i gytundeb gyda’r cyrff ymgynghori, gyda’r cais NSIP. Os na ddarperir y wybodaeth hon gyda’r cais, mae’n debygol y gofynnir amdani yn ystod yr archwiliad.
Cam 3 WFD – Asesiad effaith
Mae’r asesiad effaith yn asesiad manwl o’r cyrff dŵr a’r gweithgareddau a ddatblygwyd o’r ymarfer sgrinio WFD. Dylid ei osod yng nghyd-destun y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd priodol ac fe ddylai:
- amlygu’r cyrff dŵr y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arnynt, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, neu sydd mewn perygl o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig
- cynnwys nodweddion sylfaenol y cyrff dŵr yr effeithir arnynt
- cynnwys disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig a’r agweddau ar y datblygiad a ystyriwyd yng nghwmpas yr asesiad WFD
- cynnwys y dulliau a ddefnyddiwyd i bennu a meintioli graddau effeithiau WFD
- cynnwys asesiad o risg dirywiad, lle y gallai Erthygl 4.7 fod yn berthnasol os gallai’r datblygiad arfaethedig arwain at ddirywio statws neu atal cyflawni statws da
- cynnwys esboniad o unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol a sut y’u sicrheir
- cynnwys esboniad o unrhyw welliannau a/neu gyfraniadau cadarnhaol i amcanion y Cynllun Rheoli Basn Afon a gynigiwyd a sut byddent yn cael eu sicrhau
- pan fydd angen rhanddirymiad, cynnwys gwybodaeth i gyfiawnhau’r achos dros randdirymiad ac
- amlygu unrhyw feysydd diffyg cydymffurfio
Amlygu Cyrff Dŵr
Dylai’r asesiad effaith WFD nodi’n glir yr holl gyrff dŵr y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt a’u cyflwyno ar gynllun yn unol â’r Rheoliadau CFfGR.
Dylid defnyddio tabl i gynnwys y wybodaeth sylfaenol berthnasol, gan ddatgan p’un a yw’r corff dŵr yn afon, llyn, cronfa ddŵr, nant, camlas, neu’n gorff dŵr aberol, arfordirol neu ddŵr daear. Dylai unrhyw gyrff dŵr artiffisial a ddynodwyd neu Gyrff Dŵr a Addaswyd yn Sylweddol, fel y’u diffinnir yn Erthyglau 2.8 a 2.9 yr WFD), gael eu cynnwys yn y tabl.
Dylai’r asesiad WFD ddisgrifio nodweddion pob corff dŵr y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arno, gan gynnwys y statws dosbarthiad presennol ar gyfer pob elfen. Dylai’r statws dosbarthiad gynnwys y statws hydroforffolegol ar gyfer pob corff dŵr yr effeithir arno hefyd.
Dylai’r asesiad esbonio’n glir y pwysau sydd eisoes yn effeithio ar y corff dŵr a’i sensitifrwydd i unrhyw newid, fel y disgrifir yn y Cynllun Rheoli Basn Afon.
Cyrff dŵr wyneb
Pennir statws cyrff dŵr wyneb gan eu statws ecolegol a chemegol, o ystyried yr elfennau canlynol:
Statws ecolegol
- ansawdd biolegol
- ansawdd cemegol a ffisigocemegol cyffredinol
- ansawdd hydroforffolegol
- llygryddion penodol â Safonau Ansawdd Amgylcheddol y Deyrnas Unedig
Statws cemegol
- sylweddau â blaenoriaeth a sylweddau eraill ar lefel yr Undeb Ewropeaidd o dan Safonau Ansawdd Amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd
Mae is-elfennau i bob un o’r meini prawf statws ecolegol. Er enghraifft, pennir ansawdd biolegol trwy ystyried ffytoplancton, macro-algae, pysgod ac infertebratau. Elfen ategol yn unig wrth bennu’r statws ecolegol yw’r ansawdd hydroforffolegol ac nid yw’n cael ei ystyried yn y dosbarthiad statws cyffredinol, oni bai ei fod yn angenrheidiol i wahaniaethu rhwng statws cyffredinol ‘uchel’ a ‘da’.
Defnyddir dosbarthiad isaf y statws ecolegol, gan gynnwys is-elfennau, a’r statws cemegol i bennu statws cyffredinol y corff dŵr. Cyfeirir at hyn weithiau fel egwyddor ‘un allan, pob un allan’.
Mae proses ddosbarthu ar wahân yn berthnasol i Gyrff Dŵr Artiffisial a Chyrff Dŵr a Addaswyd yn Sylweddol gan nad yw’r cyrff hyn yn gallu cyrraedd statws ecolegol da o ystyried eu defnydd economaidd-gymdeithasol at ddiben penodol o dan Erthygl 4.3. Pennir dosbarthiad ‘potensial ecolegol’ Cyrff Dŵr Artiffisial a Chyrff Dŵr a Addaswyd yn Sylweddol trwy:
- amlygu’r dylanwadau sy’n effeithio ar y corff dŵr
- amlygu’r mesurau lliniaru sy’n angenrheidiol i sicrhau bod nodweddion hydroforffolegol corff dŵr yn gyson â photensial ecolegol ‘da’ neu ‘fwyaf posibl’
- asesu p’un a yw’r mesurau a hynny wedi cael eu gweithredu wrth bennu’r ‘potensial ecolegol’ yn gyffredinol
Cyrff dŵr daear
Pennir statws dŵr daear trwy ystyried statws meintiol a statws cemegol.
Dylai disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig, sy’n gyson â’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, gael ei gynnwys yn yr asesiad neu dylid ei groesgyfeirio i’r disgrifiad perthnasol yn y Datganiad Amgylcheddol neu ddogfennau eraill y cais. Dylai agweddau ar y datblygiad efallai na fyddant yn effeithio ar gyrff dŵr gael eu hamlinellu yn y disgrifiad a dylid nodi’n glir eu bod wedi’u hepgor o’r asesiad.
Agweddau pwysig ar asesiad effaith WFD
Dylai’r asesiad:
- feintioli graddau unrhyw effeithiau sy’n debygol o ddigwydd yn y rhychwant daearyddol, fel pa gyrff dŵr sydd o fewn y parth dylanwad, a maint y newid, fel unrhyw ddirywiad i elfen o fewn dosbarth statws a/neu rhwng dosbarthiadau statws
- esbonio a chyfiawnhau’r dulliau a ddefnyddiwyd i asesu effeithiau, yn ogystal â darparu rhesymau dros unrhyw dybiaethau neu farn broffesiynol a gymhwyswyd a’r sylfaen dystiolaeth ategol
Yn ddelfrydol, bydd y wybodaeth a ddarperir yn rhan o unrhyw gais cwmpasu AEA yn rhoi syniad cynnar o’r dulliau sy’n debygol o gael eu defnyddio ac fe ddylai helpu i lywio’r fethodoleg WFD.
Asesiad o risg dirywiad
Dylai’r asesiad o risg effaith ar gorff dŵr ystyried ei elfennau a’i amcanion penodol. Dylai’r asesiad nodi’n glir a oes perygl y bydd elfen WFD yn dirywio, ac fe ddylai gael ei ategu gan sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr.
Canfu Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, yn Bund fur Umwelt und Naturshutz Deutschland eV v Bundesrepublik Deutschland [2015] EUECJ C-461/13, fod yr WFD yn gwahardd awdurdodi prosiectau unigol a allai achosi i statws corff dŵr ddirywio, oni bai y gellir cyfiawnhau rhanddirymiad o dan Erthygl 4.7. Mae gweithgareddau sy’n peryglu cyflawni statws cyffredinol ‘da’ wedi’u gwahardd rhag cael eu hawdurdodi hefyd.
Cynghorodd y Llys fod ‘dirywiad statws’ yn cael ei gadarnhau cyn gynted ag y bydd statws o leiaf un o’r elfennau ansawdd yn gostwng un dosbarth. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad yw’r newid yn arwain at leihau dosbarthiad y corff dŵr yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn berthnasol oni bai bod y corff dŵr eisoes yn y dosbarth statws isaf, ac yn yr achos hwnnw bydd unrhyw ddirywiad yn ddirywiad mewn statws o dan yr WFD.
Dylai ymgeiswyr nodi’n glir unrhyw ddirywiad rhagfynedig mewn statws unrhyw un o’r elfennau ansawdd o fewn cyrff dŵr.
Esboniad o’r mesurau lliniaru sy’n ofynnol a sut y sicrheir eu bod yn cael eu gweithredu
Os oes angen mesurau lliniaru i sicrhau na fydd cyrff dŵr yn dirywio oherwydd y prosiect, dylai hyn gael ei amlygu yn yr asesiad WFD. Dylai unrhyw fesurau lliniaru gael eu hesbonio gyda rhagfynegiad ynglŷn â’u heffeithiolrwydd tebygol ac asesiad o unrhyw effaith weddilliol.
Dylai’r asesiad hefyd esbonio’r math o ddulliau sydd i’w rhoi ar waith i sicrhau bod y cyfryw fesurau lliniaru’n cael eu gweithredu, gan gynnwys cyfeiriad at unrhyw ofynion Gorchymyn Caniatâd Datblygu, amodau trwydded forol dybiedig, neu ddulliau cyfreithiol rwymol eraill gydag amserlenni ar gyfer gweithredu.
Esboniad o unrhyw welliannau a/neu gyfraniadau cadarnhaol i amcanion y Cynllun Rheoli Basn Afon a gynigir a sut y sicrheir y byddent yn cael eu gweithredu
Dylai ymgeiswyr hefyd ddisgrifio unrhyw fesurau gwella neu gyfraniadau cadarnhaol y gall y prosiect eu darparu mewn perthynas ag amcanion y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol. Dylai’r rhain gael eu gosod ar wahân i unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol. Dylid hefyd esbonio’r dulliau a’r amserlenni ar gyfer eu gweithredu, yn ogystal â sut byddent yn cael eu sicrhau.
Rhanddirymiadau
Mae Rheoliad 19 Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 yn caniatáu rhanddirymiad o nodau’r Gyfarwyddeb. Mae hyn ond yn berthnasol i:
- addasiadau newydd i nodweddion ffisegol corff dŵr wyneb, neu
- newidiadau i lefel cyrff dŵr daear, neu
- ddirywiad o statws uchel i statws da ar gyfer cyrff dŵr wyneb yn gysylltiedig â gweithgareddau datblygu cynaliadwy newydd
Caniateir rhanddirymiad o dan yr amodau a nodir yn Rheoliad 19(3) i (5) yn unig. Dylai unrhyw ddibyniaeth ar randdirymiadau fod yn ddewis olaf. Mae’n bwysig bod y gofyniad am randdirymiad yn cael ei ystyried cyn gynted â phosibl yn y cam cyn ymgeisio.
Rhaid cymryd pob cam ymarferol i liniaru’r effaith andwyol ar statws y corff dŵr (Rheoliad 19(3)). Dylai’r achos dros randdirymiad esbonio’r holl gamau a gymerwyd i liniaru’r effeithiau andwyol ar statws y cyrff dŵr yr effeithir arnynt yn sgil y datblygiad arfaethedig. Rhaid iddo ystyried cylch oes cyfan y datblygiad, o’r camau adeiladu a gweithredu i ddatgomisiynu. Dylid nodi’r dull ar gyfer sicrhau’r mesurau lliniaru arfaethedig yn y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu. Dylai ymgeiswyr ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru i weld a ellir gweithredu’r mesurau lliniaru arfaethedig.
Mae’r amodau yn Rheoliad 19 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol:
- i’r rhesymau dros yr addasiadau/newidiadau neu’r datblygiad cynaliadwy fod o fudd cyhoeddus tra phwysig, a/neu
- fod buddion yr addasiadau/newidiadau neu weithgareddau datblygu cynaliadwy i iechyd dynol, diogelwch neu (yn achos addasiadau/newidiadau) ddatblygu cynaliadwy yn gorbwyso buddion cyflawni’r amcanion amgylcheddol ac
- ni ellir cyflawni amcanion yr addasiadau/newidiadau neu weithgareddau datblygu cynaliadwy mewn ffyrdd eraill am resymau yn ymwneud â dichonoldeb technegol neu gost anghymesur.
Rhaid i’r rhesymau dros addasiadau/newidiadau neu weithgareddau datblygu cynaliadwy gael eu nodi a’u hesbonio yn y Cynllun Rheoli Basn Afon a rhaid i’r amcanion amgylcheddol gael eu hadolygu bob chwe blynedd (Rheoliad 19(6)).
Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a yw cais yn bodloni’r profion ac a oes cyfiawnhad dros randdirymiad. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu rhoi cyngor ar y wybodaeth ofynnol i lywio’r profion hyn. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynghori y dylai ymgeiswyr ofyn am sylwadau gan y cyrff hyn ar ddogfennau drafft yn ystod y broses cyn ymgeisio os yw’n debygol y bydd angen rhanddirymiad.
Mae’n rhaid bodloni’r pedwar prawf:
Prawf (a)
Mae’n rhaid cymryd pob cam ymarferol i liniaru’r effeithiau niweidiol ar y corff dŵr dan sylw.
Dylai’r achos dros randdirymiad esbonio’r holl gamau a gymerwyd i liniaru effeithiau niweidiol y datblygiad arfaethedig ar statws y cyrff dŵr yr effeithir arnynt. Mae’n rhaid iddo ystyried cylch oes cyfan y datblygiad, o adeiladu, gweithredu, i ddatgomisiynu. Dylid nodi’r modd o sicrhau’r mesurau lliniaru arfaethedig yn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Dylai ymgeiswyr ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â ph’un a ellir gweithredu’r mesurau lliniaru arfaethedig.
Prawf (b)
Mae’r rhesymau dros addasiadau neu newidiadau wedi’u hamlinellu’n benodol a’u hesbonio yn y Cynllun Rheoli Basn Afon.
Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol fod yn fodlon, o dan Erthygl 4.7(b), y byddai modd i unrhyw newidiadau neu addasiadau i gyrff dŵr sy’n gofyn am randdirymiad gael eu hadrodd yn y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol.
Prawf (c)
Mae’r prawf hwn yn amlinellu:
- bod budd cyhoeddus tra phwysig yn y datblygiad arfaethedig a/neu
- bod ei fuddion yn drech na buddion amcanion yr WFD
Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ynglŷn â pham maen nhw’n credu bod cyfiawnhad i’r datblygiad oherwydd:
- budd cyhoeddus tra phwysig a/neu
- bod buddion y prosiect i iechyd dynol, diogelwch dynol neu ddatblygu cynaliadwy yn drech na buddion cyflawni amcanion yr WFD
Os yw’r datblygiad arfaethedig yn bodloni profion (c)(1) ac (c)(2), fe allai ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth i gefnogi’r ddau achos er mai dim ond un rhan o’r prawf y mae angen ei bodloni.
Prawf (ch)
Ni ellir cyflawni buddion y prosiect trwy opsiwn amgylcheddol sylweddol well.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos na ellir cyflawni amcanion buddiol yr addasiadau neu’r newidiadau i’r corff dŵr a wneir gan y datblygiad trwy fodd arall:
- sy’n opsiwn amgylcheddol sylweddol well
- sy’n dechnegol ymarferol
- nad yw’n arwain at gost anghymesur
Er enghraifft, gall hyn gynnwys lleoliadau amgen, gwahanol raddfeydd, dyluniadau datblygiad, neu brosesau amgen.
Mae Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban (SEPA) wedi darparu canllawiau (SEPA Canllawiau Ategol (WAT-SG-68) Asesu Opsiynau Amgylcheddol Sylweddol Well (2016)) sy’n datgan y gallai opsiwn fod yn opsiwn amgylcheddol sylweddol well:
- os yw’r budd y mae’n ei ddarparu yn gyfwerth o leiaf â’r budd a fyddai’n cael ei ddarparu gan y cynnig
- os yw ei gost amgylcheddol yn sylweddol lai na chost amgylcheddol y cynnig (byddai SEPA yn asesu cost amgylcheddol cynnig trwy amlygu arwyddocâd ei effeithiau niweidiol gan ddefnyddio’r dull a amlinellir yn WAT-SG-67: Asesu Arwyddocâd Effeithiau – Cymdeithasol, Economaidd, Amgylcheddol (SEPA Canllawiau Ategol Defnydd Dŵr (WAT-SG-67)
- os yw’n economaidd hyfyw ac yn opsiwn realistig
Dylai ymgeiswyr gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru am unrhyw arweiniad neu gyngor arall ar gyfer prosiectau yng Nghymru a Lloegr.
Cyflwyno Gwybodaeth
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cynhyrchu matricsau WFD yn
i helpu ymgeiswyr i ddarparu’r wybodaeth y mae’n debygol y bydd ei hangen mewn archwiliad.Gellir darparu matricsau drafft wedi’u cwblhau, ynghyd â gwybodaeth arall berthnasol, yn rhan o gais am farn gwmpasu AEA i fynd i’r afael â’r gofynion mewn deddfwriaeth.
Mae’r matricsau’n rhoi trosolwg o ymagwedd ymgeisydd at yr WFD a’r camau sgrinio ac asesu cydymffurfedd a gallant helpu yn ystod y broses dderbyn. Fodd bynnag, nid yw’r matricsau’n disodli’r angen am ddarparu’r wybodaeth lawn a gynhwysir yn adroddiad sgrinio ac asesu WFD ymgeisydd. Dylai’r matricsau groesgyfeirio i rannau perthnasol yr adroddiad hwnnw.
Dylai’r matricsau:
- amlygu pob Cynllun Rheoli Basn Afon y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arno a phob corff dŵr o fewn y cynllun perthnasol y mae’n debygol yr effeithir arno
- nodi pa gyrff dŵr a hepgorwyd, a pha rai a dducpwyd ymlaen ar gyfer asesiad WFD manwl
- o ran pob corff dŵr a dducpwyd ymlaen ar gyfer asesiad manwl, crynhoi’r sefyllfa o ran yr asesiad a gweithredu fel pwynt cyfeirio defnyddiol yn ystod y cam adolygu derbyn ac yn ystod yr archwiliad
- rhoi crynodeb o gyrff dŵr lle y rhagfynegir dirywiad i statws a/neu ddosbarth elfen neu lle y gallai’r datblygiad rwystro cyflawni amcanion yr WFD
- amlygu unrhyw gyrff dŵr ac elfennau WFD a dducpwyd ymlaen ar gyfer ystyried rhanddirymiad Erthygl 4.7
Adnoddau Eraill
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau canllaw ac adroddiadau technegol ar yr WFD o dan y Strategaeth Weithredu Gyffredin (CIS) i gynorthwyo rhanddeiliaid i weithredu’r WFD.
Bwriedir i’r canllawiau hyn ddarparu ymagwedd fethodolegol gyffredinol. Er y bydd angen eu teilwra i amgylchiadau penodol pob un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, cynghorir ymgeiswyr i ystyried y cyfryw ganllawiau wrth gynnal eu hasesiad o’r WFD.
Mae Grŵp Cynghori Technegol WFD y Deyrnas Unedig (UKTAG) yn bartneriaeth rhwng asiantaethau llywodraeth y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan grŵp polisi WFD y Deyrnas Unedig. Fe’i crëwyd i roi cyngor cydlynol ar agweddau gwyddonol a thechnegol ar yr WFD.
Mae UKTAG yn ystyried y wybodaeth wyddonol a thechnegol sydd ar gael, yn ogystal â chomisiynu ymchwil ynglŷn â meysydd penodol, wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer ymarfer WFD yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain ar gael yn rhan o’i adnoddau ar-lein. Yna, mae gwahanol weinyddiaethau llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried p’un ai mabwysiadu argymhellion UKTAG.