Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar Effeithiau Trawsffiniol a’r Broses
Mae’r cyngor hwn yn crynhoi’r gweithdrefnau hysbysu ac ymgynghori gofynnol sy’n rheoli Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau) a allai gael effeithiau trawsffiniol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Dylid ei ddarllen ynghyd â chyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chyngor ar Asesiadau Cynefinoedd yn ogystal â chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.
Deddfwriaeth
Mae’r effeithiau trawsffiniol y cyfeirir atynt yn y cyngor hwn yn effeithiau ar amgylchedd Aelod-wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (Gwladwriaethau’r AEE). Rheolir gweithdrefnau trawsffiniol gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhan o broses Deddf Cynllunio 2008 ar gyfer archwilio ceisiadau NSIP.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi llofnodi:
- Confensiwn Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop (UNECE) ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol mewn cyd-destun Trawsffiniol, a adwaenir fel ‘Confensiwn Espoo’
- y Confensiwn ar Fynediad at Wybodaeth, Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Gwneud Penderfyniadau a Mynediad at Gyfiawnder mewn Materion Amgylcheddol, a adwaenir fel ‘Confensiwn Aarhus’
Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU yr Undeb Ewropeaidd (fel y’i diwygiwyd) (y Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)) yn gweithredu Confensiynau Espoo ac Aarhus yn yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y Rheoliadau AEA) a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018 a 2020) wedi trosi gofynion y Gyfarwyddeb AEA sy’n rheoli hysbysu ac ymgynghori statudol mewn perthynas ag effeithiau trawsffiniol datblygiad ar Wladwriaethau’r AEE yn gyfraith y Deyrnas Unedig.
Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (ac nid yw’n cynnwys Ynys Manaw, Jersey a Guernsey). Mae Gwladwriaethau’r AEE yn cynnwys holl Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Nid yw’r Swistir a’r Deyrnas Unedig yn Aelod-wladwriaethau’r AEE.
Mae’r gwladwriaethau sydd wedi llofnodi Confensiynau Espoo ac Aarhus yn fwy o ran nifer nag Aelod-wladwriaethau’r AEE. Felly, mae gan y Deyrnas Unedig rwymedigaethau i ymgysylltu â gwladwriaethau eraill sydd wedi llofnodi, a’u cyhoedd, lle y bo’n berthnasol.
Mae Rheoliad 32 y Rheoliadau AEA yn sefydlu dyletswyddau penodol pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol (neu Wladwriaeth AEE) o’r farn y gallai NSIP gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE. Mae’n amlinellu rhwymedigaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i hysbysu ac ymgynghori â Gwladwriaethau’r AEE pan fydd angen ac o fewn y graddfeydd amser a osodir gan Ddeddf Cynllunio 2008.
Bydd y dyletswyddau a amlinellir yn Rheoliad 32 yn berthnasol hyd nes y gwneir penderfyniad ar y cais NSIP.
O ran datblygiad NSIP arfaethedig y mae arno angen Datganiad Amgylcheddol, mae Atodlen 4 y Rheoliadau AEA yn mynnu y dylai’r disgrifiad o effeithiau arwyddocaol tebygol gynnwys effeithiau trawsffiniol.
O dan Reoliad 32, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol hysbysu ac ymgynghori â Gwladwriaethau’r AEE yn unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol:
- mae’r datblygiad yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cael gwybod y bydd Datganiad Amgylcheddol yn cael ei ddarparu, neu mae’n mabwysiadu barn sgrinio, neu’n cyfarwyddo bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA
- neu rhoddir gwybod iddo fel arall fod y datblygiad yn ddatblygiad AEA ac mae o’r farn ei fod yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE
- neu gofynnir amdano gan Wladwriaeth AEE y mae datblygiad o’r fath yn debygol o gael effaith sylweddol arni
Roedd Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y Rheoliadau Cynefinoedd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth) wedi trosi Cyfarwyddeb 92/43/EEC y Cyngor ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd) yn gyfraith y Deyrnas Unedig.
Yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020, diwygiwyd y Rheoliadau Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth yn mynnu (lle y bo’n berthnasol) bod awdurdodau cymwys yn cynnal asesiad priodol cyn rhoi caniatâd ar gyfer cynllun sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd neu safle Morol Ewropeaidd (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill).
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried p’un ai caniatáu prosiectau ynni, yn cymhwyso egwyddorion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Dyma pan fydd effeithiau arwyddocaol yn debygol ar y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol, safleoedd Ewropeaidd neu safleoedd ymgeisiol yng Ngwladwriaethau’r AEE. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn berthnasol i ddatblygiadau fferm wynt alltraeth.
Y Broses Drawsffiniol o dan Reoliad 32
Yn ystod y cam cyn-ymgeisio a chyn y gwneir argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n ymgymryd â gofynion Rheoliad 32 perthnasol.
Pan fydd NSIP arfaethedig yn ddatblygiad AEA, bydd rhaid i’r Arolygiaeth benderfynu a yw’n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE, yn rhan o broses sgrinio drawsffiniol.
O ran datblygiadau NSIP eraill, mae Rheoliad 32 yn berthnasol os yw Gwladwriaeth AEE y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arni’n gwneud cais am gymhwyso darpariaethau.
Pan fydd tebygolrwydd isel iawn o effeithiau trawsffiniol, bydd y penderfyniad sgrinio trawsffiniol yn cael ei gynnwys yn y farn gwmpasu neu fel dogfen fer ar wahân os na ofynnwyd am farn gwmpasu. Fel arall, darperir y penderfyniad sgrinio trawsffiniol mewn dogfen hir ar wahân. Fe allai’r farn newid wedi hynny yn amodol ar unrhyw wybodaeth newydd neu sylweddol wahanol a dderbynnir.
Mae
ac yn cynnwys templedi sgrinio trawsffiniol a meini prawf perthnasol yr Arolygiaeth Gynllunio.Mae’r dyletswyddau hyn o dan Reoliad 32 yn parhau trwy gamau proses Deddf Cynllunio 2008. Fe allai hyn arwain at ymarferion sgrinio trawsffiniol ychwanegol ac ymgynghori â Gwladwriaethau’r AEE pan dderbynnir gwybodaeth newydd neu wedi’i diweddaru.
Hysbysu Gwladwriaethau’r AEE
Pan fydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n amlygu effaith arwyddocaol debygol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE, bydd yn hysbysu Gwladwriaethau perthnasol yr AEE. Amlygir Gwladwriaethau’r AEE sydd i’w hysbysu yn seiliedig ar y math o ddatblygiad NSIP, ei leoliad, natur yr amgylchedd sy’n derbyn a deunydd a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd. Gweler
am ragor o wybodaeth.Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n defnyddio disgresiwn rhesymol yn seiliedig ar y ffactorau hyn wrth amlygu a yw NSIP yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn unrhyw wladwriaeth AEE. Mae’n defnyddio ymagwedd ragofalus wrth benderfynu ar y posibilrwydd y gallai datblygiad gael effaith o’r fath. Felly, nid yw’n datgan y bydd datblygiad yn cael effaith.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n defnyddio’r cysylltiadau ar wefan UNECE i hysbysu Gwladwriaethau’r AEE. O ran ceisiadau NSIP perthnasol, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio anfon y canlynol at Wladwriaethau’r AEE cyn gynted â phosibl (Rheoliad 32(3)):
- disgrifiad o’r datblygiad, ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael am ei effeithiau arwyddocaol posibl ar yr amgylchedd yn eu Gwladwriaeth
- gwybodaeth am natur y penderfyniad a allai gael ei wneud
Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio gyhoeddi hysbysiad yn Gazette Llundain, a Gazette Caeredin os yw’r datblygiad yn yr Alban, sy’n cynnwys gwybodaeth am y datblygiad. Fe allai’r Arolygiaeth Gynllunio hefyd anfon gwybodaeth at Wladwriaethau’r AEE am broses Deddf Cynllunio 2008.
Yna, gall Gwladwriaethau’r AEE nodi a ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y broses hon. Rhoddir chwe wythnos i Wladwriaethau’r AEE ymateb. Oni bai y cytunir ar estyniad, pan na fydd Gwladwriaeth AEE yn ymateb o fewn yr amserlen hon, tybir nad yw’n dymuno cymryd rhan yn y broses drawsffiniol (Erthygl 3.4 Confensiwn Espoo).
Caiff y datblygiad arfaethedig ei ailsgrinio ar gyfer effeithiau trawsffiniol ar ôl y cam derbyn a/neu os bydd gwybodaeth newydd berthnasol ar gael.
Os bydd angen, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ailhysbysu Gwladwriaethau perthnasol yr AEE, ac yn hysbysu Gwladwriaethau ychwanegol os bydd llwybrau effaith newydd yn cael eu hamlygu, gan roi gwybod bod y datblygiad wedi cael ei ailsgrinio ar gyfer effeithiau trawsffiniol, gan gynnwys y Gwladwriaethau hynny na fynegodd ddymuniad i gymryd rhan yn flaenorol. Yn yr amgylchiadau hyn, gall Gwladwriaethau AEE o’r fath ofyn am gael cymryd rhan yn y weithdrefn eto neu o’r newydd.
Pan fydd Gwladwriaeth AEE yn dymuno cael diweddariadau yn unig ar ddatblygiad y cais NSIP, rhoddir dolen iddi i dudalen berthnasol y prosiect ar y wefan cynllunio seilwaith cenedlaethol.
Ymgynghori â Gwladwriaethau’r AEE
Ni ellir dechrau ymgynghori â Gwladwriaethau’r AEE hyd nes bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi derbyn y wybodaeth sy’n ofynnol i fodloni ei dyletswydd ymgynghori. Bydd hyn yn digwydd dim ond pan fydd y cais NSIP wedi cael ei dderbyn i’w archwilio.
Mae’n rhaid ymgynghori ag unrhyw Wladwriaeth AEE sy’n cymryd rhan yn y weithdrefn drawsffiniol er mwyn sicrhau ei bod yn cael cyfle, cyn y rhoddir caniatâd datblygu, i geisio barn ei chyhoedd ac awdurdodau perthnasol ynglŷn â’r cais a’i effeithiau trawsffiniol.
Pan fydd Gwladwriaeth AEE wedi nodi ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn Rheoliad 32, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio:
• ymgynghori â’r Gwladwriaethau AEE ynglŷn ag effeithiau arwyddocaol posibl y datblygiad ar yr amgylchedd yn y Wladwriaeth honno a’r mesurau a ddisgwylir i leihau neu ddileu’r cyfryw effeithiau
• cytuno ar gyfnod rhesymol ar gyfer hyd yr ymgynghoriad
• hysbysu Gwladwriaethau’r AEE yr ymgynghorwyd â nhw o’r penderfyniad
Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio anfon y canlynol atynt, cyn gynted â phosibl (Rheoliad 32(4):
• copi o’r cais
• copi o’r Datganiad Amgylcheddol o ran y datblygiad arfaethedig
• manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais
• unrhyw wybodaeth berthnasol am y weithdrefn Rheoliad 32
Bydd y dogfennau hyn ar gael trwy’r wefan cynllunio seilwaith cenedlaethol. Darperir dolenni yn yr ohebiaeth ymgynghori i gyfeirio Gwladwriaethau’r AEE at rannau perthnasol y wefan.
Darperir gwybodaeth yn Saesneg oni bai bod y Wladwriaeth AEE yn gofyn am gyfieithiad ac yn cyfiawnhau hynny.
Cyfieithu dogfennau
I gefnogi archwiliad effeithlon, dylai Ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw Wladwriaethau AEE yr effeithir arnynt, cyrff eraill perthnasol a’u cyhoedd, yn deall manylion y datblygiad arfaethedig, gan gynnwys unrhyw fesurau diogelu a lliniaru. Saesneg yw’r iaith ddiofyn, a bydd gwybodaeth a gyfieithir yn dibynnu ar anghenion Gwladwriaethau’r AEE ac eraill.
Mae’n arfer da i Ymgeiswyr drefnu a thalu am gostau cyfieithu eu dogfennau os gwneir ceisiadau rhesymol a gyfiawnheir.
Rôl yr ymgeisydd
Nid oes gan yr ymgeisydd rôl ffurfiol o dan y broses Rheoliad 32. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd i helpu i bennu’r potensial ar gyfer effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd yng Ngwladwriaethau’r AEE.
Dylai’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am y potensial ar gyfer effeithiau trawsffiniol yn rhan o’r canlynol:
- ei gais cwmpasu o dan Reoliad 8 y Rheoliadau AEA (os gwneir un)
- y gyfres o ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais NSIP
Os na ddarperir digon o wybodaeth yn wirfoddol, fe allai’r Arolygiaeth Gynllunio ofyn am wybodaeth ychwanegol am debygolrwydd effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE.
Os gallai NSIPau achosi effeithiau trawsffiniol tebygol, fe allai ymgeiswyr ddymuno cynnal eu hymgynghoriad eu hunain ag is-adrannau’r llywodraeth, cyrff priodol a grwpiau buddiant yng Ngwladwriaethau perthnasol yr AEE, neu wladwriaethau eraill perthnasol sy’n bartïon i Gonfensiynau Espoo neu Aarhus.
Fe allai unrhyw ymgysylltiad ffurfio rhan o ymgynghoriad statudol neu anstatudol yr ymgeisydd o dan y cam cyn-ymgeisio NSIP a dylid dangos tystiolaeth ohono yn yr adroddiad ymgynghori sy’n ofynnol o dan adran 37(3)(c) Deddf Cynllunio 2008.
Cynghorir yr ymgeisydd i gynnal ymgynghoriad o’r fath er mwyn sicrhau bod materion a phryderon trawsffiniol posibl yn derbyn sylw, lle y bo’n bosibl, cyn i’r cais NSIP gael ei gyflwyno.
Rôl Gwladwriaethau’r AEE
Hysbysu
Dylai gwladwriaethau’r AEE, Espoo ac Aarhus ymateb i’r cais hysbysu gan yr Arolygiaeth Gynllunio o fewn yr amserlen a roddir gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir. Yna, rhoddir cydnabyddiaeth o dderbyn. Dylai’r ymateb ddatgan p’un a ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y broses o dan Reoliad 32 ai peidio.
Mae’r un peth yn berthnasol i wladwriaethau Espoo / Aarhus a hysbyswyd am NSIP arfaethedig. Gofynnir am ymatebion o fewn yr amserlen a nodir yn y llythyr hysbysu a dylid eu hanfon wedi’u marcio at sylw’r Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol yn yr Arolygiaeth Gynllunio gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a roddir yn y llythyr hysbysu.
Os bydd Gwladwriaeth AEE a hysbyswyd yn cadarnhau nad yw’n dymuno cymryd rhan yn y broses Rheoliad 32, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cydnabod yr ymateb hwn ac ni fydd yn cysylltu â’r Wladwriaeth AEE eto oni bai y derbynnir gwybodaeth newydd berthnasol am yr effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd yn ei Gwladwriaeth.
Ymgynghori
Os bydd Gwladwriaeth AEE a hysbyswyd yn cadarnhau ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y broses Rheoliad 32, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod yr ymateb hwn ac, os derbynnir y cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO), bydd yn ymgynghori â’r Wladwriaeth AEE ar yr NSIP arfaethedig.
Dylai Gwladwriaethau AEE sy’n cymryd rhan roi sylwadau ar y canlynol:
- effeithiau posibl y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd yn eu Gwladwriaeth
- y mesurau a gynigir i leihau neu ddileu’r cyfryw effeithiau
Mae Rheoliad 32 yn mynnu y dylid rhoi ‘amser rhesymol’ i Wladwriaeth yr AEE ddarparu safbwyntiau ei chyhoedd a’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6 (1) y Gyfarwyddeb AEA (Rheoliad 32(5)).
Oni bai bod Gwladwriaethau perthnasol yr AEE yn darparu sylwadau rhesymol sy’n datgan y dylid caniatáu cyfnod hwy, y cyfnod ar gyfer ymateb i’r hysbysiad a cheisiadau ymgynghori fydd chwe wythnos. Nid yw hwn yn gyfnod statudol a gall Gwladwriaethau’r AEE ofyn am estyniad rhesymol.
Cyfranogiad y Cyhoedd
Mae Confensiynau Espoo ac Aarhus yn amlinellu darpariaethau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn AEA. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, lle y bo’n berthnasol, yn gwahodd Gwladwriaethau’r AEE ac unrhyw Wladwriaethau eraill y Confensiynau i gymryd rhan ym mhroses Deddf Cynllunio 2008 ac ymgynghori â’u cyhoedd. Bydd y cyhoedd yn cymryd rhan:
- pan ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd yng Ngwladwriaethau eraill penodol yr AEE
- pan fo’r datblygiad arfaethedig yn NSIP niwclear
Bydd datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi, ynghyd ag unrhyw gyfieithiadau perthnasol, ar wefan gov.uk gyda dolen iddo o wefannau Llysgenhadaeth Prydain yn unrhyw wladwriaethau perthnasol.
Bydd y datganiad i’r wasg yn cynnwys:
- gwybodaeth am yr asesiad sgrinio trawsffiniol
- dolenni i’r wefan cynllunio seilwaith cenedlaethol
- manylion ynglŷn â sut gall eu cyhoedd fynegi eu safbwyntiau ar y cais NSIP
- sut gallant gymryd rhan yn y broses archwilio
Gofynnir i ymgeiswyr gyhoeddi hysbysiad i’r wasg yng nghyfryngau print pob gwladwriaeth AEE lle yr amlygir effaith arwyddocaol ar ei hamgylchedd. O ran NSIPau niwclear, gofynnir i’r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad i’r wasg ym mhob un o wladwriaethau cymdogol y Deyrnas Unedig.
Caiff Gwladwriaeth AEE, gwladwriaeth arall berthnasol ac unrhyw unigolyn neu grŵp gymryd rhan a mynegi ei safbwyntiau ar y cais NSIP yn ystod yr archwiliad. Byddant yn gwneud hyn trwy gofrestru fel ‘parti â buddiant’. Efallai byddant hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr archwiliad fel ‘unigolyn arall’ yn ôl disgresiwn yr Awdurdod Archwilio.
Fe allai’r Awdurdod Archwilio ofyn cwestiynau i Wladwriaethau’r AEE neu wladwriaethau eraill perthnasol sydd wedi cofrestru fel ‘partïon â buddiant’ am yr effeithiau trawsffiniol, i lywio ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch p’un a ddylid rhoi caniatâd i’r datblygiad.
Mae nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i Aelodau’r Cyhoedd yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am broses Deddf Cynllunio 2008, gan gynnwys sut i gofrestru a dod yn ‘barti â buddiant’.
Os nad yw’r Awdurdod Archwilio’n fodlon cyn diwedd yr archwiliad bod mesurau wedi cael eu darparu i osgoi, lleihau ac, os oes modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau trawsffiniol niweidiol arwyddocaol yr NSIP, mae’n bosibl y bydd rhaid iddo argymell gwrthod rhoi caniatâd datblygu. Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol beidio â rhoi caniatâd datblygu pe byddai gwneud hynny’n achosi i’r Deyrnas Unedig dorri ei rhwymedigaethau rhyngwladol o dan adran 104(4) Deddf Cynllunio 2008.
Trefniadau Arbennig ar gyfer NSIPau Niwclear
Cymhwysir trefniadau arbennig i’r broses effeithiau trawsffiniol ar gyfer NSIPau gorsaf cynhyrchu trydan niwclear (NSIPau niwclear). Diffinnir yr NSIPau hyn o dan adran 15 Deddf Cynllunio 2008 ac Atodlen 1 y Rheoliadau AEA. Mae’r trefniadau arbennig yn ystyried nodweddion penodol NSIP niwclear a darpariaethau Confensiynau Espoo ac Aarhus.
Bydd pob NSIP niwclear yn cael ei sgrinio gan ddefnyddio’r templed hir yn
.Pan fydd yr Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod NSIP niwclear yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu ac (os oes angen) yn ymgynghori â’r Wladwriaeth AEE honno’n benodol yn unol â Rheoliad 32.
Fel rhan o arfer safonol, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu’r holl wladwriaethau perthnasol sydd wedi llofnodi Confensiynau Espoo ac Aarhus am NSIP niwclear arfaethedig, a fydd yn cynnwys Gwladwriaethau nad ydynt yn rhan o’r AEE. Dyma’r un wybodaeth a roddir i Wladwriaeth AEE a hysbysir neu yr ymgynghorir â hi o dan Reoliad 32, a rhoddir yr un gallu iddynt gymryd rhan yn y broses os byddant yn dymuno.
Yn ogystal, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn rhoi gwybod i Diriogaethau Dibynnol y Goron Ynys Manaw, Jersey a Guernsey am ei barn fod NSIP niwclear arfaethedig yn debygol o gael effeithiau trawsffiniol arwyddocaol.
Penderfyniadau
Ar ôl penderfynu ar y cais NSIP, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi gwybod i’r Gwladwriaethau AEE yr ymgynghorwyd â nhw am y penderfyniad ac yn anfon copi o’r hysbysiad o benderfyniad ymlaen. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd i roi gwybod i’r holl ‘bartïon â buddiant’ am y penderfyniad, hefyd.
Yn unol â Rheoliad 31(2), bydd crynodeb o sut mae ymatebion ymgynghori, yn enwedig y rhai hynny a dderbyniwyd gan Wladwriaethau’r AEE, wedi cael eu cynnwys neu dderbyn sylw mewn perthynas â’r cais NSIP ar gael ar y wefan cynllunio seilwaith cenedlaethol.