Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar weithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith
Bwriedir i’r cyngor hwn esbonio’r agweddau cyffredinol ar ymwneud cyrff cyhoeddus â’r ymgeisydd a’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystod y broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Beth yw corff cyhoeddus?
Mae corff cyhoeddus yn sefydliad a grëwyd yn ffurfiol sy’n cael ei ariannu gan y cyhoedd i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus neu un o wasanaethau’r llywodraeth. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi darparu cyngor ar wahân, sef Cyngor i Awdurdodau Lleol, sy’n cynnwys gwybodaeth am rôl awdurdodau lleol yn y broses NSIP.
Swyddogaethau cyrff cyhoeddus yn y broses NSIP:
- mae ganddynt rôl fel ymgyngoreion statudol
- mae’n bosibl y bydd ganddynt bwerau cydsynio cyfochrog i roi cydsyniadau (heblaw am gydsyniad datblygu), neu awdurdodiadau eraill a allai fod yn ofynnol i adeiladu, defnyddio neu weithredu NSIP
Mae ganddynt rôl bwysig i roi cyngor arbenigol ar NSIP arfaethedig drwy gydol y broses, o ymgysylltiad cynnar cyn-ymgeisio, darparu tystiolaeth archwilio ac mewn perthynas â gweithgareddau ar ôl cydsynio. Gall cyrff cyhoeddus helpu’r ymgeisydd i amlygu effeithiau sy’n gysylltiedig ag NSIPau yn gynnar a’u lliniaru.
Mae atodiadau ar wahân i’r cyngor hwn sy’n rhoi mwy o fanylion am rolau penodol cyrff cyhoeddus unigol yn y broses NSIP a sut maen nhw’n rhyngweithio â’r Arolygiaeth Gynllunio:
Atodiad A: Cyfoeth Naturiol Cymru
Atodiad B: Y Sefydliad Rheoli Morol
Atodiad D: Asiantaeth yr Amgylchedd
Atodiad F: Rheoleiddwyr Niwclear
Atodiad G: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Atodiad H: Cynlluniau Tystiolaeth ar gyfer Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd
Mae’r atodiadau’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- rôl benodol y corff cyhoeddus perthnasol a’r rhyngweithiadau â rôl yr Arolygiaeth Gynllunio
- cytundebau a threfniadau lefel uchel penodol
- pwyntiau cyswllt perthnasol
- rhestr o gydsyniadau perthnasol neu awdurdodiadau eraill sy’n berthnasol, ac ystyriaethau yn ymwneud â sut mae’r rheiny’n rhyngweithio â’r broses NSIP
Rhoddir mwy o wybodaeth am ymgynghori â’r cyrff cyhoeddus hyn yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar Hysbysu ac Ymgynghori ynglŷn ag Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Cyrff cyhoeddus a’r broses NSIP
Mae 6 cham i’r broses NSIP. Rhoddir mwy o wybodaeth am bob cam o’r broses yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses NSIP a sut gallwch leisio’ch barn.
Yn dilyn adolygiad gweithredol o’r system NSIP, cyhoeddodd y llywodraeth Gynllun Gweithredu ar gyfer diwygio. Yna, ymgynghorodd y llywodraeth ar y newidiadau gweithredol a gynigiwyd yn y Cynllun Gweithredu a chyhoeddodd ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2024. I gefnogi’r diwygiadau, mae deddfwriaeth wedi cael ei diwygio ac mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ac wedi’u diweddaru. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datblygu gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd i gefnogi diwygiadau’r llywodraeth. Gweler Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio i gael mwy o wybodaeth.
Ymhlith materion eraill, bydd y diwygiadau a fabwysiadwyd yn galluogi’r cyrff cyhoeddus canlynol i godi tâl ar ymgeiswyr am y gwasanaethau cynllunio maen nhw’n eu darparu ar gyfer NSIPau:
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Natural England
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Yr Awdurdod Glo
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Priffyrdd Cenedlaethol
- Y Sefydliad Rheoli Morol
- Comisiwn Adeiladau Hanesyddol a Henebion Lloegr
Mae canllawiau’r llywodraeth, sef Canllawiau ar Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 wedi’u diweddaru, yn rhoi mwy o wybodaeth am adennill costau ar gyfer y cyrff cyhoeddus hyn a’r Arolygiaeth Gynllunio.
Crynodeb o sut gallai cyrff cyhoeddus gymryd rhan ym mhob cam o’r broses NSIP
Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am fanteisio ar adnoddau’r cyrff cyhoeddus perthnasol a sicrhau ei fod yn cael y gwasanaethau y mae arno eu hangen i gynhyrchu cais NSIP wedi’i baratoi yn dda. Bydd y cyrff cyhoeddus perthnasol yn adennill costau ar gyfer rhywfaint o’r ymwneud yn y crynodeb hwn.
Cam | Camau Gweithredu |
---|---|
Cyn-ymgeisio | Ymgysylltu â’r ymgeisydd yn gynnar yn y broses i ddeall y prosiect, cyfrannu at baratoi ei ddogfen rhaglen ac ymateb i unrhyw ymgynghoriad anstatudol a gynhelir ganddo |
Pan ofynnir amdano, rhoi cyngor i’r ymgeisydd ar faterion o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a / neu Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 | |
Ymateb i gais yr Arolygiaeth Gynllunio am sylwadau ar gwmpas yr Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA). Ymgysylltu â’r ymgeisydd ynglŷn â pharatoi ei Ddatganiad Amgylcheddol | |
Ystyried Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) drafft yr ymgeisydd, gan gynnwys gofynion | |
Ystyried cynnwys unrhyw ddogfennau rheoli perthnasol, fel Cynlluniau Rheoli Amgylcheddol drafft | |
Ymateb i ymgynghoriad statudol yr ymgeisydd o fewn y dyddiad cau a roddwyd gan yr ymgeisydd ar gyfer sylwadau | |
Cynnal Datganiad Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADSS), fel y bo angen | |
Ymgysylltu â’r ymgeisydd ynglŷn â pharatoi Datganiad Tir Cyffredin (SoCG) | |
Gwneud trefniadau ar gyfer gweithio ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill (ac ymgyngoreion eraill), fel y bo angen | |
Cyn-archwilio | Cyflwyno sylwadau perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn y dyddiad cau a roddwyd |
Ymateb i wahoddiad yr Awdurdod Archwilio i’r cyfarfod rhagarweiniol (hysbysiad Rheol 6) o fewn y dyddiad cau a roddwyd a gwneud trefniadau i fynychu, fel y bo angen | |
Ymateb fel y bo angen i unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio, fel darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gadarnhau presenoldeb mewn unrhyw wrandawiadau cynnar | |
Ystyried amserlen ddrafft yr archwiliad a ddarparwyd gan yr Awdurdod Archwilio a rhoi sylwadau os gofynnwyd amdanynt | |
Parhau i gynnal PADSS, fel y bo angen | |
Parhau i ymgysylltu a thrafod â’r ymgeisydd, er enghraifft ynglŷn â SoCG | |
Archwiliad | Cyflwyno’r canlynol erbyn y dyddiad cau a roddwyd yn amserlen yr archwiliad: |
· sylwadau ysgrifenedig | |
· atebion i gwestiynau ysgrifenedig yr Awdurdod Archwilio | |
· sylwadau ar DCO drafft yr ymgeisydd | |
· sylwadau ar sylwadau neu gyflwyniadau a wnaed gan bartïon eraill, gan gynnwys yr ymgeisydd | |
· sylwadau ar yr ‘adroddiad ar y goblygiadau i safleoedd Ewropeaidd’ (RIES) gan yr Awdurdod Archwilio, fel y bo angen | |
Ymateb fel y bo’r angen i unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio, gan gynnwys unrhyw geisiadau am wybodaeth ychwanegol | |
Ymateb i hysbysiad yr Awdurdod Archwilio ynglŷn ag unrhyw wrandawiadau neu archwiliadau safle gyda chwmni o fewn y dyddiad cau a roddwyd a gwneud trefniadau i fynychu, fel y bo angen | |
Parhau i ymgysylltu a thrafod â’r ymgeisydd, er enghraifft ynglŷn â SoCG | |
Argymhelliad a Phenderfyniad | Ar y cam hwn, gall y corff cyhoeddus ymateb fel y bo’r angen i unrhyw ymgynghoriadau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol |
Ôl-benderfyniad (Pan roddir caniatâd datblygu) | Cyflawni camau gweithredu fel sy’n ofynnol yn gysylltiedig â bodloni gofynion y DCO |
Monitro’r gwaith sy’n ofynnol gan y DCO, fel y bo angen | |
Cyflawni camau gorfodi fel y bo’r angen | |
Ymateb i unrhyw hysbysiadau ynglŷn â newid sylweddol neu ansylweddol i’r DCO |
Cyn-ymgeisio
Mae ymgysylltu ac ymgynghori cyn-ymgeisio yn allweddol i’r broses NSIP. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ymgynghori ag ystod eang o bobl a sefydliadau yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys y cyrff cyhoeddus y rhoddir sylw iddynt yn yr atodiadau i’r cyngor hwn.
Dylai’r ymgeisydd ofyn i gyrff cyhoeddus am unrhyw wybodaeth dechnegol angenrheidiol yn gynnar. Bydd hyn yn caniatáu iddo ystyried mesurau lliniaru ar gyfer effeithiau negyddol a chyfleoedd posibl i sicrhau gwelliannau amgylcheddol wrth baratoi ei gais.
Fe allai’r ymgeisydd ofyn i gyrff cyhoeddus am gyngor ar faterion o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a / neu Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi cyngor ar wahân ar y pynciau hyn, sef Cyngor ar Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a Chyngor ar y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Fe allai’r ymgeisydd gofnodi materion amgylcheddol sy’n deillio o’r Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA), yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA), yr Asesiad Perygl Llifogydd (FRA), ac yn y blaen, mewn ‘cynllun tystiolaeth’.
Dylai cyrff cyhoeddus ymateb i geisiadau’r ymgeisydd am gyngor mor brydlon a chynhwysfawr â phosibl, gan ystyried y gwasanaethau a gynigir ganddynt a’r ddogfen rhaglen gytunedig (gweler Prosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio).
Dylai ymgynghori ac ymgysylltu llawn ac ystyrlon, cyn cyflwyno cais, arwain at brofiad cyn-ymgeisio mwy didrafferth i’r holl randdeiliaid, arwain at gais a baratowyd yn dda sy’n cynnwys gwybodaeth fanwl angenrheidiol a pherthnasol, a lleihau’r risg o gynnig newidiadau i’r cais yn rhy hwyr yn y broses NSIP (gweler paragraff 018 canllawiau’r llywodraeth, sef Canllawiau ar y cam archwilio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol).
Yn ystod y cam Cyn-ymgeisio, lle y bo’n bosibl, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog cyrff cyhoeddus (ac ymgyngoreion eraill, fel y bo’r angen) sydd â meysydd cyfrifoldeb cysylltiedig i weithio ar y cyd a chydlynu ymatebion i’r ymgeisydd a’r Arolygiaeth Gynllunio.
Gall cyrff cyhoeddus gyfeirio at gyngor yr Arolygiaeth Gynllunio, sef Cyngor i Awdurdodau Lleol, i gael gwybodaeth am sut y dylent ymgysylltu â’r ymgeisydd a’r Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â’r canlynol:
- Datganiad Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb (PADSS)
- Datganiad Tir Cyffredin (SoCG)
- cyflwyno sylwadau perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn y dyddiad cau a roddwyd
- ymateb i wahoddiad yr Awdurdod Archwilio i’r cyfarfod rhagarweiniol (hysbysiad Rheol 6) o fewn y dyddiad cau a roddwyd a gwneud trefniadau i fynychu fel y bo’r angen
- ymateb fel y bo’r angen i unrhyw benderfyniadau gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio, fel darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani neu gadarnhau presenoldeb mewn unrhyw wrandawiadau cynnar neu archwiliadau safle
- ystyried amserlen ddrafft yr archwiliad a ddarparwyd gan yr Awdurdod Archwilio a rhoi sylwadau os gofynnwyd amdanynt
- cyflwyno’r canlynol erbyn y dyddiad cau a roddwyd yn amserlen yr archwiliad:
- sylwadau ysgrifenedig
- atebion i gwestiynau ysgrifenedig yr Awdurdod Archwilio
- sylwadau ar DCO drafft yr ymgeisydd
- sylwadau ar sylwadau neu gyflwyniadau a wnaed gan bartïon eraill, gan gynnwys yr ymgeisydd
Barn Gwmpasu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)
Fe allai’r ymgeisydd ofyn i’r Arolygiaeth Gynllunio (a fydd yn gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) am farn ysgrifenedig ffurfiol ynglŷn â’r wybodaeth y dylai ei chynnwys yn ei ddatganiad amgylcheddol. Gelwir hyn yn farn gwmpasu.
Bydd yr ymgeisydd yn anfon adroddiad cwmpasu at yr Arolygiaeth Gynllunio (a adwaenir fel y cais cwmpasu) a fydd yn ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio fabwysiadu barn gwmpasu o fewn 42 niwrnod o dderbyn y cais cwmpasu. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ymgynghori â’r cyrff cyhoeddus perthnasol, fel ymgyngoreion a amlygwyd, ynglŷn â’r adroddiad cwmpasu (i gael rhagor o fanylion am ymgynghori a hysbysu, gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar Hysbysu ac Ymgynghori ynglyn ag Asesu Effeithiau Amgylcheddol). Bydd yn eu gwahodd i ymateb o fewn 28 niwrnod er mwyn rhoi amser i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried yr ymatebion cyn y dyddiad cau ar gyfer mabwysiadu’r farn gwmpasu. Os na fydd corff cyhoeddus yn ymateb i gais ymgynghori ynglŷn â chwmpasu AEA o fewn y dyddiad cau statudol a ddiffiniwyd, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n tybio nad oes ganddo sylwadau i’w wneud ar y wybodaeth sydd i’w darparu yn natganiad amgylcheddol yr ymgeisydd.
Dylai’r ymgeisydd osgoi cyfuno ymgynghoriad sy’n ofynnol gan adran 42 Deddf Cynllunio 2008 â chais am farn gwmpasu AEA. Y rheswm am hyn yw oherwydd y bydd golygu bod mwy nag un math o ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar yr un pryd, gan arwain at ddryswch. Fe allai hyn lesteirio’r broses NSIP, yn y pen draw.
Paratoi’r datganiad amgylcheddol gan yr ymgeisydd
Os yw’r NSIP arfaethedig yn ddatblygiad AEA, mae’n rhaid i’r ymgeisydd gynnwys datganiad amgylcheddol pan fydd yn cyflwyno ei gais.
Mae Rheoliad 11 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 yn disgrifio’r broses y mae’n rhaid i gyrff ymgynghori, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, ei dilyn i ymgysylltu â’r ymgeisydd pan fydd yn paratoi ei ddatganiad amgylcheddol. Rhoddir mwy o fanylion yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar Hysbysu ac Ymgynghori ynglŷn ag Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod ei ddatganiad amgylcheddol yn ddigonol. Os ystyrir nad yw’r datganiad amgylcheddol yn cydymffurfio â Rheoliad 14 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 yn ystod y cam derbyn, ni fydd y cais yn cael ei dderbyn. Os daw i’r amlwg yn ystod y cam archwilio fod y datganiad amgylcheddol yn annigonol, fe allai’r broses o ystyried y cais gael ei hatal dros dro tra disgwylir derbyn gwybodaeth ychwanegol (gweler Rheoliad 20 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017). Felly, mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus a’r ymgeisydd yn cydweithio yn ystod y cam cyn-ymgeisio i leihau’r risgiau hyn. Dylai’r ymgeisydd hefyd sicrhau bod yr holl gydsyniadau perthnasol sy’n ofynnol i allu adeiladu a gweithredu ei NSIP yn cael eu hamlinellu yn y datganiad amgylcheddol. Dylai cyrff cyhoeddus gynorthwyo’r ymgeisydd i gyflawni’r rhwymedigaethau hyn pan ofynnir iddynt.
Cydsyniadau ac awdurdodiadau
Mae’n bosibl y bydd gan rai cyrff cyhoeddus bwerau i roi cydsyniadau (heblaw am gydsyniad datblygu) neu awdurdodiadau eraill a allai fod yn ofynnol i adeiladu, defnyddio neu weithredu NSIP.
Gall rhai cydsyniadau neu awdurdodiadau gael eu cynnwys yn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO), neu gellir eu cydsynio ar wahân. Mae adran 150 Deddf Cynllunio 2008 yn cadarnhau y gellir cynnwys y cydsyniadau hyn mewn DCO dim ond os yw’r corff cydsynio perthnasol yn cytuno iddynt gael eu cynnwys.
Bydd angen i’r ymgeisydd ymgysylltu â chyrff cyhoeddus, ac unrhyw ymgyngoreion eraill perthnasol sydd â phwerau cydsynio, yn gynnar yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Dylai dogfen rhaglen yr ymgeisydd gynnwys manylion ynglŷn ag amseru ceisiadau am gydsyniadau neu awdurdodiadau ar wahân, a / neu ymgysylltu â’r cyrff perthnasol i gael eu cytundeb i gynnwys cydsyniadau neu awdurdodiadau yn y DCO.
Pan fwriedir cynnwys cydsyniadau neu awdurdodiadau mewn DCO, dylai’r ymgeisydd amseru ei ymgysylltiadau â’r cyrff perthnasol i alluogi cytuno ar faterion gymaint â phosibl yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Pan fydd yr ymgeisydd wedi penderfynu ymgeisio am gydsyniad neu awdurdodiad ar wahân, dylai ddarparu ‘rhestr cydsyniadau’ gyda’i gais sy’n amlinellu:
- yr holl gydsyniadau ac awdurdodiadau sy’n ofynnol ochr yn ochr â’r DCO
- pa gorff sy’n gyfrifol am roi cydsyniad neu ddarparu awdurdodiad
- yr amserlen arfaethedig ar gyfer ymgeisio am y cydsyniadau a’r awdurdodiadau a sut mae’n cyd-fynd â’r broses NSIP
- manylion cyfredol am statws cynnydd pob cais am gydsyniad neu awdurdodiad
Fe allai amseriad penderfyniadau am y cydsyniadau a’r awdurdodiadau hyn gael effaith bwysig ar yr archwiliad o’r cais a dylid ei ystyried yn ofalus. Bydd polisi’r llywodraeth ar y pwynt hwn, fel yr amlinellir yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol, yn ystyriaeth bwysig yn hyn o beth.
Dylai cyrff cyhoeddus ac ymgyngoreion eraill gynorthwyo’r ymgeisydd i lunio rhestr gynhwysfawr a chywir. Rhoddir mwy o fanylion am y rhyngweithio rhwng y Ddeddf Cynllunio a chydsyniadau ac awdurdodiadau perthnasol, penodol sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth arall yn yr atodiadau i’r cyngor hwn fel y bônt yn berthnasol i gyrff cyhoeddus unigol. Mae’n debygol y bydd ystyriaethau penodol yn berthnasol hefyd mewn achosion unigol.
Cydsyniadau tybiedig
Fe allai’r ymgeisydd ddewis gwneud cais i’r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) am Drwydded Forol, neu fe allai ddewis i’r Drwydded Forol gael ei thybio gan y DCO a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol – Trwydded Forol Dybiedig (DML). Nid oes angen cymeradwyaeth y corff cydsynio perthnasol i gynnwys DML mewn DCO (yn wahanol i gydsyniadau adran 150).
Bydd angen i’r ymgeisydd benderfynu yn ystod y cam cyn-ymgeisio p’un a fydd yn gwneud cais ar wahân am gydsyniad o’r fath neu’n gofyn iddo gael ei dybio gan DCO. Dylai ei benderfyniad gael ei adlewyrchu yn ei ddogfen raglen, fel y bo’n briodol.
Harbyrau
Bydd yr ymgeisydd yn penderfynu a ddylai ei gais NSIP gynnwys:
- darpariaethau ar gyfer creu awdurdod harbwr
- darpariaethau ar gyfer newid pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr
Gall DCO wneud darpariaethau eraill yn ymwneud ag awdurdod harbwr, hefyd.
Gall yr MMO ymdrin â cheisiadau am Orchymyn Harbwr ar wahân hefyd oni bai bod datblygu’r harbwr ei hun yn NSIP neu’n rhan annatod o NSIP. Gweler adran 33(2) Deddf Cynllunio 2008 i gael rhagor o wybodaeth. Mater i’r ymgeisydd yw penderfynu pa lwybr sy’n fwyaf priodol i’w NSIP, ond dylid nodi nad oes awdurdodaeth ddeuol rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol / MMO mewn perthynas â’r un set o waith (gweler adran 120(9)(a) Deddf Cynllunio 2008).