Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses

Bwriedir i’r cyngor hwn gyflwyno’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) a disgrifio’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â hi.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd, hefyd. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio). 

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio. 

Beth yw Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol? 

Mae Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau) yn brosiectau datblygu pwysig ar raddfa fawr yng Nghymru neu Loegr sy’n dod o fewn y categorïau canlynol: 

  • ynni 

  • trafnidiaeth 

  • gwastraff 

  • dŵr gwastraff 

  • dŵr 

Gallant fod yn brosiectau fel: 

  • gorsafoedd cynhyrchu pŵer, ffermydd gwynt alltraeth, llinellau trydan 

  • ffyrdd, llinellau rheilffordd, meysydd awyr newydd 

  • cyfleusterau gwastraff peryglus 

  • gweithfeydd trin dŵr gwastraff 

  • cronfeydd dŵr 

Y brif ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i NSIPau yw Deddf Cynllunio 2008. Pan fydd datblygiadau o’r math hwn yn cyrraedd y trothwy a ddisgrifir yn y Ddeddf Cynllunio, bydd arnynt angen Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) cyn y gellir eu hadeiladu. Gan fod datblygiad o’r math hwn yn bwysig yn genedlaethol, bydd angen i ganiatâd ar gyfer prosiect gael ei roi gan y llywodraeth yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol. 

Mae DCO yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i’r ymgeisydd adeiladu ei ddatblygiad arfaethedig. Mae’n debyg i ganiatâd cynllunio ond fe all gynnwys mathau eraill o gydsyniad hefyd, gan gynnwys cydsyniad adeilad rhestredig a phwerau caffael gorfodol. Yng Nghymru, bydd angen DCO ar gyfer rhai mathau o brosiectau cynhyrchu ynni, piblinellau, cyfleusterau storio nwy tanddaear, llinellau trydan uwchben a chyfleusterau harbwr yn unig. Fe allai’r Ysgrifennydd Gwladol hefyd ganiatáu i rai mathau o brosiectau busnes a masnachol mawr, neu rai mathau eraill o brosiectau, wneud cais am DCO yn lle caniatâd cynllunio. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud hyn dim ond os yw’n credu bod y prosiect yn bwysig yn genedlaethol. Gweler paragraffau 002 a 003 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio i gael rhagor o wybodaeth am ba gynlluniau a all wneud cais am DCO. 

Mae ceisiadau NSIP yn cael eu trin gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Awdurdod Archwilio (a benodir gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) yn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am y math o ddatblygiad ynglŷn â ph’un a ddylid rhoi caniatâd. Er enghraifft, bydd argymhelliad ynghylch prosiect ffyrdd newydd yn cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â ph’un a ddylid rhoi DCO. 

Gall y broses NSIP gymryd oddeutu 17 mis o’r adeg pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i wneud penderfyniad. Mae’r broses yn cynnwys chwe cham: 

  1. Cyn-ymgeisio 
  2. Derbyn 
  3. Cyn-archwilio 
  4. Archwiliad 
  5. Argymhelliad 
  6. Penderfyniad 

Yn dilyn adolygiad gweithredol o’r system NSIP, cyhoeddodd y llywodraeth Gynllun Gweithredu ar gyfer diwygio. Yna, ymgynghorodd y llywodraeth ar y newidiadau gweithredol a gynigiwyd yn y Cynllun Gweithredu a chyhoeddodd ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2024. I gefnogi’r diwygiadau, mae deddfwriaeth wedi cael ei diwygio ac mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ac wedi’u diweddaru. 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datblygu gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd i gefnogi diwygiadau’r llywodraeth sy’n cyflwyno, ymhlith materion eraill, Gweithdrefn Garlam newydd a fydd ar gael i brosiectau sy’n bodloni safon ansawdd y Weithdrefn Garlam newydd. 

Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n cadarnhau penderfyniad dros dro’r Arolygiaeth Gynllunio bod cais NSIP yn addas ar gyfer y Weithdrefn Garlam, bydd hyn yn effeithio ar amseriad camau’r broses NSIP a rhai o’r gweithgareddau yn ystod y camau. 

Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y Broses garlam i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae mwy o fanylion am gamau’r broses NSIP ar gael yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn. 

Y bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses 

Yr ymgeisydd  

Yr ymgeisydd yw’r datblygwr sydd eisiau adeiladu’r prosiect. Mae llawer o wahanol fathau o ddatblygwyr a all ddylunio ac adeiladu NSIPau, ac fe allent gyflogi cynghorwyr neu ymgynghorwyr i’w helpu. Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am ymgynghori â phobl ynglŷn â’i brosiect cyn cyflwyno ei gais. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi ‘dogfen raglen’ a fydd yn dangos pryd a sut y bydd yn ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ac eraill yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses. 

Aelodau’r Cyhoedd 

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gynnal ymgynghoriad pellgyrhaeddol ynglŷn â’i brosiect cyn y gall gyflwyno ei gais i’r Arolygiaeth Gynllunio. Gall unrhyw un ymateb i ymgynghoriad yr ymgeisydd. 

Gwybodaeth bwysig am ddod yn barti â buddiant 

Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn cais NSIP i’w archwilio, dim ond aelodau’r cyhoedd sy’n cofrestru i leisio’u barn yn ystod y cam cyn-archwilio, ac felly dod yn barti â buddiant, sydd â’r hawl i ymwneud â’r archwiliad o’r cais. Felly, mae’n rhaid i aelodau’r cyhoedd sydd eisiau i’r Awdurdod Archwilio ystyried eu safbwyntiau ynglŷn ag NSIP ddod yn barti â buddiant. 

Gweler Sut i fod yn barti â buddiant 

Awdurdodau lleol 

Fe allai’r tir a fyddai’n cael ei ddefnyddio gan yr ymgeisydd i adeiladu a gweithredu NSIP fod o fewn un ardal awdurdod lleol neu sawl un, os yw’n gynllun mawr, gwasgaredig. Os bydd y datblygiad ar dir o fewn ffin awdurdod lleol, gelwir yr awdurdod lleol hwnnw’n ‘awdurdod lleol cynhaliol’. Bydd gan yr awdurdod lleol cynhaliol ffin ag un neu fwy o awdurdodau lleol eraill, a adwaenir fel ‘awdurdodau lleol cyfagos’. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â’r awdurdodau lleol cynhaliol a chyfagos ynglŷn â’i brosiect. 

Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i awdurdodau lleol i gael rhagor o wybodaeth am sut mae awdurdodau lleol yn ymwneud â’r broses NSIP. 

Partïon Statudol 

Mae partïon statudol yn sefydliadau sy’n arbenigwyr ar eu maes, fel Asiantaeth yr Amgylchedd, neu bartïon eraill sydd â gwybodaeth leol, fel cynghorau plwyf. Gallant ddefnyddio eu gwybodaeth i gynghori ymgeiswyr ynglŷn â gwahanol agweddau ar eu prosiect. Mae rhestr o’r partïon statudol y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â nhw ynglŷn â’i brosiect wedi’i chynnwys yn y ddeddfwriaeth. 

Nodyn ynghylch Cynghorau Tref, Plwyf a Chymuned 

Mae aelodau’r cynghorau hyn yn cael eu hethol gan y gymuned leol ac yn cynrychioli’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Adwaenir yr aelodau etholedig fel ‘cynghorwyr lleol’. Mae’r cynghorau lleol hyn yn ‘ymgyngoreion statudol’, sy’n golygu bod rhaid rhoi gwybod iddynt am NSIP. Gall cynghorau tref, plwyf a chymuned leisio’u barn am NSIP fel sefydliad. Nid oes ganddynt yr un rôl ag awdurdodau cynllunio lleol. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i awdurdodau lleol i gael rhagor o wybodaeth am sut mae awdurdodau lleol yn ymwneud â’r broses NSIP. 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog y cynghorau lleol hyn i ymgysylltu â’r ymgeisydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Dylent hefyd gofrestru i leisio’u barn yn ystod y cam cyn-archwilio a chynnwys manylion llawn y materion maen nhw eisiau i’r Awdurdod Archwilio eu hystyried. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol. 

Gall cynghorwyr lleol wneud sylw ar NSIP fel unigolyn, hefyd. Pan fydd cynghorydd yn gwneud sylw ar NSIP, mae’n bwysig ei fod yn datgan yn glir ym mha rinwedd y mae’n gwneud ei sylw. 

Gweler Sut i fod yn barti â buddiant i gael gwybodaeth am sut gall parti statudol fod yn barti â buddiant hefyd. 

Unigolion yr effeithir arnynt 

Mae unigolion yr effeithir arnynt yn bobl neu’n sefydliadau sy’n berchen ar y tir y gallai prosiect effeithio arno neu sydd â buddiant yn y tir hwnnw. Gall yr ymgeisydd geisio pwerau i gaffael tir yn orfodol, lle bo angen, i allu adeiladu a gweithredu prosiect. Mae hyn yn golygu, os rhoddir caniatâd datblygu, y bydd yr ymgeisydd yn gallu caffael y tir perthnasol (neu hawliau dros y tir) heb ganiatâd y perchennog. 

Pan fydd ymgeisydd yn dylunio a pharatoi NSIP, bydd yn ystyried a oes angen iddo: 

  • gael mynediad i unrhyw dir er mwyn cynnal arolygon 

  • caffael unrhyw dir i allu adeiladu a gweithredu’r prosiect 

Bydd angen i’r ymgeisydd gasglu gwybodaeth am bwy sydd â buddiant yn y tir. Fe allai fod yn: 

  • berchennog y tir 

  • unrhyw denantiaid, lesddeiliaid neu feddianwyr y tir 

  • unrhyw un sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir, fel benthycwyr morgais 

Pan fydd gan yr ymgeisydd y wybodaeth hon, bydd yn dechrau trafodaethau gyda’r bobl neu’r sefydliadau hynny ynglŷn â chael mynediad, os bydd angen, neu gaffael y tir (neu hawliau dros y tir) yn barhaol neu dros dro. 

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r hyn y gall yr ymgeisydd ei wneud i gasglu gwybodaeth am bwy sydd â buddiant yn y tir a chael mynediad i’r tir ar gael yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar gael gwybodaeth am fuddiannau mewn tir a chael hawliau mynediad i dir

Pan fydd angen, bydd rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno Llyfr Cyfeirio (BoR) gyda’i gais. Mae’r BoR yn rhestru’r holl leiniau tir y byddai’r prosiect yn effeithio arnynt yn uniongyrchol, ynghyd â manylion pob unigolyn yr effeithir arno sydd â buddiant ym mhob llain. Mae’n rhaid i’r holl unigolion yr effeithir arnynt gael eu cynnwys yn Rhan 1 y BoR. Dylai’r ymgeisydd gyflwyno ‘Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau’ gyda’i wybodaeth am y cais. Bydd y traciwr yn esbonio statws trafodaethau ag unigolion yr effeithir arnynt a bydd yn cael ei ddiweddaru yn ystod yr archwiliad. 

Mae rhagor o wybodaeth am gaffael gorfodol, y BoR a’r hyn y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei wneud i ymgynghori â phobl sydd â buddiant mewn tir wedi’i chynnwys ym mharagraff 024 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio

Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud â sgyrsiau ynglŷn â faint o iawndal y dylid ei dalu am gaffael tir nac am ymyrryd â hawliau dros dir. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ateb yr holl gwestiynau yn ymwneud ag iawndal. 

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â’r holl unigolion yr effeithir arnynt ynglŷn â’r prosiect. 

Gwybodaeth bwysig am unigolion yr effeithir arnynt 

Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn y cais NSIP i’w archwilio, bydd gan yr unigolion yr effeithir arnynt yr hawl i ymwneud â’r broses. Gweler Gwrandawiad Caffael Gorfodol  

Gweler Sut i fod yn barti â buddiant i gael gwybodaeth am sut mae unigolyn yr effeithir arno’n barti â buddiant, hefyd. 

Os bydd unrhyw un yn cael buddiant mewn tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau perthnasol ddod i ben, ni fydd yn unigolyn yr effeithir arno. Fodd bynnag, fe all ofyn i’r Awdurdod Archwilio am gael dod yn barti â buddiant. Gelwir hyn yn ‘gais adran 102A’. Gweler Sut i fod yn barti â buddiant i gael rhagor o wybodaeth. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn i gael gwybodaeth am y cyfnod sylwadau perthnasol. 

Unigolion Categori 3 

Pobl neu sefydliadau yw’r rhain a allai fod â hawl i wneud hawliad perthnasol am iawndal os bydd yr NSIP yn cael ei ganiatáu, a’r DCO yn cael ei weithredu’n llawn. Mae hawliad perthnasol yn golygu hawliad o dan: 

Ni chaiff yr ymgeisydd geisio caffael tir unigolyn categori 3 yn orfodol na’i feddiannu dros dro. Er hynny, fe allai’r unigolyn hwnnw fod â hawl i wneud hawliad perthnasol. 

Mae’n rhaid i unigolion categori 3 gael eu cynnwys yn Rhan 2 y BoR ac mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am eu hadnabod. Dylai unrhyw un sy’n credu efallai bod ganddo’r hawl i wneud hawliad perthnasol gysylltu â’r ymgeisydd yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses, ac nid yr Arolygiaeth Gynllunio. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ateb yr holl gwestiynau yn ymwneud ag iawndal. 

Mae rhagor o wybodaeth am gaffael gorfodol, y BoR a’r hyn y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei wneud i ymgynghori â phobl sydd â buddiant mewn tir wedi’i chynnwys ym mharagraff 024 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio

Gweler Sut i fod yn barti â buddiant i gael gwybodaeth am sut mae unigolyn categori 3 yn barti â buddiant, hefyd. 

Os bydd unrhyw un yn cael buddiant mewn tir ac yn credu efallai bod ganddo’r hawl i wneud hawliad perthnasol am iawndal ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau perthnasol ddod i ben, ni fydd yn unigolyn categori 3. Fodd bynnag, fe all ofyn i’r Awdurdod Archwilio am gael dod yn barti â buddiant. Gelwir hyn yn ‘gais adran 102A’. Gweler Sut i fod yn barti â buddiant i gael rhagor o wybodaeth. 

Unigolion Eraill 

Fe allai’r Awdurdod Archwilio ddewis gwahodd unigolion eraill i’r cyfarfod rhagarweiniol a gynhelir ar ddiwedd cam cyn-archwilio’r broses NSIP. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfarfod rhagarweiniol a chamau’r broses NSIP ar gael yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn

Ni all unigolion eraill fod yn bartïon â buddiant (Gweler Sut i fod yn barti â buddiant) ac felly nid oes ganddynt yr hawl i leisio’u barn a chymryd rhan yn y broses NSIP. Fodd bynnag, efallai bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried y gallai unigolyn neu sefydliad ddarparu gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i’r archwiliad neu’r cais. Neu efallai bydd yn ystyried y gallai’r prosiect effeithio ar yr unigolyn neu’r sefydliad ond: 

  • nid oeddent wedi gallu cofrestru fel parti â buddiant o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol 

  • nid ydynt yn gallu gofyn am gael dod yn barti â buddiant o dan adran 102A y Ddeddf Cynllunio 

Gall unigolion eraill gyflwyno sylw ysgrifenedig neu ofyn am gael siarad mewn gwrandawiadau erbyn y dyddiadau cau a roddwyd yn amserlen yr archwiliad, ond yr Awdurdod Archwilio fydd yn penderfynu a yw eisiau clywed ganddynt. 

Yr Arolygiaeth Gynllunio 

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â’r broses NSIP ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn archwilio ceisiadau ar gyfer caniatâd datblygu. 

Mae’r angen am ddatblygu seilwaith cenedlaethol wedi’i amlinellu yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol, a gynhyrchir gan y llywodraeth. Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw safbwyntiau ar rywbeth sydd wedi’i gynnwys mewn Datganiad Polisi Cenedlaethol godi’r mater gyda’i Aelod Seneddol ac nid yr Arolygiaeth Gynllunio. 

Cyn i ymgeisydd gyflwyno cais NSIP, bydd yn cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio i drafod y prosiect. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaeth cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer ymgeiswyr, a’r cyngor a roddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ymgeiswyr, ar gael ym Mhrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio. 

Gall yr Arolygiaeth Gynllunio roi cyngor i unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y prosiect. Bydd y cyngor hwn yn cael ei gyhoeddi ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol hefyd, ynghyd ag enw’r unigolyn neu’r sefydliad y rhoddwyd y cyngor iddo. 

Mae gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio yn darparu rhagor o wybodaeth am ei gwasanaethau a’i gwerthoedd. 

Yr Awdurdod Archwilio 

Mae’r Awdurdod Archwilio’n gyfrifol am archwilio’r cais NSIP a gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a ddylid rhoi caniatâd datblygu. Bydd yn ystyried cydbwyso anghenion y wlad a phrosiect arfaethedig yr ymgeisydd â’r effeithiau tebygol ar yr ardal leol, gan wrando’n ofalus ar safbwyntiau cymunedau, partïon statudol ac eraill. Yn dilyn yr archwiliad, mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio gyflwyno adroddiad argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n amlinellu ei brif ganfyddiadau, casgliadau ac argymhellion mewn perthynas â’r cais NSIP. Bydd yr adroddiad yn rhoi sylw penodol i b’un a yw’r datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd ag unrhyw Ddatganiad Polisi Cenedlaethol dynodedig, a bydd yn ystyried unrhyw Adroddiad ar yr Effaith Leol a gyflwynwyd ac unrhyw faterion rhagnodedig neu berthnasol eraill a allai fod yn bwysig i benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.   

Ar ôl i gais gael ei gyflwyno a’i dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, bydd Awdurdod Archwilio’n cael ei benodi. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynnwys naill ai arolygydd cynllunio annibynnol unigol neu banel o hyd at bum arolygydd a gyflogir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Gwneir y penodiad ar ôl ystyried natur, graddfa a chymhlethdod yr achos. 

Tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio 

Bydd tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn cynnwys rheolwr achos a swyddog achos a fydd yn cael eu cynorthwyo gan dîm gweinyddol achos. Bydd y tîm achos yn cael cymorth gan eraill yn yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd, er enghraifft aelodau’r tîm gwasanaethau amgylcheddol. 

Gall aelodau o’r cyhoedd gysylltu â’r tîm achos os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynglŷn â chais NSIP neu’r broses NSIP yn gyffredinol. Mae’r manylion cyswllt ar gael ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol

Yr Ysgrifennydd Gwladol 

Yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r Aelod Seneddol etholedig ar gyfer y maes polisi sy’n gysylltiedig â’r math o ddatblygiad. Bydd ef neu hi’n gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â ph’un a ddylid rhoi caniatâd datblygu. Er enghraifft, bydd ffordd newydd yn dod o dan y maes polisi trafnidiaeth, felly’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth fydd yn gwneud y penderfyniad. 

Sut i fod yn Barti â Buddiant

{:#intparty} 

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n ymdrin ag NSIPau yn esbonio pwy yw partïon â buddiant a pha hawliau sydd ganddynt. Gweler Adran 102 Deddf Cynllunio 2008.  

Bydd unrhyw un sy’n cofrestru’n gywir i leisio’i farn cyn y dyddiad cau yn dod yn barti â buddiant. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae’r bobl a’r sefydliadau canlynol yn bartïon â buddiant yn awtomatig, ond dylent gofrestru i leisio’u barn o hyd er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod Archwilio’n gwybod beth yw eu safbwyntiau yn gynnar yn y broses: 

  • pawb sydd â buddiant yn y tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno – mae’r bobl a’r sefydliadau hyn yn bartïon â buddiant ac yn unigolion yr effeithir arnynt 

  • unrhyw un y mae’r ymgeisydd wedi amlygu y gallai fod â hawl i wneud hawliad perthnasol am iawndal – mae’r bobl a’r sefydliadau hyn yn bartïon â buddiant ac yn unigolion categori 3 

  • yr awdurdodau lleol cynhaliol – mae’r rhain yn bartïon â buddiant ac yn bartïon statudol 

  • partïon statudol – gall y sefydliadau hyn fod yn bartïon â buddiant ac yn bartïon statudol 

Cais adran 102A 

Gall unrhyw un sydd wedi cael buddiant mewn tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno, ar ôl i’r cyfnod sylwadau perthnasol gau, ofyn i’r Awdurdod Archwilio am gael dod yn barti â buddiant. Gelwir hyn yn ‘gais adran 102A’. Er enghraifft, os yw unigolyn wedi prynu eiddo’n ddiweddar y gallai’r prosiect effeithio arno, efallai na fydd yr ymgeisydd wedi cysylltu ag ef yn ystod y cam cyn-archwilio i ddweud wrtho bod y cais wedi cael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Felly, mae’n bosibl na fyddai wedi bod yn ymwybodol bod angen iddo gofrestru i leisio’i farn. Gweler y wybodaeth am y cam cyn-ymgeisio yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn i gael rhagor o wybodaeth am y cyfnod sylwadau perthnasol. 

I wneud cais adran 102A, dylai’r unigolyn neu’r sefydliad gysylltu â thîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio a darparu’r holl fanylion canlynol: 

  • enw llawn, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn 
  • cyfeiriad y tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno 
  • beth yw ei fuddiant yn y tir: 
    • Perchennog 
    • Lesddeiliad 
    • Tenant 
    • Meddiannydd 
    • Pŵer arall i werthu, trawsgludo neu ryddhau’r tir 
  • rhif teitl y gofrestrfa tir (os yw ar gael) 
  • y dyddiad pan brynwyd neu brydleswyd y tir neu pan gafwyd y buddiant yn y tir  
  • lle bo’n berthnasol, pam y mae’n ystyried y gallai wneud hawliad perthnasol am iawndal (gweler Unigolion categori 3
  • unrhyw wybodaeth arall berthnasol 

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried y cais ac yn cadarnhau a fydd yr unigolyn neu’r sefydliad yn barti â buddiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2024

Argraffu'r dudalen hon