Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Newidiadau i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn i’w archwilio

Mae’r nodyn cyngor hwn yn rhoi gwybodaeth am sut gall ymgeisydd ofyn am gael gwneud newid i gais ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ar ôl iddo gael ei dderbyn i’w archwilio, a chyn diwedd yr archwiliad.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses NSIP, y bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses a chamau’r broses ar gael yn y canlynol:

Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am gyflwyno cais sydd wedi cael ei baratoi’n dda yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori â’r holl bartïon perthnasol. Diben y cam cyn-ymgeisio yw dechrau’r broses datblygu prosiect yn ddwys. Dylai materion technegol gael eu hamlygu a’u datrys cyn belled ag y bo’n bosibl yn ystod y cam cyn-ymgeisio fel y bydd yr archwiliad o’r cais mor ddidrafferth â phosibl.

Dylai’r ymgeisydd gyfeirio at ganllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio a Phrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio i gael rhagor o wybodaeth am baratoi cais NSIP. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, fe allai ymgeisydd benderfynu bod angen iddo wneud newid i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn i’w archwilio, er enghraifft, er mwyn ymateb i gyhoeddi polisi newydd neu sy’n dod i’r amlwg gan y llywodraeth neu yn dilyn trafodaethau parhaus rhwng yr ymgeisydd a phartïon eraill â buddiant. Ni ddylai newidiadau i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn fod yn fater o drefn.

Gweler paragraff 018 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam archwilio i gael gwybodaeth am newidiadau i gais yn ystod archwiliad.

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai gofyn am gael gwneud newid i gais sy’n defnyddio’r Weithdrefn Garlam olygu bod angen i’r cais ddychwelyd i raddfeydd amser confensiynol y Ddeddf Cynllunio.  Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r ymgeisydd drafod effaith bosibl gofyn am gael newid cais gyda’r Arolygiaeth Gynllunio yn brydlon. Gweler paragraffau 003 a 010 canllawiau’r llywodraeth ar y broses Garlam i gael rhagor o wybodaeth.

Pwy sy’n gallu gofyn am gael newid cais?

Dim ond yr ymgeisydd sy’n gallu gofyn am gael newid ei gais. Dylai partïon â buddiant sydd eisiau i’r cais gael ei newid ar ôl iddo gael ei dderbyn siarad â’r ymgeisydd yn uniongyrchol neu gynnwys eu newid awgrymedig mewn sylw a gyflwynir i’r Awdurdod Archwilio.

Os yw’r ymgeisydd eisiau gwneud newid i Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) sydd eisoes wedi cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol, dylai gysylltu ag adrannau perthnasol y llywodraeth a chyfeirio at y canlynol:

Pryd dylid cyflwyno cais am gael gwneud newid?

Dylai’r ymgeisydd roi gwybod i’r Awdurdod Archwilio am unrhyw geisiadau arfaethedig am gael gwneud newid cyn gynted â phosibl (gweler Cam 1 yn y cyngor hwn). Yn unol ag egwyddorion tegwch a rhesymoldeb, mae’n rhaid i bob parti â buddiant gael cyfle i gyflwyno sylwadau ynglŷn â chais sydd wedi’i newid cyn diwedd yr archwiliad. Pan fydd angen, dylai’r ymgeisydd fod yn ymwybodol o’r amser sy’n ofynnol i gyflawni gofynion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Caffael Gorfodol) 2010) (y Rheoliadau CA). Gweler Pwerau caffael gorfodol ychwanegol.

Bydd angen i’r ymgeisydd ystyried, pan fydd y cais am gael gwneud newid yn cael ei gyflwyno (gweler Cam 4 yn y cyngor hwn), bydd angen i unrhyw ddogfennau ategol a chynlluniau fodloni’r safon ofynnol i gael eu derbyn.

Pryd gellir derbyn cais am gael gwneud newid?

Dim ond yr Awdurdod Archwilio sy’n gallu penderfynu p’un a ellir derbyn ac archwilio newid arfaethedig i gais.

Beth fydd yr Awdurdod Archwilio yn ei ystyried?

I ddechrau, bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried, ar ôl y newidiadau arfaethedig, p’un a fydd y prosiect yr un fath i raddau sylweddol â’r prosiect yr ymgeisiwyd amdano’n wreiddiol. Bydd yr Awdurdod Archwilio hefyd yn ystyried a allai effaith gyfunol cyfres o newidiadau cynyddrannol arwain gyda’i gilydd at brosiect sylweddol wahanol. Yr Awdurdod Archwilio fydd yn gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar farn gynllunio.

Ni fydd angen i’r Awdurdod Archwilio ymgynghori â phartïon â buddiant ynglŷn â’r mater hwn, fel arfer. Y rheswm am hyn yw oherwydd gall yr Awdurdod Archwilio ystyried sylwadau ynglŷn â’r newid arfaethedig a anfonwyd at yr ymgeisydd gan bartïon â buddiant ac eraill pan fydd yn penderfynu a yw’r prosiect yn sylweddol wahanol. Gweler Cam 3 a Cham 4 y broses gwneud cais am newid yn y cyngor hwn.

Os bydd yr Awdurdod Archwilio o’r farn y byddai effaith y newid arfaethedig mor sylweddol fel y byddai’n gyfystyr â phrosiect sylweddol wahanol, bydd angen i’r ymgeisydd benderfynu p’un ai:

  • tynnu’r cais yn ôl a chyflwyno cais newydd sy’n cynnwys y newidiadau arfaethedig
  • cyflwyno cais llai am newid
  • symud ymlaen â’r archwiliad yn seiliedig ar y prosiect yr ymgeisiwyd amdano’n wreiddiol

Dylai’r ymgeisydd ystyried po hwyraf yn y broses y tynnir cais yn ôl, y mwyaf yw’r risg y gallai parti â buddiant adennill ei gostau’n llwyddiannus. I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau’r llywodraeth Dyfarnu costau: archwilio ceisiadau ar gyfer gorchmynion caniatâd datblygu – canllawiau (Gorffennaf 2013).

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried effaith y newid arfaethedig ar bartïon â buddiant ac unrhyw un arall y gallai effeithio arno. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i bartïon â buddiant, ac unrhyw un arall yr effeithir arno, wneud sylwadau ar y cais sydd wedi’i newid ac wedyn ymateb i sylwadau pobl eraill.

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried a oes digon o amser ar ôl yn y broses archwilio i archwilio’r cais sydd wedi’i newid. Bydd p’un a oes digon o amser ar ôl yn dibynnu ar gymhlethdod y materion sy’n deillio o’r newid arfaethedig. Er enghraifft:

  • i ba raddau y byddai’r newid yn creu effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol newydd neu wahanol
  • i ba raddau y byddai’r newid yn golygu bod angen pwerau caffael gorfodol ychwanegol

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried unrhyw faterion eraill y mae’n credu eu bod yn bwysig ac yn berthnasol.

Pwerau caffael gorfodol ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd angen pwerau caffael gorfodol ychwanegol pan fydd y newid arfaethedig yn ymwneud â thir ychwanegol nad yw wedi’i gynnwys yn y Llyfr Cyfeirio. Mae tir ychwanegol yn cynnwys caffael yn orfodol tir a oedd wedi’i gynnwys yn y Llyfr Cyfeirio yn flaenorol ar gyfer meddiant dros dro yn unig.

Os yw’r ymgeisydd yn gofyn am newid a fyddai’n golygu bod angen pwerau caffael gorfodol ychwanegol, mae’n rhaid iddo geisio cael caniatâd ar gyfer cynnwys y pwerau ychwanegol hyn gan bawb sydd â buddiant yn y tir ychwanegol (gweler Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Caffael Gorfodol) 2010) (y Rheoliadau CA). Os nad yw’r ymgeisydd yn gallu cael y caniatâd hwn cyn iddo ofyn am y newid i’r cais, byddai hyn yn ysgogi rheoliadau 5 i 19 y Rheoliadau CA. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried a oes digon o amser ar ôl yn y broses archwilio i gynnal y gweithdrefnau a amlinellir yn rheoliadau 5 i 19. Mae’r gweithdrefnau’n cynnwys graddfeydd amser statudol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw, felly cynghorir yr ymgeisydd i geisio caniatâd, lle y bo’n bosibl.

Gwybodaeth newydd neu ddiwygiedig

Mae’n bosibl na fydd newidiadau i wybodaeth cais yn arwain at newidiadau i’r prosiect arfaethedig o reidrwydd. Er enghraifft:

  • cyflwyno fersiynau newydd o’r DCO drafft wrth i erthyglau gael eu hadolygu, gwelliannau gael eu gwneud i’r drafft, neu ofynion gael eu datblygu
  • cyflwyno dogfennau cais, cynlluniau neu wybodaeth amgylcheddol diwygiedig yn dilyn cyngor gan yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â gwallau neu hepgoriadau yn ymwneud â dogfennau’r cais
  • gwybodaeth ychwanegol neu sylwadau ysgrifenedig gan yr ymgeisydd wrth ymateb i gais yr Awdurdod Archwilio o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
  • gwybodaeth newydd wrth ymateb i gwestiynau ysgrifenedig yr Awdurdod Archwilio

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu p’un a fydd unrhyw wybodaeth newydd gan yr ymgeisydd yn ystod y cam archwilio yn arwain at newid i’r cais. Pan allai’r wybodaeth newydd fod yn gyfystyr â newid i’r cais, ond nad yw’r ymgeisydd wedi darparu hysbysiad o newid (gweler Cam 1 y broses newid), fe allai’r Awdurdod Archwilio ofyn i’r wybodaeth gael ei chynnwys gyda hysbysiad o newid cyn penderfynu p’un ai archwilio’r wybodaeth newydd a sut i wneud hynny.

Y broses ar gyfer gofyn am gael gwneud newid i gais

Cyn gofyn am gael newid cais, bydd angen i’r ymgeisydd ffurfio ei farn ei hun, gan geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun, ynglŷn â ph’un a allai newid arfaethedig gael ei archwilio o fewn y graddfeydd amser statudol. Dylai ystyried graddau’r holl ddiwygiadau a fydd yn ofynnol i’r cais a gyflwynwyd a’r amser sydd ar gael i gynhyrchu’r wybodaeth sy’n ofynnol. Dylai’r ymgeisydd hefyd ystyried sut bydd y newid yn effeithio ar bartïon â buddiant ac unrhyw un arall y gallai effeithio arno. Mae hyn yn cynnwys yr amser sydd ar gael i bartïon â buddiant amgyffred, deall a gwneud sylwadau ar y newid arfaethedig cyn diwedd y cam archwilio, yn ogystal ag unrhyw faterion eraill sy’n weddill.

Cam 1 – Yr hysbysiad o newid

Mae’r ymgeisydd yn penderfynu gofyn am gael gwneud newid i gais sydd eisoes wedi cael ei dderbyn i’w archwilio (yn ystod y cam cyn-archwilio neu archwilio) ac yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio yn ysgrifenedig. Adwaenir hyn fel yr ‘hysbysiad o newid’.

Gwybodaeth i’w chynnwys mewn hysbysiad o newid

  • Disgrifiad clir o’r newid arfaethedig, gan gynnwys unrhyw waith newydd, gwaith wedi’i newid a materion atodol
  • Datganiad sy’n amlinellu’r rhesymau dros wneud y newid i’r cais a’r angen amdano gan gyfeirio at ganllawiau’r llywodraeth ar y Cam archwilio, unrhyw Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol, ac unrhyw faterion eraill pwysig a pherthnasol. Dylai’r datganiad hwn gynnwys cyfiawnhad cadarn dros wneud y newid, gan gynnwys pam na amlygwyd ac ymdriniwyd â’r materion sy’n ysgogi’r newid arfaethedig yn ystod y cam cyn-ymgeisio
  • Datganiad sy’n cadarnhau p’un a yw’r newid arfaethedig yn cynnwys newidiadau i dir y Gorchymyn. Os yw’r newid arfaethedig yn cynnwys cais i gynnwys pwerau caffael gorfodol ychwanegol, dylai’r ymgeisydd gadarnhau a oes ganddo’r caniatâd perthnasol gan bawb sydd â buddiant yn y tir ychwanegol. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gynnwys tystiolaeth o’r caniatâd. Os yw trafodaethau’n parhau, dylai’r ymgeisydd gadarnhau statws y rhain. Os yw’r ymgeisydd o’r farn efallai na fydd yn gallu cael y caniatâd hwn, fe ddylai gynnwys disgrifiad manwl o sut gellir cyflawni’r gweithdrefnau yn rheoliadau 5 i 19 y Rheoliadau CA o fewn amserlen yr archwiliad
  • Datganiad sy’n cadarnhau p’un a ddisgwylir i’r newid arfaethedig i’r cais arwain at unrhyw effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol newydd neu wahanol. Dylai hyn gynnwys disgrifiad cryno o’r effeithiau hynny ac unrhyw fesurau lliniaru a gynigir
  • Gwybodaeth i gadarnhau sut mae’r ymgeisydd o’r farn y gellir cyflawni’r newid i’r cais o fewn y graddfeydd amser statudol sy’n weddill
  • Yr amserlen ar gyfer ymgynghoriad yr ymgeisydd ynglŷn â’r newid arfaethedig, a safbwynt yr ymgeisydd ar gwmpas yr ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys cyfiawnhad. Os yw’r ymgeisydd eisoes wedi cynnal ymgynghoriad ar y newid arfaethedig, fe ddylai ddarparu:
    • manylion ynglŷn â sut y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a phwy yr ymgynghorwyd ag ef, gan gynnwys esbonio pam y mae’n credu bod lefel yr ymgynghori’n briodol
    • crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd a sut mae’r ymgeisydd wedi rhoi ystyriaeth iddynt
    • yr holl ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd
  • Y dyddiad cyflwyno disgwyliedig ar gyfer y ‘cais am gael gwneud newid’.

Bydd yr hysbysiad o newid a’r holl ddogfennau ategol yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.

Cam 2 – Cyngor gan yr Awdurdod Archwilio

Ar ôl ystyried yr hysbysiad o newid, bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi cyngor i’r ymgeisydd ynglŷn â goblygiadau gweithdrefnol y newid arfaethedig. Bydd hyn yn cynnwys yr angen am yr ymgynghoriad y dylai’r ymgeisydd ei gynnal cyn cyflwyno’r cais am gael gwneud newid yn ffurfiol, graddau’r ymgynghoriad hwnnw a’i natur. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynghori a yw unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd eisoes gan yr ymgeisydd yn ddigonol.

Cam 3 – Bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori ynglŷn â’r newid arfaethedig

Dylai’r ymgeisydd gynnal ymgynghoriad priodol ynglŷn â’r newid arfaethedig. Gellid cynnal y cam hwn yn gynharach, cyn yr hysbysiad o newid, i geisio arbed amser a llywio ymagwedd yr ymgeisydd at y cais am gael gwneud newid. Fodd bynnag, fe allai’r Awdurdod Archwilio ystyried bod angen ymgynghoriad ychwanegol (Cam 2).

Dylai’r ymgeisydd ymgynghori â’r holl unigolion a ragnodwyd o dan adran 42(1)(a) i (d) Deddf Cynllunio 2008 y byddai’r newid arfaethedig yn effeithio arnynt, gan roi o leiaf 28 niwrnod o dderbyn y wybodaeth am y newid arfaethedig ar gyfer ymatebion.

Os defnyddir ymagwedd wedi’i thargedu at amlygu’r rhai y bydd y newid arfaethedig yn effeithio arnynt, dylid rhoi cyfiawnhad manwl ynglŷn â pham y mae’r ymgeisydd o’r farn nad oes angen ymgynghori â’r holl unigolion a ragnodwyd. Er enghraifft, ni fyddai’r newid arfaethedig yn effeithio ar swyddogaethau ymgymerwyr statudol.

Os yw’n berthnasol, dylai’r ymgeisydd amlygu unrhyw unigolion newydd eu rhagnodi yr ymgynghorwyd â nhw mewn perthynas â’r newid arfaethedig ond na ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â’r cais gwreiddiol.

Cam 4 – Y Cais am gael gwneud newid

Mae’r ymgeisydd yn gofyn yn ffurfiol i’r Awdurdod Archwilio am gael newid y cais trwy ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

Gwybodaeth i’w chynnwys yn y cais am gael gwneud newid

  • Disgrifiad wedi’i gadarnhau o’r newid arfaethedig. Os bydd wedi newid o’r disgrifiad a roddwyd yn yr hysbysiad o newid, dylid esbonio hyn yn glir.
  • Datganiad wedi’i gadarnhau sy’n amlinellu’r rhesymau dros wneud y newid a’r angen amdano. Dylai’r ymgeisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol na chynhwyswyd yn yr hysbysiad o newid.
  • Atodlen lawn o holl ddogfennau a chynlluniau’r cais sy’n rhestru’r diwygiadau i bob dogfen a chynllun a fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r newid neu, fel y bo angen, gyda ‘dim newid’ wedi’i farcio wrth eu hymyl.
  • Datganiad sy’n amlygu unrhyw effaith y byddai’r newid arfaethedig yn ei chael ar sicrhau unrhyw gydsyniadau neu drwyddedau ar gyfer y prosiect. Dylai’r ymgeisydd gadarnhau a fyddai unrhyw oedi wrth sicrhau’r rhain cyn diwedd yr archwiliad.
  • Fersiynau glân a chyda newidiadau wedi’u holrhain o’r DCO drafft sy’n dangos y newidiadau arfaethedig. Hefyd, fersiynau glân a chyda newidiadau wedi’u holrhain o’r memorandwm esboniadol drafft. Os cyflwynwyd fersiynau wedi’u diweddaru o’r rhain i’r archwiliad yn ystod y cam cyn-archwilio neu archwilio, dylai’r ymgeisydd wirio gyda’r Awdurdod Archwilio pa fersiynau y dylid eu defnyddio at y diben hwn.
  • Os yw’r newid arfaethedig yn cynnwys cais i gynnwys pwerau caffael gorfodol ychwanegol, cadarnhad bod gan yr ymgeisydd ganiatâd gan yr holl unigolion sydd â buddiant yn y tir ychwanegol y gellir cynnwys y pwerau ychwanegol yn y cais. Mae’n rhaid darparu tystiolaeth o’r caniatâd. Os nad yw’r ymgeisydd wedi cael caniatâd, mae’n rhaid iddo ddarparu’r wybodaeth a ragnodir gan reoliad 5 y Rheoliadau CA:
    • atodiad i’r Llyfr Cyfeirio
    • cynllun tir sy’n amlygu’r tir ychwanegol, neu’r tir yr effeithir arno gan y caffael gorfodol ychwanegol arfaethedig (fersiynau glân a chyda newidiadau wedi’u holrhain o fersiwn ddiweddaraf y cynlluniau tir a gyflwynwyd i’r archwiliad)
    • datganiad o’r rhesymau pam y mae’r tir ychwanegol yn ofynnol
    • datganiad sy’n nodi sut y bwriedir ariannu caffael y tir ychwanegol (datganiad ariannu)

Dylai’r ymgeisydd ddarparu traciwr hawliau tir atodol sy’n manylu ar statws trafodaethau ynglŷn â’r tir ychwanegol. Dylai’r ymgeisydd hefyd gynnwys disgrifiad manwl o sut y mae’n ystyried y gellir cyflawni’r gweithdrefnau yn rheoliadau 6 i 19 y Rheoliadau CA o fewn amserlen yr archwiliad.

  • Os bydd y newid arfaethedig yn arwain at unrhyw effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol newydd neu wahanol, dylid darparu gwybodaeth amgylcheddol arall fel y bo angen a chadarnhau:
    • bod effeithiau’r newid arfaethedig wedi cael eu hasesu’n ddigonol a bod y wybodaeth amgylcheddol wedi bod yn destun cyhoeddusrwydd. Er nad yw hyn yn ofyniad statudol, dylai’r cyhoeddusrwydd adlewyrchu gofynion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (Rheoliadau AEA 2017)
    • yr ymgynghorwyd ag unrhyw gyrff ymgynghori a allai fod â buddiant yn y newid arfaethedig (gan adlewyrchu gofynion Rheoliadau AEA 2017). Dylai’r ymgeisydd amlygu’r cyrff ymgynghori hynny yr ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig ond na ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â’r cais gwreiddiol
  • Lle y cynhaliwyd ymgynghoriad (naill ai’n wirfoddol, yn unol â chyfarwyddyd yr Awdurdod Archwilio, neu yn unol â gofynion y Rheoliadau CA neu Reoliadau AEA 2017), mae’n rhaid darparu adroddiad ymgynghori. Dylai’r adroddiad ymgynghori:
    • gadarnhau pwy yr ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â’r newid arfaethedig ac esbonio sut a pham yr ymgynghorwyd â nhw
    • cynnwys manylion ynglŷn â sut mae’r ymgeisydd wedi ystyried cynnwys yr ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd
    • cynnwys copïau o’r holl ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd, gan gynnwys unrhyw ymatebion i gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r newid arfaethedig. Dylai’r rhain gael eu cynnwys fel atodiad i’r adroddiad ymgynghori

Bydd y cais am gael gwneud newid a’r holl ddogfennau atodol yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.

Cam 5 – Bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu p’un ai derbyn neu wrthod y cais am gael gwneud newid

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried cais yr ymgeisydd am gael gwneud newid, yr ymatebion ymgynghori ac unrhyw sylwadau eraill a wnaed, ac yn penderfynu p’un ai derbyn ac archwilio’r cais sydd wedi’i newid neu wrthod y newid arfaethedig.

Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio roi gwybod i bartïon â buddiant am unrhyw benderfyniad i dderbyn neu wrthod cais am gael gwneud newid. Os derbynnir y cais am gael gwneud newid, bydd yr Awdurdod Archwilio’n cadarnhau sut caiff ei archwilio. Bydd ei benderfyniad gweithdrefnol yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu gwrthod y cais am gael gwneud newid, bydd angen i’r ymgeisydd benderfynu sut i symud ymlaen.

Cam 6 – Y cais wedi’i newid

Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu derbyn y cais am gael gwneud newid, bydd yr archwiliad yn symud ymlaen trwy ystyried y ‘cais wedi’i newid’. Y cais wedi’i newid yw’r cais gwreiddiol fel y’i newidiwyd gan y cais am gael gwneud newid a dderbyniwyd.

Goblygiadau amseru cyflwyno cais am gael gwneud newid

Bydd cais am gael gwneud newid i gais a dderbyniwyd yn cael ei ystyried o fewn y strwythur ffioedd presennol, fel y’i hamlinellir yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 (y Rheoliadau Ffioedd). Fodd bynnag, dylai’r ymgeisydd fod yn ymwybodol y gallai cyflwyno cais am gael gwneud newid olygu bod angen amser ychwanegol i archwilio’r cais. Fe allai hyn gynyddu ffi’r archwiliad yn seiliedig ar y gyfradd ddyddiol sy’n gymwys o dan reoliadau 8 neu 9 y Rheoliadau Ffioedd.

Mae’r cyngor canlynol yn amlygu goblygiadau gofyn am gael gwneud newid i gais ar wahanol gamau o’r broses ar ôl i gais gael ei dderbyn i’w archwilio.

Y cam cyn-archwilio

Pan fydd yr ymgeisydd yn penderfynu bod angen iddo wneud newid i gais, dylai ddarparu’r hysbysiad o newid cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cais gael ei dderbyn (Cam 1). Gellir ymgynghori ynglŷn â newid arfaethedig yn gynnar yn ystod y cam cyn-archwilio cyn i’r archwiliad ddechrau. Gall cynnig newid ar yr adeg hon leihau’r effaith ar amserlen statudol yr archwiliad pan fydd wedi dechrau. Fodd bynnag, dylai’r ymgeisydd fod yn ymwybodol y dylai unrhyw oedi cyn dechrau’r archwiliad gael ei leihau gymaint â phosibl. Diben hyn yw sicrhau bod yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio a’r wybodaeth amgylcheddol yn parhau i fod yn gyfredol yn ystod y cam archwiliad.

Hysbysiad o newid a gyflwynwyd cyn i’r Awdurdod Archwilio gyhoeddi ei wahoddiad i’r cyfarfod rhagarweiniol (yr hysbysiad Rheol 6)

Yn ddelfrydol, dylai’r ymgeisydd ddarparu’r hysbysiad o newid cyn i’r Awdurdod Archwilio gyhoeddi ei hysbysiad Rheol 6 (gweler Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010). Yna, gall yr Awdurdod Archwilio gynnwys gwybodaeth am y cais am gael gwneud newid yn yr hysbysiad Rheol 6 a chyfeirio partïon â buddiant at y wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn ei hysbysiad o newid. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i’r Awdurdod Archwilio ystyried y cais am newid yn amserlen ddrafft yr archwiliad a chynnwys amser i drafod archwilio’r newid arfaethedig yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod rhagarweiniol. Byddai hyn yn galluogi’r holl bartïon â buddiant i gael yr holl wybodaeth cyn y cyfarfod rhagarweiniol fel y gellir cael trafodaeth benodol ynglŷn â sut gallai cais wedi’i newid gael ei archwilio.

Dylai’r ymgeisydd ofyn i reolwr achos yr Arolygiaeth Gynllunio pryd mae’r hysbysiad Rheol 6 yn debygol o gael ei gyhoeddi. Fe allai hysbysiad o newid sy’n dod i’r amlwg ddylanwadu ar amseru’r cyfarfod rhagarweiniol a phryd y cyhoeddir yr hysbysiad Rheol 6. Er enghraifft, efallai y bydd angen amser cyn y cyfarfod rhagarweiniol i ganiatáu i’r ymgeisydd geisio cyngor gan yr Awdurdod Archwilio (gweler Cam 2), ac yna ymgynghori ar y newid arfaethedig yn unol â Cham 3 y broses. Fe allai hyn oedi dechrau’r cam archwilio, ond byddai’n golygu y byddai partïon â buddiant ac eraill yn cael cyfle i ystyried goblygiadau’r newid arfaethedig cyn dechrau’r archwiliad.

Hysbysiad o newid a gyflwynwyd ar ôl i’r gwahoddiad i’r cyfarfod rhagarweiniol (hysbysiad Rheol 6) gael ei gyhoeddi a chyn y cyfarfod rhagarweiniol

Os bydd yr ymgeisydd yn penderfynu bod angen gwneud newid i’r cais ar ôl i’r hysbysiad Rheol 6 gael ei gyhoeddi, ond cyn i’r cyfarfod rhagarweiniol gael ei gynnal, dylai roi hysbysiad o newid i’r Awdurdod Archwilio (Cam 1) cyn gynted â phosibl cyn y cyfarfod rhagarweiniol. Ni ddylai’r ymgeisydd gynnig newid i’r cais yn y cyfarfod rhagarweiniol heb roi hysbysiad o newid i’r Awdurdod Archwilio yn gyntaf.

Gall yr Awdurdod Archwilio addasu agenda’r cyfarfod rhagarweiniol er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ateb cwestiynau am y newid arfaethedig. Fe all hefyd roi cyfle i bartïon â buddiant ac unrhyw un arall y gallai’r newid arfaethedig effeithio arno drafod sut dylai gael ei archwilio a’r effeithiau ar amserlen ddrafft yr archwiliad.

Os bydd yr Awdurdod Archwilio o’r farn nad yw ymgeisydd wedi darparu digon o wybodaeth neu nad yw wedi cynnal ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd digonol ynglŷn â’r newid arfaethedig, fe allai gynnwys amser yn amserlen yr archwiliad i ymgeisydd ailadrodd Cam 3 a Cham 4 y broses gwneud cais am newid. Fel arall, os bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu y dylid rhoi mwy o amser i bobl ystyried y newid arfaethedig cyn dechrau’r archwiliad, fe allai ohirio’r cyfarfod rhagarweiniol a’i aildrefnu ar gyfer rywbryd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, byddai unrhyw oedi i’r cyfarfod rhagarweiniol a dechrau’r archwiliad yn cael ei leihau gymaint â phosibl.

Os bydd yr Awdurdod Archwilio o’r farn y gellir archwilio’r cais wedi’i newid, bydd yn cyhoeddi ei benderfyniad yn yr hysbysiad Rheol 8 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol. Bydd yr hysbysiad Rheol 8 yn cynnwys amserlen yr archwiliad a bydd hyn yn cynnwys digon o amser i archwilio’r cais wedi’i newid o fewn y graddfeydd amser statudol. Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu peidio â derbyn y newid arfaethedig, bydd y penderfyniad hwn yn cael ei gynnwys yn yr hysbysiad Rheol 8 hefyd.

Y cam archwiliad

Yn ystod y cam archwiliad, mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad o newid yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Archwilio gan ddilyn y camau yn y broses gwneud cais am newid a amlygwyd yn y nodyn cyngor hwn. Fe allai’r ymgeisydd hefyd ddymuno rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio am gais am newid arfaethedig sy’n dod i’r amlwg mewn gwrandawiad. Fodd bynnag, ni ddylai’r ymgeisydd gymryd yn ganiataol y bydd yr Awdurdod Archwilio’n gallu gwneud penderfyniad am newid arfaethedig mewn gwrandawiad. Os bydd y newid arfaethedig yn effeithio ar agenda’r gwrandawiad, fe allai’r Awdurdod Archwilio ohirio’r gwrandawiad. Fe allai’r Awdurdod Archwilio ddiwygio amserlen yr archwiliad, hefyd.

Mae cais am gael gwneud newid a gyflwynir yn ystod ychydig wythnosau olaf y cam archwilio yn annhebygol o gael ei dderbyn gan yr Awdurdod Archwilio. Bydd ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei wneud yn seiliedig ar y cais fel y saif ar ddiwedd yr archwiliad.

Pan fydd yr archwiliad wedi dod i ben, ni all yr Awdurdod Archwilio dderbyn unrhyw sylwadau na chyflwyniadau ychwanegol gan bartïon â buddiant, gan gynnwys unrhyw gais gan ymgeisydd i wneud newid i gais.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Mawrth 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon