Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol
Bwriedir i’r cyngor hwn esbonio sut gall pobl a sefydliadau gofrestru i leisio’u barn am Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) a dod yn barti â buddiant.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd, hefyd. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Beth yw sylw perthnasol?
Sylw perthnasol yw sylwadau manwl unigolyn neu sefydliad ynglŷn â’r cais NSIP. Dylai’r sylw perthnasol gynnwys manylion llawn am y materion y mae’r unigolyn neu’r sefydliad eisiau iddynt gael eu hystyried, gan gynnwys tystiolaeth, lle bo angen. Mae hyn yn golygu na ddylai’r sylw perthnasol ddweud yn syml ‘rydym yn cefnogi’ neu ‘rydym yn gwrthwynebu’ prosiect, ac ni ddylai fod yn amlinelliad o’r materion yn unig.
Gallwch ddarllen mwy am sylwadau perthnasol a pham maen nhw’n bwysig ym mharagraff 004 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio.
Mae’n rhaid i’r sylwadau gael eu cyflwyno ar ffurflen gofrestru ac mae’n rhaid i’r ffurflen gael ei derbyn erbyn y dyddiad cau.
Cofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol
Bydd angen i aelodau’r cyhoedd lenwi ffurflen gofrestru a gwneud sylw perthnasol yn ystod y cyfnod sylwadau perthnasol os ydynt eisiau bod yn barti â buddiant a:
- chael yr hawl i anfon sylwadau ychwanegol a thystiolaeth ysgrifenedig yn ystod cam archwilio’r broses
- cael yr hawl i ofyn am gael siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol yn ystod y cam cyn-archwilio neu mewn gwrandawiadau yn ystod y cam archwilio, a gofyn am gael mynychu unrhyw arolygiadau safle gyda chwmni
- clywed am ddigwyddiadau a phenderfyniadau a wnaed yn ystod y broses
- clywed am gynnydd y cais
Bydd y ffurflen ‘Cofrestru i leisio’ch barn’ ar gael ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol pan fydd yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i bawb fod y cais wedi cael ei dderbyn. Bydd y ffurflen gofrestru ar gael drwy gydol y cyfnod sylwadau perthnasol.
Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn i gael rhagor o wybodaeth am y cyfnod sylwadau perthnasol.
Mae’r ffurflen ar-lein yn arwain pobl drwy’r broses gam wrth gam. Bydd yn gofyn cwestiynau y mae’n rhaid eu hateb cyn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Gall unrhyw un nad yw’n gallu llenwi’r ffurflen gofrestru ar y wefan ofyn i dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio am gael copi papur ohoni. Mae’n rhaid i’r ffurflen bapur gael ei llenwi’n llawn a’i derbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio cyn y dyddiad cau. Ni ellir ymestyn y dyddiad cau.
Pwy sy’n gallu cofrestru
Gall unrhyw un gofrestru i leisio’i farn, gan gynnwys:
- aelodau’r cyhoedd o’r ardal leol neu unrhyw le yn y Deyrnas Unedig
- aelodau’r cyhoedd o wledydd eraill
- grwpiau gweithredu ar ran unigolion sydd â safbwyntiau tebyg
- elusennau a busnesau
- unrhyw un sydd â buddiant yn y tir y gallai’r prosiect effeithio arno
- awdurdodau lleol
- partïon statudol fel Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England a chynghorau plwyf
Yr hyn y bydd arnoch ei angen i gofrestru
I gofrestru, bydd angen i chi roi eich:
- enw llawn
- cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
- sylwadau ynglŷn â’r cais. Dyma’ch sylw perthnasol. Fe ddylai eich sylwadau gynnwys manylion llawn y materion rydych eisiau iddynt gael eu hystyried. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau i gael gwybodaeth bwysig am yr hyn y dylech ac na ddylech ei gynnwys yn eich sylwadau.
Dylech fod yn ymwybodol o’r pwyntiau canlynol:
- Nid oes modd cofrestru’n ddienw
- Os ydych eisiau lleisio’ch barn a chymryd rhan mewn mwy nag un prosiect, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gofrestru ar wahân ar gyfer pob prosiect
-
Os bydd angen i chi gynnwys tystiolaeth ategol nad ydych yn gallu ei chynnwys ar y ffurflen sylwadau perthnasol, gellir ei hanfon drwy e-bost at y tîm achos gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost y prosiect perthnasol ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen gofrestru. Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ategol gael ei derbyn erbyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylw perthnasol. Bydd angen i chi gynnwys y canlynol yn eich neges e-bost fel y gellir atodi’ch tystiolaeth i’ch sylw perthnasol:
-
a. eich enw llawn
-
b. eich rhif cyfeirnod cofrestru
-
c. y dyddiad pryd y cyflwynoch eich ffurflen gofrestru
-
-
Os bydd rhywun yn cofrestru ar ran grŵp teulu (fel y Teulu Smith neu Mr a Mrs Jones) neu sefydliad nad yw’n gweithio iddo (fel grŵp gweithredu preswylwyr), bydd rhaid i holl aelodau’r grŵp teulu neu’r sefydliad gytuno ar gynnwys y sylw perthnasol. Dylid darparu rhestr o enwau’r grŵp teulu neu’r sefydliad, ond sylwch na ddylid cynnwys llofnodion a chyfeiriadau.
-
Os bydd rhywun yn cofrestru ar ran unigolyn arall, grŵp teulu neu sefydliad nad yw’n gweithio iddo, a’i fod yn asiant (fel Jane Taylor o’r Asiantiaid Cynllunio ar ran Ffermydd Wilson), yna’r unigolyn, y grŵp teulu neu’r sefydliad y mae’n ei gynrychioli fydd y parti â buddiant a fydd â’r hawl i gymryd rhan yn y broses. Fodd bynnag, disgwylir y bydd yr asiant yn eu cynrychioli drwy gydol y broses.
-
Bydd unrhyw un sy’n cofrestru’n gywir i leisio’i farn yn barti â buddiant a bydd yn cael neges e-bost (neu lythyr os na ellir cysylltu ag ef trwy e-bost) bob tro y bydd diweddariad neu benderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â’r cais. Gweler Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gofrestru i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â ble yr anfonir gohebiaeth.
- Os ydych yn iau na 18 oed, gallwch gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol o hyd. Fodd bynnag, pan fydd eich sylw’n cael ei gyhoeddi ar y wefan, bydd yn dangos rhif cod a ddyrannwyd yn hytrach na’ch enw. Gwneir hyn i gydymffurfio â rheoliadau diogelu data.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gofrestru
Bydd yr holl sylwadau perthnasol yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod sylwadau perthnasol ddod i ben. Bydd unrhyw un sy’n llenwi ffurflen gofrestru’n gywir ac yn gwneud sylw perthnasol erbyn y dyddiad cau yn dod yn barti â buddiant a bydd yn cael gwybod am unrhyw benderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio. Bydd gohebiaeth (negeseuon e-bost neu lythyrau) yn cael ei hanfon at y cyfeiriad a roddwyd gan yr unigolyn neu’r sefydliad a gofrestrodd.
Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau i gael gwybodaeth am dynnu sylw perthnasol yn ôl.
Rhoi gwybodaeth gyfredol i bawb a’ch rhif cyfeirnod parti â buddiant
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon gohebiaeth drwy e-bost os rhoddwyd cyfeiriad e-bost iddi, neu lythyr drwy’r post, a fydd yn dweud wrth bartïon â buddiant ble y gallant weld hysbysiadau a phenderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio. Bydd y neges e-bost yn dod o’r cyfeiriad canlynol: ni.mail.distribution@notifications.service.gov.uk.
Bydd y neges e-bost neu’r llythyr yn cynnwys rhif cyfeirnod parti â buddiant. Bydd gan y bobl ganlynol neu’r sefydliadau canlynol eu rhif cyfeirnod parti â buddiant unigryw:
-
Aelodau’r cyhoedd sydd wedi cyflwyno ffurflen gofrestru’n gywir a gwneud sylw perthnasol (partïon â buddiant)
-
Pawb sydd â buddiant yn y tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arno (unigolion yr effeithir arnynt ac unigolion categori 3). Os yw’r bobl a’r sefydliadau hyn wedi cyflwyno ffurflen gofrestru’n gywir hefyd, bydd ganddynt 2 rif cyfeirnod parti â buddiant a gallant ddefnyddio’r naill neu’r llall pan fyddant yn cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio
-
Awdurdodau lleol
-
Partïon statudol
Mae’n bwysig iawn bod unrhyw un sy’n derbyn y neges e-bost neu’r llythyr yn nodi ei rif cyfeirnod parti â buddiant a’i gynnwys unrhyw bryd y bydd yn cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio.
Dylai unrhyw un nad yw’n siŵr beth yw ei rif cyfeirnod parti â buddiant gysylltu â thîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio.
Os ydych hefyd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ‘Cael diweddariadau’ am brosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol, byddwch yn cael neges e-bost bob tro y bydd y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan yn cael ei diweddaru. Nid yw cofrestru i gael diweddariadauyn golygu eich bod wedi cofrestru i leisio’ch barn ac nid yw’n golygu eich bod yn barti â buddiant.
Defnyddio’r wefan Dod i Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol i leisio’ch barn ar ôl y cyfnod sylwadau perthnasol
Dylai partïon â buddiant anfon unrhyw sylwadau ychwanegol trwy’r ffurflen ‘Lleisio’ch barn’. Bydd y ffurflen hon ar gael ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan ar yr adeg briodol. Bydd y ffurflen ar gael i anfon sylwadau sy’n berthnasol i’r dyddiadau cau yn amserlen yr archwiliad. Dyma’r ffordd hawsaf a mwyaf effeithlon o wneud yn siŵr bod y sylwadau’n cael eu gweld a’u hystyried gan yr Awdurdod Archwilio.
Mae amserlen yr archwiliad yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer pryd y mae’r Awdurdod Archwilio’n disgwyl derbyn gwybodaeth neu sylwadau o fath penodol. Mae’n bwysig bod partïon â buddiant sy’n anfon gwybodaeth neu sylwadau:
- yn eu hanfon cyn y dyddiad cau
- yn anfon y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn unig ar gyfer pob dyddiad cau. Os oes mater newydd wedi codi nad yw’r Awdurdod Archwilio’n ymwybodol ohono, o bosibl, dylid egluro hyn yn y sylw
- yn defnyddio’r ffurflen ‘Lleisio’ch barn’
Os bydd gwybodaeth neu sylwadau’n cael eu cyflwyno’n hwyr, neu nad yw’r deunydd yn berthnasol i’r hyn y gofynnwyd amdano, mae’n bosibl na fydd yr Awdurdod Archwilio’n eu derbyn.
Yr hyn y bydd arnoch ei angen i wneud sylwadau ychwanegol
Mae’r ffurflen ar-lein yn arwain pobl drwy’r broses gam wrth gam. Bydd yn gofyn cwestiynau y mae’n rhaid eu hateb cyn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Bydd angen i chi roi:
- eich rhif cyfeirnod parti â buddiant
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
- y sylwadau neu’r wybodaeth y mae’r Awdurdod Archwilio wedi gofyn amdanynt/amdani, neu unrhyw wybodaeth newydd, gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol.
Os bydd gan unrhyw un gwestiynau am ddefnyddio’r wefan, fe ddylai gysylltu â thîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd y tîm achos yn trafod y dull mwyaf priodol o gyflwyno sylwadau. Fe allai hyn fod drwy e-bost neu drwy anfon copi papur drwy’r post.