Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cofrestru i siarad mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, neu ei fynychu
Bwriedir i’r cyngor hwn esbonio sut dylai partïon â buddiant gofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd, hefyd. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Sut i gofrestru i siarad mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, neu ei fynychu
Adwaenir y canlynol fel digwyddiadau NSIP:
- Y cyfarfod rhagarweiniol
- Gwrandawiadau llawr agored
- Gwrandawiadau mater penodol
- Gwrandawiadau caffael gorfodol
- Archwiliadau safle gyda chwmni
Gellir cynnal y cyfarfod rhagarweiniol a digwyddiadau gwrandawiad ar-lein yn unig neu mewn lleoliad addas gyda rhai pobl a sefydliadau’n mynychu ar-lein ac eraill wyneb yn wyneb; gelwir hyn yn ‘ddigwyddiad cyfunol’.
Gall unrhyw un fynychu’r cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad wyneb yn wyneb mewn lleoliad, ond dim ond partïon â buddiant sydd â’r hawl i ofyn am gael siarad. Dim ond partïon â buddiant sy’n gallu gofyn am gael mynychu archwiliad safle gyda chwmni. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses i gael rhagor o wybodaeth am bartïon â buddiant.
Gweler nodiadau cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn a Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen i gofrestru i siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu mewn gwrandawiad, neu fynychu archwiliad safle gyda chwmni. Bydd hefyd angen i chi gofrestru os ydych yn dymuno mynychu digwyddiad cyfunol wyneb yn wyneb a pheidio â siarad. Nid oes angen i chi gofrestru os ydych eisiau gwylio digwyddiad ar-lein yn unig (gweler Gwylio’r Cyfarfod Rhagarweiniol neu wrandawiad). Mae’n rhaid i bawb gofrestru’n unigol.
Gwybodaeth bwysig am siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu mewn gwrandawiad
Mae’r cyfarfod rhagarweiniol a phob gwrandawiad yn cael eu ffrydio’n fyw, sy’n golygu y gall unrhyw un eu gwylio wrth iddynt ddigwydd trwy glicio ar hyperddolen ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Bydd recordiad fideo o’r cyfarfod a’r holl wrandawiadau’n cael ei gyhoeddi ar y wefan, hefyd.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n siarad gyflwyno ei hun bob tro y bydd yn siarad. Os byddwch yn siarad mewn lleoliad, bydd rhaid i chi ddefnyddio’r microffonau a ddarperir. Bydd angen i unrhyw un sy’n siarad ddeall y bydd yr hyn y bydd yn ei ddweud yn cael ei ffrydio’n fyw a’i recordio.
Siaradwch â’r tîm achos os nad ydych eisiau i ddelwedd ohonoch gael ei recordio fel y gallant drefnu i chi siarad oddi ar y camera, naill ai ar-lein neu yn y lleoliad.
Cedwir y recordiadau o ddigwyddiadau am 5 mlynedd yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig (UK GDPR).
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n siarad yn y cyfarfod neu mewn gwrandawiad wneud ei orau i beidio â rhoi unrhyw wybodaeth y dylid ei chadw’n breifat ac yn gyfrinachol, fel cyflyrau iechyd neu gyfeiriad. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylid ac na ddylid ei gynnwys mewn sylwadau, ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Yr hyn y bydd arnoch ei angen i gofrestru i fynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol neu wrandawiad a PHEIDIO â siarad
Digwyddiadau cyfunol
I gofrestru i fynychu’r lleoliad yn unig a pheidio â siarad, bydd arnoch angen eich:
- rhif cyfeirnod parti â buddiant (os oes gennych un)
- enw llawn
- cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
- cadarnhad y byddwch yn mynychu wyneb yn wyneb yn y lleoliad
Mae’n bwysig bod gan y tîm achos yr holl wybodaeth sy’n ofynnol erbyn y dyddiad cau fel y gellir gwneud y trefniadau ymarferol, fel sicrhau bod digon o seddau’n cael eu darparu yn y lleoliad.
Digwyddiadau ar-lein yn unig
Os yw’r digwyddiad ar-lein yn unig, ni ddylech gofrestru i fynychu os nad ydych eisiau siarad. Yn lle hynny, gallwch wylio’r ffrwd fyw neu’r recordiad o’r digwyddiad. Gweler Gwylio’r Cyfarfod Rhagarweiniol neu wrandawiad
Gwylio’r cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad
Os bydd aelodau’r cyhoedd yn penderfynu eu bod eisiau gwylio’r cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad yn unig a pheidio â siarad, mae 3 opsiwn ar gael:
- Gallant wylio’r digwyddiad ar-lein wrth iddo ddigwydd trwy ffrwd fyw. Gallant glicio ar hyperddolen a fydd ar gael ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol yn union cyn i’r digwyddiad ddechrau
- Gallant wylio recordiad o’r digwyddiad ar ôl iddo orffen. Bydd y recordiad fideo a thrawsgrifiad o’r hyn a ddywedwyd ar gael ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol yn fuan ar ôl i’r digwyddiad orffen
- O ran digwyddiadau cyfunol, gall pobl fynd i’r lleoliad yn bersonol i wylio
Yr hyn y bydd arnoch ei angen i gofrestru i siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad
Cyn cofrestru i siarad, gweler Gwybodaeth bwysig am siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad.
I gofrestru i siarad, bydd arnoch angen eich:
-
rhif cyfeirnod parti â buddiant. Gweler yr adran ‘Rhoi gwybodaeth gyfredol i bawb a’ch rhif cyfeirnod parti â buddiant’ yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol
-
enw llawn
- cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
- o ran digwyddiadau cyfunol – cadarnhad ynghylch p’un a fyddwch yn siarad ar-lein neu wyneb yn wyneb yn y lleoliad
- o ran gwrandawiadau – cadarnhad ynghylch y gwrandawiadau rydych eisiau siarad ynddynt
- o ran y cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiadau – cadarnhad ynghylch yr eitem(au) agenda rydych eisiau siarad amdani/amdanynt a manylion cryno am y pynciau yr hoffech eu codi
-
o ran gwrandawiadau caffael gorfodol – rhifau lleiniau’r tir perthnasol a ddarperir yn y Llyfr Cyfeirio a’r Cynlluniau Tir. Gweler yr adran ar unigolion yr effeithir arnynt yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses
- o ran y cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad – rhif cyfeirnod llyfrgell yr archwiliad (gyda rhif paragraff / tudalen lle bo’n briodol) ar gyfer unrhyw ddogfennau yr hoffech gyfeirio atynt. Gweler yr adran ar lyfrgell yr archwiliad yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau
Mae’n bwysig bod gan y tîm achos yr holl wybodaeth sy’n ofynnol erbyn y dyddiad cau fel y gellir gwneud y trefniadau ymarferol, fel paratoi placiau enw i ddangos ble y dylai’r bobl sy’n siarad mewn lleoliad eistedd.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gofrestru i siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad
Bydd partïon â buddiant sydd wedi cofrestru i siarad yn y digwyddiad yn cael cyfarwyddiadau’n fuan cyn y cyfarfod neu’r gwrandawiad a fydd yn esbonio sut gallant ymuno neu fynychu naill ai:
- wyneb yn wyneb mewn lleoliad
- ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
- dros y ffôn
Fe allai’r cyfarwyddiadau gael eu hanfon mor hwyr â’r diwrnod cyn y cyfarfod neu’r gwrandawiad.
Yr hyn y bydd arnoch ei angen i gofrestru i fynychu archwiliad safle gyda chwmni
Cyn cofrestru i fynychu, gweler yr adran ‘Archwiliadau Safle gyda Chwmni’ yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn.
I gofrestru i fynychu, bydd arnoch angen eich:
-
rhif cyfeirnod parti â buddiant. Gweler yr adran ‘Rhoi gwybodaeth gyfredol i bawb a’ch rhif cyfeirnod parti â buddiant’ yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses
-
enw llawn
-
cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
-
cadarnhad ynghylch ble y byddwch yn ymuno â’r archwiliad safle, os yw hyn yn briodol
Mae’n bwysig bod gan y tîm achos yr holl wybodaeth sy’n ofynnol erbyn y dyddiad cau fel y gellir gwneud y trefniadau ymarferol, fel sicrhau bod digon o drafnidiaeth yn cael ei darparu i bawb a fydd yn mynychu.