Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Tudalen Cyngor Technegol ar gyfer Cwmpasu Datblygiad Solar

Mae’r dudalen hon yn rhoi cyngor technegol ar ystyried cwmpas y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gyfer datblygiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) solar.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.

Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd â chyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol, y Gofrestr Ymrwymiadau a chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.

Cyd-destun y Cyngor

Paratowyd y cyngor hwn gan ystyried materion a godwyd mewn ceisiadau NSIP blaenorol ac fe’i llywiwyd gan y profion polisi a amlinellir yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol EN-1, EN-3 ac EN-5 2024, gofynion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017, a gofynion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009.

Sylwch nad yw’r cyngor hwn yn ymwneud â’r broses Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y broses Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae’r cyngor hwn yn mynd i’r afael â’r cam cwmpasu ar gyfer datblygiad solar ym mhroses NSIP Deddf Cynllunio 2008 a chaiff ei ymestyn yn y dyfodol i ymdrin â chamau diweddarach proses Deddf Cynllunio 2008.

Mae’r Arolygiaeth o’r farn y bydd y cyngor hwn, os caiff ei ddilyn, yn helpu i alluogi archwiliadau NSIP mwy didrafferth ac effeithlon, gan olygu y bydd angen mynd i’r afael â llai o faterion yn ystod yr archwiliad a chynorthwyo Awdurdodau Archwilio, ymgeiswyr a rhanddeiliaid i ganolbwyntio eu hadnoddau’n well.

Mae’r cyngor hwn yn ategu gwasanaeth cyn-ymgeisio fesul haen yr Arolygiaeth Gynllunio, a bydd yn arbennig o fuddiol i brosiectau sy’n dewis y gwasanaeth lefel sylfaenol gan yr Arolygiaeth Gynllunio, lle mae ymgeiswyr wedi dewis cyngor cyfyngedig sy’n benodol i brosiect.

Mae NSIP yn debygol o gynnwys materion unigryw a chyflwyno cyfleoedd y gellid eu hamlygu orau gan ddefnyddio ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth. Bydd pob cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yn cael ei ystyried yn unol â’i rinweddau ei hun. Am y rheswm hwn:

  • nid yw’r cyngor hwn yn rhy rhagnodol
  • nid yw’n gwbl gynhwysfawr o ran y pynciau a’r materion a amlygir i dderbyn sylw o fewn cais
  • nid yw’n drech na’r safbwynt y deuir iddo mewn barn gwmpasu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) berthnasol, na safbwynt Awdurdod Archwilio yn ystod archwilio cais

Fodd bynnag, bwriedir i’r cyngor hwn gefnogi mwy o gymesuroldeb yn y broses asesu ac fe ddylai lywio’r man cychwyn ar gyfer datblygu ceisiadau DCO, yn enwedig yr AEA a’r Datganiad Amgylcheddol.

Cyngor Technegol ar gyfer Cwmpasu Datblygiad NSIP Solar

Trwy ddefnyddio ymagwedd gynhwysfawr, seiliedig ar dystiolaeth at gwmpasu AEA, gellir hepgor agweddau neu faterion penodol o’r AEA, gan sicrhau bod y Datganiad Amgylcheddol yn canolbwyntio ar yr effeithiau amgylcheddol ‘pennaf’ neu ‘arwyddocaol’ tebygol a ddisgwylir. Mae hyn yn golygu y gall yr holl bartïon ddyrannu adnoddau mewn modd mwy penodol yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ac yn rhoi mwy o eglurder i bawb sy’n ymwneud â’r broses.

Mae’r Tabl Cwmpasu Solar (ODT, 16.5 KB) wedi’i gynnwys yn y cyngor hwn, sy’n rhoi enghreifftiau o wybodaeth ategol a all gynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio wrth ystyried p’un ai cytuno i hepgor agweddau (fel y’u diffinnir yn y rheoliadau AEA ac y cyfeirir atynt weithiau fel ‘ffactorau’ neu ‘bynciau’ amgylcheddol) a / neu faterion (is-adran o agwedd, fel effaith benodol neu fath o dderbynnydd) o’r AEA ar gyfer datblygiadau NSIP solar.

Mae’r Tabl Cwmpasu Solar yn canolbwyntio ar rai enghreifftiau dethol o agweddau / materion lle mae effeithiau arwyddocaol yn annhebygol o ddigwydd ar gyfer datblygiad solar nodweddiadol neu lle y gellir eu rheoli trwy weithredu mesurau lliniaru safonol fel nad yw effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd yn debygol o ddigwydd. Mae’n amlinellu’r math o dystiolaeth, tybiaethau ac ymrwymiadau y dylid eu darparu yn ystod y cam cwmpasu i ddangos nad yw effeithiau arwyddocaol yn debygol.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y Tabl Cwmpasu Solar yn cynnwys enghreifftiau yn unig. Nid yw’n ystyried gwybodaeth benodol yn ymwneud â’r prosiect a’i amgylchedd derbyn, felly nid yw’n gwarantu y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n gallu cytuno i hepgor materion penodol o’r asesiad ym mhob achos. Bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu seilio ar nodweddion pob prosiect, yr amgylchedd derbyn, dilysrwydd a chadernid y wybodaeth ategol a ddarparwyd, a’r cyngor a roddwyd gan ymgyngoreion.

Ni fwriedir i’r rhestr o agweddau / materion a amlinellir yn y Tabl Cwmpasu Solar fod yn rhestr gynhwysfawr, ac fe allai fod yn bosibl hepgor agweddau / materion eraill o’r AEA hefyd pan fydd digon o dystiolaeth i gasglu bod effaith arwyddocaol yn annhebygol o ddigwydd.

Mae penderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â ph’un ai cytuno i hepgor agwedd neu fater o’r AEA yn amodol ar ddarparu gwybodaeth ategol briodol i gyd-fynd â chais cwmpasu er mwyn rhoi hyder nad yw effaith arwyddocaol yn debygol neu fod y tebygolrwydd yn fach.   

Yn gyffredinol, fe allai’r math o wybodaeth y gellid ei darparu i gefnogi cais i hepgor agweddau / materion o’r AEA gynnwys gwybodaeth am y llinell sylfaen amgylcheddol, y datblygiad arfaethedig, a llwybrau effaith posibl a allai godi oherwydd y datblygiad arfaethedig.

Fe allai’r wybodaeth hon gynnwys tybiaethau penodol sy’n ffurfio’r sail i gasgliadau yn yr adroddiad cwmpasu, er enghraifft tybiaethau ynglŷn â thechnegau adeiladu neu symudiadau cerbydau. Dylai’r holl dybiaethau sy’n sail i’r achos dros hepgor agweddau / materion o’r AEA gael eu hamlinellu’n glir yn y cais cwmpasu ar ffurf tabl y gellir ei olrhain drwy gydol y broses.

Dylid cynhyrchu fersiynau dilynol o’r tabl hwn yn yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR) a’r Datganiad Amgylcheddol a gyflwynir ochr yn ochr â’r cais DCO.

Fe allai’r achos dros hepgor agweddau / materion penodol o’r AEA gael ei ategu hefyd drwy ddarparu gwybodaeth i ddisgrifio ymrwymiadau y mae’r ymgeisydd yn hyderus y byddant yn rhan o’r cais arfaethedig ar adeg ei gyflwyno, fel cymhwyso safonau’r diwydiant neu weithredu mesurau lliniaru profedig.

Pan fydd yr achos dros hepgor agweddau / materion o’r AEA wedi’i seilio ar ymrwymiad i ddarparu mesurau lliniaru, dylai’r cais cwmpasu gynnwys digon o wybodaeth am y mesurau arfaethedig i ddangos y gellir eu sicrhau a’u gweithredu, a bod lefel uchel o hyder yn llwyddiant / effeithiolrwydd y mesurau hynny. Fe allai hyn gynnwys tystiolaeth o lwyddiant blaenorol / cytundeb gan gyrff ymgynghori perthnasol.

Dylai ymrwymiadau gael eu cofnodi mewn fersiwn gyntaf o Gofrestr Ymrwymiadau i’w chyflwyno yn rhan o’r cais cwmpasu, a’u cadarnhau mewn fersiwn wedi’i diweddaru o’r Gofrestr Ymrwymiadau i’w chyflwyno yn rhan o’r cais DCO.

Pan wneir ymrwymiadau i weithredu mesurau lliniaru penodol, dylai’r cais cwmpasu a’r Gofrestr Ymrwymiadau nodi pa ddogfen reoli amlinellol y bydd y rhain yn cael eu cynnwys ynddi, a sut byddant yn cael eu sicrhau. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar y Gofrestr Ymrwymiadau ar gyfer templed a gwybodaeth ychwanegol am ei defnydd bwriadedig yn y broses gynllunio NSIP.

Dylai tybiaethau ac ymrwymiadau gael eu dilysu cyn eu cyflwyno a’u cadarnhau yn y dogfennau cais. Os bydd y tybiaethau neu’r ymrwymiadau a amlinellir yn y cais cwmpasu’n newid wedi hynny ac y gallent arwain at effeithiau amgylcheddol gwahanol, ni fyddai hyn yn cydymffurfio â’r cwmpas cytunedig ac fe allai danseilio unrhyw gytundeb i hepgor mater neu agwedd.

Gall ymgysylltiad cynnar â’r cyrff ymgynghori perthnasol cyn cais cwmpasu helpu i alluogi cytundeb ar gwmpas yr AEA. Pan ellir darparu tystiolaeth o gytundeb â chyrff ymgynghori perthnasol ar gwmpas asesiad (er enghraifft, tystiolaeth i gefnogi hepgor materion, arolygon sylfaenol, ymagwedd at asesu a mesurau lliniaru) yn y cais cwmpasu, fe allai hyn gynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu p’un ai cynnwys agweddau / materion yn yr asesiad neu eu hepgor ohono.

Er bod y cyngor hwn yn amlygu’r math o wybodaeth sy’n ofynnol i gefnogi hepgor agweddau neu faterion o’r AEA, mae hefyd yn bwysig bod cwmpas unrhyw asesiadau o agweddau neu faterion sydd i’w cynnwys yn yr AEA yn cael ei gwmpasu’n gymesur.

Er enghraifft, gellir defnyddio ardal astudio sydd wedi’i diffinio’n dda a’i seilio ar dystiolaeth i amlygu’r derbynyddion hynny y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arnynt, y rhai hynny nad oes llwybr iddynt neu y byddai maint unrhyw effaith mor isel fel y byddai effaith arwyddocaol yn annhebygol o ddigwydd, ac felly y gellir eu hepgor o’r asesiad.

Nid yw’r cyngor hwn yn mynd i’r afael â chwmpasu effeithiau cronnol yn benodol. Pan fydd ymgeisydd yn ystyried p’un ai hepgor agwedd neu fater o’r AEA ar y sail na fyddai’r prosiect ar ei ben ei hun yn arwain at effaith arwyddocaol debygol, dylid hefyd ystyried y potensial ar gyfer effeithiau arwyddocaol tebygol ar y cyd ag effeithiau sy’n deillio o brosiectau eraill (fel yr amlinellir yng nghyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Asesu Effeithiau Cronnol).  

Pan amlygir y potensial ar gyfer effaith gronnol trwy gwmpasu neu’n ddiweddarach yn y broses AEA, bydd angen i’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys digon o wybodaeth i lywio asesiad o’r effeithiau cronnol posibl hynny.

Ym mhob achos pan fydd Datganiad Polisi Cenedlaethol yn gymwys neu y gallai fod yn bwysig ac yn berthnasol, materion sydd wedi’u hepgor o’r Datganiad Amgylcheddol ond y mae prawf o broses neu ganlyniad yn ofynnol ar eu cyfer o dan Ddatganiad Polisi Cenedlaethol, yna mae’n rhaid dangos tystiolaeth o’r prawf hwnnw o hyd.

Gall y dystiolaeth hon gynnwys deunydd a ddefnyddiwyd i hepgor mater / agwedd, yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol berthnasol. Dylid dangos y dystiolaeth hon yn glir mewn crynodeb o gydymffurfio â pholisïau, datganiad cynllunio neu’r hyn sy’n cyfateb iddo, a’i chyflwyno yn rhan o’r cais.

Enghraifft o sut y dylid cymhwyso’r wybodaeth yn y Tabl Cwmpasu Solar

Rhoddir enghraifft i ddangos sut gellir cymhwyso’r wybodaeth a nodir yn y Tabl Cwmpasu Solar (ODT, 16.5 KB) yn y cais cwmpasu, wrth gyflwyno’r achos dros hepgor agwedd / mater o’r AEA.

Mae’r enghraifft isod yn dangos sut gallai gwybodaeth yn ymwneud â’r nifer a’r math o symudiadau cerbydau disgwyliedig, llwybr cerbydau a’r disgrifiad amlinellol o fesurau rheoli amgylcheddol penodol, gael eu cymhwyso i gefnogi achos dros hepgor allyriadau cerbydau a / neu lwch o’r agwedd ansawdd aer ar AEA. Mae hyn yn berthnasol dim ond pan fydd lefel uchel o hyder na fyddai graddfa a natur y gwaith yn arwain at effaith arwyddocaol debygol ar yr amgylchedd.

Enghraifft

Dylai ymgeiswyr amlinellu’r wybodaeth ganlynol sy’n gysylltiedig â thraffig yn y cais cwmpasu:

  • nifer y symudiadau cerbydau a gadarnhawyd neu a dybiwyd ar gyfer pob math o gerbyd, er enghraifft, cerbydau nwyddau trwm (HGVau) a cherbydau nwyddau ysgafn, yn ystod adeiladu, gweithredu a datgomisiynu. Lle y gwneir tybiaethau, dylai’r cais cwmpasu esbonio sut y pennwyd y rhain. Er enghraifft, cyfeirio at symudiadau trafnidiaeth nodweddiadol y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â gweithgareddau penodol
  • unrhyw wybodaeth sydd ar gael am yr ymagwedd gynlluniedig at fynediad i’r safle a llwybr cerbydau, neu ymrwymiadau i leihau effaith traffig ar y rhwydwaith ffyrdd gymaint â phosibl trwy fesurau fel osgoi symudiadau ar adegau penodol o’r dydd, osgoi llwybrau trwy ardaloedd sensitif neu wasgaru symudiadau cerbydau trwy ddefnyddio sawl pwynt mynediad i’r safle. Pan fydd y tybiaethau hyn yn llywio’r achos dros hepgor y mater hwn, dylid eu cofnodi yn y ddogfen Cofrestr Ymrwymiadau fel y gellir eu cadarnhau ar y cam cyflwyno
  • disgrifiad lefel uchel o’r rhwydwaith ffyrdd y mae’n debygol yr effeithir arno, o ran maint, nodweddion ac unrhyw ardaloedd lle y gwyddys bod llawer o draffig neu broblemau
  • yr effeithiau posibl a allai ddeillio o draffig neu waith adeiladu. Er enghraifft, cynhyrchu llwch dros dro sy’n baeddu o fewn 500m o ffin y safle o ganlyniad i waith adeiladu
  • amlinelliad lefel uchel o’r mathau o fesurau rheoli amgylcheddol neu liniaru safonol / arfer da y mae’r ymgeisydd wedi ymrwymo i’w sicrhau trwy’r DCO a’u gweithredu ar ôl cael caniatâd. Fe allai hyn gynnwys rhestr o bwyntiau bwled i ddangos y math o fesurau arfer da a ddisgwylir ac ymrwymiad i weithredu’r mesurau hynny yn unol â’r canllawiau a’r manylebau a ragnodir o fewn dogfennau arfer gorau penodol y diwydiant. Er enghraifft, bydd mesurau lliniaru penodol i safle’n cael eu dylunio a’u gweithredu yn unol â’r mesurau a’r manylebau a amlinellir yng nghanllawiau 2023 y Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer (IAQM). Byddai hyn yn cynnwys gweithredu cynllun rheoli llwch i’w gynnwys yn y Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu Amlinellol a’i sicrhau trwy gyfrwng gofyniad yn y DCO. Mae enghraifft o fesurau i’w hamlinellu yn y cynllun rheoli llwch yn cynnwys cyfleusterau golchi olwynion wrth allanfeydd y safle i’w defnyddio gan bob HGV sy’n gadael y safle, codi sgriniau solet o amgylch gweithgareddau llychlyd
  • yn gyffredinol, ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n dibynnu llawer ar gymharu â datblygiadau eraill wrth ddod i gasgliadau ynglŷn â ph’un a yw effaith arwyddocaol yn debygol o ddigwydd. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod nodweddion pob prosiect a chyd-destun yr amgylchedd derbyn yn debygol o fod yn wahanol rhwng prosiectau. Fodd bynnag, fe allai gwybodaeth o’r fath ffurfio rhan o ystyriaeth yr Arolygiaeth Gynllunio. Pan fydd ymgeiswyr yn ceisio dibynnu ar brofiad o brosiectau eraill i gefnogi hepgor materion/agweddau, dylid esbonio sut neu pam yr ystyrir bod y profiad hwn yn berthnasol i’r prosiect presennol, ynghyd â thystiolaeth ategol
  • casgliad ynglŷn â ph’un a oes potensial ar gyfer effaith arwyddocaol debygol. Ni ystyrir y byddai asesiad manwl yn ofynnol nac ar gael ar y cam cwmpasu. Felly, ar ôl cyflwyno’r wybodaeth berthnasol fel yr amlinellir uchod, dylai’r cais cwmpasu gyflwyno ystyriaeth strwythuredig a gwrthrychol o faint tebygol yr effaith sy’n deillio o weithgareddau traffig neu adeiladu, ac ystyried y tebygolrwydd y byddai unrhyw effeithiau’n torri’r trothwyon perthnasol a amlinellir yng nghanllawiau priodol y diwydiant. Dylai ddefnyddio’r wybodaeth uchod a nodi i ba raddau y cymhwyswyd unrhyw farn arbenigol. Er enghraifft, trothwyon ar gyfer mynnu asesiadau manwl neu bennu’r lefel ar gyfer effaith arwyddocaol

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd rhai effeithiau, er nad ydynt yn debygol o fod yn arwyddocaol ac felly nad oes angen mynd i’r afael â nhw yn y Datganiad Amgylcheddol, yn golygu bod angen lefel o wybodaeth neu dystiolaeth i gefnogi ystyriaeth gan Awdurdod Archwilio wrth fynd i’r afael â’r profion polisi a amlinellir yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol.

Fe allai’r wybodaeth hon gael ei bodloni’n rhannol gan y wybodaeth a gynhwyswyd ar y cam cwmpasu AEA i gefnogi hepgor agweddau neu faterion o’r AEA. Yn yr achos hwn, a phan fwriedir dibynnu ar wybodaeth o’r fath i fynd i’r afael â’r profion a amlinellir yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol, bydd angen i ymgeiswyr olrhain a chadarnhau’r wybodaeth hon i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gywir ac yn ddigonol ar yr adeg cyflwyno.

Fe allai ymgeiswyr hefyd benderfynu bod angen darparu gwybodaeth ychwanegol (y tu hwnt i honno a ddarparwyd gyda’r cais cwmpasu) i gefnogi ystyried profion polisi yn ymwneud â materion amgylcheddol y tu allan i’r cais cwmpasu a’r Datganiad Amgylcheddol, o fewn dogfennau eraill neu fel rhan o adroddiadau annibynnol.

Dylai’r wybodaeth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â phrofion polisi gael ei hamlygu’n glir yn y dogfennau cais DCO, gan ddefnyddio ‘dogfen cydymffurfio â pholisïau’ (lle y’i cyflwynir) i gyfeirio at ble y darperir tystiolaeth a / neu wybodaeth ategol yn y cais.

Pan fydd ymgeiswyr yn bwriadu darparu gwybodaeth yn y cais ynglŷn â materion amgylcheddol sydd i’w hepgor o’r AEA, a bod hyn yn hysbys ar y cam cwmpasu, mae’n ddefnyddiol i’r cais cwmpasu amlinellu sut a ble y bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu yn y cais DCO.

Pan nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn nogfennau’r cais yn ddigonol i fodloni profion polisi neu archwilio’r prif faterion yn ddigonol, bydd yr Awdurdod Archwilio’n arfer ei ddoethineb ynglŷn â ph’un ai gofyn am dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol yn ystod archwiliad.

Asesiadau Technegol Ategol i’r Datganiad Amgylcheddol

Ni ystyrir bod angen i’r agweddau canlynol gael eu hasesu mewn penodau ar wahân mewn Datganiad Amgylcheddol ar gyfer datblygiad solar. Y rheswm am hyn yw bod y rhain fel arfer yn ymwneud â ffynhonnell effaith a allai ddigwydd i dderbynyddion a ystyrir o dan nifer o wahanol agweddau amgylcheddol, er enghraifft, fe allai goleuadau fod yn ystyriaeth ar gyfer yr asesiad tirwedd a gweledol a hefyd ar gyfer ecoleg.

Felly, dylai’r asesiadau technegol hyn gael eu darparu fel atodiadau i’r Datganiad Amgylcheddol a dylid croesgyfeirio atynt, lle y bo’n berthnasol, o fewn asesiadau agwedd unigol.

Fflachiau a Llacharedd

Ar ôl mapio derbynyddion a allai fod yn sensitif, dylai’r cais cwmpasu ystyried y posibilrwydd geometrig y gallai effaith fflachiau a llacharedd ddigwydd. Pan amlygir potensial ar gyfer effaith o’r fath, dylid cynnal asesiad fflachiau a llacharedd.

Fe ddylai hwn gael ei ddarparu fel asesiad technegol i’w gynnwys fel atodiad i’r Datganiad Amgylcheddol a, phan fydd potensial ar gyfer effaith arwyddocaol debygol, dylai lywio’r asesiad o effeithiau o fewn y penodau perthnasol, fel tirwedd a gweledol, traffig a thrafnidiaeth.

Fe ddylai hyn gymhwyso technegau modelu a rhagfynegol priodol, siartiau / diagramau a chynrychiolaethau gweledol (fel dadansoddiadau golygfa ddaearyddol wedi’u seilio ar System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)) i ddangos hyd a lled a phellter tebygol fflachiau a llacharedd posibl. Fe ddylai hyn gael ei lywio gan y paramedrau canlynol sy’n disgrifio’r prosiect:

  • uchder paneli
  • cyfeiriad paneli
  • dyluniad paneli/y math o baneli, er enghraifft paneli olrhain
  • lleoliadau a hyd a lled paneli
  • nodi derbynyddion sensitif, er enghraifft hawliau tramwy cyhoeddus a meysydd awyr
  • ble y sicrheir unrhyw fesurau lliniaru arfaethedig

Meysydd Electromagnetig (EMF)

Pan fydd ceblau arfaethedig dros 132kV, dylid darparu asesiad EMF mewn atodiad i’r Datganiad Amgylcheddol. Fe ddylai hwn gynnwys lleoliad, llwybr a folteddau unrhyw geblau dros 132kV ac asesiad risg i unrhyw dderbynyddion dynol ac ecolegol o fewn y parth dylanwad.

Goleuadau

Ni ddisgwylir i oleuadau gael eu hasesu mewn pennod ar wahân, ond fe ddylent gael eu hasesu o fewn penodau eraill perthnasol, gan gynnwys tirwedd a gweledol, treftadaeth ddiwylliannol ac ecoleg, pan fydd potensial ar gyfer effaith arwyddocaol debygol. Disgwylir i’r penodau hyn gael eu hategu gan strategaethau goleuadau priodol sy’n mynd i’r afael â gofynion goleuo yn ystod adeiladu, gweithredu a datgomisiynu (lle y bo’n briodol), a chynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • cyfeiriadedd
  • gollyngiad
  • lleoliadau
  • math
  • uchderau
  • hyd ac amseriad, er enghraifft, unrhyw oleuadau yn y nos yn ystod adeiladu ar hyd misoedd y gaeaf
  • dwysedd ac allbwn, er enghraifft LUX
  • dull rheoli, er enghraifft isgoch, awtomeiddio
  • nodi derbynyddion sensitif, er enghraifft ystlumod, anheddau preswyl cyfagos
  • ble y sicrheir y goleuadau arfaethedig ac unrhyw fesurau lliniaru

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Mawrth 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon