Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Camau’r broses NSIP a sut gallwch leisio’ch barn
Bwriedir i’r cyngor hwn esbonio’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) a disgrifio sut gall pobl a sefydliadau leisio’u barn.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd, hefyd. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Camau’r broses NSIP
Mae’r broses NSIP yn cynnwys 6 cham:
Yn dilyn adolygiad gweithredol o’r system NSIP, cyhoeddodd y llywodraeth Gynllun Gweithredu ar gyfer diwygio. Yna, ymgynghorodd y llywodraeth ar y newidiadau gweithredol a gynigiwyd yn y Cynllun Gweithredu a chyhoeddodd ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2024. I gefnogi’r diwygiadau, mae deddfwriaeth wedi cael ei diwygio ac mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd ac wedi’u diweddaru.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datblygu gwasanaeth cyn-ymgeisio newydd i gefnogi diwygiadau’r llywodraeth sy’n cyflwyno, ymhlith materion eraill, Gweithdrefn Garlam newydd a fydd ar gael i brosiectau sy’n bodloni safon ansawdd y Weithdrefn Garlam newydd.
Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n cadarnhau penderfyniad dros dro’r Arolygiaeth Gynllunio bod cais NSIP yn addas ar gyfer y Weithdrefn Garlam, bydd hyn yn effeithio ar amseriad camau’r broses NSIP a rhai o’r gweithgareddau yn ystod y camau.
Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y Broses garlam i gael rhagor o wybodaeth.
Crynodeb o sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn ystod pob cam
Cam | Camau Gweithredu |
---|---|
Cyn-ymgeisio | Cysylltu â’r ymgeisydd i gael gwybod mwy am y prosiect a sut gallai effeithio ar yr ardal leol |
Gofyn cwestiynau a chodi unrhyw bryderon gyda’r ymgeisydd | |
Mynychu unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau a drefnwyd gan yr ymgeisydd | |
Ymateb i ymgynghoriad anstatudol a statudol yr ymgeisydd | |
Anfon unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae’r ymgeisydd yn cynnal ei ymgynghoriad at yr ymgeisydd. Os oes pryderon o hyd, gellir anfon y rhain at yr awdurdod lleol | |
Derbyn | Nid yw aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r cam hwn |
Gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’r cyfnod hwn i edrych ar nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau | |
Cyn-archwiliad | Mae’n rhaid i aelodau’r cyhoedd lenwi ffurflen gofrestru a gwneud sylw perthnasol cyn y dyddiad cau os ydynt eisiau bod yn barti â buddiant |
Mae gan bartïon â buddiant yr hawl i leisio’u barn a chymryd rhan yn y broses. Gallant hefyd ofyn am gael siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol | |
Archwiliad | Gall partïon â buddiant: |
Gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ychwanegol os oes angen i ychwanegu at y wybodaeth a ddarparwyd yn eu sylw perthnasol | |
Ateb cwestiynau’r Awdurdod Archwilio neu ei geisiadau am wybodaeth ychwanegol | |
Ymateb i sylwadau neu wybodaeth a anfonwyd gan bobl eraill | |
Gofyn am gael siarad mewn gwrandawiadau a mynychu archwiliad safle | |
Argymhelliad | Nid yw aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r cam hwn |
Penderfyniad | Nid yw aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r cam hwn, ond fe allai partïon â buddiant gael eu gwahodd i ymateb i unrhyw ymgynghoriadau y gallai’r Ysgrifennydd Gwladol eu cynnal |
Ôl-benderfyniad | Gall unrhyw un herio’r ffordd y gwnaed y penderfyniad yn ystod y cam hwn |
Y cam cyn-ymgeisio
Dyma’r cam cyn i’r ymgeisydd gyflwyno ei gais NSIP i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd yr ymgeisydd yn paratoi’r holl ddogfennau manwl y mae’n rhaid iddo eu hanfon gyda’i gais. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellgyrhaeddol, hefyd. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi ‘dogfen raglen’ a fydd yn dangos pryd a sut y bydd yn ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ac eraill yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Bydd yr amser a gymerir i baratoi prosiect ac ymgynghori arno yn dibynnu ar ba mor gymhleth ydyw.
Y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned
Cyn i ymgeisydd ddechrau ei ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â phrosiect, mae’n rhaid iddo ymgynghori ag awdurdodau lleol ynglŷn â sut mae’n bwriadu cynnal yr ymgynghoriad.
Bydd yr ymgeisydd yn paratoi ‘Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned’ (SOCC). Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am strategaeth gyfathrebu’r ymgeisydd, gan gynnwys sut, ble a phryd y bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd gymryd rhan a gwneud sylwadau.
Bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori â’r awdurdodau lleol ynglŷn â’i SOCC ac yn ystyried yr ymatebion a dderbynnir. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol sy’n esbonio ble y gall aelodau’r cyhoedd weld y SOCC.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd wneud yr hyn y dywedodd y byddai’n ei wneud yn y SOCC.
Mae rhagor o wybodaeth am y SOCC ar gael yng Nghyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer awdurdodau lleol.
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan a lleisio’u barn yn ystod y cam cyn-ymgeisio
Gall unrhyw un gymryd rhan yn y cam cyn-ymgeisio. Mae’n gyfle i:
-
gael gwybod mwy am y prosiect a sut gallai effeithio ar yr ardal leol
-
gofyn cwestiynau a chodi unrhyw bryderon gyda’r ymgeisydd
-
dylanwadu ar y prosiect wrth iddo esblygu. Yn ystod y cam hwn, gall yr ymgeisydd wrando ar y pryderon a godwyd ac ystyried diwygio’r prosiect cyn iddo anfon ei gais at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Mae gwybodaeth leol am yr ardal yn bwysig yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Fe allai adborth a dderbynnir helpu’r ymgeisydd i eithrio opsiynau anaddas a lleihau rhai o’r effeithiau ar y gymuned leol, lle bo’n bosibl.
Ar yr adeg hon, nid yw’r cais wedi cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio, felly bydd angen i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan a lleisio’i farn gysylltu â’r ymgeisydd ac ymateb i’w ymgynghoriad.
Bydd gwefan yr ymgeisydd yn cynnwys gwybodaeth am y prosiect a manylion sut i gysylltu ag ef.
Ymgynghoriad
Mae dau fath o ymgynghoriad:
-
ymgynghoriad anstatudol – mae hyn yn ddewisol, ond anogir yr ymgeisydd i ymgynghori â chymunedau lleol cyn gynted ag y bydd digon o fanylion am y prosiect i roi cyfle i bobl ddylanwadu arno.
-
ymgynghoriad statudol – mae hyn yn ofynnol ac, fel arfer, caiff ei gynnal yn agosach at yr adeg pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Ar yr adeg hon, mae’r prosiect yn debygol o fod yn fwy diffiniedig, er y dylai’r ymgeisydd allu ei ddiwygio o hyd yn seiliedig ar unrhyw adborth i’r ymgynghoriad.
Mae angen i’r wybodaeth a’r dogfennau a ddarperir gan yr ymgeisydd ar gyfer ymgynghoriad fod yn glir ac yn llawn gwybodaeth fel bod unrhyw un sy’n edrych ar y prosiect yn gallu ei ddeall. Fodd bynnag, efallai na fydd yr un wybodaeth a dogfennau’n cael eu cyflwyno gyda’r cais. Ar yr adeg hon, fe allai’r ymgeisydd newid y prosiect o hyd i leihau neu ddatrys yr effeithiau y gellid eu hachosi gan adeiladu a gweithredu’r datblygiad.
Yr hyn y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ei wneud yn ystod y cam cyn-ymgeisio
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd hysbysebu ei ymgynghoriad statudol yn y wasg leol a chenedlaethol am bythefnos. Mae’n rhaid i’r hysbyseb gynnwys:
-
disgrifiad o’r prosiect, gan gynnwys y lleoliad
-
manylion ble y gall pobl gael gwybod mwy am y prosiect
-
manylion sut a ble y gall pobl anfon eu sylwadau at yr ymgeisydd
-
y dyddiad cau ar gyfer anfon y sylwadau, y mae’n rhaid iddo fod o leiaf 28 niwrnod ar ôl yr ail hysbyseb yn y wasg.
Pwy y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori ag ef
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â’r canlynol:
• aelodau’r cyhoedd • awdurdodau lleol • partïon statudol fel Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England a chynghorau plwyf • pawb sydd â buddiant yn y tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno
Dylai unrhyw bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r ymgeisydd yn cynnal ei ymgynghoriad cyn-ymgeisio gael eu codi gyda’r ymgeisydd cyn gynted â phosibl fel y gall ymateb i unrhyw faterion. Gellir codi pryderon gyda’r awdurdod lleol perthnasol, hefyd. Pan fydd y cais wedi cael ei gyflwyno, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n gofyn i’r awdurdodau lleol perthnasol am eu safbwyntiau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r ymgeisydd. Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ‘sylwadau ar ddigonolrwydd ymgynghori’, sy’n gallu cynnwys unrhyw bryderon neu faterion a adroddwyd gan aelodau’r cyhoedd.
Mae rhagor o wybodaeth am sylwadau awdurdodau lleol ar ddigonolrwydd ymgynghori ar gael yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i awdurdodau lleol.
Os ydych wedi rhoi gwybod i’r ymgeisydd a’r awdurdod lleol perthnasol am bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r ymgeisydd yn cynnal ei ymgynghoriad cyn-ymgeisio ond rydych yn anfodlon o hyd, gallwch wneud sylwadau i’r Ysgrifennydd Gwladol, trwy’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylech wneud y sylwadau hyn cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Fe ddylai’ch sylwadau gynnwys manylion unrhyw ymatebion rydych wedi’u derbyn gan yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol.
Pan fydd y cais wedi cael ei gyflwyno, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried unrhyw sylwadau ar ddigonolrwydd ymgynghori a gaiff gan awdurdodau lleol yn ystod y cam derbyn. Nid oes rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried sylwadau ynglŷn ag ymgynghoriad yr ymgeisydd gan aelodau’r cyhoedd, ond fe allai ddewis ystyried y rhain ochr yn ochr â sylwadau’r ymgeisydd. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn penderfynu faint o bwys i’w roi i sylwadau o’r fath gan aelodau’r cyhoedd yn seiliedig ar ffeithiau unigol yr achos.
Dylai unrhyw bryderon ynglŷn â’r cais arfaethedig nad ydynt yn ymwneud â’r ffordd y mae’r ymgeisydd yn cynnal ei ymgynghoriad cyn-ymgeisio, fel unrhyw faterion sy’n ymwneud ag adeiladu neu weithredu’r datblygiad, gael eu codi gyda’r ymgeisydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio a gellir eu cynnwys mewn ‘sylw perthnasol’ hefyd os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn y cais arfaethedig i’w archwilio. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Sut i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol.
Yr hyn y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ei wneud ar ôl yr ymgynghoriad statudol
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd ystyried y sylwadau a’r adborth a gaiff o’r ymgynghoriad statudol, er nad yw hynny’n golygu bod rhaid iddo gytuno â’r holl safbwyntiau a gyflwynir iddo.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd baratoi adroddiad ymgynghori i’w gyflwyno gyda’i gais. Mae’n rhaid i’r adroddiad ddangos bod yr ymgeisydd wedi cynnal yr ymgynghoriad yn gywir. Mae’n rhaid iddo gynnwys crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd. Mae’n rhaid iddo hefyd gynnwys disgrifiad o sut mae’r ymatebion wedi dylanwadu ar y cais a, lle bo’n berthnasol, esboniad o’r rhesymau pam na ddilynwyd rhai o’r awgrymiadau.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Pan fydd yr ymgeisydd wedi gorffen ei ymgynghoriad ac ystyried y sylwadau, bydd yn cwblhau’r cais yn derfynol a’i anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Y cam derbyn
Dyma’r cam pan fydd yr ymgeisydd yn cyflwyno ei gais i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio hyd at 28 niwrnod i benderfynu p’un a ellir derbyn y cais i’w archwilio.
Yr hyn y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ei wneud yn ystod y cam derbyn
Pan fydd y cais wedi cael ei gyflwyno, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn:
-
gwirio’r cais a sicrhau bod yr holl ddogfennau a chynlluniau sy’n angenrheidiol wedi cael eu derbyn. Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys rhestr o’r holl wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys gyda chais. Os oes unrhyw beth ar goll, efallai na fydd y cais yn cael ei dderbyn
-
cysylltu â’r awdurdodau lleol perthnasol a gofyn iddynt am eu sylwadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r ymgeisydd, gan gynnwys sut a ble cynhaliwyd yr ymgynghoriad
-
gwirio bod y dogfennau a’r cynlluniau’n bodloni’r safonau sy’n ofynnol i gael eu derbyn. Er enghraifft, gwirio bod yr adroddiad ymgynghori wedi esbonio ym mha feysydd yr oedd yr ymgeisydd yn gallu diwygio’r prosiect a pha feysydd nad oedd o’r farn bod modd gwneud newidiadau iddynt
Os nad yw un o’r dogfennau neu’r cynlluniau’n bodloni’r safon sy’n ofynnol, efallai na fydd y cais yn cael ei dderbyn i’w archwilio.
Mae 3 chanlyniad posibl o’r cam derbyn:
1. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn y cais i’w archwilio
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n rhoi gwybod i’r ymgeisydd fod y cais wedi cael ei dderbyn i’w archwilio. Bydd yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol a bydd y cais yn symud ymlaen i’r cam cyn-archwilio.
Os yw’r ymgeisydd wedi gofyn am y Weithdrefn Garlam, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn gwneud penderfyniad cychwynnol ynglŷn â ph’un a yw’r cais yn bodloni’r safon ansawdd sy’n ofynnol ar gyfer y Weithdrefn Garlam.
Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y broses Garlam i gael rhagor o wybodaeth.
2. Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn y cais
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n rhoi gwybod i’r ymgeisydd am ei phenderfyniad. Fe allai’r hysbysiad gynnwys cyngor ynglŷn â sut gall yr ymgeisydd wneud newidiadau i’r cais os yw’n dymuno ei gyflwyno eto. Ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ystyried y cais ymhellach. Os bydd yr ymgeisydd yn penderfynu ailgyflwyno’r cais, bydd y cam derbyn yn dechrau eto.
3. Mae’r ymgeisydd yn tynnu ei gais yn ôl
Ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ystyried y cais ymhellach. Fe allai’r ymgeisydd benderfynu diweddaru’r cais neu wneud newidiadau iddo a’i ailgyflwyno. Os bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno, bydd y cam derbyn yn dechrau eto.
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn ystod y cam derbyn
Nid yw aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r cam hwn. Gallant ddefnyddio’r amser hwn i feddwl am unrhyw sylwadau y gallent ddymuno eu gwneud ynglŷn â’r prosiect os bydd y cais yn cael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau
Y cam cyn-archwilio fydd yr adeg i anfon sylwadau.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn y cais, bydd yn ysgrifennu at yr ymgeisydd i roi gwybod iddo ac esbonio beth fydd rhaid iddo ei wneud nesaf. Bydd angen i’r ymgeisydd hysbysebu bod y cais wedi cael ei dderbyn a dweud wrth bobl sut gallant weld dogfennau’r cais a chofrestru i leisio’u barn ynglŷn â’r cais.
Y cam cyn-archwilio
Yn ystod y cam hwn:
-
mae’n rhaid i’r ymgeisydd hysbysebu bod y cais wedi cael ei dderbyn i’w archwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio
-
bydd Awdurdod Archwilio’n cael ei benodi i archwilio’r cais
-
efallai bydd yr Awdurdod Archwilio’n [ymweld â’r safle’n ddigwmni]#attend)
-
bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynnal cyfarfod rhagarweiniol
Nid oes terfyn amser ar gyfer y cam cyn-archwilio, er y disgwylir iddo bara 5 mis ar y mwyaf.
Yr hyn y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ei wneud yn ystod y cam cyn-archwilio
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i aelodau’r cyhoedd, pawb sydd â buddiant yn y tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno a phobl a sefydliadau eraill fod y cais wedi cael ei dderbyn trwy:
-
anfon hysbysiadau yn y post neu drwy e-bost
-
gosod hysbysiadau safle
-
gosod hysbysebion yn y wasg leol a chenedlaethol neu ar ei wefan
Mae’n rhaid i’r hysbysiadau a’r hysbysebion gynnwys:
-
disgrifiad o’r prosiect, gan gynnwys map o’r lleoliad
-
manylion lleoliadau lle gall aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o ddogfennau’r cais
-
rhif cyfeirnod y cais
-
manylion sut gall aelodau’r cyhoedd gofrestru gyda’r Arolygiaeth Gynllunio i leisio’u barn am y cais
-
y dyddiad cau i’r cyhoedd gofrestru i leisio’u barn. Mae’n rhaid i’r dyddiad cau hwn fod 30 niwrnod o leiaf o’r dyddiad yr ymddangosodd yr hysbyseb olaf yn y wasg
Mae’r amser o’r hysbysiadau a’r hysbysebion i’r dyddiad cau yn cael ei alw’n ‘gyfnod sylwadau perthnasol’.
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan a lleisio’u barn yn ystod y cam cyn-archwilio
Bydd angen i aelodau’r cyhoedd lenwi ffurflen gofrestru a gwneud sylw perthnasol yn ystod y cyfnod sylwadau perthnasol os ydynt eisiau bod yn barti â buddiant a:
-
chael yr hawl i anfon sylwadau ychwanegol a thystiolaeth ysgrifenedig yn ystod cam archwilio’r broses
-
cael yr hawl i ofyn am gael siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol yn ystod y cam cyn-archwilio neu wrandawiadau yn ystod y cam archwilio, a gofyn am gael mynychu unrhyw archwiliadau safle gyda chwmni
-
clywed am ddigwyddiadau a phenderfyniadau a wnaed yn ystod y broses
-
clywed am gynnydd y cais
Dylai’r sylw perthnasol gynnwys manylion llawn am y materion y mae’r unigolyn neu’r sefydliad eisiau iddynt gael eu hystyried. Mae hyn yn golygu na ddylai’r sylw perthnasol ddweud yn syml ‘Rydym yn cefnogi’ neu ‘Rydym yn gwrthwynebu’ prosiect. Dylai’r sylw perthnasol roi rhesymau manwl dros y safbwyntiau hynny, gan ddarparu tystiolaeth, fel y bo angen, a pheidio â rhoi amlinelliad yn unig o’r materion. Gweler nodiadau cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau a Sut i gofrestru i leisio’ch barn a gwneud sylw perthnasol
Asesiad Cychwynnol yr Awdurdod Archwilio o’r Prif Faterion
{:#princi}
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n darllen holl ddogfennau’r cais a’r holl sylwadau perthnasol ac yn gwneud ‘Asesiad Cychwynnol o’r Prif Faterion’ (IAPI). Dyma feddyliau cyntaf yr Awdurdod Archwilio ynglŷn â’r prif faterion a allai fod yn rhan o archwilio’r cais. Mae’n rhaid i’r IAPI gael ei gwblhau o fewn 21 diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau perthnasol. Er y bydd yr Awdurdod Archwilio’n amlygu’r prif faterion i’w harchwilio, bydd yn ystyried materion neu bynciau pwysig a pherthnasol eraill a allai godi yn ystod yr archwiliad o hyd. Gweler paragraff 013 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio i gael rhagor o wybodaeth am yr IAPI a pham y mae’n bwysig i sylwadau perthnasol fod mor gynhwysfawr â phosibl.
Bydd yr IAPI yn cael ei drafod yn y cyfarfod rhagarweiniol, fel arfer.
Y cyfarfod rhagarweiniol
Ar ôl i’r cyfnod sylwadau perthnasol ddod i ben, bydd yr Awdurdod Archwilio’n darllen yr holl sylwadau ac yn penderfynu pryd i gynnal cyfarfod rhagarweiniol.
Mae’r cyfarfod rhagarweiniol yn gyfarfod gweithdrefnol a gynhelir gan yr Awdurdod Archwilio i drafod y broses archwilio ac amserlenni.
Cael gwybodaeth am y cyfarfod rhagarweiniol
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n rhoi gwybod i bobl:
-
pwy fydd yr Awdurdod Archwilio
-
beth yw ‘Asesiad Cychwynnol o’r Prif Faterion’ yr Awdurdod Archwilio
-
beth yw’r amserlen ddrafft ar gyfer archwilio’r cais
-
pryd a ble y bydd y cyfarfod rhagarweiniol a beth yw’r agenda
-
manylion ynglŷn â sut gall pobl a sefydliadau gofrestru i siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol
-
y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol
-
unrhyw benderfyniadau eraill y mae’r Awdurdod Archwilio wedi’u gwneud ers i’r cais gael ei dderbyn. Er enghraifft, ynglŷn ag unrhyw wybodaeth ychwanegol y gallai fod angen i’r ymgeisydd ei darparu
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys mewn hysbysiad a anfonir gan yr Awdurdod Archwilio, o leiaf 21 diwrnod cyn y cyfarfod rhagarweiniol, at y bobl a’r sefydliadau canlynol:
-
yr ymgeisydd
-
pawb sydd wedi cofrestru i leisio’i farn
-
pawb sydd â buddiant yn y tir y mae’r prosiect yn effeithio arno
-
awdurdodau lleol
-
partïon statudol
-
unrhyw unigolion eraill y gallai’r Awdurdod Archwilio ddymuno eu gwahodd i’r cyfarfod rhagarweiniol
Gelwir hyn yn ‘Hysbysiad Rheol 6’ a chaiff ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu cynnal gwrandawiadau’n syth ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol, bydd manylion ynglŷn â’r gwrandawiadau yn cael eu cynnwys yn yr hysbysiad Rheol 6. Gweler Cael gwybod am wrandawiad a chofrestru i siarad
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan a lleisio’u barn yn y cyfarfod rhagarweiniol
Dim ond partïon â buddiant sydd â’r hawl i ofyn am gael siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol. Dylai partïon â buddiant sy’n dymuno siarad gofrestru â’r Arolygiaeth Gynllunio. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Cofrestru i siarad mewn digwyddiad neu ei fynychu.
Os bydd aelod o’r cyhoedd nad yw’n barti â buddiant yn dymuno siarad yn ystod y cyfarfod, mater i’r Awdurdod Archwilio fydd penderfynu a yw eisiau clywed ganddo.
Gall partïon â buddiant benderfynu a ydynt eisiau siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu wylio yn unig. Dylai partïon â buddiant ystyried y pwyntiau canlynol:
-
Cynhelir y cyfarfod gan yr Awdurdod Archwilio, a fydd yn penderfynu ar yr agenda. Cyn penderfynu p’un ai siarad, dylai pobl ystyried yr eitemau ar yr agenda
-
Nid adeg i bartïon â buddiant ddweud beth maen nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y prosiect yw’r cyfarfod rhagarweiniol. Bydd cyfle i wneud hynny yn ystod y cam archwilio
-
Bydd y cyfarfod yn ystyried sut bydd y cais yn cael ei archwilio ac yn canolbwyntio ar yr amserlen archwilio ddrafft. Bydd yr Awdurdod Archwilio’n gwahodd pobl i wneud sylwadau ar yr eitemau yn yr amserlen, fel:
a. dyddiadau ar gyfer y gwahanol fathau o wrandawiadau – a oes unrhyw ddigwyddiadau lleol neu gyhoeddus y disgwylir iddynt gael eu cynnal ar yr un pryd?
b. dyddiadau cau i bobl a sefydliadau anfon sylwadau ychwanegol neu wybodaeth at yr Awdurdod Archwilio
c. y fformat ar gyfer gwrandawiadau – a ellir eu cynnal ar-lein neu mewn lleoliad addas gyda rhai pobl a sefydliadau’n mynychu ar-lein ac eraill wyneb yn wyneb?
ch. pynciau ar gyfer gwrandawiad mater penodol – bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried y rhain, ond yr Awdurdod Archwilio fydd yn penderfynu pa eitemau y bydd angen eu trafod mewn unrhyw wrandawiad mater penodol
Nid yw’r amserlen archwilio ddrafft yn derfynol ar yr adeg hon. Mae’r cyfarfod rhagarweiniol yn gyfle i’r Awdurdod Archwilio wrando ar sylwadau pobl ynglŷn â’r amserlen cyn iddo ei chwblhau’n derfynol.
Bydd y cyfarfod rhagarweiniol yn cael ei ffrydio’n fyw a’i recordio. Bydd y recordiad yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
I gael rhagor o wybodaeth am beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod rhagarweiniol, gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl i’r cyfarfod rhagarweiniol orffen, bydd y cam archwilio’n dechrau.
Cyfarfodydd eraill
Fe allai’r Awdurdod Archwilio benderfynu cynnal cyfarfod ar ôl gwneud ei ‘Asesiad Cychwynnol o’r Prif Faterion’ a chyn y cyfarfod rhagarweiniol. Gweler paragraff 014 canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-archwilio.
Os cynhelir ‘cyfarfod arall’, bydd yr Awdurdod Archwilio’n darparu agenda ac yn rhoi rhybudd rhesymol i’r partïon â buddiant perthnasol o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod.
Y Cam Archwilio
{:#exam}
Dyma’r cam pan fydd yr Awdurdod Archwilio’n archwilio’r cais. Bydd yn:
-
gofyn cwestiynau
-
gwahodd sylwadau yn ysgrifenedig ac mewn gwrandawiadau
-
ymweld â’r ardal lle byddai’r prosiect yn cael ei adeiladu a’i weithredu
-
casglu gwybodaeth a phrofi tystiolaeth
-
gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut bydd yr archwiliad yn symud ymlaen, fel y bo angen
Cynhelir yr archwiliad yn ysgrifenedig, gan mwyaf. Fe allai partïon â buddiant gael lleisio’u barn mewn gwrandawiadau, ond bydd hyn er mwyn ychwanegu at y sylwadau a wnaed yn ysgrifenedig yn gyffredinol.
Mae’r cam hwn yn cymryd hyd at 6 mis. Os yw’r cais NSIP yn dilyn y Weithdrefn Garlam, bydd y cam hwn yn cael ei leihau i uchafswm o 4 mis. Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y broses Garlam i gael rhagor o wybodaeth.
Yr hyn y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ei wneud yn ystod y cam archwilio
Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio ddweud wrth bawb am amserlen yr archwiliad, a fydd yn cynnwys:
-
dyddiad cau ar gyfer anfon unrhyw sylwadau ychwanegol ynglŷn â’r cais. Gelwir y rhain yn ‘sylwadau ysgrifenedig’
-
dyddiadau pryd y gallai’r Awdurdod Archwilio gyhoeddi cwestiynau ysgrifenedig neu geisiadau am wybodaeth ychwanegol
-
dyddiad cau ar gyfer anfon atebion i gwestiynau ysgrifenedig yr Awdurdod Archwilio neu ei geisiadau am wybodaeth ychwanegol
-
y dyddiadau ar gyfer gwrandawiadau a allai gael eu cynnal
-
y dyddiadau ar gyfer unrhyw archwiliadau safle y gallai partïon â buddiant eu mynychu
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys mewn hysbysiad a anfonir gan yr Awdurdod Archwilio. Gelwir hyn yn ‘Hysbysiad Rheol 8’. Caiff ei anfon yn fuan ar ôl i’r Cyfarfod Rhagarweiniol orffen at yr un bobl a sefydliadau a dderbyniodd yr hysbysiad Rheol 6. Caiff ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan a lleisio’u barn yn ystod y cam archwiliad
Gall aelodau’r cyhoedd edrych ar ddogfennau’r cais, sylwadau gan yr holl bartïon eraill â buddiant, cwestiynau ysgrifenedig neu geisiadau am wybodaeth yr Awdurdod Archwilio a gwybodaeth arall ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Gall partïon â buddiant benderfynu a ydynt eisiau
-
cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ychwanegol (sylw ysgrifenedig)
-
ymateb i sylwadau neu wybodaeth a gyflwynwyd gan bobl eraill
-
ymateb i gwestiynau’r Awdurdod Archwilio neu ei geisiadau am wybodaeth ychwanegol
-
gofyn am gael siarad mewn gwrandawiadau neu fynychu archwiliad safle
Dim ond aelodau o’r cyhoedd sy’n bartïon â buddiant sydd â’r hawl i leisio’u barn yn ystod y cam hwn.
Os bydd aelod o’r cyhoedd nad yw’n barti â buddiant yn dymuno cyflwyno sylw ysgrifenedig neu siarad mewn gwrandawiad, mater i’r Awdurdod Archwilio fydd penderfynu a yw eisiau clywed ganddo.
Anfon sylw ysgrifenedig
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n darllen yr holl sylwadau (sylwadau perthnasol) a wnaed yn ystod y cam cyn-archwilio. Os hoffai partïon â buddiant anfon sylwadau ychwanegol neu ragor o wybodaeth, i ategu eu sylwadau cynharach, gallant wneud sylw ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau a roddwyd yn amserlen yr archwiliad. Nid oes angen anfon sylw ysgrifenedig ychwanegol oni bai ei fod yn ychwanegu at sylw cynharach neu’n rhoi gwybodaeth newydd.
Os yw sylw ysgrifenedig yn fwy na 1500 o eiriau, dylid cyflwyno crynodeb hefyd.
Ateb cwestiynau ysgrifenedig yr Awdurdod Archwilio neu ei geisiadau am wybodaeth
Bydd cwestiynau’r Awdurdod Archwilio neu ei geisiadau am wybodaeth yn cael eu cyfeirio at y bobl neu’r sefydliadau yr hoffai’r Awdurdod Archwilio gasglu tystiolaeth neu gael eglurhad ganddynt, fel yr ymgeisydd, yr awdurdod lleol neu un o’r partïon statudol. Gall yr holl bartïon â buddiant ymateb i unrhyw gwestiwn neu gais hyd yn oed os nad yw wedi’i gyfeirio atynt.
Os yw parti â buddiant yn ateb cwestiwn, mae’n rhaid iddo ei amlygu’n glir trwy ddyfynnu rhif cyfeirnod y cwestiwn.
Ymateb i sylwadau neu wybodaeth gan bobl neu sefydliadau eraill
Bydd amserlen yr archwiliad yn cynnwys dyddiadau cau i bartïon â buddiant anfon unrhyw ymatebion a allai fod ganddynt i unrhyw sylwadau neu wybodaeth a gyflwynwyd gan eraill. Dylai partïon â buddiant anfon eu hymatebion erbyn y dyddiad cau a ddangosir yn amserlen yr archwiliad. Mae’n ddefnyddiol os yw’r ymateb yn cynnwys rhifau cyfeirnod llyfrgell yr archwiliad ar gyfer y sylwadau neu’r wybodaeth y mae’r ymateb yn ymwneud â nhw. Gweler yr adran ar lyfrgell yr archwiliad yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Canllawiau ar gyflwyno sylwadau.
Gwrandawiadau
Mae 3 math o wrandawiad y gellid eu cynnal yn ystod y cam archwilio. Gellir cynnal gwrandawiadau ar-lein neu mewn lleoliad addas gyda rhai pobl a sefydliadau’n mynychu ar-lein ac eraill wyneb yn wyneb. Gelwir y rhain yn ‘ddigwyddiadau cyfunol’. Disgwylir i unrhyw un sy’n cymryd rhan siarad â’r Awdurdod Archwilio yn uniongyrchol ac nid â’r ymgeisydd neu bartïon eraill â buddiant. I gael rhagor o wybodaeth am beth fydd yn digwydd mewn gwrandawiad, gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
1. Gwrandawiadau Llawr Agored
Mae’r gwrandawiadau hyn yn rhoi cyfle i bartïon â buddiant siarad yn uniongyrchol â’r Awdurdod Archwilio ynglŷn â’u safbwyntiau ar y cais. Dim ond aelodau o’r cyhoedd sy’n bartïon â buddiant sydd â’r hawl i siarad mewn gwrandawiad llawr agored. Os bydd aelod o’r cyhoedd nad yw’n barti â buddiant yn dymuno siarad, mater i’r Awdurdod Archwilio fydd penderfynu a yw eisiau clywed ganddo.
Bydd amserlen yr archwiliad yn cynnwys dyddiad cau ar gyfer pryd y gall partïon â buddiant ddweud wrth yr Awdurdod Archwilio a ydynt eisiau siarad mewn gwrandawiad llawr agored. Os na fydd neb yn gofyn am gael siarad erbyn y dyddiad cau, gall yr Awdurdod Archwilio benderfynu peidio â chynnal gwrandawiad llawr agored. Os bydd llawer o bobl yn gofyn am gael siarad, efallai y cynhelir mwy nag un gwrandawiad llawr agored. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gofyn am gael siarad gofrestru i siarad o hyd pan fydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi gwybod i bawb am union ddyddiad y gwrandawiad. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Cofrestru i siarad mewn digwyddiad neu ei fynychu.
Pan fydd parti â buddiant wedi siarad mewn un gwrandawiad llawr agored, ni all siarad eto mewn un arall. Pan fydd gan bartïon â buddiant safbwyntiau tebyg, fe allent ffurfio grŵp a dewis llefarydd. Yna, gall y llefarydd gyflwyno’r safbwyntiau hynny i’r Awdurdod Archwilio ar ran y grŵp.
Efallai na fydd agenda ar gyfer y gwrandawiad gan ei fod yn agored i drafod unrhyw fater yn ymwneud â’r cais. Fodd bynnag, os bydd llawer o bobl eisiau siarad, fe allai’r Awdurdod Archwilio ddarparu agenda. Bydd yr agenda hon yn cynnwys rhestr sy’n dangos ym mha drefn y gwahoddir pobl i siarad ac fe allai roi terfyn amser i bob unigolyn neu sefydliad leisio’i farn.
2. Gwrandawiadau Mater Penodol
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu p’un ai cynnal y gwrandawiadau hyn a beth fyddant yn ymdrin ag ef. Cânt eu cynnal os bydd yr Awdurdod Archwilio’n credu bod angen cael gwybod mwy am fater y mae eisoes wedi darllen amdano yn nogfennau’r cais neu’r sylwadau. Er enghraifft, efallai y bydd yr Awdurdod Archwilio wedi darllen am effeithiau prosiect ar draffig, ond yn penderfynu bod angen iddo drafod yr effeithiau ar draffig mewn lleoliad penodol gyda’r awdurdod lleol ac eraill.
Os cynhelir gwrandawiad mater penodol ynglŷn â mater, ni fydd hynny oherwydd bod y mater hwnnw’n bwysicach nag eraill o reidrwydd, ond oherwydd bod yr Awdurdod Archwilio’n credu bod angen cael trafodaeth ac egluro mater penodol.
Fel arfer, bydd gwrandawiad mater penodol ynglŷn â’r ddogfen Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n darparu agenda ar gyfer pob gwrandawiad mater penodol a fydd yn rhoi manylion pob mater y mae eisiau ei drafod. Bydd yr agenda hefyd yn cynnwys rhestr o’r bobl neu’r sefydliadau yr hoffent iddynt fynychu. Gall unrhyw un fynychu gwrandawiad mater penodol, ond dim ond aelodau o’r cyhoedd sy’n bartïon â buddiant a all ofyn am gael siarad.
3. Gwrandawiadau Caffael Gorfodol
Mae’r gwrandawiadau hyn yn rhoi cyfle i’r Awdurdod Archwilio:
-
drafod achos yr ymgeisydd dros ofyn am gaffael tir neu hawliau yn orfodol a meddiannu tir neu hawliau dros dro yn ei gais
-
gwrando ar safbwyntiau ynglŷn â chaffael tir neu hawliau yn orfodol neu feddiannu tir neu hawliau dros dro gan unrhyw un sydd â buddiant yn y tir y byddai’r prosiect yn effeithio arno (unigolion yr effeithir arnynt)
Dim ond unigolion yr effeithir arnynt sydd â’r hawl i ofyn am wrandawiad caffael gorfodol. Bydd amserlen yr archwiliad yn cynnwys dyddiad cau ar gyfer pryd y gall unigolion yr effeithir arnynt ddweud wrth yr Awdurdod Archwilio a ydynt eisiau siarad mewn gwrandawiad caffael gorfodol. Os na fydd neb yn gofyn am gael siarad erbyn y dyddiad cau, gall yr Awdurdod Archwilio benderfynu peidio â chynnal gwrandawiad caffael gorfodol. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gofyn am gael siarad gofrestru i siarad o hyd pan fydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi gwybod i bawb am union ddyddiad y gwrandawiad. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Cofrestru i siarad mewn digwyddiad neu ei fynychu.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n darparu agenda ar gyfer pob gwrandawiad caffael gorfodol a fydd yn rhoi manylion y materion y mae eisiau ei drafod. Fe allai’r agenda hefyd gynnwys rhestr sy’n dangos ym mha drefn y gwahoddir unigolion yr effeithir arnynt i siarad. Gall unrhyw un fynychu gwrandawiad caffael gorfodol, ond dim ond aelodau o’r cyhoedd sy’n bartïon â buddiant a all ofyn am gael siarad.
Cael gwybod am wrandawiad a chofrestru i siarad
Wrth i’r archwiliad symud ymlaen, bydd union ddyddiadau ac amserau’r gwrandawiadau’n cael eu cwblhau’n derfynol, ynghyd â fformat y gwrandawiadau.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno siarad mewn gwrandawiad gofrestru hyn gyda’r Arolygiaeth Gynllunio. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Cofrestru i siarad mewn digwyddiad neu ei fynychu.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi rhybudd rhesymol i’r holl bartïon â buddiant am unrhyw wrandawiad.
Bydd yr hysbysiad yn cynnwys:
-
dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad
-
manylion ynglŷn â sut gall pobl a sefydliadau gofrestru i siarad yn y gwrandawiad
-
y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i siarad yn y gwrandawiad
Fe allai’r Awdurdod Archwilio roi gwybod am rai gwrandawiadau cynnar yn yr hysbysiad Rheol 6 neu’r hysbysiad Rheol 8.
Yr hyn y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ei wneud cyn gwrandawiad
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd:
-
hysbysebu’r gwrandawiad ar ei wefan neu mewn papur newydd lleol
-
gosod hysbysiadau safle i hysbysebu’r gwrandawiad yn yr ardal leol
-
gofyn i’r Arolygiaeth Gynllunio gyhoeddi’r hysbysiad ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol
Mae’n rhaid i’r hysbyseb a’r hysbysiadau gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad.
Archwiliadau safle
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ymweld â safle’r prosiect fel y gallant lwyr ddeall y cais. Byddant yn penderfynu p’un a ddylai partïon â buddiant fynychu hefyd yn gwmni iddynt.
Fe allai amserlen yr archwiliad roi dyddiad cau i’r ymgeisydd ddarparu amserlen ddrafft ar gyfer archwiliad safle gyda chwmni, a ddylai ystyried y sylwadau a wnaed ynglŷn â’r cais. Fe allai’r amserlen hefyd gynnwys dyddiad cau i bartïon â buddiant anfon sylwadau at yr Awdurdod Archwilio ynglŷn ag amserlen ddrafft yr ymgeisydd, ac i wneud awgrymiadau ynglŷn â lleoliadau y gallai fod angen i’r Awdurdod Archwilio ymweld â nhw.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu ar yr amserlen derfynol ar gyfer archwiliad safle gyda chwmni ac fe’i cyhoeddir ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol oddeutu wythnos cyn yr archwiliad safle.
Gall yr Awdurdod Archwilio archwilio’r safle mewn 3 ffordd.
1. Archwiliadau Safle Digwmni
Os gall yr Awdurdod Archwilio edrych ar y safle o dir cyhoeddus, mae’n debygol o archwilio’r safle ar ei ben ei hun ac ni wahoddir partïon â buddiant i fynychu.
Ar ôl archwiliad o’r math hwn, bydd nodyn sy’n rhoi manylion y dyddiad, yr amser a’r lleoliadau yr ymwelwyd â nhw yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
2. Archwiliadau Safle gyda Chwmni
Os oes angen i’r Awdurdod Archwilio gael mynediad i dir preifat i edrych ar y safle, neu os yw’n penderfynu bod angen i bartïon â buddiant fod yn bresennol i’w dywys neu amlygu nodweddion penodol, yna gwahoddir partïon â buddiant i fynychu. Dim ond aelodau o’r cyhoedd sy’n bartïon â buddiant a all ofyn am gael mynychu archwiliad safle o’r math hwn.
Bydd yr ymgeisydd yn mynychu, ac fe allai eraill fel yr awdurdodau lleol a phartïon statudol fynychu hefyd. Bydd aelodau o dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn mynychu hefyd. Mae’n bosibl y cyfyngir ar nifer y mynychwyr am resymau ymarferol. Yr Awdurdod Archwilio fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â phwy all fynychu.
Nid archwiliad safle gyda chwmni yw’r adeg i bartïon â buddiant siarad â’r Awdurdod Archwilio ynglŷn â’u safbwyntiau ar y prosiect. Fodd bynnag, fe allai’r Awdurdod Archwilio ddymuno gofyn i bartïon amlygu nodweddion o’r safle neu egluro materion ffeithiol. Gweler Cael gwybod am Archwiliad Safle gyda Chwmni a chofrestru i’w fynychu
I gael rhagor o wybodaeth am beth fydd yn digwydd mewn archwiliad safle gyda chwmni, gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
3. Archwiliadau Safle Angen Mynediad
Os gall yr Awdurdod Archwilio edrych ar y rhan fwyaf o’r safle o dir cyhoeddus, ond fe allai fod angen iddo fynd ar dir preifat mewn ambell fan, efallai bydd yn penderfynu archwilio’r safle ar ei ben ei hun a gofyn i fynediad gael ei ddarparu i’r tir preifat. Er enghraifft, fe allai ofyn i giatiau gael eu hagor. Ni fydd yr Awdurdod Archwilio’n trafod y cais gyda’r partïon sy’n darparu mynediad. Ni fydd partïon â buddiant yn cael gwahoddiad i fynychu.
Ar ôl archwiliad o’r math hwn, bydd nodyn sy’n rhoi manylion y dyddiad, yr amser a’r lleoliadau yr ymwelwyd â nhw yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Cael gwybod am Archwiliad Safle gyda Chwmni a chofrestru i’w fynychu
Wrth i’r archwiliad symud ymlaen, bydd union ddyddiad ac amser yr archwiliad safle yn cael eu cwblhau’n derfynol.
Dylai partïon â buddiant sy’n dymuno mynychu archwiliad safle gyda chwmni gofrestru hyn gyda’r Arolygiaeth Gynllunio. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Cofrestru i siarad mewn digwyddiad neu ei fynychu.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n rhoi gwybod i’r holl bartïon â buddiant am yr archwiliad safle. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys:
-
dyddiad, amser a man cychwyn yr archwiliad safle
-
gwybodaeth am unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch, fel yr angen i wisgo esgidiau addas
-
manylion ynglŷn â phryd y bydd amserlen derfynol yr archwiliad safle ar gael ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol
-
manylion ynglŷn â sut gall partïon â buddiant gofrestru i fynychu
-
y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i fynychu
I gael rhagor o wybodaeth am beth fydd yn digwydd yn yr archwiliad safle gyda chwmni, gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Newidiadau i’r cais
Ar ôl i’r cais gael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, mae’n bosibl y bydd amgylchiadau pan fydd yr ymgeisydd yn ystyried gwneud newid i’r prosiect. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i ymgeiswyr – Newidiadau i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn i’w archwilio i gael gwybodaeth am y broses y dylai’r ymgeisydd ei ddilyn.
Bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori â phobl a sefydliadau ynglŷn â’r newid arfaethedig. Gall aelodau o’r cyhoedd ymateb i’r ymgynghoriad trwy anfon eu sylwadau at yr ymgeisydd, nid at yr Arolygiaeth Gynllunio.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried cais yr ymgeisydd i wneud newid a’r ymatebion i ymgynghoriad yr ymgeisydd. Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n derbyn y newid i’r cais i’w archwilio, bydd yn gwahodd partïon â buddiant i anfon sylwadau ysgrifenedig ar y newidiadau. Fe allai hyn olygu bod amserlen yr archwiliad yn cael ei diwygio, er enghraifft i gynnwys dyddiadau cau ychwanegol i bartïon â buddiant leisio’u barn am y newid ac ar gyfer unrhyw wrandawiadau ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol.
Os bydd y newid yn cynnwys tir ychwanegol y bydd angen i’r ymgeisydd ei gaffael yn orfodol, fe allai fod angen iddo roi gwybod i bobl a sefydliadau fod y newid i’r cais wedi cael ei dderbyn i’w archwilio. Bydd angen i’r ymgeisydd roi gwybod i’r canlynol:
-
aelodau’r cyhoedd
-
pawb sydd â buddiant yn y tir gwreiddiol y byddai’r prosiect yn effeithio arno
-
pawb sydd â buddiant yn y tir ychwanegol y byddai’r prosiect yn effeithio arno
-
awdurdodau lleol
-
partïon statudol
Bydd angen i’r ymgeisydd esbonio sut gall pobl a sefydliadau gofrestru gyda’r Arolygiaeth Gynllunio i leisio’u barn ynglŷn â’i gynnig i gaffael tir ychwanegol yn orfodol a rhoi’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.
Penderfyniadau eraill a wneir gan yr Awdurdod Archwilio
Yn ystod y cam archwilio, bydd yr Awdurdod Archwilio’n gwneud penderfyniadau eraill ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer archwilio’r cais. Gelwir y rhain yn ‘benderfyniadau gweithdrefnol’. Bob tro y gwneir penderfyniad gweithdrefnol, bydd yr Awdurdod Archwilio’n dweud wrth yr holl bartïon â buddiant a bydd y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol yn cael ei diweddaru.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl i’r archwiliad orffen, bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried yr holl sylwadau, dogfennau a thystiolaeth a bydd yn paratoi argymhelliad ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.
Y cam argymhelliad
Dyma’r cam pan fydd yr Awdurdod Archwilio’n paratoi adroddiad ac argymhelliad ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a ddylid rhoi caniatâd i adeiladu a gweithredu’r prosiect. Ni fydd yr adroddiad a’r argymhelliad yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol ar yr adeg hon. Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu gweld yr adroddiad a’r argymhelliad pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud ei benderfyniad.
Mae’r cam hwn yn cymryd hyd at 3 mis. Fe allai’r cyfnod fod yn llai os yw’r cais NSIP yn dilyn y Weithdrefn Garlam. Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y broses Garlam i gael rhagor o wybodaeth.
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn ystod y cam argymhelliad
Nid yw aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r cam hwn ac nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n disgwyl derbyn unrhyw sylwadau na gwybodaeth ychwanegol. Os bydd yn derbyn unrhyw gyflwyniadau, bydd tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio’n eu hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol ac ni fydd yr Awdurdod Archwilio yn eu gweld.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Anfonir argymhelliad yr Awdurdod Archwilio at yr Ysgrifennydd Gwladol.
Y cam penderfyniad
Dyma’r cam pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn edrych ar argymhelliad yr Awdurdod Archwilio a’r holl sylwadau, dogfennau a thystiolaeth, ac yn gwneud penderfyniad ynglŷn â ph’un ai rhoi caniatâd i’r prosiect.
Mae’r cam hwn yn cymryd hyd at 3 mis. Fe allai’r cyfnod fod yn llai os yw’r cais NSIP yn dilyn y Weithdrefn Garlam. Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y broses Garlam i gael rhagor o wybodaeth.
Sut gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn ystod y cam penderfyniad
Nid yw aelodau’r cyhoedd yn ymwneud â’r cam hwn ac nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n disgwyl derbyn unrhyw sylwadau na gwybodaeth ychwanegol. Os bydd yn derbyn unrhyw gyflwyniadau, bydd tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio’n eu hanfon at yr Ysgrifennydd Gwladol.
Fe allai’r Ysgrifennydd Gwladol wahodd partïon â buddiant i wneud sylwadau ar faterion penodol yn ystod y cam hwn. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gwybodaeth am sut gallant leisio’u barn yn cael ei hanfon at yr holl bartïon â buddiant a’i chyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud ei benderfyniad, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cyhoeddi’r canlynol ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol:
-
llythyr penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n esbonio’r rhesymau dros y penderfyniad
-
y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu rhoi caniatâd i’r prosiect)
-
adroddiad ac argymhelliad yr Awdurdod Archwilio
-
unrhyw ddogfennau neu sylwadau a anfonwyd at yr Arolygiaeth Gynllunio ac a drosglwyddwyd ymlaen i’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystod y cam argymhelliad neu benderfyniad
-
unrhyw ddogfennau neu sylwadau a anfonwyd yn uniongyrchol at yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystod y cam argymhelliad neu benderfyniad
-
dogfennau eraill perthnasol, fel Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud ei benderfyniad, bydd cyfnod o chwe wythnos pryd y gall unrhyw un herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Gelwir hyn yn Adolygiad Barnwrol.
Gweler – y broses Adolygiad Barnwrol a sut mae’n gweithio (sy’n agor mewn tab newydd).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation Updated section 'Who the applicant must consult'
-
First published.