Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
Bwriedir i’r cyngor hwn ddisgrifio digwyddiadau Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol a allai fod yn ddefnyddiol i aelodau’r cyhoedd, hefyd. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth ac fe’i cynhyrchir o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Cofrestru i siarad mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, neu ei fynychu
Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Cofrestru i siarad mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, neu ei fynychu i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch gofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiad.
Beth fydd yn digwydd mewn digwyddiad Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
Adwaenir y canlynol fel digwyddiadau NSIP:
- y cyfarfod rhagarweiniol
- gwrandawiadau llawr agored
- gwrandawiadau mater penodol
- gwrandawiadau caffael gorfodol
- archwiliadau safle
Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Camau’r broses Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a sut gallwch leisio’ch barn i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau.
Dim ond aelodau’r cyhoedd sy’n bartïon â buddiant sydd â’r hawl i ofyn am gael siarad yn y cyfarfod rhagarweiniol neu mewn gwrandawiad a mynychu archwiliad safle gyda chwmni. Gweler nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor i aelodau’r cyhoedd – Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r broses i gael rhagor o wybodaeth am bartïon â buddiant.
Gellir cynnal y cyfarfod rhagarweiniol a digwyddiadau gwrandawiad ar-lein yn unig neu mewn lleoliad addas gyda rhai pobl a sefydliadau’n mynychu ar-lein ac eraill wyneb yn wyneb; gelwir hyn yn ‘ddigwyddiad cyfunol’.
Beth fydd yn digwydd mewn cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad ar y diwrnod?
Gofynnir i bartïon â buddiant sydd wedi dweud wrth y tîm achos eu bod eisiau siarad yn y cyfarfod neu’r gwrandawiad ymuno â’r digwyddiad mewn da bryd, o leiaf 15 munud cyn y dechrau, naill ai yn y lleoliad neu ar-lein. Bydd angen iddynt roi eu henw i’r tîm achos fel y gellir cofrestru eu bod wedi cyrraedd.
Bydd partïon â buddiant sydd wedi cofrestru i siarad, naill ai ar-lein neu mewn lleoliad, yn cael cyfarwyddiadau trwy e-bost, y diwrnod cyn y digwyddiad fel arfer. Bydd y cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys hyperddolen i glicio arni i ymuno â’r digwyddiad gan ddefnyddio Microsoft Teams. Os bydd unigolyn wedi cofrestru i siarad wyneb yn wyneb yn y lleoliad ond ni all fynychu’n bersonol oherwydd amgylchiadau annisgwyl, fe all ymuno â’r digwyddiad o hyd a siarad ar-lein trwy glicio ar yr hyperddolen.
Bydd y cyfarwyddiadau hefyd yn cynnwys rhif ffôn y gellir ei ddefnyddio i ymuno â’r digwyddiad os na all rhywun ddefnyddio’r rhyngrwyd oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
O ran pobl sy’n siarad ar-lein, pan fyddant yn clicio ar yr hyperddolen, cânt eu dal mewn ardal ‘cyntedd’, sy’n debyg i ystafell aros, hyd nes y bydd y tîm achos yn eu derbyn i’r digwyddiad ar-lein. Pan fyddant wedi cael eu derbyn, gallant roi eu henw i’r tîm achos.
Ni fydd yr Awdurdod Archwilio’n aros am bobl sy’n hwyr. Os bydd rhywun yn mynd i leoliad i wylio’r digwyddiad yn unig, ni fydd rhaid iddo roi ei enw i’r tîm achos ac fe all eistedd yn y gynulleidfa.
Bydd y tîm achos ar gael i helpu ac ateb unrhyw gwestiynau ar-lein neu yn y lleoliad. Os bydd angen cymorth ar unrhyw un i gymryd rhan, er enghraifft os bydd angen iddo ddefnyddio dolen glyw neu os bydd ganddo ofynion mynediad, fe all gysylltu â’r tîm achos.
Sut bydd yr Awdurdod Archwilio’n ymuno â’r cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad
O ran digwyddiadau cyfunol, bydd yr Awdurdod Archwilio’n mynd i mewn i’r ystafell ac yn eistedd wrth fwrdd gyda microffonau yn nhu blaen yr ystafell. Weithiau, efallai y bydd un neu fwy o’r Arolygwyr yn ymuno â’r digwyddiad ar-lein ar yr un pryd.
Os yw’r cyfarfod neu’r gwrandawiad yn cael ei gynnal ar-lein yn unig, bydd yr Awdurdod Archwilio’n troi ei gamera a’i ficroffon ymlaen fel y bydd partïon â buddiant sydd wedi ymuno ar-lein yn gallu gweld a chlywed yr Arolygydd neu’r Arolygwyr ar eu sgriniau. Gofynnir i bawb arall ddiffodd eu camera a’u microffon hyd nes y bydd yr Awdurdod Archwilio’n eu gwahodd i siarad.
Sut bydd ystafell y cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad yn edrych ar gyfer digwyddiad cyfunol
Mewn lleoliad, efallai y bydd byrddau gyda microffonau wedi’u gosod allan o flaen yr Awdurdod Archwilio ar ffurf pedol. Bydd enwau ar y byrddau fel bod partïon â buddiant sydd wedi cofrestru i siarad yn gwybod ble i eistedd. Efallai y bydd byrddau ar gyfer yr ymgeisydd a’r awdurdodau lleol a grwpiau neu sefydliadau eraill. Os oes llawer o bartïon â buddiant wedi cofrestru i siarad, efallai y bydd angen i rai pobl eistedd yn nhu blaen y gynulleidfa. Yna, byddai angen iddynt fynd at y bwrdd gyda microffon, neu ddefnyddio microffon a ddelir yn y llaw, pan fydd yr Awdurdod Archwilio’n eu gwahodd i siarad. Bydd y tîm achos yn rhoi’r microffon a ddelir yn y llaw i’r unigolyn.
Bydd partïon â buddiant sydd wedi ymuno â’r digwyddiad ar-lein yn gallu gweld a chlywed beth sy’n digwydd yn yr ystafell ar eu sgriniau. Bydd unrhyw un yn yr ystafell yn gallu gweld a chlywed y rhai hynny sydd wedi ymuno â’r digwyddiad ar-lein ar sgrin fawr yn yr ystafell.
O ran digwyddiadau gwrandawiad llawr agored cyfunol, efallai y bydd yr ystafell wedi’i gosod fel theatr gyda’r Awdurdod Archwilio yn y blaen yn wynebu rhesi o seddau. Fel arfer, bydd yr ymgeisydd yn eistedd yn nhu cefn yr ystafell a gall pawb arall eistedd ble y mynnant yn y gynulleidfa. Mae’n bosibl y bydd bwrdd wedi’i osod gyda microffon o flaen y gynulleidfa, yn wynebu’r Awdurdod Archwilio. Wrth i’r Awdurdod Archwilio wahodd pobl i siarad, dylent fynd at y bwrdd fel y gallant siarad i mewn i’r microffon. Mewn rhai achosion, fe allai’r Awdurdod Archwilio wahodd pobl i siarad gan ddefnyddio microffon a ddelir yn y llaw, a fydd yn cael ei roi iddynt gan aelod o’r tîm achos.

Os yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein yn unig, bydd yr Awdurdod Archwilio’n gwahodd pobl i siarad un ar y tro. Pan wahoddir unigolyn i siarad, dylai droi ei gamera a’i ficroffon ymlaen a siarad â’r Awdurdod Archwilio. Bydd camera un Arolygydd o leiaf ymlaen bob amser. Er efallai y bydd camerâu Arolygwyr eraill wedi’u diffodd, byddant yn y digwyddiad o hyd yn gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ac yn gwneud nodiadau.
Dechrau’r cyfarfod rhagarweiniol neu wrandawiad
Pan fydd yn bryd dechrau, bydd yr Awdurdod Archwilio’n sicrhau bod y ffrwd fyw o’r digwyddiad yn gweithio, bod y recordio wedi dechrau a bod pawb yn gallu clywed. Mewn digwyddiad cyfunol, bydd capsiynau byw ar y sgrin fawr yn yr ystafell i ddangos beth sy’n cael ei ddweud. Yna, bydd yr Awdurdod Archwilio’n cyflwyno ei hun.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n gofyn i’r rhai sy’n dymuno siarad gyflwyno eu hunain a chadarnhau a ydynt yn siarad ar eu rhan eu hunain neu ar ran rhywun arall. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n siarad ddweud ei enw bob tro y bydd yn siarad fel bod hyn yn cael ei gofnodi.
Dylai aelodau’r cyhoedd gofio y bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynnal y cyfarfod neu’r gwrandawiad yn unol â’r agenda. Os bydd yr Awdurdod Archwilio’n credu nad yw rhywun yn siarad am yr eitem agenda gyfredol, fe allai dorri ar ei draws a gofyn iddo gadw at y mater sy’n cael ei drafod.
Mae gan yr Awdurdod Archwilio y pŵer i reoli’r digwyddiad, ac os yw’n credu bod rhywun yn tarfu’n barhaus, gellir gofyn i’r unigolyn hwnnw adael.
Ni chaniateir i’r ymgeisydd arddangos deunydd hyrwyddo, nac i aelodau’r cyhoedd arddangos baneri neu ddeunydd ymgyrchu, naill ai ar-lein neu mewn lleoliad.
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol?
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n cau’r cyfarfod rhagarweiniol pan fydd yr holl eitemau ar yr agenda wedi cael eu hystyried. Bydd y cam archwilio’n dechrau ar ôl i’r cyfarfod rhagarweiniol orffen. Bydd y recordiad fideo a thrawsgrifiad o’r cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Bydd yr Awdurdod Archwilio’n ystyried yr holl sylwadau ac yn cwblhau amserlen yr archwiliad yn derfynol.
Beth fydd yn digwydd ar ôl gwrandawiad?
Mae’n bosibl y bydd yr Awdurdod Archwilio wedi cymryd ‘pwyntiau gweithredu’ o’r gwrandawiad. Cyhoeddir y rhain ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol ynghyd â’r recordiad fideo a thrawsgrifiad o’r cyfarfod neu’r gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd mewn archwiliad safle gyda chwmni ar y diwrnod?
Gofynnir i bartïon â buddiant sydd wedi dweud wrth y tîm achos y byddant yn mynychu ar ddechrau’r archwiliad safle gyrraedd y man cyfarfod mewn da bryd, o leiaf 15 munud cyn y dechrau, a rhoi eu henw i’r tîm achos fel y gellir cofrestru eu bod wedi cyrraedd. Ni fydd yr Awdurdod Archwilio’n aros am bobl sy’n hwyr.
Bydd y tîm achos ar gael i helpu ac ateb unrhyw gwestiynau. Os bydd angen cymorth ar unrhyw un i gymryd rhan, er enghraifft os bydd ganddo ofynion mynediad, fe ddylai siarad â’r tîm achos.
Cyn i’r archwiliad safle ddechrau, bydd yr Awdurdod Archwilio’n cyflwyno ei hun ac yn esbonio’r gweithdrefnau ar gyfer yr archwiliad safle. Bydd hyn yn cynnwys atgoffa partïon â buddiant na allant siarad â’r Awdurdod Archwilio am eu safbwyntiau ynglŷn â’r prosiect. Bydd yr ymgeisydd yn rhoi gwybodaeth am ddiogelwch, fel arfer.
Os bydd partïon â buddiant yn ymuno â’r archwiliad safle mewn lleoliadau amrywiol ar ôl iddo ddechrau, bydd y tîm achos yn rhoi diweddariadau iddynt ar y ffôn os bydd amser cyrraedd y lleoliad lle byddant yn ymuno yn newid.
Os bydd deiliaid tai, meddianwyr a thirfeddianwyr yn gwrthod caniatáu i rai pobl sydd gyda’r Awdurdod Archwilio fynd ar eu tir, bydd yr Awdurdod Archwilio’n penderfynu p’un ai a fyddant yn symud ymlaen â’r rhan honno o’r archwiliad. Efallai y bydd yn gofyn i’r rhai y gwrthodwyd mynediad iddynt aros y tu allan.
Bydd yr amserlen yn cynnwys seibiannau gorffwys ac amser ar gyfer cinio. Ni ddarperir cinio fel arfer a bydd angen i bobl sy’n mynychu’r archwiliad safle wneud eu trefniadau eu hunain.
Beth fydd yn digwydd ar ôl archwiliad safle gyda chwmni?
Os darparodd yr ymgeisydd becyn gwybodaeth a oedd yn cynnwys mapiau, cynlluniau neu ddogfennau nas anfonwyd at yr Awdurdod Archwilio eisoes, cyhoeddir y rhain ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol yn fuan ar ôl yr archwiliad safle.