Ap COVID-19 y GIG: eich data a’ch preifatrwydd
Darllenwch am y camau rydyn ni wedi’u cymryd i wneud yn siŵr bod ap COVID-19 y GIG yn diogelu eich preifatrwydd a’ch manylion adnabod.
Yn berthnasol i England and Gymru
Gwarchod eich preifatrwydd a diogelwch
Mae preifatrwydd a diogelwch data yn hanfodol i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) a’r llywodraeth. Bob dydd, mae pobl yn ymddiried ynom ni gyda’u data personol ac rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Mae wrth galon ein perthynas â’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. O’r herwydd, rydyn ni wedi cymryd camau i wneud yn siŵr bod ap COVID-19 y GIG yn diogelu eich preifatrwydd a’ch manylion adnabod.
Mae ap COVID-19 y GIG yn diogelu eich preifatrwydd a’ch manylion adnabod rhag defnyddwyr eraill yr ap, ac yn diogelu eu preifatrwydd a’u manylion adnabod hwythau yn yr un modd. Mae’r ap yn defnyddio ID ar hap, ac nid oes modd i’r GIG na’r llywodraeth ei ddefnyddio i ganfod pwy ydych chi, na gyda phwy rydych chi wedi treulio amser.
Ni all yr ap wneud y canlynol:
- defnyddio eich lleoliad GPS neu olrhain ble rydych chi wedi bod
- cael ei ddefnyddio i wirio neu fonitro os ydych chi’n aros gartref
- cael ei ddefnyddio gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ganfod pwy ydych chi neu i’ch olrhain
- gweld gwybodaeth bersonol ar eich ffôn, fel eich negeseuon, eich llyfr cyfeiriadau neu eich cysylltiadau ffôn
Sut mae’r ap yn defnyddio data
Chi biau’r penderfyniad bob amser i ddefnyddio’r ap. Os byddwch chi’n ei ddefnyddio, byddwn yn rhannu rhywfaint o ddata dienw ag UKHSA.
Mae angen i chi roi rhan gyntaf eich cod post (sef eich rhanbarth post), a’ch awdurdod lleol.
Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio eich rhanbarth post a’ch awdurdod lleol.
Mae’r data a gesglir gan yr ap yn cael ei storio ar eich ffôn. Mae unrhyw ddata y byddwch chi’n ei rannu gydag UKHSA yn cael ei ddefnyddio i’n helpu ni i wneud y canlynol:
- dysgu mwy am y coronafeirws (COVID-19) i gefnogi gwasanaethau iechyd, fel eich ysbyty lleol – er enghraifft, gallai hyn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am COVID-19 yn eich ardal
- rhoi cyngor i chi yn seiliedig ar eich sefyllfa (er enghraifft, pan fyddwch chi wedi bod yn agos at ddefnyddiwr arall yr ap sydd wedi cael canlyniad prawf positif am COVID-19 yn ddiweddarach)
- rhoi cyngor i’r cyhoedd
- gwella a monitro effeithiolrwydd yr ap
Er mwyn i’r cyfleuster olrhain cysylltiadau weithio, mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio technoleg a ddatblygwyd gan Apple a Google o’r enw ‘hysbysiadau cysylltiad’ a ‘chofnodion cysylltiad’. Mae’r dechnoleg hon yn galluogi’r ap i anfon rhybuddion atoch, gan ddefnyddio IDs ar hap, pan fyddwch wedi bod yn agos at ddefnyddiwr arall yr ap sy’n cael canlyniad prawf positif am COVID-19 yn ddiweddarach.
Mae’r dechnoleg hon wedi cael ei datblygu i ddod o hyd i bobl rydych chi wedi bod yn agos atyn nhw wrth ddiogelu eich preifatrwydd a’ch manylion adnabod.
Mae’r ap yn defnyddio’r data hwn i gyfrifo:
- pa mor agos oeddech chi at ddefnyddwyr eraill yr ap yn ystod y cyfnod hwn
- faint o amser y gallech chi fod wedi’i dreulio yn agos at ddefnyddiwr arall yr ap
Mae’r ap yn defnyddio cryfder y signal Bluetooth i ganfod pa mor agos ydy defnyddwyr yr ap at ei gilydd.
Os byddwch chi’n cael canlyniad positif am COVID-19, byddwn yn gofyn i chi a ydych am rannu’r data hwn. Heb rannu pwy ydych chi, gallwn roi gwybod i ddefnyddwyr eraill yr ap eu bod mewn perygl o gael COVID-19 am eu bod wedi treulio amser yn agos at rywun sydd wedi cael canlyniad prawf positif.
Dileu’r ap
Os byddwch chi’n dewis dileu’r ap, bydd holl ddata’r ap ar eich ffôn yn cael ei ddileu. Sylwch na fyddwch yn cael unrhyw hysbysiadau gan yr ap am COVID-19. Gallwch bob amser ddileu’r holl ddata a gedwir gyda’r ap (o’r ddewislen gosodiadau).
Saff, diogel ac yn cydymffurfio
Mae arbenigwyr o bob rhan o lywodraeth y DU a diwydiant wedi adolygu ein dyluniad ac wedi ein helpu i brofi’r ap a’i wella. Roedd arbenigwyr o’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyfrannu at y gwaith hwn i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel i’w defnyddio. Mae’r ap hefyd yn ddarostyngedig i adolygiadau a safonau preifatrwydd Apple a Google.
Byddwn bob amser yn sicrhau bod yr ap yn cydymffurfio â’r gyfraith diogelu data ac yn bodloni’r safonau a ddisgwylir o ran diogelwch a chyfrinachedd data.
Bydd data olrhain cysylltiadau yn aros ar eich ffôn nes byddwch chi’n dewis ei gyflwyno. Does dim modd i unrhyw un eich olrhain chi, na’ch symudiadau na phwy rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw, gan gynnwys defnyddwyr eraill yr ap.
Marc UKCA
Mae ap COVID-19 y GIG yn cynnwys marc Asesiad Cydymffurfiaeth y DU (UKCA) ac mae’n dangos bod dyfais feddygol yn addas i’w phwrpas ac yn bodloni’r gofynion diogelwch angenrheidiol.
Data sy’n cael ei storio yn yr ap
Mae rhywfaint o’r data a gesglir gan ap COVID-19 y GIG yn cael ei storio ar eich ffôn. Gallwch weld pa ddata sy’n cael ei gadw ar eich ffôn drwy ddewis Gosodiadau ar sgrin hafan eich ap.
Data ardal
Pan fyddwch chi’n llwytho ap COVID-19 y GIG i lawr am y tro cyntaf, gofynnir i chi roi eich rhanbarth post, sef rhan gyntaf eich cod post. Ar gyfartaledd, mae hyn yn cynnwys tua 8,000 o aelwydydd, felly ni fydd unigolion yn cael eu hadnabod. Os yw eich rhanbarth post yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd yr ap yn gofyn i chi ym mha awdurdod lleol rydych chi’n byw. Diben hyn yw sicrhau bod yr ap yn gallu rhoi’r wybodaeth fwyaf cywir i chi ar gyfer eich ardal.
Data arall
Mae’r hyn rydych chi’n ei weld yn yr adran data ‘Arall’ yn dibynnu ar sut rydych chi wedi bod yn defnyddio’r ap.
Canlyniad prawf perthnasol diwethaf
Mae’r adran hon yn rhestru dyddiad y prawf, y canlyniad a’r math o becyn profi. Mae mathau o becynnau profi yn cynnwys:
1. RAPID_SELF_REPORTED
Mae hwn yn dangos eich bod wedi cael prawf llif unffordd cyflym.
O fersiwn ap 5.0, mae hyn yn cynnwys unrhyw ganlyniad prawf llif unffordd positif, p’un a yw o brawf y GIG neu y gwnaethoch dalu amdani.
2. LAB_RESULT
Mae hyn yn dynodi eich bod wedi cael prawf PCR.
Diwrnod olaf hunanynysu
Mae hyn yn dynodi’r diwrnod olaf y cyfnod pan y’ch cynghorir i aros gartref.
Amserydd
Os ydych chi wedi nodi canlyniad prawf positif neu symptomau yn yr ap, efallai y bydd ap GIG COVID-19 yn eich cynghori i geisio aros gartref. Os gwnaethoch nodi canlyniad positif, bydd yr ap yn darparu amserydd fel y gallwch olrhain hyn.
Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd eich cyfnod aros gartref, bydd yr ap yn anfon hysbysiad atoch gyda dolen at y cyngor diweddaraf i chi.
Gwybodaeth am symptomau
Os ydych yn cofnodi canlyniad prawf positif ac nad ydych yn y cyfnod i aros gartref, gofynnir i chi am y dyddiad pryd y dechreuodd eich symptomau. Dyma’r dyddiad a ddangosir yma. Os ydych chi wedi dweud na allwch gofio pryd y dechreuodd eich symptomau, bydd yr ap yn ei gofnodi fel yr un diwrnod â dyddiad eich prawf. Mae’r wybodaeth hon yn helpu’r amserydd i weithio.
Hysbysiad cysylltiad
Os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â defnyddiwr yr ap sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 yn ddiweddarach ac wedi dewis rhannu’r canlyniad hwn yn ddienw, bydd ap COVID-19 y GIG yn anfon rhybudd atoch chi. Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn helpu’r amserydd i weithio.
Dyddiad y cyfarfyddiad
Mae dyddiad y cyfarfyddiad yn dweud wrthych y dyddiad y buoch chi mewn cysylltiad â’r sawl sydd wedi cael canlyniad positif. Mae’n debygol nad oedd yn gwybod bod ganddo COVID-19 ar y pryd, a’i fod wedi cael canlyniad prawf positif yn ddiweddarach.
Dyddiad hysbysu
Dyma’r dyddiad y cawsoch rybudd ar eich ffôn yn dweud wrthych eich bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 yn ddiweddarach.
Tryloywder
Fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder (hynny yw, cyfathrebu clir a gonest), gallwch weld y canlynol:
- hysbysiad preifatrwydd, gan gynnwys fersiynau i bobl ifanc a fersiynau hawdd eu deall
- Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA)
- telerau defnyddio
- cod ffynhonnell ar gyfer ôl-system yr ap
- cod ffynhonnell ar gyfer ap Apple iOS
- cod ffynhonnell ar gyfer ap Google Android
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 March 2023 + show all updates
-
Added notice explaining that the app will be closing down on 27 April.
-
Updated information on how the app uses data.
-
Updated to reflect the app version 5.0 changes.
-
Added video about the NHS COVID-19 app and protecting your privacy.
-
Added Welsh version.
-
First published.