Talu Toll Alcohol
Sut i dalu Toll Alcohol os ydych yn gynhyrchydd cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Dim ond er eich gwybodaeth y mae’r arweiniad hwn. Mae wedi’i gyhoeddi’n gynnar. Bydd yn berthnasol o 1 Chwefror 2025 ymlaen.
Tan hynny, mae’n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad presennol ar gynhyrchu alcohol, sydd wedi’i amlinellu yn hysbysiadau ecséis 39, 162, 163 a 226 (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch ragor am y newidiadau sydd i ddod i gymeradwyo, datganiadau a thaliadau o ran alcohol (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi dalu’ch toll a ddangosir ar eich datganiad ar-lein erbyn 25ain o’r mis.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen eich cyfeirnod Toll Alcohol arnoch, sy’n dechrau gydag ‘X’. Bydd y cyfeirnod hwn yn cynnwys 12 rhif a 2 gymeriad (er enghraifft, XA123456789012).
Mae hwn i’w weld ar y datganiad yr ydych wedi ei chyflwyno ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:
-
bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
-
byddwn yn anfon nodyn atoch i’ch atgoffa i dalu
Efallai y bydd angen eich ID cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch. Mae hwn yn 15 digid. Mae’r ID APPA yn cynnwys 5 llythyren a 10 rhif (er enghraifft, XMADP0123459789).
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
-
cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
-
Debyd Uniongyrchol
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Dewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu gyfrif bancio symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.
Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol
O 1 Mawrth 2025 ymlaen bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth Rheoli’ch Toll Alcohol er mwy trefnu Debyd Uniongyrchol newydd.
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y gwasanaeth.
Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer Ffurflenni Treth sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig. Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol o leiaf 4 diwrnod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.
Byddwn yn casglu taliadau’n awtomatig o’ch cyfrif banc.
Os byddwch yn cyflwyno’ch ffurflen mewn pryd, bydd hyn fel arfer ar eich dyddiad dyledus talu. Byddwn yn anfon neges atoch gyda’r union ddyddiad a’r swm, ar ôl i chi ffeilio eich ffurflen.
Os byddwch yn cyflwyno’ch datganiad yn hwyr, efallai caiff eich taliad ei oedi. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu.
Ni all y Debyd Uniongyrchol gasglu unrhyw log neu gosbau sydd arnoch. Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu i dalu’r taliadau hyn.
Talu ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ein cyfrif banc. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Gwiriwch amserau prosesu’ch banc, a’i derfynau o ran trafodion mwyaf, cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 10
-
rhif y cyfrif — 14077970
-
enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB16 BARC 2005 1723 3725 45
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth fanwl am Doll Alcohol, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).