Canllawiau

Rhoi gwybod am Doll Ecséis ar fiodanwyddau ac amnewidion tanwydd eraill (HO930)

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein os ydych chi’n cynhyrchu, defnyddio neu neilltuo mwy na 2,500 litr o fiodanwydd y flwyddyn.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am y biodanwydd a’r amnewidiadau tanwydd eraill rydych chi wedi’u defnyddio neu wedi’u neilltuo (yn agor tudalen Saesneg):

  • fel tanwydd ar gyfer unrhyw injan, modur neu beiriannau eraill
  • fel ychwanegyn neu estynnydd mewn unrhyw sylwedd a ddefnyddir fel tanwydd
  • ar gyfer cynhyrchu biogyfuniad neu gymysgedd bioethanol

Cyn i chi ddechrau

I roi gwybod, mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Dynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn rhoi gwybod am y Doll Ecséis.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen:

  • eich cyfeirnod unigryw a chod post eich busnes cofrestredig
  • manylion eich cyfeiriad busnes a’ch cod post
  • dyddiadau dechrau a dod i ben eich hawliad

Bydd angen i chi nodi’r canlynol yn ogystal:

  • faint o fiodanwydd, yr amnewidyn tanwydd neu’r ychwanegyn tanwydd y mae angen i chi dalu toll arno
  • faint o dollau sydd arnoch

Cyflwyno’ch datganiad

Gallwch hefyd gyflwyno’ch ffurflen gan ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon (yn agor tudalen Saesneg). Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen cyn y gallwch ei hargraffu gan na ellir cadw ffurflenni sydd heb ei orffen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2018

Argraffu'r dudalen hon