Canllawiau

Talu rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) a orhawliwyd

Sut i dalu rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu os gwnaethoch hawlio gormod.

Cyn i chi wneud taliad, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF ynghylch rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu a or-hawliwyd.

Byddwn yn anfon cyfeirnod talu atoch y gallwch ei ddefnyddio i wneud taliad.

Pryd i dalu

Awgrymwn eich bod yn gwneud taliad ar gyfrif am y swm yn eich cynnig cyn pen 30 diwrnod calendr o gyflwyno’ch datgeliad. Bydd gwneud hynny yn osgoi unrhyw log pellach rhag cronni.

Os yw diwrnod 30 ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch.

Gallwch ddod o hyd i hwn ar y llythyr y byddwn yn ei anfon atoch ar ôl i chi gyflwyno’r datgeliad.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
  • byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad

Talu ar-lein

Talwch ar-lein gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Dechrau nawr

Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’r cyfrif banc ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os ydych y talu drwy’r naill neu’r llall o’r dulliau hyn. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10
  • rhif y cyfrif — 12001020
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Ar ôl i chi dalu

Byddwn yn ysgrifennu atoch yn fuan i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich datgeliad. Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch faint o amser y bydd hyn yn ei gymryd ar y llythyr a gawsoch sy’n cynnwys eich cyfeirnod talu.

Os nad ydym yn derbyn eich datgeliad, bydd CThEF yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth yw’r camau nesaf.

Os na allwch dalu’r swm llawn

Awgrymwn eich bod yn talu swm llawn sydd arnoch pan fyddwch yn cael eich cyfeirnod talu.

Rhowch wybod i ni os na allwch dalu’r swm llawn sydd arnoch cyn gynted â’ch bod yn cael eich cyfeirnod talu.

Bydd manylion cyswllt wedi’u nodi ar y llythyr hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Rhagfyr 2024

Print this page