Canllawiau

Data priodoleddau eiddo (PAD)

Canllawiau ar yr wybodaeth sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) am eich eiddo at ddibenion Treth Gyngor.

Data priodoleddau eiddo yw’r wybodaeth y mae’r VOA yn ei chadw am nodweddion ffisegol eiddo.

Mae’r wybodaeth sydd gennym am eich eiddo yn mynd tuag at bennu eich band Treth Gyngor.

Pryd caiff data eu casglu

Mae data priodoleddau eiddo yn hanesyddol. Maent fel arfer yn ymwneud â chyflwr eiddo ar y dyddiad diweddaraf o’r dyddiadau canlynol:

  • ar ddyddiad llunio’r rhestr Treth Gyngor, sef 1 Ebrill 1993 yn Lloegr neu 1 Ebrill 2005 yng Nghymru
  • pryd y cafodd ei roi ar y rhestr Treth Gyngor, er enghraifft, pryd y cafodd ei adeiladu
  • pryd y diweddarwyd ei gofnod ar y rhestr Treth Gyngor ddiwethaf

Dim ond o dan rai amgylchiadau y byddwn yn diweddaru’r data sydd gennym, sef:

  • pan fydd eiddo’n cael ei werthu
  • pan fydd defnydd o’r eiddo wedi newid
  • pan mae eiddo wedi’i hollti neu ei gyfuno

Y data sydd gennym

Bydd data priodoleddau eiddo yn cynnwys, ar y lleiaf:

  • grŵp, mae hwn yn disgrifio arddull bensaernïol yr eiddo yn fras
  • math, er enghraifft fflat, teras mewnol neu dŷ ar wahân
  • oedran, sef y cyfnod o amser pan adeiladwyd yr eiddo
  • arwynebedd llawr, sef maint yr eiddo mewn m2. Rydym yn mesur eiddo yn unol â’n cod ymarfer mesur – mae canllawiau ar sut rydym yn mesur gwahanol briodweddau ar gael ar GOV.UK
  • cyfanswm nifer yr ystafelloedd. Rydym yn cynnwys ystafelloedd byw, ystafelloedd bwyta, ystafelloedd gwely ac astudfeydd, ond nid ydym yn cynnwys ystafelloedd gwydr, ceginau, ystafelloedd amlbwrpas, ystafelloedd ymolchi a thoiledau.
  • nifer yr ystafelloedd gwely. Rydym yn cyfrif pob ystafell wely, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd gwely ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gwely sy’n cael eu defnyddio fel astudfeydd
  • nifer yr ystafelloedd ymolchi. Dim ond os oes ganddi o leiaf 3 ffitiad y byddwn yn rhestru ystafell ymolchi, er enghraifft, toiled, basn a chawod. Mae hyn yn golygu na fyddai toiled gyda dim ond basn yn cael ei gynnwys
  • nifer y lloriau sydd yn eich eiddo. Er enghraifft, mae tŷ â llawr gwaelod a llawr cyntaf yn eiddo deulawr

Yn gyfreithiol ni allwn adolygu gwelliannau i eiddo nes iddo gael ei werthu. Bydd unrhyw welliannau a wneir i eiddo ond yn cael eu hadlewyrchu yn y data unwaith y bydd gwerthiant wedi digwydd.  

Sut i ofyn am ddata priodoleddau eiddo 

Gallwch ofyn am ddata priodoleddau eiddo dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.

Os ydych yn gofyn am eich data ar-lein, dewiswch yr opsiynau canlynol:

  • dewiswch ‘Rwyf am wneud ymholiad newydd’
  • dewiswch ‘Treth Gyngor’
  • dewiswch ‘Arall’

Yna rhowch ddisgrifiad o’ch cais.

Gallwch ofyn am ddata eich eiddo eich hun yn unig, nid data eich cymdogion.

Mae’n rhaid i ni wirio mai chi yw’r trethdalwr cyn i ni ryddhau’r data. Sicrhewch fod gennych gopi o’ch bil Treth Gyngor yn barod i’w rannu gyda ni fel rhan o’r broses ddilysu.

Beth i’w wneud os yw’ch data’n anghywir 

Os ydych yn gofyn am eich data i gefnogi her band Treth Gyngor, nodwch nad yw data anghywir bob amser yn golygu bod eich band yn anghywir.

Mae hyn oherwydd bod bandiau mewn ystod, ac efallai na fydd yr effaith ar brisiad eich eiddo yn ddigon sylweddol i’ch symud i fand is.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Chwefror 2025 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. Section on 'Data we hold' updated.

  3. Minor updates to content.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon