Diogelu gwartheg yn erbyn haint TB mewn ardaloedd lle mae llawer o achosion a nifer isel o achosion
Yr hyn y gallwch chi ei wneud i helpu i leihau'r risg o haint twbercwlosis buchol (TB) yn eich buches.
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gallwch leihau’r risg o TB buchol i’ch buches o wartheg neu fywyd gwyllt heintiedig eraill.
Mae’r achosion (lefel) o TB mewn gwartheg yn amrywio ar hyd a lled Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban).
Mae’r Alban yn rhydd o TB yn swyddogol (OTF). Mae gan rannau o Gymru nifer isel iawn o achosion o TB. Dim ond achosion gwasgaredig o TB sydd yng ngogledd, dwyrain a de-ddwyrain Lloegr o ganlyniad i symudiadau gwartheg heintiedig o ardaloedd o’r wlad gyda nifer uwch o achosion.
Mae’n bwysig dilyn y rheolau a chyngor arall i helpu i atal lledaenu TB i ardaloedd o’r wlad sy’n rhydd o achosion ac ardaloedd gyda niferoedd isel o achosion.
Ceir llawer o achosion o TB mewn rhai ardaloedd o Gymru a Lloegr. Dylech gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu eich gwartheg yn yr ardaloedd hyn. Darganfyddwch fwy am ardaloedd TB ym Mhrydain Fawr.
Mae’r mesurau rheoli clefydau yn y canllaw hwn yn arfer da. Byddant yn helpu i leihau’r risg o’r canlynol:
- amlygu TB a chlefydau heintus eraill i’ch buches
- lledaenu clefydau i fuchesi eraill o wartheg, bywyd gwyllt a rhywogaethau eraill sy’n dueddol o gael TB
Mae mesurau rheoli TB cyfredol yn cynnwys:
- profi croen buchesi yn rheolaidd
- profion ychwanegol, wedi’u targedu o fuchesi wedi’u heintio â TB ac sy’n wynebu risg
- gwyliadwriaeth o wartheg â TB wrth iddynt gael eu lladd
- cyfyngu ar symud buchesi heintiedig
- defnyddio profion cyn symud ac ar ôl symud
- bioddiogelwch a hwsmonaeth anifeiliaid da
- rhagofalon synhwyrol wrth brynu gwartheg
Sut mae gwartheg yn cael eu heintio â TB
Mae TB yn glefyd cronig, heintus. Clefyd resbiradol ydyw’n bennaf sy’n cael ei ddal trwy anadlu bacteria TB sy’n cael ei ryddhau i’r aer trwy ollyngiadau o’r trwyn a’r geg.
Gall cyswllt agos â gwartheg heintiedig, bywyd gwyllt neu anifeiliaid eraill ledaenu TB.
Gellir cael haint hefyd drwy fwyta bwyd sydd wedi’i halogi â mwcws, wrin, poer, crawn, llaeth neu ysgarthion anifeiliaid heintus.
Gall lloi gael eu heintio o laeth gwartheg wedi’u heintio.
Darllenwch am sut i nodi a rhoi gwybod am TB buchol a’r mesurau i atal ei lledaenu ar hyn o bryd.
Gwella effeithiolrwydd profion TB
Mae profion TB rheolaidd ar fuchesi yn helpu i wneud y canlynol:
- canfod buchesi wedi’u heintio
- cynnal statws OTF buchesi a’ch gallu i fasnachu
- darparu gwybodaeth am statws TB pob buches a’r ardal o amgylch
Rhaid i chi gadw at yr amserlen profi TB a osodwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae hyn o gymorth i ganfod haint cyn gynted â phosibl.
Gallwch helpu’r rhaglen brofi drwy wneud y canlynol:
- paratoi ar gyfer y profion a rhoi digon o amser i’w cwblhau
- sicrhau bod eich cyfleusterau trin yn ddiogel i’r anifeiliaid, y sawl sy’n trin a’r profwyr TB
- gweithredu ar geisiadau am brofion ar ôl symud, olrhain a chadarnhau
- cyflwyno’r holl wartheg cymwys yn eich buches am brawf lle y bo’n ofynnol
Darllenwch fwy am y rheswm pam mae’n rhaid i chi gael eich gwartheg wedi’u profi yn Lloegr neu profion am TB yn eich buches yng Nghymru a’r Alban.
Glanhau a diheintio eich fferm a’ch cyfarpar
Gall bacteriwm TB oroesi yn yr amgylchedd am gyfnod hir, yn enwedig mewn tywydd oer a gwlyb. Oherwydd hyn, dylech wneud y canlynol:
- cadw da byw i ffwrdd o fiswail ffres a daenwyd ar y tir am 60 diwrnod o leiaf
- cael gwared ar sarn a thail fel na all da byw fynd atynt (gellir compostio tail a’i daenu’n ddiogel ar ôl 30 diwrnod o leiaf)
- defnyddio diheintydd cymeradwy sy’n briodol ar gyfer TB
- darparu peiriannau golchi, brwsys, pibellau dŵr, a diheintydd cymeradwy wrth fynedfeydd eich fferm er mwyn i ymwelwyr eu defnyddio
- glanhau a diheintio cafnau dŵr a phorthiant ac adeiladau gwartheg newydd eu gwagio.
- glanhau a diheintio peiriannau a chyfarpar fferm a rennir
- gwirio bod contractwyr yn ymarfer bioddiogelwch da
- ynysu adweithyddion profion TB ac adweithyddion amhendant a glanhau a diheintio adeiladau a chyfarpar sydd wedi’u halogi ganddynt
- cadw’r glaswelltir lle mae adweithyddion TB neu adweithyddion amhendant wedi pori’n wag o wartheg gyhyd â phosibl, yn ddelfrydol am 60 diwrnod o leiaf yn ystod misoedd yr haf, a chymaint â 120 o ddiwrnodau mewn tywydd oer lle mae’r diwrnodau’n fyr
Ymarfer hwsmonaeth da
Bydd arferion hwsmonaeth da yn helpu i leihau’r risg y caiff eich buches ei heintio â TB yn sgil symud gwartheg ac o fywyd gwyllt wedi’u heintio.
Er mwyn atal crwydro neu gyswllt trwyn wrth drwyn â gwartheg cyfagos, dylech:
- gynnal ffiniau a mynedfeydd (cadw stoc) perimedr cadarn ar eich tir a’ch safle
- defnyddio ffensys dwbl, yn enwedig wrth fynedfeydd, gan roi o leiaf 3 metr o le rhyngddynt
- osgoi pori cyffredin a chyrsiau dŵr a rennir
- cadw gwartheg i ffwrdd o frochfeydd a charthfeydd mewn ardaloedd lle mae llawer o achosion o TB yng Nghymru a Lloegr
Diogelu’ch fferm rhag bywyd gwyllt
Gwneud tai anifeiliaid, storfeydd porthiant, porthiant ychwanegol adeg pori (fel bwcedi llyfu a didolwyr lloi), a buarthau mor ddiogel rhag bywyd gwyllt ag y bo’n ymarferol. Bydd hyn yn lleihau’r potensial y bydd TB yn cael ei drosglwyddo o:
- foch daear ac anifeiliaid eraill i’ch gwartheg mewn ardaloedd lle mae llawer o achosion
- eich gwartheg i fywyd gwyllt mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion a nifer isel o achosion
Dylech:
- godi adeiladau gydag ochrau llyfn a solet, sydd o leiaf 1.5m o uchder er mwyn atal moch daear rhag dringo – ni ddylai ochrau’r adeiladau fod ar agor
- adeiladu drysau a gatiau llyfn a solet sydd o leiaf 1.5m o uchder – gallwch ychwanegu dalenni metel solet y tu allan i gât 5 bar
- gwneud yn siŵr bod y bylchau rhwng gwaelod y gatiau, drysau, ffensys a’r llawr neu ar yr ochrau yn llai na 7cm – gwnewch yn siwr nad ydynt yn mynd yn fwy trwy gloddio neu gnoi
- bwydo gwartheg mewn adeiladau neu fuarthau caeedig, a sicrhau nad oes unrhyw fylchau na thyllau y gall bywyd gwyllt fynd drwyddynt
- gwneud yn siŵr bod yr adeiladau lle mae’r anifeiliaid wedi’u hawyru’n dda ac nad oes gormod o stoc
- storio porthiant gwartheg mewn biniau solet gyda chaeadau y gellir eu cloi neu seilos os na allwch ddiogelu eich adeiladau
- gorchuddio arwyneb claddfeydd silwair
- clirio gollyngfeydd porthiant a glanhau cafnau’n rheolaidd ac os oes modd, eu gadael yn wag gyda’r nos
- sicrhau eich bod yn cau gatiau a drysau bob nos
- gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae unrhyw frochfeydd a charthfeydd moch daear ar eich fferm, a chadw eich da byw i ffwrdd o’r ardaloedd hyn
Dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i nodi gweithgarwch moch daear ar yr Hyb TB.
Os na allwch osgoi bwydo gwartheg wrth bori, dylech wneud y canlynol:
- osgoi bwydo dwysfwydydd ar y ddaear
- sicrhau bod teclynnau bwydo, cafnau dŵr a llyfleoedd halwynau a mwynau wedi’u codi o leiaf 90cm oddi ar y ddaear
- defnyddio rholiwr wrth y cafn porthi mewn didolwr lloi, er mwyn atal moch daear rhag rhannu dwysfwydydd lloi
Defnyddio ffensys trydan
Os na allwch addasu eich adeiladau, gallech greu ffin diogel rhag bywyd gwyllt gyda ffensys trydan. Gallwch ychwanegu hyn at ffens ffin diogel rhag stoc o gwmpas eich buarth neu adeiladau.
Gallwch hefyd atal bywyd gwyllt rhag mynd i’r claddfeydd silwair gyda ffensys trydan.
Defnyddio ffensys trydan prif gyflenwad er mwyn atal bywyd gwyllt rhag mynd i ffos gerrig lle mae elifion neu ddŵr gwastraff yn draenio.
Dylech osod gwifrau ffensys 10cm, 15cm, 20cm a 30cm uwchlaw’r ddaear.
Rheoli heintiau o foch daear
Mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion, gall moch daear wedi’u heintio ledaenu TB i wartheg. Gall hyn arwain at achosion mewn buches sy’n cynnwys:
- cyfyngiadau ar symud
- lladd gwartheg yr effeithir arnynt
Gall moch daear heintio’r gwartheg mewn dwy ffordd:
- cyswllt uniongyrchol – lle daw mochyn daear wedi’i heintio yn agos at wartheg
- cyswllt anuniongyrchol – drwy lyncu neu ddod i gysylltiad â bwyd wedi’i halogi ag wrin, ysgarthion, crawn neu boer mochyn daear wedi’i heintio
Gall moch daear ymweld â buarthau ac adeiladau fferm a halogi ffynonellau o fwyd heb eu diogelu. Mae TB yn fwy tebygol o gael ei drosglwyddo o fewn y buarth ac adeiladau nac ar dir pori.
Maent yn fwy tebygol o ymweld â buarthau ac adeiladau i chwilio am fwyd pan fydd y tywydd wedi bod yn sych. Mae hyn oherwydd y daw glaw ag abwyd (hoff fwyd moch daear) i’r wyneb lle gall moch daear gael gafael arnynt yn hawdd.
Gall moch daear wneud fel a ganlyn:
- mynd i mewn i storfeydd bwyd, beudai a chladdfeydd silwair
- bwydo ar borthiant wedi’i storio, porthiant wedi’i ollwng ar y buarth ac maent hyd yn oed wedi bod yn bwyta o gafnau ar yr un pryd â gwartheg
- cerdded rhwng coesau gwartheg a gedwir dan do ac yn casglu gwasarn o feudai a ddefnyddir
- troethi neu ymgarthu ar borthiant neu adael poer neu grawn o glwyfau cnoi a chrawniadau arno
Darllenwch fwy am yr hyn y mae’r llywodraeth yn ei wneud i reoli’r risg o TB buchol o foch daear yn Lloegr a’r Rhaglen Dileu TB yng Nghymru.
Cynllunio iechyd eich buches
Mae’n arfer da gweithio gyda’ch milfeddyg i greu cynllun iechyd ar gyfer eich buches sy’n cynnwys TB.
Dylai’r cynllun iechyd:
- ystyried hanes TB presennol a blaenorol eich buches
- mynd i’r afael â’r risgiau TB mwyaf tebygol y mae eich buches yn eu hwynebu
Gall eich milfeddyg hefyd roi cyngor i chi ar sail ei wybodaeth ehangach am achosion o TB yn yr ardal.
Lleihau’r risgiau o ddod ag anifeiliaid at eich buches
Bydd ychwanegu anifeiliaid newydd at eich buches yn peri risg o glefyd.
Os ydych mewn rhan o’r wlad lle ceir nifer isel o achosion o TB ac y byddwch yn prynu gwartheg o rannau o’r Deyrnas Unedig neu o wledydd eraill lle ceir nifer uchel o achosion o TB, byddwch yn cynyddu’r risg o’r canlynol:
- cyflwyno haint i’ch buches eich hun
- ei ledaenu i fuchesi cyfagos ac i fywyd gwyllt lleol
Os ydych mewn rhan o’r wlad lle ceir nifer uchel o achosion o TB ac y byddwch yn prynu gwartheg o rannau o’r Deyrnas Unedig neu o wledydd eraill lle ceir nifer uchel o achosion o TB, byddwch yn cynyddu’r risg o ledaenu’r haint i’r canlynol:
- buchesi cyfagos
- bywyd gwyllt lleol
Prin y mae gwartheg yn dangos arwyddion clinigol amlwg o TB. Nid yw bob amser yn bosibl canfod anifeiliaid sydd wedi’u heintio drwy brofion. Mae hyn yn golygu y dylech lunio barnau ar sail:
- statws TB yr ardal y mae gwartheg yn deillio ohoni
- hanes profion ac achosion y fuches wreiddiol
- unrhyw system reoli yn y fuches wreiddiol sy’n arwain at risg uwch na’r arfer o TB, er enghraifft buchesi a brofir yn flynyddol mewn ardaloedd sy’n cael profion bob pedair blynedd
Ystyriwch fridio eich gwartheg newydd eich hun yn hytrach nag ailstocio.
Er mwyn lleihau’r risg o gyflwyno TB drwy ddod ag anifeiliaid i mewn i’ch buches, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â gofynion cyfreithiol drwy sicrhau bod:
- stoc o fuchesi a brofir yn flynyddol neu’n amlach yn cael prawf cyn symud cyn iddynt gyrraedd
- gwartheg mewn buchesi a brofir yn flynyddol neu’n amlach yng Nghymru a Lloegr yn cael prawf cyn symud rhwng eich daliad, porfelaeth neu dir pori comin
- profion croen ôl-symud yn cael eu cynnal ar wartheg a gaiff eu symud i safleoedd yn yr Alban a rhai ardaloedd o Gymru a Lloegr lle bo hyn yn ofynnol, ac y gwneir hynny ar yr adeg gywir ar ôl eu symud (yn dibynnu ar darddiad yr anifeiliaid)
- gwartheg a gaiff eu mewnforio yn cael eu profi yn ôl yr angen ac ar yr adegau cywir
- cofnodion adnabod a symud anifeiliaid yn gywir fel y gallwch olrhain symudiadau gwartheg rhwng buchesi
Dylech chi hefyd sicrhau eich bod yn:
- gwybod o ble y daeth stoc a brynir – gofynnwch am ddyddiadau a thystiolaeth o brofion TB blaenorol ac unrhyw hanes o achosion o TB
- defnyddio ibTB i gadarnhau hanes TB y fuches, cyn prynu stoc o fuchesi yng Nghymru a Lloegr,
- cadarnhewch gyfnodau profi TB buchol eich ardaloedd
- ceisio osgoi defnyddio, rhentu neu brynu tir mewn ardal risg uchel - hyd yn oed os mai dim ond eich gwartheg chi fydd ar y tir rydych yn ei ddefnyddio
- ynysu stoc a brynir i mewn a stoc sy’n dychwelyd – os ydych yn defnyddio padog neu gae, osgowch unrhyw gyswllt â’ch gwartheg neu dda byw cyfagos
- trefnu profion croen ôl symud preifat, yn ddelfrydol cyn bod anifeiliaid newydd eu prynu yn ymuno â gweddill y fuches
- gofyn am gyngor gan eich milfeddyg ar ffyrdd o leihau’r risg y bydd y clefyd yn ymledu o anifeiliaid a brynir
- bod yn ymwybodol o’r risg o glefyd a berir gan deirw llog – ystyriwch arferion hwsmonaeth amgen neu cadarnhewch leoliad ac amlder profion buchesi lle bu’r teirw yn ddiweddar
Gall rhai buchesi mewn ardaloedd lle mae nifer isel o achosion wynebu risg uwch na’r cyffredin o haint yn y fuches, er enghraifft, maent wedi cael achosion o TB neu maent wedi cael yr anifeiliaid o ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion.
Darllenwch y canllawiau cyhoeddedig ar brofion cyn ac ar ôl symud ar wartheg i gael rhagor o wybodaeth.
Hysbysiad Gofynion Milfeddygol neu Hysbysiad Gofynion Bioddiogelwch – Cymru yn unig
Yng Nghymru, gall APHA gyflwyno Hysbysiad Gofynion Milfeddygol (VRN), a hynny fel rheol pan ystyrir bod gofynion ynysu penodol stoc newydd ei phrynu yn angenrheidiol.
Cyhoeddir Hysbysiadau Gofynion Bioddiogelwch (BRNs) yn dilyn arolygiadau bioddiogelwch ar ffermydd gydag achosion o TB ac maent yn amlygu’r gwelliannau y mae angen i geidwaid gwartheg eu cwblhau i gynyddu bioddiogelwch eu fferm. Fel rheol, darperir rhywfaint o arweiniad ar sut i gyflawni’r gofyniad.
Cael cyngor a chymorth TB
Yn Lloegr mae’r TB Advisory Service yn rhoi cyngor ac ymweliadau am ddim i geidwaid gwartheg ac ar anifeiliaid fferm nad ydynt yn fuchol.
Yng Nghymru mae Cymorth TB yn rhoi cyngor a chymorth i ffermwyr y mae TB buchol wedi effeithio arnynt drwy ymweliad gan filfeddyg wedi’i hyfforddi’n arbennig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn LLYW.CYMRU.
Gallwch gael gwybodaeth am bob agwedd ar TB buchol ar TB hub.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 July 2023 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.