Canllawiau

Canllawiau cyhoeddus: delio â thir ac eiddo

Canllawiau, cymorth a manylion cysylltu ar gyfer aelodau'r cyhoedd.

Yn berthnasol i England and Gymru

Cwestiynau cyffredin

Atebion cyflym a hawdd ar-lein i’r cwestiynau cyffredin hyn.

Darllenwch am y canlynol:

Sut i wneud y canlynol:

Fforwm cymorth ar-lein

Defnyddiwch ein fforwm cymorth ar-lein i ofyn cwestiynau neu i ddod o hyd i atebion i ymholiadau cyffredinol. Gallwch chwilio am edefyn sy’n delio â’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani neu ddechrau un eich hunan.

Ffurflen gysylltu

Defnyddiwch ein ffurflen gysylltu os na allwch ddod o hyd i atebion ar-lein, i anfon neges atom neu i gofnodi gwall.

Mae ein tîm yn trin pob neges yn sensitif, ond sylwer na allwn dderbyn negeseuon wedi eu marcio’n breifat neu’n gyfrinachol.

Lle bo modd, rydym yn ateb ymholiadau brys a gyflwynir trwy’r ffurflen gysylltu ar yr un diwrnod.

Ffôn

Er mwyn cynnal gwasanaeth cwsmeriaid a safonau ansawdd, mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau. 

Ein horiau agor ar hyn o bryd yw dydd Llun i ddydd Iau (ac eithrio Gwyliau Banc), 8am i 5pm. 8am i 9am yw adeg dawelaf ein gwasanaeth ffôn fel rheol. Ar ddyddiau Gwener, nid yw ein gwasanaeth ar gael dros dro fel rhan o’n nod i brosesu rhagor o waith cais. Gallwch gysylltu â ni o hyd trwy ein ffurflen gysylltu ar-lein neu fforwm cymorth, gan y byddwn yn eu monitro’n ofalus am unrhyw ymholiadau brys.

Darllenwch am gostau galwadau.

Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid

Os oes angen ichi siarad â gweithiwr cais hyfforddedig, gall ein cydweithwyr cymorth i gwsmeriaid* helpu. Ffoniwch 0300 006 0422 am wasanaeth Cymraeg a 0300 006 0411 am wasanaeth Saesneg.

*Mae cydweithwyr cymorth i gwsmeriaid yn cyfeirio ymholiadau at ein perchnogion cais dim ond pan fo angen.

Post

Anfonwch eich ceisiadau a’ch gohebiaeth trwy’r post i’n cyfeiriad safonol.

Dylid cyfeirio’r rhain i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF.

Cofrestru ar gyfer negeseuon ebost neu argraffu’r dudalen hon

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 August 2024

Sign up for emails or print this page