Cofrestru cwmni cyfyngedig fel is-gontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad drwy’r post
Defnyddiwch ffurflen bost CIS305 i gofrestru fel is-gontractwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) gyda thaliad o dan ddidyniad.
Cyn i chi ddechrau
Y ffordd gyflymaf o gofrestru fel is-gontractwr CIS (yn agor tudalen Saesneg) yw drwy gofrestru ar-lein. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais i gael statws taliadau gros (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych am i gontractwyr gymryd didyniadau ymlaen llaw.
Cofrestru cwmni cyfyngedig
Mae gwybodaeth am sut i lenwi ffurflen bost CIS305 ar gael yn
.-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch ffurflen CIS305.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Dylech anfon y ffurflen i:
Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST