Canllawiau

Cofrestru partneriaeth fel is-gontractwr, neu wneud cais am statws taliadau gros

Defnyddiwch ffurflen CIS304 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru eich partneriaeth fel is-gontractwr, i wneud cais am statws taliadau gros, neu’r ddau.

Cyn i chi ddechrau

Os nad ydych eisiau gwneud cais ar gyfer statws taliad gros, gallwch gofrestru fel is-gontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad neu statws taliad gros ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Cofrestru ar-lein

I lenwi’r ffurflen ar-lein, bydd angen manylion canlynol y bartneriaeth arnoch:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

  • trosiant ar gyfer y 12 mis diwethaf

  • tystiolaeth o drosiant — megis cyfriflenni banc, datganiadau o daliadau a didyniadau ac anfonebau

  • manylion cyfrif banc

Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am bob partner, gan gynnwys:

  • enw

  • cyfeiriad

  • UTR

  • rhifau Yswiriant Gwladol

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen yr wybodaeth ganlynol am y bartneriaeth hefyd:

  • rhif cofrestru’r cwmni

  • rhif cofrestru TAW

  • cyfeirnod TWE

  • trosiant arfaethedig

  • derbyniadau wedi’u hetifeddu a’u manylion

  • cytundeb menter ar y cyd

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).

Os ydych chi’n asiant, bydd angen i chi ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth rydych chi’n ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Cofrestru nawr

Os na allwch gofrestru ar-lein

Mae gwybodaeth am lenwi’r ffurflen bost ar gael yn Cofrestru partneriaeth — nodiadau arweiniad (PDF, 128 KB, 5 pages).

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch CIS304.

  3. Argraffwch y ffurflen hon, a’i hanfon at CThEF drwy’r post.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

I ble i anfon y ffurflen

Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 June 2014

Sign up for emails or print this page