Canllawiau

Cofrestru fel unig fasnachwr is-gontractwr, neu wneud cais am statws taliadau gros

Defnyddiwch ffurflen CIS302 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru fel unig fasnachwr is-gontractwr, i wneud cais am statws taliadau gros neu’r ddau.

Cyn i chi ddechrau

Os nad ydych am wneud cais am statws taliad gros, gallwch gofrestru fel is-gontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Cofrestru ar-lein

Er mwyn llenwi’r ffurflen ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

  • eich Rhif TAW, os yw’n gymwys

  • eich trosiant ar gyfer y 12 mis diwethaf

  • tystiolaeth o drosiant — megis datganiadau banc, datganiadau o daliadau a didyniadau ac anfonebau

  • manylion cyfrif banc

  • eich cyfeirnod TWE (os yw’n berthnasol)

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).

Os ydych chi’n asiant, bydd angen i chi ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth rydych chi’n ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Cofrestru nawr

Os na allwch gofrestru ar-lein

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am lenwi’r ffurflen bost yn Cofrestru fel unigolyn i dderbyn taliadau gros nodiadau (PDF, 152 KB, 5 pages).

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch CIS302.

  3. Argraffwch y ffurflen hon, a’i hanfon at CThEF drwy’r post.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

I ble i anfon y ffurflen

Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
BX9 1ST

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 August 2009

Sign up for emails or print this page