Cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau
Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau i gael eich nwyddau drwy’r tollau os ydych yn symud eich nwyddau drwy leoliad wrth y ffin yn y DU sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Pwy ddylai gofrestru
Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau os ydych yn mewnforio nwyddau i’r DU neu’n allforio nwyddau allan ohoni, a hynny drwy borthladd sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Gall asiant tollau hefyd gofrestru ar eich rhan.
Os ydych yn symud nwyddau drwy borthladd sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau, mae angen i chi greu cyfeirnod symud nwyddau (yn Saesneg). Bydd hyn yn cysylltu’r holl ddatganiadau sydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y nwyddau cyn iddynt gyrraedd pen eu taith.
Cyn i chi gofrestru
Dylech ddefnyddio union yr un cyfeiriad i gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ag yr ydych wedi’i ddefnyddio ar gyfer unrhyw wasanaeth arall ar Borth y Llywodraeth.
Bydd eich cais i gofrestru yn cael ei oedi os byddwch yn defnyddio cyfeiriad gwahanol.
Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad rydych wedi’i ddefnyddio o’r blaen drwy gael mynediad at wasanaeth CThEF rydych eisoes wedi cofrestru ar ei gyfer a gwirio’ch manylion.
I gofrestru, bydd angen i chi gael rhif EORI sy’n dechrau gyda GB. Os nad oes gennych rif EORI, gallwch wneud cais am un wrth gofrestru.
Sut i gofrestru
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un ar gyfer eich busnes wrth i chi gofrestru.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Ar ôl i chi gofrestru
Mae angen i chi gael cyfeirnod symud nwyddau ar gyfer pob tro y byddwch yn symud nwyddau drwy leoliad wrth y ffin. Cewch un drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Ychwanegu aelod o’r tîm
Mae ychwanegu aelod o’r tîm at y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau yn golygu y gallwch wneud y canlynol:
- cael sawl aelod o’r tîm i ddefnyddio’r gwasanaeth yn ôl yr angen
- rheoli lefel mynediad pob aelod at y gwasanaethau yr ydych wedi cofrestru amdanynt â CThEF
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 December 2021 + show all updates
-
Translations added for Bulgarian, Croatian, Czech, French, German, Hungarian, Lithuanian, Polish, Romanian and Spanish.
-
Information about who should register for the goods vehicle movement service has been updated.
-
A new section 'Add a team member' has been included in this guidance.
-
Welsh translation added.
-
Information about who should register for Goods Vehicle Movement Service has been updated.
-
Information about how to get a goods movement reference after you've registered has been updated.
-
First published.