Canllawiau

Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu: camymddwyn proffesiynol a throseddau

Yr hyn sy'n digwydd pan fydd y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn ymchwilio i arolygydd cofrestredig adeiladu.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Ymchwiliadau

Os ydych yn arolygydd cofrestredig adeiladu (ACA), gall y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (RhDA) ymchwilio ichi pan fydd pryderon:

  • nad ydych wedi bodloni’r safonau ymddygiad ac arferion y disgwylir i ACA eu harddel
  • eich bod wedi gwneud rhywbeth sy’n debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn
  • eich bod wedi torri’r cod ymddygiad ar gyfer ACA yng Nghymru neu Loegr
  • wedi cyflawni trosedd o dan Ddeddf Adeiladau 1984 neu Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022

Gellir dechrau ar ymchwiliad os bydd pryderon yn cael eu codi gan:

  • y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (RhDA)
  • yr awdurdodau lleol
  • ACA eraill
  • cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu
  • y diwydiant
  • aelodau o’r cyhoedd
  • cyrff neu reoleiddwyr eraill

Dechrau ar ymchwiliad  

Os bydd y RhDA yn penderfynu dechrau ar ymchwiliad:  

  • bydd yn dweud wrthych ei fod wedi dechrau ar ymchwiliad, a pham mae’n cael ei gynnal
  • efallai y bydd yn dweud wrthych i ddarparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad

Mae canllawiau ar gael ar ymchwilio i weithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu (ar GOV.UK). Maen nhw’n dweud wrthych sut mae’r RhDA yn mynd ati i gynllunio, i gynnal ac i gwblhau ymchwiliadau.

Yn ystod ymchwiliad: ataliad dros dro interim

Yn ystod ymchwiliad, caiff y RhDA eich atal dros dro am gyfnod o hyd at 3 mis os bydd yn penderfynu, ar ôl ystyried y pryderon a godwyd am eich ymddygiad proffesiynol:

  • y gallai’r pryderon hynny fod yn wir
  • y gallent arwain at ganslo’ch cofrestriad os profir eu bod yn wir

Rhaid ichi beidio ag ymgymryd â gweithgareddau cyfyngedig ar ôl ichi gael eich atal dros dro.

Gallwch apelio os cewch eich atal dros dro. Bydd gwybodaeth am sut i apelio yn cael ei darparu gyda’r llythyr neu’r e-bost a fydd yn rhoi gwybod ichi am y penderfyniad.

Ar ôl i ymchwiliad gael ei gynnal  

Bydd y RhDA yn dweud wrthych beth yw canlyniad yr ymchwiliad, sef:

  • nad oes angen cymryd unrhyw gamau eraill
  • y bydd yn rhoi cyngor ichi
  • y bydd yn dweud wrthych i gymryd camau i ddatrys y problemau
  • y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio er mwyn penderfynu ar sancsiwn
  • y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio er mwyn penderfynu a ddylid eich erlyn

Sancsiynau am gamymddwyn proffesiynol

Os caiff yr achos ei gyfeirio er mwyn penderfynu ar sancsiwn, bydd y RhDA yn anfon copi atoch o’r weithdrefn ddisgyblu a sancsiynau y mae’n ei dilyn wrth fynd ati i benderfynu:

  • a ydych wedi camymddwyn yn broffesiynol
  • pa sancsiynau fydd yn cael eu rhoi

Os bydd y RhDA yn penderfynu eich bod wedi camymddwyn yn broffesiynol, gall:

  • benderfynu peidio â rhoi unrhyw sancsiynau
  • rhoi cosb ariannol ichi
  • amrywio’ch cofrestriad
  • atal eich cofrestriad dros dro
  • canslo’ch cofrestriad

Caiff y RhDA roi un neu fwy o sancsiynau yn syth. Os nad ydych yn cydymffurfio â sancsiwn, mae’n bosibl y bydd rhagor o gamau gorfodi’n cael eu cymryd.

Gallwch apelio yn erbyn unrhyw sancsiynau a roddir gan y RhDA. Bydd gwybodaeth am sut i apelio yn cael ei darparu gyda’r llythyr neu’r e-bost a fydd yn rhoi gwybod ichi am y penderfyniad.

Cosbau ariannol

Gall y RhDA benderfynu rhoi cosb ariannol o hyd at £10,000 ichi. Mewn rhai achosion difrifol, mae’n bosibl y bydd y gosb ariannol yn fwy na 10,000.

Gall methu â thalu cosb ariannol arwain at:

  • ragor o camau gorfodi
  • achos llys i adennill unrhyw symiau sy’n ddyledus

Amrywio cofrestriad

Caiff y RhDA roi cyfyngiadau neu amodau ar y gwaith y caniateir ichi ei wneud fel ACA. Bydd yr amrywiad yn cael ei gofnodi ar y gofrestr ACA.

Atal cofrestriad dros dro

Caiff y RhDA eich atal dros dro o’r gofrestr am gyfnod o hyd at 2 flynedd. Bydd yr ataliad dros dro yn cael ei gofnodi ar y gofrestr ACA.

Rhaid ichi beidio ag ymgymryd â gweithgareddau cyfyngedig ar ôl ichi gael eich atal dros dro.

Canslo cofrestriad  

Caiff y RhDA ganslo’ch cofrestriad a’ch tynnu oddi ar y gofrestr ACA. Rhaid ichi beidio ag ymgymryd â gweithgareddau cyfyngedig ar ôl i’ch cofrestriad gael ei ganslo.

Troseddau

Mae troseddau’n cynnwys:

  • rhoi cyngor neu weithredu y tu allan i gwmpas eich cofrestriad
  • gwneud rhywbeth yn fwriadol sy’n awgrymu bod gwaith o fewn cwmpas eich cofrestriad, pan nad yw
  • gweithredu fel ACA, neu’n awgrymu eich bod yn ACA, pan nad ydych wed cael eich cofrestru
  • rhwystro, twyllo neu ddynwared un o swyddogion awdurdodedig y RhDA
  • rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r RhDA
  • methu â darparu gwybodaeth y mae un o swyddogion awdurdodedig y RhDA yn gofyn amdani

Os yw’ch cofrestriad wedi’i atal dros dro, mae’n drosedd ichi:

  • ymgymryd â gweithgareddau cyfyngedig;
  • rhoi cyngor ar weithgareddau cyfyngedig
  • gwneud unrhyw beth yn fwriadol i awgrymu nad yw’ch cofrestriad wedi’i atal dros dro

Os oes tystiolaeth eich bod wedi cyflawni trosedd, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich erlyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Mawrth 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon