Rhoi gwybod am allforion sydd wedi cyrraedd neu adael porthladd yn y DU ac ni chafodd eu nodi yn CDS
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF am allforion ni chafodd eu nodi yn CDS wrth iddynt gyrraedd neu adael porthladd yn y DU.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF pan fydd eich nwyddau:
- yn cyrraedd porthladd yn y DU nad yw’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ar gyfer allforion (yn Saesneg) neu system sy’n gysylltiedig â stocrestr ar gyfer allforion, ac nad oes llwythwr cymwys ar gael
- yn ymadael porthladd yn y DU nad yw’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ar gyfer allforion (yn Saesneg) neu system sy’n gysylltiedig â stocrestr ar gyfer allforion, ac nad oes llwythwr cymwys ar gael
- yn nwyddau y gohiriwyd toll ecséis arnynt sy’n ymadael o leoliadau eraill
- sy’n defnyddio system sy’n gysylltiedig â stocrestr ar gyfer allforion
- sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau ar gyfer allforion (yn Saesneg)
- lle mae llwythwr cymwys ar gael
- sy’n cael eu hallforio, ac ni chawsoch gliriad gan CThEF ymlaen llaw
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- Datganiad o Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (DUCR)
- Prif Gyfeirnod Unigryw y Llwyth (MUCR) os cyfunwyd eich nwyddau i greu llwyth mwy o faint
- manylion o’r lle yr ydych yn anfon yr allforyn iddo ac oddi yno
Mae’n rhaid i chi lenwi un o’r ffurflenni canlynol ar-lein, cadw copi ohoni a’i hanfon drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddangosir ar y ffurflen:
- nwyddau sy’n cyrraedd (C1601) (yn Saesneg)
- nwyddau sy’n ymadael (C1602) (yn Saesneg)
- nwyddau sy’n cyrraedd ac yn ymadael heb gliriad gan CThEF ymlaen llaw (C1603) (yn Saesneg)
Ni allwch ddefnyddio ffurflen C1603 ar gyfer allforion anuniongyrchol o Ogledd Iwerddon drwy wlad yn yr UE. Os oes gennych unrhyw broblemau gydag allforion anuniongyrchol, cysylltwch â’r ddesg gymorth System Rheoli Allforion yn: ecs.helpdesk@hmrc.gov.uk.
Bydd angen i chi anfon yr holl waith papur sy’n ategu’ch datganiad, er enghraifft:
- unrhyw drwyddedau neu dystysgrifau
- anfonebau masnachol
- dogfennau cludiant
- tystiolaeth o allforio (ffurflen C1602 neu ffurflen C1603)
Sending your documents
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
-
A Welsh translation has been added.
-
Information about using this service to tell HMRC about your goods has been updated.
-
Added translation