Rhoi gwybod am dwyll a llygredd i APHA
Rhoi gwybod am dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywun wedi cyflawni achos o dwyll neu lygredd mewn perthynas â diogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion, mae’n rhaid i chi roi gwybod i APHA.
Gallwch roi gwybod am y canlynol:
- achosion o ddwyn neu gamddefnyddio asedau ac eiddo
- ‘ymhoniad anwir’ sef dweud celwydd neu guddio gwybodaeth a ffeithiau
- twyll sy’n ymwneud â chaffael, cytundeb, credyd neu daliad
- twyll cyflogres a gwallau mewn lwfansau
- camddefnydd o eiddo neu wasanaethau Defra fel cerbydau masnachol, ceir hurio, offer a chyfarpar
- seiberdroseddu a thwyll sy’n ymwneud â hunaniaeth
Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a roddir i ni yn gyfrinachol (yn breifat) ac yn unol â’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
Sut i roi gwybod
Gallwch anfon gwybodaeth yn ddienw, ond bydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i ymchwilio a rhoi adborth.
Dylech roi gwybod cyn gynted ag y byddwch yn amau rhywbeth neu’n dod yn ymwybodol o rywbeth.
Ffôn:
- yn y DU: 03459 33 55 77
- y tu allan i’r DU: +44 20 7238 6951
E-bost: defra.helpline@defra.gov.uk
Post:
Defra Helpline
Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
United Kingdom
Beth i’w gynnwys
Peidiwch â cheisio casglu rhagor o dystiolaeth ategol heb gysylltu â ni yn gyntaf. Efallai y bydd hyn yn peri risg i chi a gallai annilysu ymchwiliadau gennym neu’r heddlu.
Gallwch ofyn am fod yn ddienw, ond efallai na fyddwn yn gallu gwarantu hynny, er enghraifft mewn achos troseddol. Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn trafod unrhyw debygolrwydd y bydd eich hunaniaeth yn cael ei datgelu.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod, dylech gynnwys:
- eich enw llawn a’ch manylion cyswllt
- disgrifiad o’r mater - dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl, fel arwyddocâd neu werth, enwau, dyddiadau, amseroedd, lleoliadau, manylion y contract, taliadau
- a yw’r mater wedi cael ei godi o’r blaen
- a oes gennych unrhyw ddogfennaeth neu dystiolaeth arall – peidiwch â’i hanfon eto, efallai y byddwn yn gofyn amdani yn y dyfodol
Sut rydym yn gwarchod chwythwyr chwiban
Efallai y byddwch yn gweithredu fel chwythwr chwiban (fel arfer fel cyflogai yn y sefydliad neu’r cwmni rydych yn rhoi gwybod amdano). Yn yr achos hwn, byddwn yn gwneud ein gorau i gadw eich hunaniaeth yn gyfrinachol rhag eich cyflogwr neu’ch rheolwyr, oni bai eich bod yn dewis fel arall.
Os ydych wedi’ch cyflogi gan Grŵp Defra, gweler y canllawiau ar chwythu’r chwiban ar y fewnrwyd staff berthnasol am ragor o wybodaeth ar fesurau diogelu. Os nad ydych yn siŵr a yw datgeliad wedi’i ddiogelu, dylech gael cyngor annibynnol.
Rhoi gwybod am dwyll i eraill
Gallwch hefyd roi gwybod i’r canlynol:
Cysylltwch â’r heddlu os ydych yn amau bod trosedd wedi’i chyflawni.
Cysylltwch â CThEF os oes gennych bryderon yn ymwneud â threth, er enghraifft gwyngalchu arian ac efadu treth.
Gallwch hefyd rhoi gwybod am dwyll, gwe-rwydo a sgamiau i Action Fraud