Arwyddion traffig
Arwyddion traffig a ddefnyddir, gan gynnwys arwyddion yn rhoi gorchmynion, arwyddion rhybudd, arwyddion cyfeiro, arwyddion gwybodaeth ac arwyddion gwaith ffordd.
Er y gwelir llawer o’r arwyddion a ddefnyddir yn aml yn Rheolau’r Ffordd Fawr, ceir esboniad cynhwysfawr o’n system arwyddion yn llyfryn yr Adran Adnabod eich arwyddion traffig, sydd ar werth mewn llyfrwerthwyr. Mae’r llyfryn hefyd yn dangos ac yn egluro’r mwyafrif llethol o arwyddion y mae defnyddiwr y ffordd yn debygol o ddod ar eu traws.
Nid yw’r arwyddion a ddangosir yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn cael eu tynnu i’r un graddfa. Yng Nghymru, defnyddir fersiynau dwyieithog ar gyfer rhai arwyddion gan gynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o enwau lleoedd. Efallai y bydd rhai fersiynau hŷn o arwyddion yn dal i’w gweld ar y ffyrdd.
Mae arwyddion â chylchoedd coch fel arfer yn rhai gwaharddol. Mae platiau dan arwyddion yn disgrifio eu neges.
Mae arwyddion â chylchoedd glas heb ffin goch fel arfer yn rhoi cyfarwyddyd cadarn.
Siâp trionglog yn bennaf
Dynodir y flaenoriaeth drwy’r llwybr yn ôl y llinell ehangach.
Gellir dangos graddiannau fel cymhareb h.y. 20% = 1:5
Siap petryal yn bennaf
Arwyddion ar draffyrdd - cefndiroedd glas
Arwyddion ar brif ffyrdd - cefndiroedd gwyrdd
Mae paneli glas yn dangos bod y draffordd yn dechrau wrth y gyffordd o’ch blaen. Gellir cyrraedd traffyrdd a ddangosir mewn cromfachau hefyd ar hyd y llwybr a nodir. Mae paneli gwyn yn nodi llwybrau lleol neu lwybrau nad ydynt yn brif ffyrdd sy’n arwain o’r gyffordd o’ch blaen. Mae paneli brown yn dangos y ffordd i atyniadau twristiaid. Gellir dangos enw’r gyffordd ar ben yr arwydd. Mae symbol yr awyren yn dangos y llwybr i faes awyr. Gellir cynnwys symbol i roi rhybudd am berygl neu gyfyngiad ar hyd y llwybr hwnnw.
Arwyddion ar lwybrau lleol neu lwybrau nad ydynt yn brif ffyrdd - ffiniau du
Mae paneli gwyrdd yn dangos bod y prif lwybr yn dechrau wrth y gyffordd o’ch blaen. Mae rhifau llwybrau ar gefndir glas yn dangos y cyfeiriad i draffordd. Mae rhifau llwybrau ar gefndir gwyrdd yn dangos y cyfeiriad at brif lwybr.
Arwyddion cyfeirio eraill
Pob un yn siap petryal
Lôn benodol ar gyfer cerbydau â sawl teithiwr (HOV) - gweler rheol 142