Atodiad 4. Defnyddiwr y ffordd a'r gyfraith
Gwybodaeth am ddefnyddwyr y ffordd a'r gyfraith, gan gynnwys deddfau a rheoliadau.
Mae’r rhestr a ganlyn i’w gweld ar ffurf gryno trwy gydol y Rheolau. Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw cynhwysfawr, ond yn ganllaw i rai o bwyntiau pwysig y gyfraith. I gael union eiriad y gyfraith, cyfeiriwch at y Deddfau a’r Rheoliadau amrywiol (fel y’u diwygiwyd) a nodir yn y Rheolau. Mae’r byrfoddau wedi’u rhestru isod.
Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn berthnasol i holl ffyrdd ledled Prydain Fawr, er bod rhai eithriadau. Y diffiniad o ffordd yng Nghymru a Lloegr yw ‘unrhyw briffordd ac unrhyw ffordd arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddi ac mae’n cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt’ (RTA 1988 sect 192(1)). Yn yr Alban, ceir diffiniad tebyg a gaiff ei ymestyn i gynnwys unrhyw ffordd y mae gan y cyhoedd hawl tramwyo drosti (R(S)A 1984 sect 151(1)).
Mae’n bwysig nodi bod cyfeiriadau at ‘ffordd’ yn gyffredinol felly yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau beiciau, a llawer o ffyrdd a thramwyfeydd ar dir preifat (gan gynnwys llawer o feysydd parcio). Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gyfraith yn berthnasol iddynt a gall fod rheolau ychwanegol ar gyfer llwybrau neu ffyrdd penodol. Mae rhai troseddau gyrru difrifol, gan gynnwys troseddau yfed a gyrru, hefyd yn berthnasol i bob man cyhoeddus, er enghraifft meysydd parcio cyhoeddus.
Mae’r cyfeiriad at ‘ardal argyfwng’ yn y Cod yn ‘ardal loches argyfwng’ fel y’i diffinnir yn y Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982 fel y’i diwygiwyd gan y Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) (Gwelliant) (Lloegr) 2015.
Mae Deddfau a rheoliadau ar gael fel y’u deddfir neu fel y’u diwygiwyd yn www.legislation.gov.uk ac maent ar gael yn eu fformat print gwreiddiol o The Stationery Office.
Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 | PPVA |
Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 | DCCPhA |
Deddf Ffyrdd (Yr Alban) 1984 | R (S) A |
Deddf Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1974 | GL(GP)A |
Deddf Priffyrdd 1835 neu 1980 (fel y nodir) | HA |
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 | RTRA |
Deddf Traffig Ffyrdd 1984 | RTA |
Gorchymyn Swyddogaethau Wardeiniaid Traffig 1970 | FTWO |
Rheoliadau Beiciau Pedal (Adeiladwaith a Defnydd) 1983 | PCUR |
Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladwaith a Defnydd) 1986 | CUR |
Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982 | MT(E&W)R |
Deddf Ceffylau (Hetiau amddiffynnol ar gyfer marchogion ifanc) 1990 | H(PHYR)A |
Deddf Dedfrydu 2020 | SA |
Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 | EPA |
Deddf Diogelwch Ffyrdd 2006 | RSA |
Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 | PRA |
Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 | NRSWA |
Deddf Gwahardd Ysmygu (Plant mewn cerbydau modur) (Yr Alban) 2016 | SP (CIMV) (S) A |
Deddf Rheoli Traffig 2004 | TMA |
Deddf Tollau a Chofrestru Cerbydau 1994 | VERA |
Deddf Traffig Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995 | RT(ND)A |
Deddf Traffig Ffyrdd 1984, 1988 neu 1991 fel y nodir | RTA |
Deddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988 | RTOA |
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) 2022 (OS 2022/800) | RR(20)O |
Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002 | TSRGD |
Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Croesfannau Sebra, Pelican a Phâl 1997 | ZPPPCRGD |
Rheoliadau Beiciau Modur (Diogelwyr llygaid)1999 | MC(EP)R |
Rheoliadau Beiciau Modur (Helmau amddiffynnol) 1998 | MC (PH) R |
Rheoliadau Beiciau Pedal (Adeiladwaith a Defnydd) 1983 | PCUR |
Rheoliadau Ceffylau (Hetiau amddiffynnol ar gyfer marchogion ifanc) 1992 | H(PHYR)R |
Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Arddangos marciau cofrestru)2001 | RV(DRM)R |
Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002 | RV(R&L)R |
Rheoliadau Cerbydau Modur (Amrywio terfynau cyflymder) (Cymru a Lloegr)2014 | MV(VSL)(E&W) |
Rheoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo gwregysau diogelwch) (Diwygiad) 2006 | MV(WSB)(A)R |
Rheoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo gwregysau diogelwch) 1993 | MV(WSB)R |
Rheoliadau Cerbydau Modur (Plant yn y Seddi Blaen yn Gwisgo Gwregysau Diogelwch)1993 | MV(WSBCFS)R |
Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999 | MV(DL)R |
Rheoliadau Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (Terfyn Rhagnodedig) (Yr Alban) 2014 | PLSR |
Rheoliadau Defnyddio Cerbydau Pobl Anabl ar Briffyrdd 1988 | UICHR |
Rheoliadau Di-fwg (Cerbydau Preifat) 2015 | S-f (PV) R |
Rheoliadau Di-fwg (Eithriadau a Cherbydau) 2007 os 2007/765 | TSf(EV)* |
Rheoliadau Goleuo Cerbydau Ffyrdd 1989 | RVLR |
Rheoliadau Gwahardd Ysmygu mewn Mangreoedd Penodol (Yr Alban) 2006. SI yr Alban 2006/Rhif 90 | TPSCP(S)R * |
Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg ayyb (Cymru) 2007 os 2007/W787 | TSfP(W)R * |
Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg etc (Cymru) (Diwygiad) 2015 | S-f(W)R |
Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) (Diwygiad) 2004 | MT(E&W)(A)R |
Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Yr Alban) (Diwygiad) 2004 | MT(S)(A)R |
Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Yr Alban) 1995 | MT(S)R |
*Mae deddfwriaeth benodol yn berthnasol i ysmygu mewn cerbydau sy’n ffurfio gweithleoedd.
Am wybodaeth, ewch i: