Atodiad 5. Cosbau
Gwybodaeth a rheolau am gosbau, gan gynnwys pwyntiau ac anghymhwyso, tabl cosb, gyrwyr newydd a chanlyniadau eraill o droseddu.
Y Senedd sy’n pennu uchafswm y cosbau ar gyfer troseddau traffig ffyrdd. Mae difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y gosb uchaf. Y llysoedd sydd i benderfynu pa ddedfryd i’w gosod yn unol ag amgylchiadau.
Mae’r Tabl cosb yn nodi rhai o’r prif droseddau, a’r cosbau cysylltiedig. Ceir amrywiaeth eang o droseddau eraill mwy penodol nad ydynt, er mwyn symlrwydd, yn cael eu dangos yma. Mae’r system pwyntiau cosb ac anghymhwyso yn cael ei ddisgrifio isod.
Bwriad y system pwyntiau cosb yw atal gyrwyr a beicwyr modur rhag ddilyn arferion moduro anniogel. Gall rhai troseddau difoduro, e.e. methu cywiro diffygion cerbyd, hefyd ddenu pwyntiau cosb.
Mae’n RHAID i’r llys orchymyn pwyntiau i’w hardystio ar y drwydded yn ôl y rhif sefydlog neu’r amrediad a osodir gan y Senedd. Mae cronni pwyntiau cosb yn rhybudd i yrwyr a beicwyr modur bod perygl anghymhwyso os bydd troseddau ychwanegol yn cael eu cyflawni.
Y gyfraith RTOA sects 44 & 45
Mae’n RHAID i yrrwr neu feiciwr modur sy’n cronni 12 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o 3 blynedd gael ei anghymhwyso. Bydd hyn am gyfnod o 6 mis o leiaf, neu fwy os yw’r gyrrwr neu’r beiciwr modur wedi’u hanghymhwyso yn y gorffennol.
Y gyfraith RTOA sect 35
Ar gyfer pob trosedd sy’n arwain at bwyntiau cosb, mae gan y llys bŵer i orchymyn i ddeiliad y drwydded gael ei anghymhwyso yn ôl disgresiwn. Gall hyn fod ar gyfer unrhyw gyfnod y gwêl y llys yn dda, ond fel arfer bydd rhwng wythnos ac ychydig o fisoedd.
Yn achos troseddau difrifol, fel gyrru peryglus ac yfed a gyrru, mae’n RHAID i’r llys orchymyn anghymhwysiad. Y cyfnod lleiaf yw 12 mis, ond ar gyfer ad-droseddwyr neu lle mae lefel yr alcohol yn uchel, gall fod yn hirach. Er enghraifft, bydd ail drosedd gyrru ac yfed o fewn 10 mlynedd yn arwain at o leiaf 3 blynedd o anghymhwysiad.
Y gyfraith RTOA sect 34
Trosedd | Uchafswm cosb | Pwyntiau cosb |
---|---|---|
*Achosi marwolaeth trwy yrru peryglus | Carchar am oes / Dirwy ddiderfyn / Gorfodol - 5 mlynedd o isafswm) | 3 i 11 (os na chaiff ei ddiarddel trwy eithriad) |
*Gyrru’n beryglus | 2 flynedd o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymwysiad gorfodol | 3 i 11 (os nad yw wedi’i anghymhwyso yn ôl eithriad) |
*Achosi marwolaeth trwy yrru peryglus o dan ddylanwad diod neu gyffuriau | Carchar am oes / Dirwy ddiderfyn / Gorfodol - 5 mlynedd o isafswm) | 3 i11 (os na chaiff ei ddiardell trwy eithriad) |
Gyrru diofal ac anystyriol | Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 3 i 9 |
Gyrru heb fod yn ffit oherwydd yfed neu gyffuriau neu gydag alcohol dros ben: neu fethu â darparu sbesimen i’w ddadansoddi | 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad gorfodol | 3 i 11 (os nad yw wedi’i anghymhwyso’n yn ôl eithriad) |
Methu â stopio ar ôl damwain neu fethu ag adrodd am ddamwain | 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 5 i 10 |
Gyrru tra’n anghymwys | 6 mis o garchar (12 mis yn yr Alban) / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 6 |
Gyrru ar ôl gwrthod neu ddirymu trwydded ar sail feddygol | 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymwysiad yn ôl disgresiwn | 3 i 6 |
Gyrru heb yswiriant | Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 6 i 8 |
Defnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus | LGV neu PCV diderfyn, cerbydau eraill £2,500 / Anghymwysiad gorfodol os yw’r drosedd wedi’i chyflawni o fewn 3 blynedd i euogfarn flaenorol am drosedd debyg - isafswm o 6 mis. Yn ôl disgresiwn fel arall | 3 ym mhob achos |
Methiant i reoli cerbyd yn iawn neu edrych yn llawn ar y ffordd a thraffig o’ch blaen | £1,000 Dirwy (£2,500 ar gyfer PCV neu gerbyd nwyddau) / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 3 |
Defnyddio ffôn symudol a ddelir â llaw wrth yrru | £1,000 Dirwy (£2,500 ar gyfer PCV neu gerbyd nwyddau) / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 6 |
Gyrru heblaw am yn unol â thrwydded | £1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 3 i 6 |
Goryrru | £1,000 dirwy (£2,500 am droseddau traffordd) / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 3 i 6, neu 3 (cosb benodedig) |
Troseddau goleuadau traffig | £1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | 3 |
Dim tystysgrif MOT | £1,000 dirwy | - |
Troseddau gwregysau diogelwch | £500 dirwy | - |
Beicio peryglus | £2,500 dirwy | - |
Beicio’n ddiofal | £1,000 dirwy | - |
Beicio ar balmant | £500 dirwy | - |
Methu â nodi gyrrwr cerbyd | £1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn ôl disgresiwn | - |
*Pan fydd llys yn anghymhwyso person ar ei gael yn euog am un o’r troseddau hyn, mae’n rhaid iddo orchymyn fail brawf estynedig. Mae gan y llysoedd ddisgresiwn hefyd i orchymyn ailbrofi am unrhyw drosedd arall sy’n arwain at bwyntiau cosb, fail brawf estynedig pan fo anghymhwysiad yn orfodol, a phrawf cyffredin lle nad oes rhaid anghymhwyso.
Ymhellach, mewn rhai achosion difrifol, mae’n RHAID i’r llys (yn ogystal â gosod cyfnod penodol o anghymhwyso) orchymyn i’r troseddwr gael ei anghymwyso nes iddo basio prawf gyrru. Mewn achosion eraill mae gan y llys bŵer disgresiwn i orchymyn anghymhwysiad o’r fath. Gall y prawf fod yn brawf hyd arferol neu’n brawf estynedig yn ôl natur y drosedd.
Y gyfraith RTOA sect 36
Mae rheolau arbennig fel y nodir isod yn berthnasol am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad pasio eu prawf gyrru cyntaf, i yrwyr a beicwyr modur o
-
y DU, yr UE/AEE, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Gibraltar a basiodd eu prawf gyrru cyntaf yn unrhyw rai o’r gwledydd hynny
-
gwledydd tramor eraill sy’n gorfod pasio prawf gyrru yn y DU i ennill trwydded y DU, ac os felly caiff prawf gyrru’r DU ei drin fel eu prawf gyrru cyntaf; a
-
gwledydd tramor eraill sydd (heb angen prawf) wedi cyfnewid eu trwydded am drwydded y DU ac wedi pasio prawf gyrru yn y DU wedyn i yrru math arall o gerbyd, ac os felly caiff prawf gyrru’r DU ei drin fel ei brawf gyrru cyntaf. Er enghraifft, bydd gyrrwr sy’n cyfnewid trwydded dramor (car) am drwydded y DU (car) ac sy’n pasio prawf yn ddiweddarach i yrru math arall o gerbyd (e.e. HGV) yn destun y rheolau arbennig.
Os yw person sy’n destun y rheolau arbennig yn cronni 6 neu fwy o bwyntiau cosb cyn diwedd y cyfnod o 2 flwyddyn (gan gynnwys unrhyw bwyntiau a gaffaelwyd cyn pasio’r prawf), caiff ei drwydded ei dirymu’n awtomatig. Er mwyn adennill y drwydded mae’n rhaid iddo ailymgeisio am drwydded dros dro a gall yrru dim ond fel dysgwr hyd nes y bydd yn pasio prawf ychwanegol (gweler hefyd Atodiad 8 – Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd).
Y gyfraith RT(ND)A
Sylwch. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydynt yn talu am droseddau drwy gosb benodedig. Nid yw gyrwyr yn y grŵp cyntaf (DU, UE/AEE ac ati) sydd eisoes â thrwydded lawn ar gyfer un math o gerbyd yn cael eu heffeithio gan y rheolau arbennig os byddant yn pasio prawf yn ddiweddarach i yrru math arall o gerbyd.
Pan fo trosedd yn cael ei chosbi gan garchar yna gall y cerbyd a ddefnyddir i gyflawni’r drosedd gael ei atafaelu.
Y gyfraith SA sects 152, 153, 154 & 155
Yn ogystal â’r cosbau y caiff llys benderfynu eu gosod, mae cost yr yswiriant yn debygol o godi’n sylweddol yn dilyn euogfarn am drosedd yrru ddifrifol. Mae hyn oherwydd bod cwmnïau yswiriant yn ystyried bod gyrwyr o’r fath yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad.
Bydd gyrwyr a gafodd eu gwahardd am yfed a gyrru ddwywaith o fewn 10 mlynedd, neu unwaith os ydynt dros 2 a hanner gwaith y terfyn cyfreithiol, neu’r rhai a wrthododd roi sbesimen, hefyd yn gorfod bodloni Cangen Feddygol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad oes ganddynt broblem alcohol a’u bod fel arall yn ffit i yrru cyn i’w trwydded gael ei dychwelyd ar ddiwedd cyfnod yr anghymhwyso. Gall camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn barhaus arwain at dynnu trwydded yrru yn ôl.