Marciau ffyrdd
Marciau ffyrdd a ddefnyddir, gan gynnwys y rhai ar draws y gerbydffordd, ar hyd y gerbydffordd, wrth ymyl y gerbydffordd, ar y cwrb neu ar ymyl y gerbydffordd a marciau ffyrdd eraill.
Llinell ganol Gweler Rheol 127
Llinell rhybudd Gweler Rheol 127
Llinellau gwyn dwbl Gweler Rheol 128 a 129
Llinellau gwyn dwbl Gweler Rheol 128 a 129
Gweler Rheol 130
Llinell lôn Gweler Rheol 131
Cyfyngiadau aros
Mae’r cyfyngiadau aros a ddangosir gan linellau melyn yn berthnasol i gerbydffyrdd, palmentydd a’r ymylon. Gallwch stopio i lwytho neu ddadlwytho (oni bai bod cyfyngiadau llwytho fel y disgrifir isod) neu pan fydd teithwyr yn mynd i mewn i gerbyd neu’n dod allan o gerbyd. Mae llinellau melyn dwbl yn golygu dim aros ar unrhyw adeg, oni bai bod arwyddion sy’n nodi cyfyngiadau tymhorol yn benodol. Mae’r amseroedd y mae’r cyfyngiadau yn berthnasol ar gyfer marciau ffyrdd eraill i’w gweld ar blatiau gerllaw neu ar arwyddion mynediad i barthau parcio rheoledig. Os na ddangosir unrhyw ddiwrnodau ar yr arwyddion, mae’r cyfyngiadau mewn grym bob dydd gan gynnwys dyddiau Sul a gwyliau banc.
Mae marciau cilfachau gwyn ac arwyddion unionsyth (gweler isod) yn nodi lle caniateir parcio.
Rheolaethau stopio llwybrau coch
Defnyddir llinellau coch ar rai ffyrdd yn lle llinellau melyn. Mae’r llinellau coch dwbl a sengl a ddefnyddir ar lwybrau coch yn dangos bod stopio i barcio, llwytho/dadlwytho neu i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan o gerbyd (ac eithrio tacsi trwyddedig neu os oes gennych Fathodyn Glas) wedi’i wahardd. Mae’r llinellau coch yn berthnasol i gerbydffyrdd, palmentydd a’r ymylon. Mae’r amseroedd y mae gwaharddiadau’r llinell goch yn berthnasol i’w gweld ar arwyddion cyfagos, ond mae’r llinell goch ddwbl BOB AMSER yn golygu dim stopio ar unrhyw adeg. Ar lwybrau coch, gallwch stopio i barcio, llwytho/dadlwytho mewn blychau sydd wedi’u marcio’n arbennig ac mae arwyddion cyfagos yn nodi’r amserau a’r dibenion a’r amser a ganiateir. Mae blwch WEDI’I FARCIO MEWN COCH yn dangos efallai dim ond at y diben a bennir am ran o’r diwrnod y gall fod ar gael (e.e. rhwng cyfnodau prysur). Mae blwch WEDI’I FARCIO MEWN GWYN yn golygu ei fod ar gael drwy’r dydd.
DIM OND CANLLAW I’R CYFYNGIADAU A’R RHEOLAETHAU SYDD MEWN GRYM Y GALL Y LLINELLAU MELYN A CHOCH UNIGOL EU RHOI, AC MAE’N RHAID YMGYNGHORI AG ARWYDDION, GERLLAW NEU AR FYNEDIAD I BARTH.
Cyfyngiadau llwytho ar ffyrdd nad ydynt yn Llwybrau Coch
Mae marciau melyn ar y cwrb neu ar ymyl y gerbydffordd yn dangos y gwaherddir llwytho neu ddadlwytho ar yr adegau a ddangosir ar y platiau du a gwyn cyfagos. Gallwch stopio wrth i deithwyr fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan o gerbyd. Os na nodir unrhyw ddiwrnodau ar yr arwyddion, mae’r cyfyngiadau mewn grym bob dydd gan gynnwys dyddiau Sul a gwyliau banc.
DYLECH BOB AMSER WIRIO’R AMSEROEDD A DDANGOSIR AR Y PLATIAU.
Nodir darnau o’r ffordd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer cerbydau yn llwytho a dadlwytho gan farc ‘cilfach’ gwyn â’r geiriau ‘Llwytho yn unig’ ac arwydd â’r symbol ‘troli’ gwyn ar las. Mae’r arwydd hwn hefyd yn dangos a yw llwytho a dadlwytho yn gyfyngedig i gerbydau nwyddau a’r amseroedd y gellir defnyddio’r gilfach. Os na ddangosir unrhyw amserau neu ddiwrnodau, gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Ni chaiff cerbydau barcio yma os nad ydynt yn llwytho nac yn dadlwytho.
Gweler Rheol 243
Gweler Rheol 141
Cyffordd sgwâr - Gweler Rheol 174