Sefydlu ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’
Sut i sefydlu a defnyddio'ch 'Cyfrif Comisiwn Elusennau' newydd i gael mynediad at wasanaethau ar-lein ar ran eich elusen.
Yn berthnasol i England and Gymru
Dechrau arni
Bydd angen i bob defnyddiwr sefydlu ei ‘Gyfrif Comisiwn Elusennau’ ei hun gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair unigol (byddwn yn anfon eich cod mynediad i’r cyfeiriad e-bost hwn bob tro y byddwch yn mewngofnodi).
Mae gwahanol gamau ar gyfer sefydlu eich cyfrif yn dibynnu ar eich rôl. Bydd eich rôl hefyd yn pennu pa ganiatâd a mynediad y gallwch eu cael. Gallwch fynegi â rhagor o wybodaeth ar gyfer pob swydd isod.
Cyn i chi edrych ar y canllawiau sy’n benodol i’ch rôl, nodwch y canlynol.
Rhaid i’r cyswllt elusennol (pwy bynnag sy’n cael ei enwi ar ein cofnodion fel person cyswllt ar gyfer eich elusen) sefydlu eu cyfrif yn gyntaf fel y gallant wahodd ymddiriedolwyr a defnyddwyr trydydd parti i sefydlu eu cyfrif.
Rydym wedi anfon dolenni sefydlu at bron pob cyswllt elusen a gofrestrwyd gyda ni cyn mis Tachwedd 2022. Mae’r rhan fwyaf o elusennau bellach wedi sefudlu eu ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’.
-
Os ydych yn gyswllt elusennol ac wedi derbyn dolen, ond heb sefydlu eich cyfrif eto, byddem yn eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosibl cyn i’r ddolen ddod i ben. Gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor ac arweiniad drwy glicio ar ‘cyswllt elusen’ isod.
-
Os nad ydych erioed wedi derbyn dolen gennym ni, gallai hyn fod oherwydd problemau gyda’ch data, yn enwedig os ydych yn gweithio gydag elusennau lluosog ac wedi cofrestru nifer o gyfeiriadau e-bost.
Rydym yn gweithio i ddatrys y materion hyn a byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i ni ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol. Ar ôl i ni wneud hynny, byddwn yn anfon dolen atoch. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.
Peidiwch â phoeni, byddwn yn diwygio dyddiad y ffurflenni blynyddol ar gyfer unrhyw elusennau yr effeithir arnynt i ddangos eich bod wedi’u ffeilio ar amser.
-
Gall cysylltiadau elusen sydd newydd gofrestru neu unrhyw un sydd angen dolen newydd ddod o hyd i ganllawiau ar ofyn am hyn isod.
Dilynwch y canllawiau ar gyfer eich rôl i sefydlu a dechrau defnyddio’ch cyfrif:
- cyswllt elusen
- ymddiriedolwr
- trydydd parti (unrhyw un nad yw’n gyswllt neu’n ymddiriedolwr, er enghraifft, gweithiwr elusen neu gynghorydd proffesiynol fel cyfreithiwr neu gyfrifydd)
Os ydych yn ymwneud â mwy nag un elusen, byddwch yn gweld eich holl elusennau trwy un cyfrif. Ystyriwch beth yw’r cyfeiriad e-bost gorau i’w ddefnyddio cyn i chi sefydlu’ch cyfrif.
Bydd lefel eich mynediad ar gyfer pob elusen yn eich cyfrif yn cael ei bennu gan eich rôl neu’ch perthynas â’r elusen honno.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 November 2023 + show all updates
-
Additional guidance added and content rearranged to better reflect different users.
-
This page has been restructured to make it easier to use.
-
First published.