Mewngofnodi i’ch cyfrif darparwr gofal plant ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Mewngofnodwch, rheolwch a defnyddiwch eich cyfrif ar-lein i gael taliadau gan rieni.
Mae ffordd wahanol i fewngofnodi i Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych yn rhiant.
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth cyn y gallwch gael taliadau gan rieni sy’n defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.
Mewngofnodi i’ch cyfrif
Bydd angen eich ID Defnyddiwr, sy’n 11 digid, a’ch cyfrinair arnoch. Mae’r ID Defnyddiwr i’w weld ar eich llythyr cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.
Os na chawsoch lythyr neu os ydych wedi colli’ch ID Defnyddiwr, cysylltwch â llinell Gymorth y Gwasanaeth Gofal Plant.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Cael taliadau gan rieni
Gall rhieni dod o hyd i’ch manylion drwy eu cyfrif gofal plant wrth chwilio am un o’r canlynol:
-
eich enw
-
eich cyfeiriad
-
eich cod post
-
eich cyfeirnod y rheoleiddiwr
Os yw’ch manylion wedi’u cadw gan reoleiddiwr, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r rhieni eu bod yn gallu chwilio amdanoch gan ddefnyddio’ch cyfeirnod y rheoleiddiwr a’ch cod post.
Ar ôl i riant wneud taliad i chi o’i gyfrif gofal plant ar gyfer swm:
-
sydd hyd at, ac yn cynnwys, £2000 — dylai’r taliad ymddangos yn eich cyfrif banc cyn pen 24 awr, yn dibynnu ar eich banc
-
sy’n £2001 neu fwy — gall gymryd 3 i 5 diwrnod gwaith i’r taliad ymddangos yn eich banc
Paru taliadau â phlentyn
Ar eich cyfriflen banc, bydd bob taliad yn cynnwys cyfeirnod unigryw y plentyn, sy’n cynnwys y canlynol:
-
4 llythyren — llythyren gyntaf enw’r plentyn a 3 llythyren gyntaf cyfenw’r plentyn
-
5 rhif, wedi’u dilyn gan ‘TFC’
Er enghraifft, ‘AJON12345TFC’.
Bydd angen i chi gael y cyfeirnod hwn gan y rhiant cyn i chi gael eich talu.
Ad-dalu taliadau
Os bydd angen i chi wneud ad-daliad i riant, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
-
talu’r ad-daliad o’r cyfrif banc a gafodd y taliad gwreiddiol
-
talu’r ad-daliad yn ôl i’r cyfrif gofal plant a anfonodd y taliad gwreiddiol
Bydd angen i chi ofyn am rif cyfrif gofal plant y rhiant – mae’r rhif hwn yn rhif unigryw sy’n 13 digid o hyd ac yn dechrau gyda ‘1100’. Mae’n rhaid i chi gynnwys rhif y cyfrif gofal plant wrth wneud ad-daliad.
Os na allwch gael yr wybodaeth hon gan y rhiant, cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Gofal Plant.
Sut i wneud ad-daliad
Bydd angen i chi ad-dalu’r rhiant drwy gyfrif banc eich busnes gofal plant gan ddefnyddio’r canlynol:
-
enw’r cyfrif — Tax Free Childcare
-
rhif y cyfrif — 10027165
-
cod didoli — 60 89 71
-
cyfeirnod — rhif unigryw cyfrif gofal plant y rhieni, sy’n 13 digid o hyd
Mae’n rhaid i chi ddewis cyfrif busnes yn ystod y broses ad-dalu.
Pa mor hir fydd ad-daliad yn cymryd
Os ydych yn gwneud taliad drwy:
-
Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr) — bydd hyn yn cymryd hyd at 3 i 5 diwrnod gwaith
-
Taliadau Cyflymach — bydd hyn yn cymryd hyd at 24 awr
Ni allwch wneud ad-daliad i riant drwy ddefnyddio CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) na chwaith â siec.
Rheoli eich cyfrif
Cadw eich manylion yn gyfredol
Dylech gadw manylion eich cyfrif banc yn gyfredol yn eich cyfrif darparwr gofal plant, gan mai i’r cyfrif hwn bydd yr holl daliadau gan rieni yn cael eu hanfon.
Os ydych am newid eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost neu brif gyswllt eich cyfrif, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch rheoleiddiwr. Ar ôl i’r newidiadau cael eu gwneud, bydd eich cyfrif gofal plant yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig gyda’r manylion newydd.
Enwebu dirprwy
Gallwch ofyn i rywun arall rheoli’ch cyfrif darparwr gofal plant ar eich rhan. Gelwir hyn yn enwebu dirprwy.
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif darparwr gofal plant gallwch ddefnyddio’r opsiwn ar gyfer enwebu dirprwy er mwyn ychwanegu person arall i reoli’ch cyfrif ar eich rhan.
Mae’n rhaid i’ch dirprwy enwebedig fod yn rhywun sy’n gweithio gyda chi neu yn eich swyddfa leol. Mae’n rhaid bod ganddynt fynediad at eich cyfrif darparwr gofal plant.
I roi mynediad i’r person hwn, bydd angen y manylion canlynol arnoch:
-
enw’r person
-
cyfeiriad y person
-
cyfeiriad e-bost y person
Byddwn yn anfon llythyr dirprwy atynt yn egluro’r cyfrifoldebau.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 October 2024 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
Information on where to find your user ID has been added. We have updated information about receiving payments from parent, refunding a payments, and nominating a delegate.
-
First published.