Canllawiau

Cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch cleient yn wirfoddol ar gyfer y cynl-lun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os ydych yn asiant.

Beth yw’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod am incwm a threuliau os yw’ch cleient yn unig fasnachwr neu’n landlord. Bydd angen i chi wneud y canlynol:  

  • defnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • cadw cofnodion digidol o incwm a threuliau busnes eich cleient
  • anfon diweddariadau chwarterol atom
  • cyflwyno Ffurflen Dreth, ac mae’n rhaid i’ch cleient dalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol

Pwy ddylai gofrestru a phryd 

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y gallwch gofrestru’ch cleient i’n helpu i brofi a datblygu’r gwasanaeth. O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd y cynllun yn dod yn orfodol fesul cam - bydd y camau hyn yn seiliedig ar gyfanswm incwm blynyddol eich cleient o hunangyflogaeth neu eiddo.

Dylech wneud y canlynol:

  1. Gwirio pa gleientiaid sydd angen cofrestru.  

  2. Gwirio pryd y mae angen i chi gofrestru’ch cleientiaid.  

Os bydd angen i’ch cleient gofrestru yn y dyfodol, gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth yn wirfoddol nawr — ar gyfer pob un o ffynonellau incwm eich cleient o hunangyflogaeth ac eiddo
  • parhau i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer

Os nad ydych yn asiant, mae ffordd wahanol o gofrestru fel unigolyn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Pwy sy’n gallu cofrestru’n wirfoddol  

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi pan fyddwch yn cofrestru’ch cleient. Bydd hyn yn cadarnhau a yw’ch cleient yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol.

Gallwch gofrestru’ch cleient yn wirfoddol os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae gan CThEF fanylion personol diweddaraf eich cleient
  • mae’ch cleient yn breswylydd yn y DU
  • mae gan eich cleient rif Yswiriant Gwladol
  • mae’ch cleient wedi cyflwyno o leiaf un Ffurflen Dreth Hunanasesiad, neu rydych wedi gwneud hyn ar ei ran
  • mae cofnodion treth eich cleient yn gyfredol — er enghraifft, nid oes unrhyw rwymedigaethau treth yn ddyledus
  • mae cyfnod cyfrifyddu eich cleient yn cyfateb i’r flwyddyn dreth — hynny yw, mae’n rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill

Gall eich cleient hefyd ddefnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, os yw’r feddalwedd maent wedi’i dewis yn cefnogi hyn. Mae’n rhaid i chi neu’ch cleient wneud y canlynol:

  • dewis cyfnodau diweddaru calendr yn y feddalwedd cyn gwneud y diweddariad cyntaf
  • gwneud addasiad ar ddiwedd blwyddyn dreth gyntaf eich cleient — fel bod incwm a threuliau eich cleient o 1 Ebrill i 5 Ebrill wedi’u cynnwys yn ei Ffurflen Dreth

Os byddwch yn cofrestru’ch cleient, ni fydd yn gallu gwneud y canlynol yn ystod y cyfnod prawf:

Pwy na all gofrestru’n wirfoddol

Ni allwch gofrestru’ch cleient yn wirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gan eich cleient Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
  • mae gan eich cleient gynllun talu gyda CThEF yn barod
  • mae’ch cleient yn bartner mewn partneriaeth
  • mae’ch cleient yn hawlio Lwfans Pâr Priod
  • mae’ch cleient yn hawlio Lwfans Person Dall
  • mae’ch cleient yn fethdalwr neu’n ansolfent ar hyn o bryd, neu bydd eich cleient yn dod yn fethdalwr neu’n ansolfent
  • mae’ch cleient yn AS, yn weinidog yr efengyl neu’n danysgrifennwr Lloyds
  • mae gan eich cleient incwm o fod yn ofalwr maeth mewn cynllun cysylltu bywydau
  • mae gan eich cleient incwm o ymddiriedolaeth
  • mae gan eich cleient incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd
  • mae gan eich cleient incwm o osod llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
  • mae’ch cleient yn agored i ymholiad cydymffurfio
  • mae’ch cleient yn defnyddio ‘trefniant cyfartalu’ neu drefniadau eraill oherwydd bod ei elw yn amrywio rhwng blynyddoedd — er enghraifft, oherwydd bod eich cleient yn ffermwr, yn awdur neu’n artist

Yr hyn y bydd ei angen arnoch 

Bydd angen i chi gael meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Wrth ddewis meddalwedd, gwiriwch â’r darparwr meddalwedd bob amser i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni eich anghenion.

Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch — mae hyn yn wahanol i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau.

Bydd angen manylion canlynol eich cleient arnoch: 

  • enw llawn
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol

Os oes gan eich cleient sawl ffynhonnell incwm, bydd angen i chi gofrestru pob un ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Bydd angen y canlynol arnoch ar gyfer bob un o ffynonellau incwm eich cleient:

Os yw’ch cleient yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • enw’r busnes — dyma’r enw mae’ch cleient yn ei ddefnyddio ar ei anfonebau
  • cyfeiriad y busnes
  • natur y busnes (masnach eich cleient)

Cael caniatâd eich cleient 

Mae’n rhaid i chi siarad â’ch cleient cyn i chi ei gofrestru. Dylech roi gwybod i’ch cleient:

  • yr hyn yr ydych yn cofrestru’ch cleient ar ei gyfer
  • yr hyn y mae’n ei olygu i’ch cleient
  • bydd cosbau newydd (yn agor tudalen Saesneg) CThEF yn berthnasol i’ch cleient os yw’n methu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth neu ar gyfer talu bil

Byddwn yn ysgrifennu at eich cleient i gadarnhau pan fydd yn dod yn agored i’r cosbau hyn.

Ar ôl cael caniatâd eich cleient

Bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dilyn y camau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant i ofyn i gleient eich awdurdodi.

Os yw’ch cleient eisoes wedi’ch awdurdodi ar gyfer Hunanasesiad yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau, bydd angen i chi gopïo’r awdurdod hwn i’ch cyfrif gwasanaethau asiant. Os nad ydych yn copïo’r awdurdod drosodd, ni ellir cwblhau’r proses cofrestru.

Os ydych wedi eich awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg), gallwch gyflwyno’i Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar ei rhan. Rhaid i’r cleient wirio bod yr wybodaeth yn ei Ffurflen Dreth yn gywir a rhoi gwybod i chi, cyn i’r Ffurflen Dreth gael ei chyflwyno.

Sut i gofrestru’ch cleient 

Bydd arnoch angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi gofrestru 

Dysgwch ragor ynghylch defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.  

Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi neu’ch cleient anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i’ch cleient ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Help 

Help a chymorth ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol

Cysylltwch â’ch cyflenwr meddalwedd os oes angen help arnoch i greu cofnodion busnes neu i anfon diweddariadau. 

Os oes gennych ymholiad arall ynghylch y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 July 2024 + show all updates
  1. Information added to confirm that you need to sign up each income source for Making Tax Digital for Income Tax if your client has multiple sources of income. Information added about what you need to do if your client has already authorised you for Self Assessment in your HMRC online services for agents account.

  2. Information for users who want to voluntarily sign up now has been updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily has been updated.

  3. Welsh translation added.

  4. The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.

  5. The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. You can check if you can voluntarily sign up your client now.

  6. Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.

  7. Information on what to do after you've signed up your client has been updated.

  8. A Welsh translation has been added.

  9. Information in the 'Before you start' section has been updated with what you need to do before you can sign up a client for Making Tax Digital for Income Tax.

  10. Information has been updated under 'before you start' to advise ways your client can authorise you through your agent service account.

  11. Welsh translation has been added.

  12. First published.

Sign up for emails or print this page