Gwahardd fêps untro
Canllawiau i fusnesau sy'n paratoi at y gwaharddiad ar werthu a chyflenwi fêps untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen.
O 1 Mehefin 2025 ymlaen, bydd yn anghyfreithlon i fusnesau werthu, cynnig gwerthu neu gael yn eu meddiant er mwyn eu gwerthu unrhyw fêps untro neu ‘tafladwy’. Mae hyn yn gymwys i’r canlynol:
- gwerthu ar-lein ac mewn siopau
- pob fêp p’un a yw’n cynnwys nicotin ai peidio
Os oes modd ailddefnyddio fêp, byddwch chi’n dal yn cael ei werthu.
Pam mae’r Deyrnas Unedig yn gwahardd gwerthu a chyflenwi fêps untro
Mae fêps untro (sydd hefyd yn cael eu nabod fel fêps tafladwy) yn ffordd aneffeithlon o ddefnyddio adnoddau hollbwysig ac yn aml yn cael eu gwaredu fel sbwriel neu eu taflu i’r gwastraff gweddilliol (gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu). Mae sbwriel yn difetha’n cymunedau, yn dod â sylweddau niweidiol i’r pridd, afonydd a nentydd, ac yn niweidio bioamrywiaeth. Pan gaiff fêps untro eu taflu i finiau du, maen nhw’n aml yn mynd i safleoedd tirlenwi neu’n cael eu llosgi, sy’n golygu bod adnoddau hollbwysig yn cael eu colli. Maen nhw hefyd yn gallu achosi tân, sy’n risg i ddiogelwch gweithwyr rheoli gwastraff, diffoddwyr tân a’r cyhoedd.
I atal hyn, mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwahardd gwerthu a chyflenwi fêps untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen.
Canllawiau i bwy yw’r rhain
Canllawiau yw’r rhain i fusnesau yn y diwydiant fepio yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys:
- mewnforwyr
- manwerthwyr
- cyfanwerthwyr
- gweithgynhyrchwyr cynhyrchion fepio
Mae hyn yn cynnwys unrhyw siop neu fusnes sy’n gwerthu fêps untro, megis:
- siop gyfleustra
- stondin farchnad
- gorsaf betrol
- siop fêps arbenigol
- archfarchnad
Mae cyfyngiadau’r gwaharddiad yn gyson ar draws y pedair gwlad. Ond, mae’r hyn sy’n digwydd os byddwch chi’n torri’r gwaharddiad yn perthyn yn benodol i’r wlad mae eich busnes wedi’i lleoli ynddi.
Edrychwch ar yr adran isod ‘Os cewch eich dal yn cyflenwi fêp untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen’.
Diffiniad fêp untro
Mae fêp untro neu dafladwy yn gynnyrch nad yw wedi’i ddylunio na’i fwriadu i gael ei ailddefnyddio.
Er mwyn i fêp gael ei ystyried yn ailddefnyddiadwy, rhaid iddo fod yn gallu cael:
- ei ailwefru
- a’i ail-lenwi hefyd
Ni fernir bod fêp yn ailddefnyddiadwy os yw’n gallu:
- cael ei ailwefru ond nid ei ail-lenwi
- cael ei ail-lenwi ond nid ei ailwefru
Ni fernir bod fêp yn gallu cael ei ailwefru os oes ganddo:
- batri na allwch ei ailwefru
- coil na allwch ei brynu ar wahân ac sy’n hawdd ei amnewid
Y coil yw’r rhan o’r fêp sy’n cael ei phweru gan y batri i greu gwres, gan droi’r e-hylif yn anwedd. Gyda fêp sy’n gallu cael ei ailddefnyddio, efallai y byddwch chi’n gallu tynnu’r coil a’i amnewid yn uniongyrchol, neu dynnu ac amnewid y pod neu’r cetris mae’r coil wedi’i gynnwys ynddo.
Ni fernir bod fêp yn gallu cael ei ail-lenwi:
- os oes ganddo gynhwysydd untro, fel pod wedi’i lenwi ymlaen llaw, na allwch ei brynu ar wahân a’i amnewid
- os na allwch chi ail-lenwi’r cynhwysydd
Gall y cynhwysydd fod ar ffurf:
- tanc
- pod
- cetris
- capsiwl
- unrhyw beth sydd wedi’i gynllunio i ddal yr hylif fepio a’i ddefnyddio o fewn y fêp
Diffiniad fêp sy’n gallu cael ei ailddefnyddio
Er mwyn bod yn ailddefnyddiadwy, rhaid i fêp fod:
- â batri y gallwch ei ailwefru
- yn gallu cael ei ail-lenwi â hylif fepio (hyd at uchafswm o 10ml)
Os oes gan y fêp goil, rhaid iddo fod yn un a all gael ei amnewid gan ddefnyddiwr cyffredin – mae hyn yn cynnwys unrhyw ran o’r cynnyrch sy’n cynhesu neu’n cynhyrchu anwedd drwy ryngweithio â chynhwysion y cynnyrch
Gall y fêp gael ei ail-lenwi drwy naill ai:
- llenwi’r tanc neu’r cetris ag e-hylif, neu
- osod podiau newydd sydd wedi’u llenwi ymlaen llaw
Dylai ail-lenwadau (podiau neu boteli ail-lenwi hylif fêp) fod ar gael ar wahân i ddefnyddwyr eu prynu.
Os oes gan y fêp goil, gall y coil gael ei amnewid drwy naill ai:
- ei dynnu a’i amnewid, neu
- dynnu ac amnewid pod neu danc sy’n ei gynnwys
Dylai’r coil (boed yn rhan o bod neu danc amnewid neu beidio) fod ar gael i’w brynu ar wahân.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid ichi gynorthwyo’r awdurdod gorfodi a darparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth y mae’n gofyn amdani yn ystod arolygiad. Bydd angen ichi allu dangos y gall defnyddiwr cyffredin brynu eitemau ail-lenwi unigol ar wahân (gan gynnwys podiau neu boteli ail-lenwi e-hylif) ar gyfer yr eitemau fepio rydych chi’n eu stocio. Un ffordd hawdd o wneud hyn yw drwy ddarparu’r eitemau hyn yn eich siop neu’ch siop ar-lein.
Os cewch eich dal yn cyflenwi fêp untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen
Ni waeth ble mae’ch busnes wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig, bydd yn drosedd gwerthu, cynnig gwerthu neu gael yn eich meddiant er mwyn ei werthu fêp untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys gwerthu ar-lein ac mewn siop.
Mae gwahanol asiantaethau llywodraeth yn cyflawni swyddogaethau rheoleiddio a gorfodi ar fêps anghyfreithlon, gan gynnwys:
- Llu’r Ffiniau
- Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
- Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS)
- Safonau Masnach
Mae’r asiantaethau hyn yn cyfathrebu â’i gilydd a byddan nhw’n eich riportio chi os byddwch chi’n torri’r rheolau.
Fel busnes, mae gennych chi hawl gyfreithiol i ofyn i swyddogion gorfodi a rheoleiddio am ddull adnabod (ID) ffotograffig ffurfiol. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys eu henw, yr awdurdod lleol a’r adran maen nhw’n gweithio iddi. Os oes swyddog yn cyflawni mesurau gorfodi ar eich mangre chi, mae croeso ichi ofyn am yr wybodaeth yma.
Bydd dull gorfodi’r gwaharddiad yn amrywio rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn ymwneud yn benodol â’r fan lle mae’ch busnes yn gweithredu.
Yng Nghymru
Awdurdodau lleol Cymru fydd yn arwain ar orfodi’r gwaharddiad. Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cyflenwi fêps untro, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch dilyn rheolau’r gwaharddiad neu sut y caiff ei orfodi, cysylltwch â’ch gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
Caiff yr awdurdodau gorfodi ddefnyddio sancsiynau sifil fel:
- dirwy benodedig o £200 neu ddirwy newidiol o fwy na £200
- hysbysiad adennill costau gorfodi
- cosb diffyg cydymffurfio
- hysbysiad stop
Yn Lloegr
Adrannau Safonau Masnach yr awdurdodau lleol fydd yn arwain y gwaith o orfodi’r gwaharddiad yn eu hardal. Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cyflenwi fêps untro, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch dilyn rheolau’r gwaharddiad neu sut y caiff ei orfodi, cysylltwch â’ch gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
Yn y lle cyntaf, bydd yr awdurdodau gorfodi yn defnyddio sancsiynau sifil (cosbau nad ydyn nhw’n droseddol) megis:
- hysbysiad stop
- hysbysiad cydymffurfio
- dirwy o £200
Bydd Safonau Masnach yn cael cipio unrhyw fêps untro y maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw.
Os byddwch chi’n parhau i gyflenwi, cynnig cyflenwi neu gael yn eich meddiant er mwyn eu cyflenwi fêps untro, fe allech chi wynebu dirwy ddiderfyn, dedfryd o garchar o hyd at ddwy flynedd, neu’r ddau. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael hysbysiad adennill costau ychwanegol, lle mae’n rhaid ichi dalu’r costau a ysgwyddir gan Safonau Masnach wrth ymchwilio i’ch trosedd. Mae hyn yn cynnwys costau ymchwilio a chostau gweinyddol a chyfreithiol.
Yn yr Alban
Yn yr Alban, yr awdurdodau lleol fydd yn arwain gwaith gorfodi’r gwaharddiad. Byddan nhw’n rhoi gwybod am achosion troseddol i Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuraduron Ffisgal (COPFS), sy’n gyfrifol am erlyn troseddau o dan y rheoliadau. Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cyflenwi fêps untro, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch dilyn rheolau’r gwaharddiad neu sut y caiff ei orfodi, cysylltwch â’ch gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
Os cewch eich dyfarnu’n euog o gyflenwi, cynnig cyflenwi neu gael yn eich meddiant er mwyn cyflenwi fêp untro, byddwch chi’n agored o’ch euogfarnu’n ddiannod i ddirwy o hyd at £5,000. Ar ôl euogfarn arall am y troseddau hyn, gallech wynebu hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy, neu’r ddau.
Os byddwch chi’n methu dilyn gofyniad gorfodi heb esgus rhesymol, byddwch chi’n agored i ddirwy o hyd at £5,000.
Yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd y mecanwaith gorfodi yn wahanol i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Does dim cosbau sifil am y drosedd yma a’r cosbau a ganlyn fydd yn gymwys.
Os cewch eich dyfarnu’n euog o gyflenwi, cynnig cyflenwi neu gael yn eich meddiant er mwyn cyflenwi fêp untro, fe allech gael dirwy o hyd at £5,000 o’ch euogfarnu’n ddiannod mewn Llys Ynadon. Ar ôl euogfarn arall am y drosedd yma yn Llys y Goron, gallech wynebu dedfryd o garchar o hyd at ddwy flynedd, dirwy neu’r ddau.
Os byddwch chi’n methu darparu gwybodaeth y mae corff gorfodi yn gofyn amdani, gallech gael dirwy o’ch euogfarnu’n ddiannod o hyd at £5,000 mewn Llys Ynadon.
Sut i ddweud a ydych chi’n cael gwerthu fêp
Un enghraifft o fêp a all gael ei ailddefnyddio yw dyfais sydd â’r canlynol:
- siambr, pod neu danc y gallwch eu hail-lenwi gan ddefnyddio e-hylif rydych chi wedi’i brynu ar wahân
- batri a all gael ei ailwefru
- coil a all gael ei dynnu a’i amnewid
Rydych chi’n ail-lenwi’r hylif drwy ddefnyddio porth ail-lenwi, sydd ynghlwm wrth y siambr neu’r tanc. Mae’r coil wedi’i leoli o fewn y tanc ac rydych chi’n ei ddatod ar wahân drwy ei dynnu neu ei ddadsgriwio o’r tanc. Rydych chi’n ailwefru’r batri drwy borth ailwefru, sydd fel arfer yn USB neu USB-C.
Enghraifft arall o fêp a all gael ei ailddefnyddio yw dyfais pod sy’n cynnwys naill ai:
- pod wedi’i lenwi ymlaen llaw rydych chi’n ei amnewid pan fydd yr e-hylif yn dod i ben
- pod a all gael ei ail-lenwi ac rydych chi’n ei ail-lenwi drwy ddefnyddio e-hylif sy’n cael ei brynu ar wahân a’i amnewid yn ôl yr angen
Mewn podiau sydd wedi’u llenwi ymlaen llaw, mae’r pod fel arfer yn cynnwys y coil neu’r elfen wresogi, rydych chi’n eu hamnewid ochr yn ochr â’r pod cyfan. Mewn podiau a all gael eu hail-lenwi, rydych chi’n amnewid y coil ar wahân drwy ei dynnu neu ei ddadsgriwio o’r tanc. Yn y ddau fath, rhaid i’r batri hefyd fod yn ailwefradwy drwy ddefnyddio porth ailwefru, sydd fel arfer yn USB neu USB-C.
Er mwyn cael eu hystyried yn ailddefnyddiadwy, rhaid i gydrannau newydd (gan gynnwys y podiau sydd wedi’u llenwi ymlaen llaw, poteli a choiliau ail-lenwi e-hylif) fod ar gael i’w prynu ar wahân naill ai mewn siop neu ar-lein.
Dyfeisiau na chewch eu gwerthu
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o fodelau cyffredin nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn ailddefnyddiadwy.
Dyfeisiau ffon sengl sydd â’r darn ceg, y tanc a’r batri yn sownd yn ei gilydd. Does dim modd mynd at yr hylif na’r coil. Hyd yn oed os oes gan y ddyfais borth USB, sy’n awgrymu bod modd ailwefru’r batri, bydd yn dal yn anghyfreithlon ei gwerthu.
Dyfeisiau sy’n eich galluogi i ail-lenwi’r tanc a gwefru’r batri, ond lle mae’r coil wedi’i osod o fewn y ddyfais ac nad oes modd ei amnewid. Does dim modd ailddefnyddio’r math yma o ddyfais achos unwaith y bydd y coil wedi llosgi allan, does dim modd gosod un arall yn ei le.
Dyfeisiau sy’n ymddangos fel petai modd eu hailddefnyddio ond lle nad oes modd i’r defnyddiwr brynu’r e-hylif ail-lenwi, podiau wedi’u llenwi ymlaen llaw neu goil amnewid (yn eich siop chi neu unrhyw le).
Ble i wirio a oes modd ailddefnyddio fêp
Gallwch wirio a oes modd ailddefnyddio cynnyrch fepio sy’n cynnwys nicotin ar wefan yr MHRA, ond yn gyntaf mae’n rhaid ichi ystyried y ‘diffiniad o fêp sy’n gallu cael ei ailddefnyddio’ uchod i sicrhau bod y cynnyrch yn gallu cael ei ail-lenwi a’i ailwefru.
Cyn i fêp sy’n cynnwys nicotin gael ei roi ar y farchnad, rhaid iddo gael ei hysbysu i’r MHRA a’i gymeradwyo ganddyn nhw, ac maen nhw’n cadarnhau hyn drwy gyhoeddi’r cynnyrch ar eu rhestr o gynhyrchion a hysbyswyd. Os nad yw cynnyrch wedi’i restru, nid yw’n gyfreithiol ei werthu yn y Deyrnas Unedig.
O 1 Mehefin 2025 ymlaen, bydd yr MHRA yn tynnu pob cynnyrch fepio untro (sy’n cynnwys nicotin) oddi ar y rhestr. I baratoi, dylech roi’r gorau i brynu unrhyw fêps untro nawr a rhoi blaenoriaeth i leihau’ch stoc bresennol.
Does dim rhaid i fêps nad ydyn nhw’n cynnwys nicotin gael eu cofrestru ar wefan yr MHRA ac felly mae’n bwysig eich bod yn gwirio nad yw’r cynnyrch yn gynnyrch untro drwy ryw fodd arall. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’ch gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
Os yw fêp ar y rhestr o gynhyrchion a hysbyswyd ond nad ydych chi’n credu ei fod yn bodloni’r diffiniad o fêp a all gael ei ailddefnyddio, fe allai fod yn fêp untro ac yn anghyfreithlon ichi ei werthu neu ei gyflenwi. Os ydych yn ansicr am gynnyrch penodol, cysylltwch â’ch Safonau Masnach lleol i gael cyngor.
Cyfrifoldeb cyfreithiol pob unigolyn yn y gadwyn gyflenwi yw darparu tystiolaeth bod cynnyrch yn gyfreithlon. Os ydych chi’n gyflenwr neu’n fanwerthwr, rhaid ichi allu dangos eich bod wedi cymryd camau i wirio bod eich cynnyrch chi’n gyfreithlon ac yn bodloni’r diffiniad o fêp a all gael ei ailddefnyddio.
Rhaid ichi hefyd ddarparu unrhyw wybodaeth y mae unigolyn neu wasanaeth sy’n gorfodi’r gwaharddiad yn gofyn amdani oni bai bod yr wybodaeth yn freintiedig yn gyfreithiol (wedi’i diogelu gan y gyfraith rhag cael ei datgelu).
Cyfyngiadau eraill ar gynhyrchion fepio
Heblaw’r cyfyngiadau ar ddyfeisiau fepio a amlinellir yn y canllawiau hyn, bydd fêps a all gael eu hailddefnyddio yn dal yn dod o dan gyfyngiadau rheoleiddio ehangach. Rhaid i fêps ar y farchnad ddilyn rheoliadau iechyd perthnasol, megis
- Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu Cemegolion (2015)
- Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 (TRPR)
- rheoliadau gwastraff sy’n gymwys i offer trydanol a batris. Mae hyn yn cynnwys Rheoliadau Batris a Chronaduron (Rhoi ar y Farchnad) 2008 a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.
Darllenwch ganllawiau ar y cyfyngiadau ychwanegol hyn ar gyfer:
Ailgylchu fêps
Mae fêps yn eitemau trydanol, p’un a ydyn nhw at ddefnydd untro neu’n rhai a all gael eu hailddefnyddio. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n dod o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE). Os ydych chi’n gwerthu fêps (sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘distributor’ yn y Rheoliadau), rhaid ichi gynnig gwasanaeth ‘derbyn yn ôl’ ar eu cyfer, lle byddwch chi yn derbyn fêps a rhannau o fêps (fel podiau, coiliau neu fatris wedi’u defnyddio) sy’n cael eu dychwelyd gan gwsmeriaid i’w hailgylchu
Mae hyn yn cynnwys unrhyw fêps untro a ddychwelir gan gwsmeriaid ar ôl i’r gwaharddiad ar werthu a chyflenwi ddod i rym ar 1 Mehefin 2025.
Caiff y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion weithredu yn eich erbyn os nad oes gennych chi ffordd i ailgylchu fêps a rhannau o fêps.
Mae storio fêps heb eu bod nhw’n ddiogel neu waredu fêps mewn modd amhriodol yn creu risg tân. Dim ond mewn bin fêps y dylai fêps gael eu gwaredu a dylen nhw gael eu casglu’n gyson i gael eu hailgylchu.
Gwyliwch ganllawiau fideo ar eich cyfrifoldebau fel manwerthwr fêps (ar gael mewn 120 o ieithoedd).
Beth i’w wneud os oes gennych stoc o fêps untro
Os oes gennych chi fêps untro yn eich meddiant o 1 Mehefin 2025 ymlaen, fyddwch chi ddim yn cael eu gwerthu na’u cyflenwi i gwsmeriaid.
Bydd angen ichi drefnu i’r fêps hyn gael eu hailgylchu. Os oes gennych wasanaethau bin fêps, dylech wneud hyn drwy’r cwmni maen nhw’n ei ddarparu – fe all fod angen ichi dalu ffi. Os na fyddwch chi’n ailgylchu stociau fepio yn gyfrifol untro erbyn 1 Mehefin 2025, byddwch chi’n rhoi eich busnes mewn perygl o golled fasnachol ac achos gorfodi cyfreithiol.
Er mwyn paratoi ar gyfer y gwaharddiad, dylech chi:
- rhoi’r gorau i brynu stoc newydd o fêps untro
- gwerthu’r holl stoc bresennol
- prynu fêps sy’n dilyn y rheoliadau newydd
O 1 Mehefin 2025 ymlaen, os oes gennych unrhyw gynhyrchion fepio untro dros ben, bydd angen ichi:
- eu gwahanu nhw oddi wrth nwyddau eraill
- eu labelu nhw fel rhai na chaniateir eu gwerthu
- eu tynnu nhw oddi ar lawr eich siop neu o’ch siop ar-lein nes eu bod wedi cael eu casglu gan wasanaeth ailgylchu fêps cofrestredig
https://www.youtube.com/watch?v=er2KKydIi2k
Adnoddau ar-lein
Canllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar sut i waredu gwastraff busnes.
Canllawiau’r MHRA ar reoliadau e-sigaréts.
Chwilio rhestr yr MHRA o gynhyrchion a hysbyswyd.