Cyflwyno’ch Datganiad Toll Alcohol
Defnyddiwch y gwasanaethau ar-lein i gyflwyno datganiadau Toll Alcohol ar gyfer cynnyrch alcoholaidd, yn cynnwys cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill.
Dim ond er eich gwybodaeth y mae’r arweiniad hwn. Mae wedi’i gyhoeddi’n gynnar. Bydd yn berthnasol o 1 Chwefror 2025 ymlaen.
Tan hynny, mae’n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad presennol ar gynhyrchu alcohol, sydd wedi’i amlinellu yn hysbysiadau ecséis 39, 162, 163 a 226 (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch ragor am y newidiadau sydd i ddod i gymeradwyo, datganiadau a thaliadau o ran alcohol (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy sy’n gorfod cyflwyno datganiad
Mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy cyflwyno datganiad Toll Alcohol misol, drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Toll Alcohol. Os nad oes unrhyw Doll Alcohol yn ddyledus, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ‘dim’.
Does dim rhaid i chi gyflwyno datganiad os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
-
rydych ond yn cynhyrchu cynhyrchion seidr
-
gwnaethoch gynhyrchu 5 hectolitr neu lai o alcohol yn ystod y flwyddyn calendr blaenorol
-
rydych yn amcangyfrif y byddwch yn cynhyrchu 5 hectolitr neu lai o alcohol yn ystod y flwyddyn galendr bresennol
Cynhyrchwyr gwirodydd
Yn ogystal â’ch datganiad misol yn y gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol, bydd angen i chi hefyd cyflwyno datganiad misol drwy’r gwasanaeth. Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y gwirodydd yr ydych yn eu cynhyrchu.
Bydd angen i chi lenwi datganiad ‘dim’ drwy’r gwasanaeth os ydych yn parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth Datganiadau Warysu Alcohol a Thybaco (ATWD) (yn agor tudalen Saesneg) i dalu toll ecséis.
Pryd y dylech gyflwyno Datganiad
Mae toll yn ddyledus pan fo cynhyrchion sydd ag alcohol yn ôl cyfaint (ABV) o fwy na 1.2% yn cael eu rhyddhau i’w defnyddio yn y DU.
Mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy cwblhau Datganiad Toll Cwrw erbyn 15fed diwrnod y mis ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu, sy’n fis calendr.
Os na fyddwch yn cyflwyno datganiad erbyn y dyddiad cau, gan gynnwys datganiad ‘dim’, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gyflwyno datganiad
Cyn i chi gwblhau eich datganiad Toll Alcohol cyntaf, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol ar-lein.
Bydd y gwasanaeth y cyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu.
Gallwch hefyd ei ddefnyddio i roi gwybod i ni am y canlynol:
-
cyfanswm y litrau o gynhyrchion alcoholig gorffenedig
-
cyfanswm y litrau o alcohol pur mewn cynhyrchion wedi’u grwpio gan fandiau cryfder ABV
-
cynhyrchion rydych wedi’u tan-ddatgan mewn datganid blaenorol
-
cynhyrchion rydych wedi’u gor-ddatgan mewn datganid blaenorol
-
cynhyrchion y mae angen i chi hawlio anfantais arnynt
-
cynnyrch y mae angen i chi ei ddatgan i fod yn alcohol wedi’i ddifetha
-
cynhyrchion o’r gasgen wedi’u hail-becynnu
Bydd angen i chi rhoi gwybod i ni os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach neu cyfradd is ar gynhyrchion o’r gasgen.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am eich cynhyrchion alcohol sydd â tholl wedi’i ohirio:
-
a fewnforiwyd i’r DU
-
a allforiwyd y tu allan i’r DU
-
a ddosbarthwyd i, ac a gafwyd o, safleoedd eraill sydd wedi’u cofrestru yn y DU neu warysau ecséis
Gwiriwch gyfraddau Toll Alcohol a dysgwch am bandiau cryfder ABV a’u mathau o dreth (yn agor tudalen Saesneg).
Cyflwyno’ch datganiad
I gyflwyno’ch datganiad ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth ymrestru â’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli’ch Toll Alcohol.
Os gwnaethoch gofrestru mwy nag un endid, bydd gan bob un Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân.
Yr hyn i’w wneud ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad
Ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad Toll Alcohol, byddwch yn cael cyfeirnod datganiad Toll Alcohol, sy’n 14 cymeriad, a’r swm sydd angen i chi ei dalu. Defnyddiwch y cyfeirnod hwn i dalu Toll Alcohol.
Mae’n rhaid i chi dalu Toll Alcohol erbyn y 25ain diwrnod o’r mis. Byddwn yn codi llog arnoch os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad hwn.
Cael help gyda’ch datganiad
Cysylltwch ag ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis er mwyn cyflwyno’ch datganiad ar bapur, os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiadur ar sail rhesymau crefyddol
-
ni allwch ddefnyddio cyfrifiaduron oherwydd eich oed, anabledd neu oherwydd nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd lle’r ydych yn byw
Os nad ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, neu’n talu, mewn pryd
Gallwn godi cosb arnoch ar gyfer y canlynol:
-
datganiad hwyr
-
datganiad anghywir gyda gwallau
-
taliad hwyr
Darllenwch drosolwg o gosbau (yn agor tudalen Saesneg).
Rhagor o wybodaeth
gael gwybodaeth fanwl am Doll Alcohol, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).