Canllawiau

Tudalennau atodol CT600F: Treth Dunelledd

Os yw’r cwmni’n gweithredu llongau, gwiriwch sut i lenwi tudalennau atodol CT600F a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i’w llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’r cwmni’n gweithredu llongau ac yn rhan o ddewis Treth Dunelledd.

Gwybodaeth am y cwmni

Enw’r cwmni F1

Nodwch enw’r cwmni.

Cyfeirnod treth F2

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, sef 10 digid, ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

F3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

F4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.

Rhan 1: Gwybodaeth Treth Dunelledd am y cyfnod hwn

F5A and F5B Roedd y cwmni’n rhan o ddewis grŵp Treth Dunelledd

Nodwch ‘X’ yn y blwch perthnasol. Os mai ‘Iawn’ (F5A) yw’r ateb, llenwch flwch F10. Os mai ‘Na’ (F5B) yw’r ateb, llenwch flwch F15A neu flwch F15B.

Mae’n rhaid i ddewis grŵp Treth Dunelledd gael ei wneud ar y cyd gan bob cwmni cymwys yn y grŵp.

F10 Enw’r grŵp Treth Dunelledd yr oedd y cwmni’n aelod ohono ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu

Nodwch enw’r grŵp.

Gall y cwmnïau cymwys mewn grŵp enwebu un cwmni o’r grŵp i ddelio â materion sy’n ymwneud â Threth Dunelledd yr ymdrinnir â nhw yn fwy cyfleus ar sail grŵp cyfan. Mae hyn yn cynnwys y terfyn o 75% ar dunelledd wedi’i logi i mewn.

Pan fydd grŵp yn dymuno gwneud trefniant o’r fath, dylai pob cwmni cymwys lofnodi llythyr ar y cyd sy’n enwebu un o’r cwmnïau fel y cwmni cynrychioliadol ac sy’n nodi’r materion y bydd yn ymdrin â nhw ar ran y grŵp cyfan.

F15A a F15B Ymrwymiad hyfforddi

Nodwch ‘X’ yn y blwch perthnasol.

Mae’n rhaid i gwmni neu grŵp sy’n dewis talu Treth Dunelledd (neu sy’n adnewyddu ei ddewis) feddu ar dystysgrif gyfredol gan yr Adran Drafnidiaeth sy’n cadarnhau cymeradwyaeth ei ymrwymiad hyfforddi cychwynnol neu flynyddol.

F20A i C a F25A i C Terfyn llogi i mewn

Nodwch ’X’ yn y blychau perthnasol.

Ni ddylai mwy na 75% o dunelledd net llongau cymwys y cwmni ymwneud â llongau sydd wedi’u llogi i mewn, ac eithrio ar delerau llogi llong neu gwch heb griw na darpariaethau. Ar gyfer grwpiau, mae’r terfyn o 75% yn ymwneud â thunelledd net llongau cymwys yn y grŵp, gan anwybyddu llogi rhwng aelodau’r grŵp.

Gan y bydd llongau’n aml yn cael eu gweithredu am lai na chyfnod cyfrifyddu llawn, bydd angen cyfrifo’r ganran trwy gyfeirio at y tunelledd net dyddiol cyfansymiol ar gyfer y cwmni neu’r grŵp. Darllenwch baragraffau 37 i 40 o Atodlen 22 i Ddeddf Cyllid 2000 i gael rhagor o wybodaeth am y terfyn o 75%.

F30A i C Roedd y cwmni neu’r grŵp wedi gweithredu llongau nad oeddent wedi’u cofrestru yn y DU am y tro cyntaf

Nodwch ‘X’ yn y blwch perthnasol. Llenwch flwch F30C os yw’r cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth yn ymwneud yn llwyr â blynyddoedd eithriedig.

Mae’r rheolau baneri wedi eu diddymu o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Peidiwch â llenwi blychau F30A a F30B - llenwch flwch F30C os yw dyddiad dechrau cyfnod y Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022.

Darllenwch adran 25(7) o Ddeddf Cyllid 2022 i gael rhagor o wybodaeth.

F35A a F35B Roedd y cwmni neu’r grŵp yn bodloni’r amodau baneri

Nodwch ‘X’ yn y blwch perthnasol. Dim ond os ydych wedi llenwi blwch F30A y dylech lenwi’r adran hon.

Mae’r rheolau baneri wedi eu diddymu o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Peidiwch â llenwi blychau F35A i F35B os yw dyddiad dechrau cyfnod y Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022.

Darllenwch adran 25(7) o Ddeddf Cyllid 2022 i gael rhagor o wybodaeth.

F40A a F40B Gweithgareddau alltraeth

Mae’r gweithgareddau hyn yn cwmpasu archwilio neu ymelwa ar wely’r môr, yr isbridd, neu’r adnoddau naturiol yn sector y DU o’r sgafell gyfandirol.

Nid ydynt yn berthnasol i longau cyflenwi, cychod tynnu, llongau sy’n trin angorau, a thanceri alltraeth:

  • oni bai eu bod wedi’u neilltuo i faes olew penodol

  • lle mae llongau’r cwmni’n ymgymryd â gweithgareddau alltraeth am gyfnod nad yw’n fwy na 30 diwrnod at ei gilydd

Mae Rhan XI o Atodlen 22 i Ddeddf Cyllid 2000 ond yn berthnasol i gwmnïau sydd â llongau sy’n ymgymryd â gweithgareddau alltraeth yn sector y DU o’r sgafell gyfandirol ac nad ydynt wedi’u heithrio o dan baragraff 105 o atodlen 22.

Rhan 2: lwfans hyfforddiant alltraeth

F45 a F50 Lwfans hyfforddiant (alltraeth)

Caniateir i gwmni sy’n dod o dan ran XI o Atodlen 22 i Ddeddf Cyllid 2000 wrthbwyso cyfwerth mewn arian parod hyfforddiant neu unrhyw daliadau yn lle hyfforddiant yn erbyn ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar ei elw yn sgil gweithgareddau alltraeth.

Mae’r cyfwerth mewn arian parod yn seiliedig ar gyfradd bresennol y taliadau yn lle hyfforddiant. Y didyniad yw cyfanswm cyfwerth mewn arian parod yr hyfforddiant a wnaed, ac unrhyw daliadau a wnaed yn lle hyfforddiant, sy’n ymwneud â’r dyddiau pan oedd pob llong yn ymgymryd â gweithgareddau alltraeth yn sector y DU.

Rhowch y swm sydd ym mlwch F45 ym mlwch 450 o’ch ffurflen CT600.

Rhan 3: elw morgludiant perthnasol

Rhowch yr wybodaeth ychwanegol ganlynol am yr elw morgludiant perthnasol i helpu CThEF i weinyddu’r Dreth Dunelledd.

F55A a F55B Yr elw neu’r golled yng nghyfrifon y cwmni.

Peidiwch â chynnwys y canlynol:

  • elw neu golledion eraill nad ydynt yn ymwneud â’r dreth dunelledd sydd wedi’u cynnwys mewn mannau eraill ar y ffurflen CT600

  • unrhyw symiau a nodir ym mlychau F60A, F60B neu F65

Mae llong gymwys yn cael ei gweithredu gan gwmni pan fydd yn eiddo i’r cwmni hwnnw neu’n cael ei llogi iddo. Ni ystyrir ei bod yn cael ei gweithredu lle mae’n cael ei llogi ar delerau llogi llong neu gwch heb griw na darpariaethau, oni bai y gwneir hyn i gyd-aelod o’r grŵp, neu i’r Goron, neu lle mae gor-gapasiti tymor byr ac nid yw’r llogi’n para mwy na 3 blynedd.

F60A a F60B Yr elw neu’r golled yng nghyfrifon y cwmni mewn perthynas â gwaredu asedion Treth Dunelledd, a fyddai fel arall yn cael eu cyfrifo o dan reolau enillion trethadwy

Cyfrifir elw trwy luosi’r elw dyddiol ar gyfer pob llong â nifer y dyddiau y gweithredwyd pob un yn ystod y cyfnod cyfrifyddu.

Cyfrifir yr elw dyddiol mewn unedau o 100 tunnell net ar y cyfraddau canlynol:

  • 100 tunnell net hyd at 1,000 — £0.60

  • 100 tunnell net o 1,001 i 10,000 — £0.45

  • 100 tunnell net o 10,001 i 25,000 — £0.30

  • 100 tunnell net uwch na 25,000 — £0.15

Enghraifft

Mae’r tabl canlynol yn dangos sut y byddai’r elw dyddiol ar gyfer llong o 30,099 tunnell net yn cael ei gyfrifo.

Tunelli Unedau 100 tunnell Cyfradd Cyfanswm
hyd at 1,000 10 £0.60 £6.00
o 1,001 i 10,000 90 £0.45 £40.50
o 10,001 i 25,000 150 £0.30 £45.00
uwch na 25,000 50 £0.15 £7.50

Yn yr achos hwn, cyfanswm yr elw dyddiol yw £99.

Ni ellir defnyddio unrhyw ryddhad, didyniad na gwrthbwyso i leihau’r elw Treth Dunelledd.

F65 Difidendau a dosraniadau eraill sy’n gymwys fel incwm morgludiant perthnasol

Mae elw Treth Dunelledd yn disodli elw morgludiant perthnasol. Yn fras, dyma’r incwm morgludiant perthnasol o weithgareddau Treth Dunelledd, gan gynnwys dosraniadau gan gwmnïau morgludiant tramor, yn ogystal ag enillion trethadwy ar asedion Treth Dunelledd.

Mae gweithgareddau Treth Dunelledd yn cynnwys gweithgareddau craidd cymwys, gweithgareddau eilaidd cymwys, a gweithgareddau achlysurol cymwys. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch:

Rhan 4: cyfrifiant elw Treth Dunelledd

Nodwch fanylion yr holl longau cymwys.

F70 Cyfrifiant elw Treth Dunelledd

Mae’n rhaid i long gymwys fod yn llong forol o 100 tunnell gros neu fwy a ddefnyddir ar gyfer cludo teithwyr neu gargo, gweithgareddau tynnu, gweithgareddau achub, neu gymorth neu gludiant morol arall mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill o’r fath a ddarperir o reidrwydd ar y môr.

Y rhai sydd wedi’u heithrio’n benodol yw:

  • cychod pysgota

  • llongau ffatri

  • llongau pleser

  • llongau fferi harbwr neu afon

  • gosodiadau alltraeth

  • tanceri sydd wedi’u neilltuo i faes olew penodol

  • carthlongau

Nodwch y swm o’r blwch hwn F70 ym mlwch 200 o’ch ffurflen CT600.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch y Llawlyfr Treth Dunelledd (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 January 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. We have updated the headings for F30 and F65.

  3. Information about the boxes to complete if the return period start date is on or after 1 April 2022 has been added to the the 'F30A to C The company or group operated ships that were not registered in one of the Member States' registers for the first time' and 'F35A and F35B The company or group satisfied the flagging conditions' sections.

  4. First published.

Sign up for emails or print this page