Canllawiau

Lwfansau rhydd o dreth ar incwm eiddo ac incwm masnachu

Dysgwch am lwfansau rhydd o dreth blynyddol ar gyfer eiddo neu incwm masnachu ac os ydych yn gymwys.

Gallwch gael hyd at £1,000 bob blwyddyn dreth mewn lwfansau rhydd o dreth ar gyfer incwm eiddo neu fasnachu o 6 Ebrill 2017 ymlaen. Os oes gennych y ddau fath o incwm, cewch lwfans gwerth £1,000 ar gyfer pob un.

Os yw’ch incwm eiddo gros blynyddol yn £1,000 neu lai, gan un neu fwy o fusnesau eiddo, ni fydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEF na datgan yr incwm hwn ar Ffurflen Dreth. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer incwm arall.

Os yw’ch incwm masnachu gros blynyddol yn £1,000 neu lai, o un neu fwy o fasnachau, mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEF, fodd bynnag, mae amgylchiadau pan mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a datgan eich incwm ar Ffurflen Dreth.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r incwm hwn. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad llawn’.

Os yw’ch incwm masnachu neu eiddo gros blynyddol o un neu fwy o fasnachau neu fusnesau’n fwy na £1,000, gallwch ddefnyddio’r lwfansau rhydd o dreth yn lle didynnu unrhyw dreuliau neu lwfansau eraill.

Os ydych yn defnyddio’r lwfansau, gallwch ddidynnu hyd at £1,000, ond dim mwy na swm eich incwm. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad rhannol’.

Os yw’ch treuliau yn fwy na’ch incwm, mae’n bosibl y byddai’n fuddiol hawlio treuliau yn hytrach na’r lwfansau.

Mae incwm gros yn golygu’r cyfanswm y byddech yn ei roi ar eich Ffurflen Dreth cyn i unrhyw lwfansau neu dreuliau gael eu tynnu i ffwrdd. Mae hyn yn berthnasol p’un a ydych yn defnyddio’r sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) neu gyfrifyddu traddodiadol.

Mae’n bosibl y bydd amgylchiadau lle byddwch yn dewis llenwi Ffurflen Dreth hyd yn oed os yw’ch incwm yn £1,000 neu lai.

Os ydych o’r farn nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, gallwch ofyn i CThEF roi’r gorau i’w hanfon nhw. Gallwch wneud hyn:

  • ar-lein — mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch — os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un

  • dros y ffôn neu drwy’r post

Lwfans masnachu

Mae’r lwfans masnachu yn esemptiad treth o hyd at £1,000 y flwyddyn ar gyfer unigolion sydd ag incwm masnachu o’r canlynol:

Os yw’ch incwm gros blynyddol o’r rhain yn £1,000 neu lai, nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF, oni bai:

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os oes gennych y canlynol:

Nid yw’r lwfans hwn yn berthnasol i incwm masnachu o bartneriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Lwfans eiddo

Mae’r lwfans eiddo yn esemptiad treth o hyd at £1,000 y flwyddyn ar gyfer unigolion sydd ag incwm o dir neu eiddo.

Os ydych yn berchen ar eiddo ar y cyd ag eraill, mae pob un ohonoch yn gymwys i gael y lwfans o £1,000 yn erbyn eich cyfran o’r incwm rhent gros.

Os yw’ch incwm eiddo gros blynyddol yn £1,000 neu lai, ni fydd angen i chi roi gwybod i CThEF, oni bai na allwch ddefnyddio’r lwfansau. Os yw’n uwch, bydd angen i chi ddatgan eich incwm eiddo.

Ni allwch ddidynnu mwy na swm eich incwm a chreu colled.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os oes gennych y canlynol:

Os oes gennych ddau fusnes ac yn hawlio’r lwfans eiddo mewn un busnes, mae’n bosibl na fyddwch yn hawlio treuliau gwirioneddol mewn perthynas â’r busnes arall.

Ni allwch ddefnyddio’r lwfans hwn ar incwm o roi ystafell yn eich cartref eich hun ar osod o dan y Cynllun Rhentu Ystafell.

Pan na allwch ddefnyddio’r lwfansau

Ni allwch ddefnyddio’r lwfansau mewn blwyddyn dreth, os oes gennych unrhyw incwm masnach neu eiddo o’r canlynol:

  • cwmni rydych chi neu rywun sy’n gysylltiedig â chi yn berchen ar neu yn ei reoli

  • partneriaeth lle rydych chi neu rywun sy’n gysylltiedig â chi yn bartneriaid

  • eich cyflogwr neu gyflogwr eich priod neu’ch partner sifil

Ni allwch ddefnyddio’r lwfans eiddo os ydych yn gwneud y canlynol:

  • hawlio’r gostyngwr treth ar gyfer costau cyllid fel llog morgais ar gyfer eiddo preswyl

  • didynnu treuliau o’r incwm o osod ystafell yn eich cartref eich hun yn hytrach na defnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell

Hunangyflogedig

Os ydych yn dechrau busnes hunangyflogedig newydd ac yn disgwyl i’ch incwm gros blynyddol fod yn ddim mwy na £1,000, mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ond gallwch yn wirfoddol os bydd eich incwm gros ar gyfer 2018 i 2019 yn mynd dros £1,000 a’ch bod am fod mewn Hunanasesiad.

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a datgan eich incwm ar Ffurflen Dreth pan:

  • rydych wedi gwneud colled ac eisiau hawlio rhyddhad ar Ffurflen Dreth (gwiriwch taflen wybodaeth 227 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth am golledion)

  • rydych am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 2 i helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau (yn agor tudalen Saesneg)

  • rydych am hawlio Gofal Plant Rhydd o Dreth ar gyfer costau gofal plant yn seiliedig ar eich incwm hunangyflogaeth

  • rydych am hawlio Lwfans Mamolaeth, yn seiliedig ar eich hunangyflogaeth

Gallwch ddefnyddio’r lwfans masnachu o hyd, ond bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio’r arweiniad sy’n eich helpu i lenwi’r Ffurflen Dreth.

Os yw’ch incwm gros ar gyfer blwyddyn dreth yn fwy na £1,000, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn y flwyddyn dreth ganlynol. Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gallwch ddefnyddio’r lwfansau trwy eu didynnu o’ch eiddo gros neu incwm masnachu ar eich Ffurflen Dreth. Ni allwch ddidynnu unrhyw dreuliau neu lwfansau eraill os ydych yn hawlio’r lwfansau.

Os ydych mewn hunanasesiad gwiriwch a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cofnodion i’w cadw

Os ydych yn defnyddio’r lwfansau incwm masnachu neu eiddo, mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’ch incwm.

Enghreifftiau o’r cofnodion y gallai fod angen i chi eu cadw yw:

  • copïau o’ch anfonebau, papur neu electronig

  • taenlen o’ch derbynebau incwm

  • e-byst yn cadarnhau’r incwm sydd wedi dod i law

  • datganiadau gan y cwmni a daloch chi sy’n dangos y swm a ddaeth i law

  • cyfriflenni banc

  • cofnodion talu i mewn blaendal banc

  • dyddiadur neu lyfr apwyntiadau sy’n dangos eich incwm gan bob cwsmer

Gall CThEF godi cosb arnoch os nad yw’r cofnodion rydych yn eu cadw’n gywir, yn gyflawn ac yn ddarllenadwy neu os nad ydych yn eu cadw am y cyfnod gofynnol o amser.

Budd-daliadau a chredydau

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gyfrifo’ch incwm i gyfrifo pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt.

Os byddwch yn cyfrifo’ch elw trethadwy drwy ddidynnu’r lwfans masnachu yn hytrach na threuliau gwirioneddol yr aed iddynt, bydd eich incwm yn cael ei leihau gan y lwfansau, ar gyfer:

  • credydau treth

  • taliad treth budd-dal plant incwm uchel

  • ad-daliad benthyciadau myfyrwyr

  • lwfans pâr priod

Nid yw’r lwfansau yn effeithio ar incwm at ddibenion Credyd Cynhwysol.

Cysylltu â CThEF

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r canlynol yn wir:

  • nad ydych yn siŵr y gallwch ddefnyddio lwfansau eiddo neu fasnachu

  • os nad ydych mewn hunanasesiad ac eisoes wedi talu treth trwy’ch cod treth TWE ar rywfaint o’ch incwm eiddo neu incwm o ddarparu gwasanaethau achlysurol gan y gallai fod yn ddyledus i chi ad-daliad o’r dreth a dalwyd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mai 2019 show all updates
  1. Update added with what should be done when you do not need to complete a tax return.

  2. Updated to clarify the trading and property allowances and who qualifies.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon