Rhoi gwybod i CThEF am gar a ddarperir at ddefnydd preifat cyflogai
Os ydych yn gyflogwr, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu ffurflen bost P46(Car) i roi gwybod i CThEF eich bod wedi darparu, neu dynnu yn ôl, car at ddefnydd preifat cyflogai.
Os ydych yn gyflogwr gallwch roi gwybod i CThEF pan fyddwch yn rhoi buddiannau car i gyfarwyddwr neu gyflogai, neu’n tynnu’r buddiant hwnnw yn ôl.
Gallwch roi gwybod i ni drwy wneud y naill neu llall o’r canlynol:
-
defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
-
llenwi’r ffurflen bost ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post ar y ffurflen
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
-
enw llawn y cyflogwr, ei rif ffôn a chyfeirnod TWE
-
enw llawn y cyflogai neu’r cyfarwyddwr a’i rhif Yswiriant Gwladol
Rhoi gwybod am geir safon Ewro 6d
Enw arall ar geir diesel safon Ewro 6d yw ceir diesel sy’n cydymffurfio ag Allyriadau Gyrru Gwirioneddol 2 (RDE2). I roi gwybod am gar cwmni diesel sy’n bodloni’r safon hwn, dewiswch ‘Math o Danwydd F’.
Ar gyfer ceir a weithgynhyrchwyd ar ôl Medi 2018, gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Ymholiadau Cerbyd ar-lein yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i ddysgu a ydych yn bodloni’r safon hwn.
Ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Medi 2018 ymlaen, mae gwybodaeth ynghylch safon Ewro 6d ar gael ar ffurflen V5C (llyfr log cerbyd).
Os oes gan gar ffigur allyriadau CO2 sy’n 1g i 50g y cilometr, bydd yn rhaid i chi nodi milltiroedd allyriadau sero’r car. Dyma’r pellter mwyaf mewn milltiroedd y mae’n bosibl gyrru yn y modd trydan heb ailwefru’r batri.
Gall cyflogwyr gael yr wybodaeth hon gan y cwmni ceir ar brydles neu gan ddarparwr y fflyd.
Os ydych yn berchen ar gerbyd, gallwch ddod o hyd i’r ffigur milltiroedd allyriadau sero ar dystysgrif cydymffurfio eich cerbyd.
Rhoi gwybod i CThEF ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Os na allwch roi gwybod i ni ar-lein:
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar y sgrin, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch P46(Car).
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Dysgwch ragor ynghylch y gyfraith dreth sy’n berthnasol i dreuliau a buddiannau (yn agor tudalen Saesneg) a geir gan gyfarwyddwyr a chyflogeion.